Roedd gwyliau gartref (staycations) wedi dechrau dod yn fwy poblogaidd hyd yn oed cyn y pandemig, felly nid yw'n syndod bod yr arfer o fynd ar wyliau rhywle yn y DU wedi cynyddu eleni...a does dim sôn bod y duedd honno'n mynd i newid yn fuan.
Tyfodd poblogrwydd gwyliau gwersylla, glampio a charafanio yn sylweddol pan oedd hawl teithio eto yn 2020, ac mae'n debygol taw'r un fydd y stori eleni.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae gennym dros 133 o feysydd carafanio a gwersylla sy'n cynnwys carafanau statig, cabanau, sialés, safleoedd glampio, a meysydd gwersylla traddodiadol. Pan fyddant yn llawn, mae hynny'n fwy na 18,000 o ymwelwyr y noson.
Mae hon yn farchnad dwf, ac yn allweddol i hybu'r economi leol gan fod yr ymwelwyr hyn yn ddieithriad yn aros yn y sir at ddibenion hamdden ac yn stopio ar y ffordd i brynu bwyd ac ati.
Rydym am eu hannog i brynu gan gynhyrchwyr bwyd, siopau annibynnol, orielau, a busnesau lleol.
Drwy ymgyrch 100% Sir Gâr Darganfod Sir Gâr, byddwn yn hyrwyddo popeth sydd gan y sir i'w gynnig - llefydd i fynd, pethau i'w gwneud, a mannau i fwyta allan a siopa'n lleol. Ein nod yw annog ymwelwyr i wario yn yr economi leol, i fwynhau cynnyrch o'r radd flaenaf a chelfyddyd a chrefftau unigryw, ac i rannu eu profiad o ymweld â Sir Gaerfyrddin.
Deall ymddygiad ymwelwyr
Rydym wedi comisiynu ymchwil yn y sector hwn i ddeall yn well:
- ymddygiad ymwelwyr ar ôl y pandemig
- gwariant ymwelwyr
- ble maent yn mynd pan fyddant ar wyliau
- ymweliadau'r tu allan i'r tymor
- beth wnaeth eu cymell i ymweld
- bwriad i ddychwelyd
Byddwn yn rhannu'r ymchwil hon i'r farchnad gyda busnesau yn y sector hwn i'ch helpu i ddeall anghenion, disgwyliadau a phatrymau gwario ymwelwyr yn well tra byddant ar eu gwyliau yn yr ardal.

Nodau allweddol ar gyfer datblygu economaidd yn y dyfodol
Dros y 18 mis nesaf byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:
- Ymestyn y tymor - fel arfer mae safleoedd carafanio a gwersylla ar agor 8 - 10 mis y flwyddyn ond bydd trwyddedu newydd yn cynnig tymor hirach.
- Gwasgaru'r ymwelwyr - annog ymwelwyr i fynd i bob rhan o'r sir. Tynnu sylw at ardaloedd llai adnabyddus ac nid y mannau sydd fwyaf poblogaidd gan dwristiaid fel arfer.
- Gwariant ymwelwyr - hyrwyddo'r math cywir o wariant, cynnyrch lleol o ansawdd da, a busnesau annibynnol sydd yn ein trefi marchnad gwledig.
- Ansawdd - arddangos ein llety a'n cynnyrch o safon ar draws ein sianeli digidol. Helpu busnesau i gyflawni gwasanaeth o safon uchel drwy hyfforddiant llysgenhadon.
Gweithio gyda ni
Mae angen dull cydgysylltiedig er mwyn i hyn weithio. Felly, rydym yn gofyn i'n perchnogion meysydd carafannau a gwersylla beth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu hymwelwyr a sut gallwn ni helpu i wella'r profiad gaiff eu hymwelwyr.
Adnoddau ar gyfer eich busnes
Mae gennym ddetholiad o ffotograffau a fideos y gallwch eu defnyddio ar unrhyw un o'ch llwyfannau digidol i ddangos beth sydd ar gael yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.
Rydym yn treialu canllaw i ymwelwyr sydd wedi'i anelu'n benodol at westeion sy'n carafanio ac yn gwersylla. Os hoffech gael copïau o'r canllaw, cysylltwch â Pear Distribution.