Castellnewydd Emlyn

Mae Castell Newydd Emlyn sydd yn Nyffryn Teifi rhwng Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan yn dref farchnad draddodiadol hardd sy'n gwasanaethu cymuned eang a gwledig ar hyd Afon Teifi yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae'r dref yn cefnogi nifer o gyflogwyr rhanbarthol mawr gan gynnwys Dairy Partners ynghyd â nifer o safleoedd diwydiannol prysur sy'n cynnal amrywiaeth o fentrau gan gynnwys busnesau biotechnoleg a TG.

Mae'r dref hefyd yn cefnogi'r economi wledig yn uniongyrchol trwy'r farchnad da byw a masnachwyr bwyd anifeiliaid, peiriannau a'r defnydd o beiriannau. Mae diwydiannau nodedig eraill yn cynnwys adeiladu a nifer o wasanaethau a chrefftau lleol sy'n cyfrannu at yr economi sylfaenol. Mae'r gefnwlad wledig yn cefnogi ystod ehangach o ddiwydiannau amaethyddol a diwydiannau ar dir gan gynnwys cynhyrchwyr bwyd a busnesau twristiaeth. Mae canol y dref hanesyddol a nodedig hwn gymysgedd dda o siopau manwerthu a gwasanaethau gyda ffocws arbennig ar gyfleustra, bwyd a diod a siopau manwerthu arbenigol.

Y tu hwnt i ganol y dref mae'r ganolfan hamdden a'r ysgol uwchradd yn adlewyrchu rôl y dref fel anheddiad allweddol yng ngogledd y sir. Ar y cyfan, mae Castellnewydd Emlyn yn ganolfan hanfodol ar gyfer cyflogaeth, gweithgareddau cymunedol, addysg, chwaraeon a manwerthu ar gyfer y rhanbarth ehangach, gan gynnwys ardaloedd fel Llangeler a Llandyfriog.

Darganfod Castellnewydd Emlyn 

Prosiect Deg Tref


Llwyddodd Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn i sicrhau cyllid i gefnogi dau brosiect arwyddocaol:

Hengwrt

Mae hen adeilad gwag y Llys yng Nghastellnewydd Emlyn yn adeilad rhestredig Gradd II ac ar hyn o bryd mae ym mherchnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin a hyd at 2019 roedd yn cael ei ddefnyddio fel llyfrgell y dref. Cynigiwyd cyfle i'r Cyngor Tref reoli'r adeilad er budd y dref ar brydles 21 mlynedd. Gyda chyllid wedi’i gymeradwyo, ymgymerwyd â'r gwaith adnewyddu angenrheidiol i adfer yr adeilad i'w gyflwr gwreiddiol, gan ei drawsnewid yn ganolfan gymunedol fywiog.

Amffitheatr

Nododd y tîm twf yr angen am atyniad nodwedd yng nghanol y dref a chynnig Amffitheatr ger y castell. Bydd y prosiect arfaethedig yn lleoliad awyr agored ar gyfer gweithgareddau amrywiol, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon, perfformiadau diwylliannol, dramâu, pantomeimiau, digwyddiadau corawl, ac anerchiadau. Mae'r prosiect hwn yn parhau i fod yn y cyfnod datblygu.

 

 

 

 

 

Cyclist in Newcastle Emlyn

Prosiect Refeniw y Deg Tref

Cefnogodd Landsker Consultants gynllun busnes y cyngor tref ar gyfer datblygu Hengwrt fel canolfan wasanaeth. Roedd sesiynau ymgysylltu â'r gymuned wedi helpu i lunio'r cynllun trwy gynnwys mewnbwn trigolion ar ddefnyddio’r hen lys.

Sicrhawyd cymorth ariannol i gynnal Pencampwriaethau Prawf Amser a Rasio Ffordd Iau Cenedlaethol Beicio Prydain yng Nghastellnewydd Emlyn ym mis Mehefin 2024. Roedd y digwyddiad cenedlaethol hwn wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr yn y dref a chefnogi busnesau lleol. Yn ogystal, cafwyd cyllid i brynu offer digwyddiadau, gan sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad digwyddiadau yn y dref yn y dyfodol.

Cronfa Datblygu Cyfalaf

Yn ogystal, trwy gyllid a dderbyniwyd gan y Gronfa Datblygu Cyfalaf, cafodd eiddo adfeiliedig sy'n cynnwys dau adeilad gwag ei adnewyddu'n llwyddiannus a’i ddefnyddio unwaith eto. Mae'r prosiect wedi arwain at sefydlu dau ofod masnachol newydd - Emlyn Kitchens ac Emlyn Interiors.

 

Cronfa Economi Gylchol y Deg Tref

Datblygodd Cadernid Emlyn, grŵp lleol sefydledig, ganolfan economi gylchol o safle gwag yng nghanol y dref. Mae prosiectau presennol y grŵp bellach yn yr hwb, sydd hefyd yn cefnogi datblygiad newydd sef "llyfrgell pethau" ar gyfer y gymuned.

Adfywio Canol Trefi Gwledig

Mae trafodaethau â pherchnogion busnes y stryd fawr ar draws pob un o'r Deg Tref wedi arwain at ddatblygu'r Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig i gefnogi safleoedd busnes ar y stryd fawr i adnewyddu, gwella ac ychwanegu bywiogrwydd i flaen eu siopau.

Crëwyd cronfa grant bwrpasol i gefnogi'r gwaith hwn ac mae llawer o adeiladau'r stryd fawr yng Nghastellnewydd Emlyn wedi cael cyllid i wella tu allan eu hadeiladau er mwyn sicrhau bod y dref yn fywiog ac yn edrych yn dda.

Yn ogystal, mae Steve Jenkins, yr artist stryd o Sir Gaerfyrddin, wedi paentio murlun yn y dref sy'n seiliedig ar ei hanes a'i threftadaeth, gan gynnwys y farchnad da byw a'r castell.

 

 

Cronfa Ddigwyddiadau y Deg Tref

 

Derbyniodd Cydweithfa Castellnewydd Emlyn a'r Cyffiniau gefnogaeth gan y gronfa hon ar gyfer digwyddiad Cerddoriaeth yn y Parc a gynhaliwyd dros yr Haf. Roedd nifer wedi mynychu'r digwyddiad ac roedd amrywiaeth o artistiaid lleol, stondinau a gweithgareddau addas i gynulleidfa eang.

Mynd i'r Afael â Threfi

Stryd y Sycamorwydden yw canolbwynt canol tref Castellnewydd Emlyn ac mae'n gartref i nifer fawr o siopau annibynnol a chadwyni cenedlaethol. Roedd y gymuned leol yn awyddus i flaenoriaethu gosod wyneb newydd ar y palmant yn y dref i ddarparu esthetig mwy cydlynol i'r dref yn unol â'i threftadaeth.

 

 

Hwb