Mae Llanymddyfri, fel porth i Fannau Brycheiniog, yn gyrchfan flaenllaw sy'n adnabyddus am ei chyfleoedd hamdden awyr agored egnïol a chynaliadwy a'i lletygarwch cynnes. Mae'r dref farchnad ddelfrydol hon yn cynnal cymuned fusnes ffyniannus a'i phreswylwyr, gan ennill enw da am fod yn fywiog, yn hyblyg ac yn uchelgeisiol.
Mae'r dref yn denu busnesau newydd, sgil-fusnesau, a micro-fusnesau sy'n tyfu oherwydd ei hygyrchedd a'i hamgylchedd o ansawdd uchel. Mae'r 'chwarter gwneuthurwyr' yn meithrin cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr, dylunwyr, peirianwyr ac entrepreneuriaid creadigol.
Mae canol y dref wedi’i hadfywio ac yn llawn bywyd cymunedol, gan gynnig cymysgedd o fanwerthu masnachol a thraddodiadol, gyda chymorth rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau arloesol. Mae tai newydd, sy'n adlewyrchu cymeriad unigryw’r cefn gwlad, yn denu teuluoedd a phobl ifanc i'r dref, lle mae hefyd seilwaith digidol a thrafnidiaeth gwych.
Ein Blaenoriaethau
Mae ein Blaenoriaethau o ran Twf Economaidd yn canolbwyntio ar gyflawni twf economaidd lleol cynaliadwy a rennir gan bawb, gan amddiffyn, cynnal a dathlu ansawdd uchel ein hamgylchedd naturiol ar yr un pryd.



















































