Amgueddfa Parc Howard
Heol Felinfoel, Llanelli SA15 3LJ

  • Nodweddion
  • fideo
  • lluniau
  • Sut i ddod o hyd i ni

Allanol

Mae'r lleoliad yn cynnwys rhai adeiladau arddull sied frics y tu ôl i'r Amgueddfa. Mae’r Amgueddfa yng nghanol parc cyhoeddus sy’n cynnwys pwll hwyaid, gwelyau blodau hardd, pwll nofio a chyrtiau tennis. 

Llawr Gwaelod

Mae Amgueddfa Parc Howard yn cynnwys nifer o nodweddion hanesyddol, yn enwedig ar y llawr gwaelod, sy'n gartref i ddwy oriel fawr a'r hyn a fu ar un adeg yn gyntedd mawr Mae un oriel yn llawn paentiadau ac wedi'i dosrannu â mowldinau plastr addurniadol o amgylch y cornisiau a'r canhwyllyron sy'n cynnig ymdeimlad o fawredd. Mae'r oriel arall wedi'i haddurno'n debyg ac yn cynnwys arddangosfa newydd o Grochenwaith Llanelly.  Mae pob gofod hefyd yn cynnwys lleoedd tân hyfryd Doulton Lambeth.

Mae'r cyn gyntedd yn cynnwys grisiau pren mawr hyd at y llawr cyntaf ac yn cynnig argraff gyntaf ysblennydd o du mewn yr adeilad.

Llawr Cyntaf

Mae'r llawr cyntaf yn cynnwys dwy oriel fawr arall a man arddangos bach dros dro. Erbyn Pasg 2024, bydd yr orielau yn cynnwys arddangosfeydd newydd a fydd yn mynd ar drywydd stori Llanelli ac yn edrych ar bwysigrwydd chwarae, a fydd yn cynnwys nifer o eitemau ymarferol i deuluoedd.

Plasty Fictoraidd arddull Eidalaidd a drawsnewidiwyd yn Amgueddfa o 1912.

Mae Amgueddfa Parc Howard mewn parc hyfryd. Mae pwll i'r de o'r lawnt, a gardd isel i'r gorllewin. I'r gorllewin o'r tŷ mae'r lawntiau bowlio a'r cyrtiau tennis, gyda maes chwarae i blant gerllaw.

Parcio: Dim maes parcio i ymwelwyr Gellir gwneud trefniadau arbennig ar gyfer criwiau ffilmio, yn dibynnu ar niferoedd, gan fod lle yn gyfyngedig.

Arlwyo: Oes, mae potensial i ddefnyddio mannau ar gyfer arlwyo prydau, ond ni fydd modd bwyta nag yfed o fewn rhai ardaloedd o'r Amgueddfa.

Cyfyngiadau ffilmio: Mae'n bosibl y gellid ffilmio ar unrhyw ddiwrnodau o'r wythnos os rhoddir digon o rybudd. Nid oes angen cyfyngu ffilmio i ddiwrnodau pan fydd yr eiddo ar agor neu ar gau.

Fodd bynnag, pe bai angen ffilmio ar ddiwrnodau pan fyddai'r eiddo fel arfer ar agor i'r cyhoedd, efallai y byddai angen cau'r Amgueddfa er hwylustod y criw ffilmio. Felly byddai angen digolledu'r eiddo am unrhyw golled o ran enillion posibl ac amser staff ychwanegol sydd ei angen i fonitro/diogelu casgliadau neu fod yn bwyntiau cyswllt i'r tîm ffilmio.

Efallai y bydd angen rhoi mesurau lliniaru ar waith i ddiogelu gwrthrychau’r casgliadau. Gall rhai  gwrthrychau, megis paentiadau, fod yn sensitif i olau a bydd angen eu tynnu oddi ar yr arddangosfa neu eu gorchuddio. Efallai y bydd angen symud gwrthrychau eraill i osgoi difrod/llwch.

Dim ond mewn nifer fechan o ystafelloedd yn yr eiddo y gellid bwyta neu yfed fel arfer i osgoi niwed i gasgliadau.

Fel arfer nid oes mannau parcio i ymwelwyr ar y safle. Fodd bynnag, gellid gwneud trefniadau arbennig ar gyfer criwiau ffilmio, er bod lle yn gyfyngedig.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Ansicr

  • Allanol
  • Llawr Gwaelod
  • Llawr Cyntaf