Abbey Cottages
Natur y Busnes - Llety
Wedi'u hamgylchynu gan adfeilion hudolus Abaty Talyllychau ac wedi'u lleoli o fewn dros 20 erw o goetiroedd preifat, dolydd a llynnoedd, mae Abbey Cottages yn cynnig dihangfa dawel yng nghefn gwlad i deuluoedd, cyplau a'r rhai sy'n dwlu ar feicio. Gyda mynediad uniongyrchol i rai o lwybrau marchogaeth mwyaf prydferth Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae'r hafan dawel hon mewn lleoliad perffaith ar gyfer y rhai sy'n chwilio am wyliau beicio sy'n llawn natur.
Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:
Cyfleusterau storio beiciau â chlo
Mynediad uniongyrchol i lonydd tawel a llwybrau gwledig prydferth
Agosrwydd at ardaloedd beicio enwog fel y Mynydd Du (8 milltir i ffwrdd)
Mynediad i safleoedd a gwarchodfeydd natur yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer llwybrau amrywiol ac lleoedd i gael hoe
P'un a ydych chi'n chwilio am deithiau heddychlon heibio llynnoedd ac adfeilion abaty, neu dir mwy garw ar y llwybrau mynyddig cyfagos, mae Abbey Cottages yn lle gwych i aros.
Yn ogystal â chyfleusterau beicio, mae pob bwthyn yn addas i gŵn a theuluoedd, ac mae'n cynnwys cysuron fel stofiau llosgi coed, Wi-Fi cyflym, a gardd fawr, gaeedig - perffaith ar gyfer ymlacio ar ôl diwrnod ar y beic. Mae'r gofod awyr agored cymunedol yn gwahodd nosweithiau hamddenol gyda barbeciw a gemau, gan ei wneud yn addas ar gyfer gwyliau beicio grŵp neu arosiadau teuluol.
Ychydig funudau i ffwrdd, gall gwesteion archwilio siopau annibynnol swynol, orielau celf a bwytai Llandeilo sydd wedi ennill gwobrau. Yn agosach fyth, mae'r Cwmdu Inn—tafarn gymunedol annwyl—yn cynnig cwrw lleol a rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau. Ar gyfer anghenion ymarferol, mae'r Hen Efail o fewn pellter cerdded, wedi'i stocio â hanfodion dyddiol.
I ddysgu mwy, ewch i: https://www.abbey-cottages.co.uk/
Brynderwen
Natur y Busnes - Llety
Mae Brynderwen yn swatio yn nhirweddau hardd Sir Gâr, ac yn dangos sut y gall llety bach, annibynnol, teuluol hyrwyddo twristiaeth feicio gan gynnig arhosiad personol a chroesawgar iawn i westeion. Trwy gyfuno hoffter at antur awyr agored a buddsoddiadau craff mewn amwynderau sy'n addas i feicwyr, mae Brynderwen wedi gosod ei hun fel prif gyrchfan i feicwyr o bob lefel. Cafodd y busnes Brynderwen Holidays ei ddatblygu o amgylch ffordd o fyw sy'n gwerthfawrogi'r awyr agored, cynaliadwyedd a chymuned. Gan gydnabod apêl gynyddol teithio llesol, datblygodd y busnes i ddiwallu anghenion beicwyr mynydd, beicwyr ffordd, cerddwyr, a'r rheiny sy'n dwlu ar gŵn fel ei gilydd.
Mae Brynderwen wedi dod yn lle ar gyfer gwyliau beicio, diolch i ymagwedd y perchnogion o flaenoriaethu beicwyr. Mae gwesteion yn elwa ar amrywiaeth o nodweddion sy'n addas i feicwyr sydd wedi'u cynllunio i gefnogi pob agwedd ar eu profiad beicio:
Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:
Lle diogel i storio beiciau
Cyfleusterau golchi beiciau ar y safle
Gweithdy beiciau sy'n llawn cyfarpar
Arweinydd beicio mynydd cymwys ar y safle
Mynediad uniongyrchol i lwybrau coedwig helaeth a lonydd gwledig tawel
Gyda mynediad hawdd i gyrchfannau beicio o'r radd flaenaf fel Fforest Brechfa, Cwm Rhaeadr, a'r Mynydd Du, mae Brynderwen mewn lleoliad perffaith ar gyfer beicio mynydd llawn adrenalin a beicio hamddenol i weld y golygfeydd.
Un o nodweddion amlwg presenoldeb Brynderwen ar-lein yw Phill's Local MTB Rides Blog, sy'n cynnig yr adolygiadau diweddaraf o lwybrau i westeion, awgrymiadau am lwybrau, a gemau cudd lleol. Mae nid yn unig yn amlygu angerdd y perchnogion ond hefyd yn rhoi gwybodaeth i westeion er mwyn iddyn nhw wneud y mwyaf o'u gwyliau.
Mae Brynderwen Holidays yn mynd y tu hwnt i fod yn addas i feicwyr, mae'n mynd ati'n weithredol i hyrwyddo dull o dwristiaeth sy'n fwy cynaliadwy a chymunedol. Mae gwesteion yn cael eu hannog i archwilio canolfannau beicio lleol, i gefnogi caffis cyfagos, ac i ddarganfod atyniadau llai adnabyddus Sir Gâr. Mae'r dull hwn yn cryfhau'r economi leol ac yn meithrin rhwydwaith bywiog ar yr un pryd o ran y rhai sy'n mwynhau bod yn yr awyr agored.
I ddysgu mwy, ewch i: https://brynderwenholidays.com/bikes/
Ystafelloedd Te Carreg Cennen
Natur y Busnes - Caffi/bwyty
Wrth droed Castell trawiadol Carreg Cennen, mae Ystafelloedd Te Carreg Cennen yn cynnig arhosiad croesawgar a hardd i feicwyr sy'n archwilio cefn gwlad hardd Sir Gaerfyrddin. P'un a ydych chi'n beicio drwy Fannau Brycheiniog neu ar lwybr prydferth o amgylch Dyffryn Tywi, mae'r ystafell de swynol hon yn lle perffaith i gael coffi, tamaid i'w fwyta, neu i fwynhau'r golygfeydd syfrdanol.
Wedi'u lleoli ger llwybrau beicio poblogaidd fel y rhai trwy fryniau tonnog Bannau Brycheiniog a'r Llwybr Celtaidd, mae Ystafelloedd Te Carreg Cennen yn hoff fan gorffwys i feicwyr sy'n chwilio am rywle i gael bwyd a mwynhau'r amgylchoedd.
Mae'r ystafell de yn cynnig detholiad o brydau bwyd blasus, byrbrydau ysgafn, a danteithion egnïol, perffaith ar gyfer ymlacio ar ôl taith. O gacennau cartref a hufen iâ i frechdanau ffres a phrydau bwyd twym, mae rhywbeth at ddant pob beiciwr. Mae mannau diogel a chyfleus gerllaw i barcio'ch beic tra byddwch chi'n mwynhau eich seibiant.
Ar ôl cael seibiant, beth am archwilio'r ardal gyfagos? Mae Castell Carreg Cennen, gyda'i safle dramatig ar ben bryn, yn cynnig golygfeydd panoramig o gefn gwlad ac yn lle gwych i'r rhai sydd am ymestyn eu coesau ar ôl taith hir.
I ddysgu mwy, ewch i: http://www.carregcennencastle.com/
Coaltown
Natur y Busnes - Caffi
Mae Coaltown Coffee, yng nghanol tref fywiog Rhydaman, wedi dod yn lle poblogaidd i feicwyr sy'n archwilio golygfeydd hardd Sir Gâr. P'un a yw beicwyr yn mynd i'r afael â dringfeydd heriol neu'n crwydro'n hamddenol ar hyd lonydd cefn gwlad tawel, mae Coaltown yn darparu lle perffaith i oedi, cael bwyd, a magu nerth.
Gyda'i chyfleusterau diogel i gloi beiciau, gorsaf ail-lenwi poteli dŵr, a dewis o seddi dan do ac awyr agored, mae caffi Coaltown Coffee yn darparu ar gyfer anghenion beicwyr ym mhob tymor. Mae awyrgylch croesawgar y caffi a'i sylw i fanylion ymarferol yn gwneud y lle'n ganolbwynt naturiol i feicwyr ledled yr ardal.
Wrth wraidd y profiad mae ymrwymiad Coaltown i ansawdd ac i'r gymuned. Mae beicwyr yn cael gwledd o goffi arbenigol wedi'i rostio'n berffaith ynghyd â detholiad blasus o gacennau a phrydau ysgafn sy'n golygu bod y caffi'n lle poblogaidd i feicwyr achlysurol a grwpiau o glybiau fel ei gilydd lenwi eu boliau.
I ddysgu mwy, ewch i: https://www.coaltowncoffee.co.uk/
Fferm Llanerchindda
Natur y Busnes - Llety & Bwyty
Mae Fferm Llanerchindda yn cynnig croeso cynnes i feicwyr sy'n chwilio am fan canolog i grwydro ar hyd rhai o lwybrau a thirweddau prydferthaf a mwyaf cyffrous Sir Gâr. Gydag amrywiaeth o opsiynau o ran llety, prydau bwyd maethlon, a chyfleusterau sy'n benodol ar gyfer beiciau, mae Llanerchindda yn cyfuno lletygarwch gwledig ag antur, gan wneud y fferm yn gyrchfan ddelfrydol i feicwyr mynydd a beicwyr ffordd fel ei gilydd.
Mae Llanerchindda ychydig y tu allan i Gynghordy, ac mae golygfeydd godidog i'w gweld oddi yno dros Ddyffryn Tywi Uchaf ac mae ganddi fynediad ardderchog i lwybrau yn y goedwig, cronfeydd dŵr hardd, a ffyrdd gwledig tawel. Mae'r fferm yn dra chymwys i ddiwallu anghenion beicwyr achlysurol a beicwyr profiadol.
Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:
Lle diogel i storio beiciau
Ystafell ar gyfer golchi drwy chwistrellu a sychu
Gwybodaeth fanwl am lwybrau lleol yn yr Ystafell Fapiau ar y safle
Trefniadau llogi beiciau
Llogi dyfais GPS Satmap gyda llwybrau cylchol wedi'u llwytho ymlaen llaw sydd wedi'i gosod er mwyn i'r ddyfais fod yn hawdd i'w defnyddio
Mae pecynnau cinio hefyd ar gael - perffaith ar gyfer diwrnodau hir allan ar y beic.
Mae'r fferm yn fan cychwyn perffaith ar gyfer archwilio oddi ar y ffordd. Gall gwesteion feicio'n uniongyrchol o'r eiddo lle gallwch fynd ar lwybrau sy'n cynnwys Cylchdaith y Dam Blaster, sef cylchdaith beicio mynydd 30 milltir sy'n cynnwys dringfeydd mewn coedwig, golygfeydd o gronfa ddŵr, a beicio i lawr rhiwiau i'r dyffrynnoedd, neu gallan nhw fynd ar sawl llwybr cyfagos o'r radd flaenaf yng Nghoedwig Crychan (4 milltir), Llwybr Cwm Rhaeadr (5 milltir) a Fforest Brechfa (18 milltir).
I ddysgu mwy, ewch i: https://cambrianway.com/activities/mountain-biking/
Y Plough, Rhosmaen
Natur y Busnes - Gwesty & Bwyty
Wedi'i guddio ym mryniau tonnog Dyffryn Tywi, mae'r Plough Rhos-maen yn Llandeilo yn cynnig y cyfuniad perffaith o gysur, bwyd a chyfleustra i feicwyr sy'n archwilio Sir Gaerfyrddin. P'un a ydych chi yma ar gyfer yr her o feicio mynydd, taith ffordd olygfaol, neu wyliau beicio sy'n addas i deuluoedd, mae'r Plough yn croesawu beicwyr ac yn cynnig yr holl amwynderau y gallai beiciwr eu hangen - a mwy.
Wedi'i leoli ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae'r Plough o fewn cyrraedd hawdd i rai o gyrchfannau beicio enwocaf Cymru, gan gynnwys:
Fforest Brechfa
Cwm Rhaeadr
Coedwig Crychan
Y Llwybr Celtaidd, sy'n ddelfrydol ar gyfer teithiau hamddenol i'r teulu
Mae'r lleoliad canolog hwn yn lle ardderchog i aros ar gyfer gwyliau byr a theithiau beicio dros sawl diwrnod drwy gefn gwlad Cymru.
Mae'r Plough yn cynnig cyfres o gyfleusterau wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer beicwyr, wedi'u cynllunio i wella cysur, diogelwch a chyfleustra eich arhosiad:
Lle diogel i storio beiciau
Gorsaf golchi beiciau
Cyfleusterau ystafelloedd sych
Ail-lenwi poteli dŵr am ddim
Mapiau beicio printiedig ac awgrymiadau llwybrau lleol
Pecynnau cinio ar gais
Partneriaeth â MudTrek, darparwr beicio mynydd sydd wedi ennill sawl gwobr sy'n cynnig llogi beiciau, teithiau tywys, a thrafnidiaeth llwybrau yng Nghoedwig Brechfa gerllaw
Ar ôl diwrnod hir ar y beic, gall beicwyr ymlacio yn y sawna, mynd i'r gampfa, neu ymlacio yn y bar neu lolfa'r gwesty gyda phryd o fwyd haeddiannol. Mae'r bwyty ar y safle yn arddangos y gorau o gynnyrch Cymreig lleol gyda bwydlenni sy'n cynnig rhywbeth at ddant pawb - yn ddelfrydol ar gyfer cael bwyd ar ôl taith fawr.
P'un a yw'n frecwast iachus, cinio calonog, neu becyn cinio i fynd ar y llwybrau, mae'r tîm coginio yn sicrhau bod pob beiciwr yn cael digon o fwyd ac wedi'i baratoi'n dda.
I ddysgu mwy, ewch i: https://www.ploughrhosmaen.com/
Tŷ Mawr, Brechfa
Natur y Busnes - Gwesty & Bwyty
Wedi'i guddio ym mhentref heddychlon Brechfa ac ychydig funudau o lwybrau enwog Coedwig Brechfa, mae Gwesty a Bwyty Gwledig Tŷ Mawr yn lle perffaith i feicwyr sydd am archwilio un o dirweddau naturiol mwyaf cyfareddol Sir Gaerfyrddin. Wedi'i leoli mewn plasty llawn cymeriad ac wedi'i amgylchynu gan wyrddni hyfryd, mae'n westy delfrydol ar gyfer beicwyr sy'n chwilio am gysur, bwyd gwych, ac antur ar stepen y drws.
Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:
Storio beiciau diogel a chyfleusterau beicio
Prydau bwyd wedi'u paratoi'n ffres, o ffynonellau lleol yn y bwyty ar y safle
Ystafelloedd cyfforddus, llawn cymeriad sydd wedi'u cynllunio ar gyfer ymlacio ar ôl taith
Yn agos at Goedwig Brechfa a llwybrau prydferth eraill
Mewn partneriaeth â Roam Bikepacking Adventures, mae Tŷ Mawr yn falch o gefnogi teithiau beicio annibynnol dros sawl diwrnod ar lwybrau llai adnabyddus a chefnffyrdd tawel Sir Gaerfyrddin. Mae llwybrau GPS ac arweinlyfrau Roam yn grymuso beicwyr i greu eu llwybrau eu hunain ar eu cyflymder eu hunain - p'un a yw hynny'n golygu darganfod pentref cudd neu fwynhau eiliad dawel ym mud natur.
Mae cynaliadwyedd a chysylltiad cymunedol wrth wraidd y profiad. Mae Tŷ Mawr yn blaenoriaethu lletygarwch eco-ymwybodol, o effeithlonrwydd ynni i ddefnyddio cynhyrchwyr lleol. Yn y cyfamser, mae Roam yn annog rhyngweithio ystyrlon â phobl, diwylliant a thirwedd yr ardal - gan gynnig mwy na llwybr yn unig i feicwyr, ond ymdeimlad gwirioneddol o le.
Mae'r bartneriaeth rhwng Gwesty a Bwyty Gwledig Tŷ Mawr a Roam wedi dod â lefel newydd o dwristiaeth feicio i Brechfa. Mae'n anhygoel gweld sut maen nhw wedi creu profiad di-dor sy'n hyblyg ac yn gysylltiedig â'r gymuned leol.” — Perchennog Busnes Lleol, Sir Gâr
I ddysgu mwy, ewch i: https://wales-country-hotel.co.uk/