Amgueddfa Sir Gâr
Hen Balas yr Esgob, Abergwili, SA31 2JG
Mae’r Amgueddfa mewn adeilad hanesyddol Gradd II a elwir yn Hen Blas yr Esgob. Mae tu allan yr adeilad yn arddull Elisabethaidd ac yn ddiweddar mae ei do llechi wedi cael ei ailosod. Ceir enghreifftiau niferus o herodraeth (wedi’i phaentio a heb ei phaentio) sy’n gysylltiedig ag Esgobaeth Tyddewi.
Mae'r eiddo wedi'i leoli o fewn amgylchedd hardd Parc yr Esgob. Mae’r parc hefyd wedi cael ei adfer yn ddiweddar ac mae’n cynnwys llyn bach, a elwir yn Bwll yr Esgob, llwybr coetir a dôl fawr. Mae yna hefyd ardd furiog sydd ar hyn o bryd yn destun prosiect adfer pellach.
Parcio: Dau faes parcio i ymwelwyr â lle i 50-60 o gerbydau i gyd
Arlwyo: Lle ar gael ar gyfer arlwyo ond mae caffi ar y safle hefyd.
Cyfyngiadau ffilmio: Pe bai angen ffilmio ar ddiwrnodau pan fyddai'r eiddo fel arfer ar agor i'r cyhoedd, efallai y bydd angen i'r Amgueddfa gau er hwylustod y criw ffilmio. Felly byddai angen digolledu'r eiddo am unrhyw golled o ran enillion posibl ac amser staff ychwanegol sydd ei angen i fonitro/diogelu casgliadau neu fod yn bwyntiau cyswllt i'r tîm ffilmio.
Efallai y bydd angen rhoi mesurau lliniaru ar waith i ddiogelu gwrthrychau’r casgliadau. Gall rhai gwrthrychau, megis paentiadau, fod yn sensitif i olau a bydd angen eu tynnu oddi ar yr arddangosfa neu eu gorchuddio. Efallai y bydd angen symud gwrthrychau eraill i osgoi difrod/llwch.
Dim ond mewn nifer fechan o ystafelloedd yn yr eiddo y gellid bwyta neu yfed fel arfer i osgoi niwed i gasgliadau.
Mae digon o le i barcio ar y safle, ond efallai y bydd angen gwneud trefniadau eraill ar gyfer cerbydau mwy neu griwiau cynhyrchu mwy.
Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn ar eiddo: Nac oes
- Hen Balas yr Esgob
- Parc yr Esgob
- Tu mewn i’r adeilad
- Cegin arddull Edwardaidd
- Llecyn digwyddiadau ac arddangosfeydd
- Gofod yn yr atig