Parc Economi Gylchol Mwyaf y Deyrnas Unedig
Menter economi werdd arloesol yw CWM Gwyrdd Nant-y-caws.
Mae'r safle 84ha yn adeiladu ar gryfderau presennol mewn adfer adnoddau, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth, tra'n creu lle newydd ar gyfer mentrau carbon isel ac adfer amgylcheddol.
Bydd CWM Gwyrdd Nant-y-caws yn cefnogi twf cynaliadwy, cydweithio a budd cymunedol, a'r cyfan yn cael ei ysgogi gan y nod cyffredin o dwf economaidd a chyflawni economi carbon sero net.
Y Weledigaeth
- Arwain y DU o ran Adfer Adnoddau
- Dros 1,500 o Swyddi Gwyrdd wedi'u Creu
- 20MW o Gynhyrchu Pŵer Cynaliadwy
- Dros 30,00m2 ar gyfer arloesi a Busnesau Gwyrdd
- Pentref Ailddefnyddio Mwyaf Ewrop
- Dros 2 filltir o Lwybrau Cerdded a Pharthau Gwarchodedig o ran Bioamrywiaeth
Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy
Mae'r weledigaeth ar gyfer CWM Gwyrdd Nant-y-caws yn cynnwys newid mawr tuag at ynni adnewyddadwy glân, cynaliadwy. Bydd 20MW o seilwaith ynni adnewyddadwy yn cael ei gynnwys yn y datblygiad, a fydd, ar y cyd â storio batris, yn creu safle cwbl hunangynhaliol.
Bydd unrhyw ynni dros ben yn cael ei allforio i'r grid, gan gyfrannu at gyflenwad ynni mwy gwydn a chynaliadwy i'r rhanbarth ehangach. Mae hwn yn gam allweddol wrth leihau allyriadau carbon a chefnogi uchelgeisiau Sero Net Cymru.
Archwilio Arloesi Hydrogen
Fel rhan o'n hymrwymiad i dechnolegau newydd, rydym yn archwilio rôl ynni hydrogen yn ein rhaglen ynni adnewyddadwy ehangach. Trwy gynllunio ar gyfer integreiddio seilwaith hydrogen yn y dyfodol, rydym yn anelu at gefnogi arloesedd mewn cynhyrchu tanwydd glân, cludiant carbon isel a storio ynni. Mae'r dull arloesol hwn yn sicrhau bod y parc yn parhau i fod yn flaengar o ran trawsnewid ynni ac yn barod i gefnogi'r galw wrth i hwnnw newid ledled Cymru a thu hwnt.
Gwelliannau Adfer Adnoddau
Bydd Cyfleuster Adfer Adnoddau (RRF) newydd o'r radd flaenaf, a fydd yn agor yng ngaeaf 2025, yn cynyddu'n helaeth allu'r rhanbarth i ddidoli a chynhyrchu nwyddau o safon.
Bydd y cyfleuster hwn yn gwasanaethu busnesau a chymunedau ledled De a Gorllewin Cymru, gan adfer deunyddiau i'w hailddefnyddio a'u hailgylchu. Mae'r datblygiad hwn yn gam mawr ymlaen i ni o ran sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n hirach a chefnogi newid i economi gylchol yng Nghymru.
Gweithgynhyrchu Economi Gylchol
Bydd ardal Gweithgynhyrchu Economi Gylchol newydd yn creu nwyddau newydd o ddeunyddiau wedi'u hadfer. Bydd hon yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer arloesi a gweithgynhyrchu'r economi werdd, gan gynhyrchu nwyddau newydd o ddeunyddiau gwastraff. .
Trwy gadw i ddefnyddio adnoddau ac ychwanegu gwerth yn lleol, bydd y cyfleuster yn cefnogi creu swyddi, cynhyrchu carbon isel, a thwf cadwyni cyflenwi cynaliadwy ledled y rhanbarth..
Clwstwr Ymchwil a Datblygu
Partneriaethau i'w ffurfio gyda Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a sefydliadau tebyg eraill, i sefydlu canolfan Ymchwil a Datblygu pwrpasol sy'n canolbwyntio ar wella arloesedd yr economi gylchol. Bydd y man hwn yn cefnogi ymchwilio ar y cyd i ailddefnyddio deunyddiau, technolegau carbon isel, a dylunio cynaliadwy. Ar yr un pryd, bydd gan y Prifysgolion bresenoldeb parhaol ar y safle, gan ddarparu addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau wedi'u teilwra i anghenion yr economi werdd.
Canolfan Eto: Ailddefnyddio ar Raddfa Fawr
Gan adeiladu ar lwyddiant Canolfan Eto, y Pentref Ailddefnyddio presennol, rydym yn bwriadu ehangu ymhellach i greu seilwaith ailddefnyddio pwrpasol mwyaf Ewrop. Daw hwn yn fodel cenedlaethol ar gyfer rhoi'r economi gylchol ar waith, gan gefnogi atgyweirio ac ailddefnyddio ar raddfa fawr, a galluogi'r gymuned i fyw'n gynaliadwy.
Bydd y cyfleuster estynedig yn dod ag ailddefnyddio, manwerthu, gweithdai atgyweirio, hyfforddiant sgiliau, ac arloesi at ei gilydd, gan helpu i wneud y mwyaf o werth eitemau a adferwyd a chreu swyddi a chefnogi mentrau lleol.
Seilwaith Cerbydau Trydan
Bydd y parc arfaethedig yn cynnwys rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ar raddfa fawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi fflydoedd masnachol a defnyddwyr cerbydau trydan cyhoeddus.
Gyda'r galw cynyddol am drafnidiaeth allyriadau isel, bydd galw am y seilwaith a bydd yn galluogi busnesau i drawsnewid trafnidiaeth carbon isel tra hefyd yn darparu mynediad cyhoeddus i ddefnyddwyr cyffredin.
Bydd y seilwaith gwefru cerbydau trydan yn cael ei bweru'n gyfan gwbl gan ynni adnewyddadwy, a fydd yn golygu bod y costau'n gystadleuol i gwsmeriaid.
Parc Busnes Diwydiant Ysgafn
Bydd Parc Busnes penodol i'r Diwydiant Ysgafn yn cael ei ddatblygu i gwrdd â'r diffyg cyflenwad presennol ar draws De Orllewin Cymru.
Bydd yr ardal hon yn darparu ar gyfer mentrau bach a chanolig, gan gynnig unedau modern hyblyg sy'n addas ar gyfer gweithgynhyrchu, cydosod, storio a gweithgarwch diwydiannol effaith isel, gyda gofod wedi'i gynllunio i newid wrth i fusnesau dyfu.
Trwy glystyru mentrau o'r un anian mewn amgylchedd a rennir, bydd y parc busnes yn cefnogi cydweithredu ac arloesedd economi werdd gan helpu cwmnïau lleol i ffynnu a chyfrannu at economi ranbarthol fwy cynaliadwy.