Cefnogi Twf Twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin
Ymgeiswyr Prosiect: Twristiaeth Cyngor Sir Gȃr
Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gan ddefnyddio tri nod strategol craidd Tymhorol, Lledaeniad a Gwariant, mae'r prosiect hwn wedi denu ymwelwyr, marchnad darged cefnog sy’n mwynhau bwyd, diod, atyniadau a manwerthu lleol ac wedi'i sicrhau bod pob rhan o’r Sir yn elwa. Mae'r cynllun gweithredu marchnata wedi cynyddu ymwybyddiaeth o'r Sir ac yn annog pobl i ymweld ac archwilio Sir Gaerfyrddin drwy gydol y flwyddyn. Mae yna lyfrgell o asedau hyrwyddo brand wedi'i gael ei datblygu ac ar gael i'r fasnach i wella eu hymgyrchoedd marchnata eu hunain.
Mae'r ymgyrch farchnata lwyddiannus wedi cyrraedd dros 16 miliwn o bobl gan arddangos yr asedau twristiaeth gwerthfawr sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w cynnig.