Gwaharddiad ar Fêps Untro
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/05/2025
Ar 1 Mehefin 2025, bydd yn anghyfreithlon i fusnesau werthu neu gyflenwi fêps untro (tafladwy).
Beth yw Fêps Untro?
Mae fêps untro neu fêps tafladwy wedi'u cynllunio i'w defnyddio unwaith yn unig. Mewn cyferbyniad, rhaid i fêp y gellir ei ailddefnyddio fodloni'r holl feini prawf canlynol:
• Bod ganddo fatri ailwefru
• Bod modd ei ail-lenwi â hylif fêp
• Bod y fêp yn cynnwys coil y gellir ei ddisodli, neu unrhyw ran y gellir ei ddisodli sy'n cynhesu'r hylif i greu anwedd
Cynhyrchion a fydd yn cael eu gwahardd
Ni fydd y mathau canlynol o ddyfeisiau yn cael eu hystyried fel rhai y mae modd eu hailddefnyddio a byddant yn cael eu gwahardd:
• Fêps sengl lle nad yw'r hylif na'r coil yn hygyrch - hyd yn oed os oes USB ar gyfer gwefru.
• Dyfeisiau y gellir eu hailwefru a'u hail-lenwi ond sydd â choil na ellir ei ddisodli
• Fêps sy'n ymddangos fod modd eu hailddefnyddio ond nad oes modd eu hail-lenwi na phrynu coiliau newydd ar eu cyfer
Sut i Baratoi
Cyn i'r gwaharddiad ddod i rym:
• Stopiwch brynu fêps untro
• Gwerthwch eich stoc bresennol
• Newidiwch i gynhyrchion cydymffurfio sy'n bodloni'r safonau newydd
Ar ôl 1 Mehefin 2025, rhaid i unrhyw gynhyrchion fêps untro sy'n weddill gael eu:
• Gwahanu oddi wrth gynhyrchion eraill
• Labelu'n glir fel rhai na ellir eu gwerthu
• Tynnu o'r man gwerthu (yn y siop ac ar-lein) nes eu casglu gan wasanaeth ailgylchu fêp cofrestredig
Mae canllaw i fusnesau hefyd ar gael ar wefan llyw.cymru
Mae rhagor o wybodaeth am fêps ar gael ar ein tudalen we e-sigaréts (fêps)