Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/04/2024

Cyflwyno Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr!

Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i ddatblygu economaidd a chefnogi entrepreneuriaid lleol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Nod y fwrsariaeth yw creu'r cyfle i entrepreneuriaid lleol brofi eu syniadau busnes cyn creu busnes newydd yn ffurfiol. Drwy gyfnod o fasnachu prawf, gall entrepreneuriaid fireinio eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau a deall galw'r farchnad heb y risg ariannol.

Bydd gan ymgeiswyr fynediad at gymorth i ddatblygu cynllun busnes a gwneud rhagamcanion ariannol ar gyfer y busnes.

 

Ynglŷn â'r Fwrsariaeth

Mae Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr yn daliad wedi'i ariannu'n llawn o hyd at £1,500 ar gael i unrhyw unigolion yn Sir Gaerfyrddin dros 18 oed sydd â diddordeb mewn masnachu prawf syniad busnes.

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu dadansoddiad o wariant, gan gynnwys cost ac enw cyflenwr/cyflenwyr gyda dyfynbrisiau ategol. Anogir y defnydd o gyflenwyr yn Sir Gaerfyrddin lle bynnag y bo modd.

Bydd yr holl wariant rhesymol yn cael ei ystyried fesul achos ac yn cael ei benderfynu yn ôl disgresiwn y Tîm Datblygu Economaidd.

Rhaid i ymgeiswyr fynychu 'Gweithdy Dechrau Busnes', a drefnir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a fydd yn cefnogi llunio cynllun busnes addas a rhagolwg llif arian. Bydd y gweithdy'n cael ei ddarparu gan arbenigwr busnes lleol.

 

Bydd Ceisiadau Llwyddiannus yn Ddarostyngedig i'r Amodau Canlynol:

Bydd 100% o'r dyfarniad yn cael ei rhyddhau ymlaen llaw.

Rhaid darparu tystiolaeth o'r gwariant a amlinellir yn y cais o fewn 2 fis i ddyddiad dyfarnu'r Fwrsariaeth.

Rhaid darparu tystiolaeth o weithgareddau masnachu prawf o fewn 6 mis i ddyfarnu'r Fwrsariaeth.

Gellir gwneud cais am estyniad i'r ddau ddyddiad cau uchod gydag esboniad rhesymol a phenderfynir ar achosion o'r fath ar gyfarwyddyd y Tîm Datblygu Economaidd.

Gellir lawrlwytho telerau llawn y Fwrsariaeth o:

I gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb, lawrlwythwch y ffurflen atodedig a'i dychwelyd i: BusinessEngagement@sirgar.gov.uk

Bydd Swyddog Datblygu Economaidd yn adolygu eich Mynegiant o Ddiddordeb ac yn cysylltu o fewn 5 diwrnod gwaith.

Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr Ffurflen

Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr T&C's