Ysgol Parc y Tywyn
Mae Ysgol newydd Parc y Tywyn wedi'i chwblhau'n ddiweddar, ac mae'r safle newydd wedi'i leoli'n ddelfrydol gan ei fod yn agos i'r harbwr ac i ganol y dref. Mae'r disgyblion wedi symud i'r ysgol hollol gyfoes werth £9.6 miliwn, sy'n cynnig lleoedd eang ac ysbrydoledig ar gyfer dysgu, mewn amgylchedd uwch-dechnoleg.
Cafodd yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ei hadeiladu yn unol â'r safon uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, ac mae'n bodloni statws Passivhaus a safon 'Rhagorol' BREEAM. Mae'r ysgol newydd wedi cael ei darparu drwy Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin ac wedi'i hariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru.
Safle Datblygu Teras Glanmor
Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi yn ddiweddar ar gyfer 32 o dai eco-gydnaws, ar ôl i Cartrefi Croeso, cwmni tai newydd Cyngor Sir Caerfyrddin, sicrhau pecyn cyllid o £4 miliwn.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnwys datblygiad uchelgeisiol Pentref Gardd Porth Tywyn yn ei grant £43 miliwn Rhaglen Tai Arloesol a bydd y cynllun arfaethedig yn darparu cyfuniad o dai ar dir wrth ymyl Cynllun Gofal Ychwanegol Plas y Môr yn y dref.
Mae cynlluniau cyffrous wedi cael eu llunio sy'n cynnwys nodweddion eco-gydnaws megis paneli haul a phren o Gymru sy'n cael ei weithgynhyrchu'n lleol, a fydd yn helpu preswylwyr i arbed hyd at £1,000 y flwyddyn ar eu biliau ynni. Caiff y tai eu dylunio i annog ffyrdd o fyw nad ydynt yn defnyddio llawer o ynni, i wella iechyd a lles ac i liniaru tlodi tanwydd.
Safle Preswyl
Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi prynu safle Grillo 7.26 erw ym Mhorth Tywyn, ger tir presennol Cyd-fenter Morlan Elli, er mwyn darparu datblygiad preswyl 15.25 erw yng nghanol ardal yr harbwr.
Bydd prynu'r tir yn galluogi'r Cyngor i hwyluso'r gwaith o adfywio'r safle tir llwyd hwn er mwyn darparu hyd at 364 o anheddau preswyl a 465 metr sgwâr (5,005 troedfedd sgwâr) o gyfleusterau adwerthu a hamdden mewn lleoliad allweddol ar y glannau, gan wella ymhellach yr hyn a gynigir yn Harbwr Porth Tywyn yn ogystal ag ychwanegu ato.