Mae Cydweli yn dref arfordirol hanesyddol hardd wedi'i lleoli ar lannau Afon Gwendraeth, sy'n enwog am ei chastell trawiadol a'i chanol tref hudolus. Mae'n cefnogi economi gynaliadwy, ffyniannus sy'n meithrin cymuned fywiog, sydd â chysylltiadau da, gan ei gwneud yn ddewis deniadol i bobl ifanc a theuluoedd fel ei gilydd.
Mae'r dref yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd, gan groesawu mentrau newydd tra'n cefnogi twf busnesau lleol sefydledig. Gyda'i threftadaeth gyfoethog, ei amgylchedd naturiol syfrdanol, ei diwylliant bywiog, a'i thraddodiadau Cymraeg cryf, mae Cydweli yn gyrchfan croesawgar drwy gydol y flwyddyn.
Ein Blaenoriaethau
Mae ein Blaenoriaethau Twf Economaidd yn cynnwys prosiectau ffisegol ac anffisegol. Er mwyn cyflawni'r weledigaeth, gwnaethom nodi'r blaenoriaethau canlynol a fydd yn cael eu cyflawni trwy brosiectau penodol.















