Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Neuadd Middleton, Llanarthne, SA32 8HN
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn fan sydd o arwyddocâd rhyngwladol sydd wedi ymrwymo i gadwraeth, garddwriaeth, gwyddoniaeth, addysg, hamdden a'r celfyddydau. Fel prosiect nodedig y Mileniwm, mae'r Ardd yn gyfuniad diddorol o'r modern a'r hanesyddol, gan ymestyn dros 568 erw o gefn gwlad hardd Sir Gâr.
Ymhellach i'r dirwedd ehangach mae'r parcdir hanesyddol o gyfnod y Rhaglywiaeth a adferwyd yn ddiweddar lle gallwch archwilio llynnoedd, argaeau, pontydd a rhaeadrau dros filltiroedd o lwybrau unigryw a adeiladwyd yn bwrpasol. Ceir hefyd ddiwrnodau penodol sy'n caniatáu mynediad i gŵn drwy gydol yr wythnos
Ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Ardd wedi'i lleoli ychydig oddi ar brif ffordd ddeuol yr A48/M4 yn Sir Gâr, dim ond awr i'r gorllewin o Gaerdydd.
Parcio: 600-700 lle parcio
Arlwyo: Lle ar gael ar gyfer arlwyo, ac arlwyo mewnol ar y safle
Cyfyngiadau ffilmio: Ar gau Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig
Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Dim ond y tu allan i'r prif oriau agor ar gyfer ymwelwyr y caniateir defnyddio drôn, fodd bynnag bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos.
- Y Tŷ Gwydr Mawr
- Tirwedd cyfnod y Rhaglywiaeth
- Gardd Furiog Ddwbl
- Llwybr Gryffalo
- Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain