Amgueddfa Cyflymder
Marsh Road, Pentywyn, SA33 4NY

  • Nodweddion
  • fideo
  • lluniau
  • Sut i ddod o hyd i ni

Allanol

Mae lleoliad yr amgueddfa yn syfrdanol gan ei bod yn gorwedd wrth ymyl y traeth enwog. Mae man chwarae a meinciau picnic y tu allan i brif fynedfa’r amgueddfa.

Llawr gwaelod

Mae prif ardal yr amgueddfa wedi’i neilltuo i arddangosfeydd gwrthrychau mawr teithiol fel y car rasio chwedlonol ‘Babs’ ac arddangosfeydd rhyngweithiol drwyddi draw.

Toiledau hygyrch a thoiled Changing Places yn yr Amgueddfa.

Siop anrhegion yr amgueddfa

Llawr Cyntaf

Mae man digwyddiadau pwrpasol llawr cyntaf yr Amgueddfa yn cynnwys ffenestr enfawr o’r llawr i’r nenfwd sydd â golygfeydd heb eu hail o draeth Pentywyn sy'n saith milltir o hyd.

Gellir gosod yr ystafell 64m² mewn arddull ystafell fwrdd (20 o bobl) neu arddull theatr (50 o bobl ), gyda bleindiau trydanol annibynnol sy'n ei haddasu'n hawdd ar gyfer fideo-gynadledda, cyflwyniadau, neu ffrydio byw. Mae ei ddodrefn cyfoes, hygyrchedd, cegin fach breifat, WiFi am ddim ac offer clyweled wedi'i gynnwys yn golygu ei fod yn addas ar gyfer ystod o swyddogaethau. Gellir gweini lluniaeth yn yr ystafell, neu gallwch archebu cinio ymlaen llaw i'w weini ym mwyty'r Caban.

Mae’r adeilad yn hollol newydd ac agorodd yr Amgueddfa i’r cyhoedd am y tro cyntaf ym mis Mai 2023.

Mae traeth Pentywyn wedi bod yn gartref i ymdrechion i dorri'r record cyflymder ar y tir ers bron i ganrif. Mae Sir Malcolm Campbell, J.G.  Parry-Thomas ac, yn fwy diweddar, Idris Elba a Zef Eisenberg, i gyd wedi gosod recordiau ar y traeth enwog hwn.

Mae'r Amgueddfa Cyflymder  yn adlewyrchu'r hanes hwn yn ei themâu o ryngweithio a chynaliadwyedd. Mae arddangosfeydd wedi’u cynllunio i fod yn hwyl ac yn ddeniadol i’r teulu cyfan ac yn cynnwys profiad fideo 4D o gar rasio chwedlonol Parry-Thomas, Babs, yn gyrru’n gyflym ar draws y traeth. O ystyried goblygiadau amgylcheddol moduro, mae’r adeilad ei hun wedi’i ddylunio i fod yn effeithlon iawn ac i leihau allyriadau carbon, yn unol â nod yr awdurdod lleol i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Ceir hefyd gipolwg helaeth ar wyddoniaeth cyflymder. Mae arddangosion rhyngweithiol yn annog ymwelwyr i weld y peirianneg y tu ôl i'r peiriannau ac i wybod pam mae tywod Pentywyn wedi'i siapio'n unigryw ar gyfer rasio. Tra bod yr arddangosfa arbennig gyntaf, a grëwyd mewn cydweithrediad â myfyrwyr Dylunio Modurol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn cyflwyno modelau o geir cysyniadol  ac yn dychmygu beth allai trafnidiaeth ddod yn y dyfodol.

Parcio: Oes. Mae mannau gwefru cerbydau trydan hefyd ar gael ar y safle.

Arlwyo: Oes. Mae'r ystafell ddigwyddiadau ar lawr cyntaf yr Amgueddfa yn berffaith ar gyfer arlwyo prydau ac yn cynnwys cegin fach os oes angen. Mae lle i hyd at 45 o bobl eistedd a hyd at 60 sefyll.

Cyfyngiadau ffilmio: Mae'n bosibl y gellid ffilmio ar unrhyw ddiwrnodau o'r wythnos os rhoddir digon o rybudd. Nid oes angen cyfyngu ffilmio i ddiwrnodau pan fydd yr eiddo ar agor neu ar gau.

Fodd bynnag, pe bai angen ffilmio ar ddiwrnodau pan fyddai'r eiddo fel arfer ar agor i'r cyhoedd, efallai y byddai angen cau'r Amgueddfa er hwylustod y criw ffilmio. Felly byddai angen digolledu'r eiddo am unrhyw golled o ran enillion posibl ac amser staff ychwanegol sydd ei angen i fonitro/diogelu casgliadau neu fod yn bwyntiau cyswllt i'r tîm ffilmio.

Efallai y bydd angen rhoi mesurau lliniaru ar waith i ddiogelu gwrthrychau’r casgliadau. Gall rhai gwrthrychau, megis paentiadau, fod yn sensitif i olau a bydd angen eu tynnu oddi ar yr arddangosfa neu eu gorchuddio. Efallai y bydd angen symud gwrthrychau eraill i osgoi difrod/llwch.

Dim ond mewn ambell ystafell yn yr eiddo y gellid bwyta neu yfed fel arfer i osgoi niwed i gasgliadau.

Mae digon o le i barcio ar y safle, ond efallai y bydd angen gwneud trefniadau eraill ar gyfer cerbydau mwy neu griwiau cynhyrchu mwy.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Oes. Mae eiddo wrth ymyl tir y Weinyddiaeth Amddiffyn, felly byddai angen ceisio caniatâd ganddynt yn gyntaf.

  • Allanol
  • Llawr gwaelod
  • Llawr Cyntaf