Theatr y Lyric
8 Heol y Brenin, Caerfyrddin. SA31 1BD
Wedi'i adeiladu ym 1854 fel Ystafelloedd Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, newidiwyd enw'r adeilad i Y Lyric ym 1918. Cafodd yr awditoriwm presennol ei adeiladu ym 1936. Mae ganddo seddau coch ar ogwydd wedi'u clustogi. Mae yna stondinau, mesanîn, a chylch. Mae cyntedd mawr gyda bwth pren yn y canol a ddefnyddir fel y swyddfa docynnau. Mae mynedfa'r theatr yn edrych yn dwyllodrus o fychan, gan fod siopau y naill ochr iddi. Gellid disgrifio’r décor y tu mewn fel ‘glam hen ysgol’, gan ei fod wedi cadw llawer o’i ddyluniadau Fictoraidd ac Art Deco gwreiddiol a chynlluniau lliw. Mae taflunydd sinema Westar o’r 1930au i fyny’r grisiau wrth y fynedfa i’r cylch, ac mae gan y theatr dwr hedfan traddodiadol. Mae mosaig addurniadol ar y ddaear yn y fynedfa.
Y Lyric yw theatr fwyaf Sir Gaerfyrddin ac un o'r mwyaf yng Ngorllewin Cymru. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Mae wedi bod yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin ers 2005, a chyn hynny roedd yn cael ei rhedeg gan ymddiriedolaeth dan arweiniad Liz Evans, a ymgyrchodd i’w hachub yn 1993 (testun y ffilm Save the Cinema). Mae nifer (heb eu cadarnhau) wedi gweld ysbrydion yn y Lyric, gan gynnwys un Liz Evans, a gŵr bonheddig anhysbys a gafodd ei ddal ar deledu cylch cyfyng.
Mae yna hefyd stiwdio lai o faint, y gellir ei defnyddio ar gyfer ymarferion, cynadleddau, a digwyddiadau llai. Mae’n ofod sylfaenol a gafodd ei adeiladu fel rhan o’r gwaith adnewyddu yn 2007, gyda’r potensial i gael ei ddefnyddio at amrywiaeth o ddibenion. Mae bar hefyd i fyny'r grisiau yn arddull Art Deco.
Parcio: Does dim modd parcio ar y safle ac eithrio man llwytho yn y cefn. Mae sawl maes parcio talu ac arddangos gerllaw.
Arlwyo: Gellir defnyddio'r man stiwdio ar gyfer arlwywyr. Roedd y llecyn llwytho yng nghefn y theatr yn ddiweddar yn gartref i lori arlwyo a ddefnyddiwyd gan Crown Ballet wrth berfformio Swan Lake.
Cyfyngiadau ffilmio: Yr oriau agor yw 11am tan 3pm dydd Mawrth i ddydd Sadwrn (swyddfa docynnau) ynghyd â phob sioe, ond gallwn fod yn hyblyg iawn os oes angen ffilmio.
Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Dim
- Theatr
- Cyntedd y Lyric a swyddfa docynnau
- Stiwdio