
Cymru Iachach - Isabelle French Wells
Crëwyd Cari a Cymru drwy wneud gludwaith o lawer o lawbrintiau plant i ddisgrifio'r galon yn curo yng nghanol Cymru yn weledol. Mae'r lliwiau yn cynrychioli ein tirwedd, ein harfordir a'n treftadaeth yn cefnogi calon ein dyfodol. Mae ein plant a phlant y dyfodol yn haeddu Cymru iachach i ddatblygu a thyfu ynddi.

Cymru Wydn - Tyler Davies ac Ollie Leale
Mae'r llygad a'r blodau a ddefnyddir yn y ddelwedd hon yn cynrychioli ffydd, gobaith a doethineb. Mae'r blodau'n dangos y gallu i oresgyn adfyd, pob un yn cynrychioli gwytnwch ac optimistiaeth. Mae'r gair gobaith yng nghanol y ddelwedd yn symbol o adnewyddiad gan ein hatgoffa bod gobaith bob amser yn ystod caledi gyda'r potensial am newid cadarnhaol.

Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang - Ffion Jones, Lowri Jones, Will Mee
O fryniau tonnog i goetir trwchus, mae gan Gymru dirwedd hardd. Mae gofalu am ein tir ein hunain, y tir o'n cwmpas, yn ddechrau da i fod yn gyfrifol yn fyd-eang.

Cymru Lewyrchus - Eva Batten a Harper James
Cymysgu dyfrlliw traddodiadol a thechnegau graffiti modern i ddychmygu tirwedd eco-gyfeillgar a llewyrchus yn y llynnoedd delta. Gan ymgorffori gwyrddni'r glaswellt gyda thonnau glas yr arfordir o'i amgylch, mae proffil newydd adeilad Pentre Awel yn symbol o sut y gall pob un ohonom ffynnu o fewn y prosiect llesiant newydd.

Cymunedau Cydlynol - Evie Hare a Leah Jenkins
Wedi'i gynllunio i ymgynnull, er mwyn ymgysylltu â chymunedau, mae'r darn hwn yn awgrymu cysur, diogelwch a chynhesrwydd o fewn y gymuned yng Nghymru. Yn darlunio ystod o bobl sydd wedi'u dylunio'n ddigidol mewn podiau plastr wedi'u cerflunio â llaw. Mae gweithgareddau o fewn y ffurfiau yn cyfuno i greu twf, cynnal llesiant gydag ymdeimlad cryf o undod yn ein cymunedau.

Cymru lle mae'r Gymraeg a'i Diwylliant yn Ffynnu- Nesta Jones
Dathliad o ddiwylliant bywiog Cymru. Cyfuniad diwylliannol balch o arlunio digidol, lliwiau beiddgar, sy'n cyfeirio at y Mabinogion gyda'n tirwedd a'n gwisgoedd traddodiadol. Mae'r ddelwedd hon yn dathlu'n weledol y ffaith y gallwn ffynnu yn ein hiaith Gymraeg ac o'r dreftadaeth fawr a'r traddodiadau Cymreig ac y byddwn yn parhau i ffynnu.

Cymru Gyfartal - Mica Dundas Thomas a Cerys Fuller
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn y wlad yn estyn allan am gyfleoedd gwell ac amgylchedd gwell ac mae Pentre Awel yn gam ymlaen at hynny, "golau gobaith” . Mae dwylo o wahanol liwiau yn mynegi cydraddoldeb, gwahanol genhedloedd, diwylliannau a chredoau. Mae cestyll, adfeilion a symbolau Cymru yn ffurfio'r cefndir i symboleiddio ein treftadaeth.