Traeth Pentywyn
Traeth Pentywyn, Pentywyn, Sir Gaerfyrddin, SA33 4NY

  • Nodweddion
  • fideo
  • Sut i ddod o hyd i ni

Traeth o flaen Canolfan Parry Thomas gan edrych tua'r gorllewin.

Golygfa o ben clogwyn Pentywyn gan edrych tua'r dwyrain

I gyfeiriad y gorllewin mae clogwyni trawiadol â llwybrau ar hyd eu hymylon ynghyd â llawer o byllau glan môr - cafodd yr ardal hon ei defnyddio yn ystod yr ail ryfel byd i ymarfer ar gyfer glaniadau 'D-Day! Am lawer milltir i gyfeiriad y dwyrain y mae un o draethau tywodlyd hiraf Cymru, lle bu ymdrechion hanesyddol i dorri record cyflymder y byd dros dir a lle mae maes tanio y mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei ddefnyddio'n rhan-amser.

Parcio: Oes


Arlwyo: Sefydliadau bwyta ym Mhentywyn. Digon o le parcio ar gyfer arlwyo symudol


Cyfyngiadau ffilmio: Mae rhan y Cyngor Cymuned ar gael 7 diwrnod yr wythnos. Mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn berchenogaeth rannol o'r traeth ac mae ar gael ar benwythnosau yn unig yn amodol ar roi trwydded. Cynhelir gweithgareddau'r Weinyddiaeth Amddiffyn rhwng 8.30 a 4.30 yn ystod yr wythnos.


Cyfyngiadau ar ddefnyddio drôn: Oes, os ydych chi'n defnyddio rhan y Weinyddiaeth Amddiffyn o'r traeth. Margaret Brookes –margaret.brookes768@mod.gov.uk 

  • Traeth o flaen Canolfan Parry Thomas gan edrych tua'r gorllewin.
  • Golygfa o ben clogwyn Pentywyn gan edrych tua'r dwyrain