Parc Gelli Werdd
Parc Gelli Werdd
Plot 3, Cross Hands East Strategic Employment Site
Cross Hands, Llanelli
                    
                    
                    - 01267 246246
 - estates@sirgar.gov.uk
 
- lluniau
 
Manylion Allweddol
Mae Parc Gelli Werdd yn ddatblygiad newydd a chynaliadwy o weithdai a swyddfeydd o’r radd flaenaf ar safle dwyrain Cross Hands.
Mae'r datblygiad blaenllaw yn cynnwys tri adeilad masnachol, gan gynnig cyfanswm o 32,500 troedfedd sgwâr. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio ar gyfer defnyddiau B1 a B8. Mae prydlesi ar gael i denantiaid addas yn y sector preifat.
Bydd y tri adeilad yn cynnwys:
- Adeilad 1 - Unedau Swyddfeydd a Hybrid
 - Adeilad 2 – Unedau Hybrid
 - Adeilad 3 – Unedau Diwydiannol Ysgafn
 
Mae rhai o'r unedau wedi'u dylunio i fod yn hyblyg fel y gellir eu defnyddio at ddefnydd diwydiannol ysgafn neu ddefnydd swyddfa.
Y tu allan, bydd y datblygiad yn cynnwys digon o leoedd parcio, pwyntiau gwefru trydan, iard wasanaeth a storfa feiciau yn ogystal â thirlunio helaeth.

    
    
    
    
    
    




