Denu Beicwyr i'ch busnes
Mae bod yn fusnes sy'n addas i feicwyr yn golygu deall anghenion penodol beicwyr a chynnig y cyfleusterau a'r gwasanaethau a fydd yn gwella eu profiad. Trwy ddarparu'r cyfleusterau cywir, byddwch yn denu mwy o feicwyr ynghyd â chynyddu'r tebygolrwydd eu bod yn dewis eich busnes eto. Dyma rai awgrymiadau hawdd eu gweithredu ar gyfer croesawu beicwyr a sicrhau bod eich busnes yn barod ar eu cyfer.
Darparwyr llety
- Darparwch le diogel i storio beiciau lle mae modd cloi beiciau a'u cadw'n ddiogel (mae beiciau'n aml yn werth miloedd o bunnoedd). Gall y lle diogel fod mewn garej, sied, loceri pwrpasol neu islawr. A fyddech chi'n gadael i gwsmeriaid storio'u beiciau yn eu hystafelloedd?
- Darparwch gyfleusterau awyr agored ar gyfer golchi beiciau – gall hyn fod mor syml â phibell ddŵr, ond mae bwced a sbwng yn well na dim.
- Darparwch le ar gyfer sychu offer beicio gwlyb fel ystafell sychu neu fynediad i sychwr dillad. Yn ogystal, cynigiwch wasanaeth golchi dillad i'ch gwesteion (neu beiriant golchi os mai eiddo hunanarlwyo sydd gennych chi), darparwch hambwrdd i roi esgidiau gwlyb a budr arno neu mae bag bin neu gambren cotiau'n ffordd wych o ymdrin â rhai siacedi gwlyb yn y tymor byr, a bydd hyn yn helpu i gadw pethau'n lân ac yn sych.
- Sicrhewch fod gennych y pethau sylfaenol o ran offer atgyweirio wrth law i'ch gwesteion. Beth am fynd draw i'ch siop feiciau leol a gofyn am gyngor ynghylch beth i'w gynnwys?
- Pecyn cymorth cyntaf – dylai fod gan eich busnes un eisoes ond gwnewch eich beicwyr yn ymwybodol ohono.
- Darparwch fapiau manwl a gwybodaeth am lwybrau beicio lleol. Mae beicwyr yn aml yn gofyn am gyngor ynghylch ble i fynd, felly bydd rhoi awgrymiadau am lwybrau cyfredol yn gwneud eu hymweliad hyd yn oed yn fwy pleserus.
- Ydych chi'n gwybod o ble y gall ymwelwyr logi beiciau ac e-feiciau? Gall rhai cwmnïau gludo a chasglu ac efallai y gallwch ddechrau gweithio gydag arweinydd beicio cymwys.
- Cynigiwch brydau bwyd maethlon, sy'n rhoi digon o egni, a darparwch fananas i frecwast! Byddwch yn hyblyg, fel bod gwesteion yn gallu bwyta pan fyddan nhw'n gorffen yn gynnar ac yn hwyr.
- Peidiwch ag anghofio ymuno â Chynllun Croesawu Beicwyr Croeso Cymru.
Gall beicwyr gyrraedd eu llety yn hwyr neu'n gynnar; sut ydych chi'n delio â hyn?
Pobl sy'n cyrraedd yn hwyr: Mae hyn yn gyffredin ar y llwybrau pellter hir. Yn aml nid eu bai nhw yw hyn, oherwydd gall fod rhywbeth wedi digwydd i'r beic, eu bod wedi cael damwain, neu eu bod wedi cael brecwast hwyr oherwydd doedd y lle roedden nhw'n aros ynddo ddim wedi gadael iddyn nhw fwyta'n gynnar. Efallai y bydd beiciwr yn cyrraedd ar ôl i'r gwasanaeth bwyd arferol ddod i ben - allwch chi gynnig cawl a bara? Cofiwch fod signal ffôn symudol yn gallu bod yn anghyson yn ein sir felly efallai eu bod wedi ceisio rhoi gwybod i chi eu bod yn mynd i fod yn hwyr.
Pobl sy'n gadael yn gynnar: Yn aml iawn mae beicwyr am ddechrau ar eu taith yn gynnar (fel nad ydyn nhw'n cyrraedd yn hwyr mewn mannau eraill!). Os yw'n anodd darparu eich gwasanaeth brecwast arferol, ystyriwch roi 'pryd arbennig i feicwyr' sy'n eich helpu i reoli'r hyn y gallwch ei ddarparu ar gyfer brecwast.

Caffis/Tafarndai/Atyniadau
- Darparwch reseli beiciau y tu allan i'ch eiddo ar gyfer storio beiciau'n ddiogel. Hefyd, beth am gadw rhai cloeon beiciau? Peidiwch ag anghofio bod beicwyr am i'w beiciau gael eu parcio lle maen nhw'n gallu eu gweld a lle na fyddan nhw'n cael eu difrodi.
- Ehangwch eich gwybodaeth (a gwybodaeth eich staff) am lwybrau beicio lleol fel y gallwch fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol i feicwyr.
- Cadwch fapiau a thaflenni am lwybrau lleol. Gall cynnig gwybodaeth wedi'i hargraffu neu hyd yn oed ddogfennau PDF y gellir eu lawrlwytho o'ch gwefan fod yn ddefnyddiol iawn.
- Byddwch yn barod ar gyfer beicwyr gwlyb neu fwdlyd a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu croesawu a'u bod yn teimlo'n gyfforddus
- Ystyriwch y dewisiadau sydd ar eich bwydlen – beth mae beicwyr am ei fwyta yn ystod diwrnod ar y beic? Ar ôl taith hir, mae angen i feicwyr gael digon o faeth. Ewch ati i deilwra eich bwydlen er mwyn cynnwys opsiynau sy'n rhoi hwb i egni, prydau a diodydd maethlon sy'n darparu electrolytau.
- Toiledau – efallai fod gennych rai ar eich safle – a oes ots gennych fod beicwyr yn eu defnyddio os ydyn nhw'n gofyn i chi, neu ydyn nhw ar gyfer cwsmeriaid yn unig? Bydd y rhan fwyaf o bobl yn deall ac yn derbyn hysbysiad cwrtais sy'n nodi bod y toiledau ar gyfer cwsmeriaid yn unig, a gallai hyn arwain at werthiant arall. Ydych chi'n gwybod ble mae'r toiled cyhoeddus agosaf, ac a ydych yn gallu rhoi cyfarwyddiadau i feicwyr?
- Ydych chi'n gallu darparu cynnig 'arbennig' i feicwyr, naill ai ar ffurf gostyngiad os yw rhywun yn cyrraedd ar feic, neu baned o de am ddim gyda phob archeb? Mae beicwyr wrth eu bodd â darnau mawr o gacen. Rhowch wybod iddyn nhw fod gennych chi gacennau! Mae gadael i feicwyr ail-lenwi eu poteli dŵr am ddim yn ffordd hawdd iawn o ddangos eich bod yn meddwl amdanyn nhw! Cadwch fwydydd sy'n addas i feicwyr a'u rhoi mewn lle amlwg ger y cownter fel bariau egni, geliau neu fflapjacs.
- Citiau atgyweirio ac eitemau sbâr - nid oes angen i hyn fod yn gymhleth, a gall fod mor syml â chadw rhai tiwbiau mewnol a phecynnau atgyweirio pynjar. Gall eich siop feiciau leol eich helpu drwy roi cyngor ynghylch hyn. Gallwch chi werthu'r eitemau hyn. Ond cofiwch, yn union fel bwyd, mae gan diwbiau mewnol oes silff.
- Cit arall - Pwmp trac (pwmp beicio unionsyth gyda mesurydd pwysedd), allweddi Allen a sbaneri.

Awgrymiadau Ychwanegol ar gyfer Unrhyw Fusnes:
- Cynigiwch ostyngiadau neu fargeinion arbennig i feicwyr: Beth am ystyried cynnig bargeinion arbennig i feicwyr, fel prydau gostyngol, pecynnau llety, neu fuddion sy'n gysylltiedig â beiciau (fel storio neu lanhau beiciau am ddim)? Gall cymhelliant bach fynd yn bell iawn.
- Hyrwyddwch eich Busnes mewn Rhwydweithiau Beicio: Ymunwch â rhwydweithiau twristiaeth feicio neu lwyfannau lle mae beicwyr yn chwilio am fusnesau a argymhellir. Gall gwefannau, apiau a grwpiau cyfryngau cymdeithasol ynghylch beicio helpu i ddenu cynulleidfa ehangach.
- Cynnal Digwyddiadau Beicio neu Reidiau Grŵp: Gall cynnal digwyddiadau beicio, reidiau grŵp, neu noddi rasys beicio lleol hyrwyddo'ch busnes ymhellach fel un sy'n addas i feicwyr, gan ddenu cwsmeriaid ffyddlon.
- Sicrhewch eich bod chi'n ymwybodol o'ch siopau beiciau lleol – nid oes angen i chi fod yn arbenigwr ynghylch beicio, yn enwedig os gallwch chi gyfeirio ymwelwyr at siop feiciau leol neu roi rhif ffôn iddyn nhw. Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae eich siop feiciau leol (gallai fod 20-30 munud i ffwrdd). Nhw yw'r rhai gorau i roi gwybodaeth leol gyfredol i chi am lwybrau, materion ac ati.
- Mae beiciau'n torri – Ydych chi'n gwybod ble y gallan nhw gael eu beiciau wedi'u hatgyweirio neu rywun sy'n gallu cludo beiciau a phobl? Mae gan lawer o gwmnïau tacsi lleol gerbydau sy'n gallu cludo pobl (gwiriwch eu bod yn gallu helpu). Maen nhw hefyd yn gwmnïau sy'n cludo bagiau a beiciau.
- Hyrwyddwch fod wifi ar gael am ddim fel y gall gwesteion ymchwilio i'r ardal leol, cynllunio gweithgareddau a llogi offer. Mae llawer o'ch darpar gwsmeriaid yn yr ystod oedran sy'n disgwyl mynediad da i'r rhyngrwyd. Hebddo efallai y byddwch chi'n colli'r archeb.
- Llwybr Rheilffordd Calon Cymru/Trafnidiaeth Cymru – beiciau ar drenau
- Mynediad AM DDIM i atyniadau os ydych chi'n teithio ar feic.
- Trafnidiaeth Gyhoeddus – a oes gennych chi'r wybodaeth hon wrth law y gallwch ei rhoi i feicwyr? Gwiriwch a yw trafnidiaeth gyhoeddus yn cludo beiciau gan fod sefyllfaoedd yn codi sy'n golygu y gallai fod angen i feiciwr neidio ar fws neu drên.
- Rhagolygon tywydd - mae darparu rhagolygon tywydd dyddiol nid yn unig yn wasanaeth hawdd i ychwanegu gwerth i'ch gwesteion, mae'n eich helpu i wybod pa fath o ddiwrnod y bydd eich gwesteion yn mynd i'w gael ac a fyddan nhw'n cyrraedd yn wlyb ar ddiwedd y dydd. Byddwch yn barod!
- Y ffordd orau o fod yn addas i feicwyr... Gofynnwch iddyn nhw sut oedd/mae eu taith, oedd hi'n dda, oedd hi'n wael?

Mynd yr ail filltir: Sut allwch chi fod yn wahanol i bawb arall?
Rydyn ni wedi sôn am y pethau sylfaenol. Nawr beth arall allwch chi fod yn ei wneud i sicrhau bod beicwyr yn cael profiad gwych yn eich busnes?
- Os ydych chi'n ddarparwr llety, beth am gynnig pecynnau cinio i feicwyr?
- Cadwch lyfrgell o gylchgronau beicio wrth law yn eich llety neu gaffi – dyma amser gwych i feicwyr ddarllen wrth gael hoe.
- Cysylltwch â darparwyr eraill fel cwmnïau llogi beiciau ac arweinwyr sy'n cynnig profiad unigryw gwych i'ch gwesteion.
- Anogwch bobl nad ydyn nhw'n feicwyr i ddarganfod beicio fel rhan o'u gwyliau, gan awgrymu llwybrau a mynediad at logi beiciau.
- Ewch ati i gynnig gostyngiadau i glybiau beicio. Beth am gynnig bargen am goffi a chacen yn eich caffi, neu lety am bris gostyngol os ydyn nhw'n cyrraedd ar feic?