Arwyr Gemau
Ymgeisydd y prosiect: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Teitl y prosiect: Arwyr Gemau
Rhaglen Angor: Cronfa Sgiliau
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Bydd y prosiect hwn yn defnyddio e-chwaraeon a gemau cyfrifiadurol yn gyfrwng i wella hyder a sgiliau oedolion ifanc yn Sir Gaerfyrddin. Prif nod y prosiect yw datblygu sgiliau arwain a rheoli, cynyddu hunanhyder a gwella'r gallu i drosglwyddo i'r gweithlu.