Hendy-gwyn ar Daf

Mae Hendy-gwyn ar Daf yn gartref i amrywiaeth eang o fusnesau a chyfleoedd cyflogaeth, gan gynnwys canol tref hynod ac ocsiwn a marchnad da byw brysur. Mae Hendy-gwyn ar Daf mewn man strategol rhwng Caerfyrddin a Hwlffordd ar yr A40 a rheilffordd Llundain-Abergwaun, sy'n golygu ei bod yn cynnig cysylltedd da.

Y tu allan i'r dref, mae yna ystod eang o fentrau gwledig gan gynnwys amaethyddiaeth, diwydiannau'r tir, bwyd a diod a thwristiaeth. Mae yna lawer o ficrofusnesau, gan gynnwys diwydiannau 'ffordd o fyw', diwydiannau'n ymwneud ag ymwelwyr a diwydiannau creadigol sy'n cyfuno byw a gweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae ochr sylfaenol bwysig i’r economi hefyd gyda llawer o bobl yn cael eu cyflogi i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol o ddydd i ddydd, crefftau medrus, a phroffesiynau fel hyfforddwyr gyrru, gofal plant a gofal cartref ac ati.

Mae Hendy-gwyn ar Daf hefyd yn ganolbwynt ar gyfer addysg uwchradd a chysylltiadau rheilffordd ar gyfer Sanclêr a Thalacharn gerllaw. Mae'n chwarae rhan hanfodol o ran darparu gwasanaethau cymdeithasol, cyflogaeth, addysgol a manwerthu i'r pentrefi cyfagos yn Ward Llanboidy yn Sir Gaerfyrddin a Ward Llanbedr Felffre yn Sir Benfro.

Mae Hendy-gwyn ar Daf yn dref sy'n tyfu gyda thwf bach mewn poblogaeth a thai yn y blynyddoedd diwethaf. Mae twf economaidd y dref hefyd yn amlwg yn y nifer uwch na'r cyfartaledd o bobl o oedran gweithio sy'n byw yn yr ardal sy'n economaidd weithgar ac mewn cyflogaeth amser llawn.

Darganfod Hendy-gwyn ar Daf

Prosiect Deg Tref

Mae Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf wedi cwblhau'r gwaith o ailddatblygu hen adeilad y Studio ar Cross Street yn llwyddiannus. Mae'r lle gwag wedi'i drawsnewid yn bedair rhan amlswyddogaethol, sydd bellach yn cael eu defnyddio gan y Cash Hub sydd newydd agor, ystafell driniaeth, a chegin â chyfleusterau llawn.

 

Prosiect Refeniw y Deg Tref

Cafodd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf gyllid i gyflogi swyddog digwyddiadau a marchnata i gefnogi a datblygu calendr digwyddiadau y dref, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â busnesau a chynyddu nifer yr ymwelwyr. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau llwyddiannus wedi cael eu trefnu ers hynny, gan gynnwys cawl, crefftau a chanu ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, paentio cysgodfan fysiau Bryn Gwenllian gyda disgyblion Ysgol Dyffryn Aman, sesiynau crefftau'r haf, glanhau'r orsaf, gorymdaith goleuadau coed, a gweithdy torch Nadoligaidd.

Adfywio Canol Trefi Gwledig

Dywedodd perchnogion busnesau lleol fod angen cymorth i fywiogi y tu allan i'w heiddo.

Cafodd cronfa grant arbennig ei sefydlu i gefnogi'r fenter hon ac mae sawl eiddo ar y stryd fawr yn Hendy-gwyn ar Daf wedi derbyn cyllid i wella'r tu allan i'w hadeiladau gan sicrhau bod y dref yn fwy bywiog a deniadol.

Fel rhan o'r gwaith ehangach hwn, comisiynodd Cyngor Sir Caerfyrddin furlun ar y Clwb Criced, a gafodd ei greu gan yr artist lleol JenksArt. Mae'r gwaith celf trawiadol yn ychwanegu nodwedd weledol unigryw i'r ardal, gan ddathlu hunaniaeth leol a gwneud y dref yn fwy deniadol.

Mynd i'r Afael â Threfi

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cwblhau'r gwaith o ddatblygu maes parcio newydd yng nghanol y dref ar safle'r hen seidins rheilffordd yn Hendy-gwyn ar Daf. Mae'r prosiect wedi darparu 25 o leoedd parcio am ddim ychwanegol, gan wella mynediad i ganol y dref a chefnogi busnesau lleol ac ymwelwyr.

Comisiynodd yr Awdurdod hefyd gwmni arbenigol i wneud gwaith glanhau trylwyr ar Stryd Sant Ioan, gan wneud yr ardal yn fwy deniadol a glân i drigolion ac ymwelwyr.

Hwb