Cymorth Busnes 1:1
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/05/2025
Cymorth Busnes 1:1
Ar ôl cefnogi llawer o fusnesau Sir Gaerfyrddin yn llwyddiannus i nodi a chael mynediad at gymorth 1:1 pwrpasol yn 2024, mae'r tîm yn falch o barhau â'r cynnig hwn yn 2025.
Gall busnesau* sydd angen cymorth 1:1 gael mynediad at sesiynau a ariennir mewn amrywiaeth o arbenigeddau, gan gynnwys cynllunio twf busnes, rheolaeth ariannol, strategaeth farchnata, datblygu gwefannau a llawer mwy.
Oherwydd y galw uchel iawn am y cymorth hwn, mae'n ofynnol i fusnesau gyflwyno ffurflen gais fer, sy'n cynnwys y manylion canlynol:
- Natur y cymorth sydd ei angen
- Nifer y sesiynau/oriau y gofynnir amdanynt
- Enw'r ymgynghorydd a ffefrir (os ydych yn gwybod hynny)
- Budd i'r busnes
Os nad ydych yn gwybod enw ymgynghorydd, gall y Tîm Ymgysylltu â Busnes gynnig rhestr o ddarparwyr gydag arbenigedd penodol. Sylwch nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi unrhyw 1 darparwr cymorth penodol a bydd y penderfyniad terfynol ynghylch pa ymgynghorydd/ymgynghorwyr i ymgysylltu â nhw yn cael ei wneud yn y pen draw gan yr ymgeisydd.
Os bydd yn llwyddiannus, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud taliad yn uniongyrchol i'r darparwr cymorth.
Mae ymgeiswyr yn cytuno i weithio gyda'r darparwr cymorth a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw cofnod o'r sesiynau a ddarperir a'r canlyniadau dilynol a gyflawnwyd ar gyfer y busnes.
Bydd pob cais rhesymol yn cael ei ystyried fesul achos ac yn cael ei benderfynu yn ôl disgresiwn y Tîm Datblygu Economaidd.
I gyflwyno cais am gymorth busnes 1:1, lawrlwythwch y ffurflen isod a'i dychwelyd at: ymgysylltubusnes@sirgar.gov.uk.
Bydd Swyddog Datblygu Economaidd yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi cyn hir.
*Sylwch na allwn gefnogi busnesau sy'n gweithredu unrhyw un o'r gweithgareddau isod:
- Pwrpasau pleidiol-wleidyddol
- Hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol
- Hapchwarae
- Pornograffi
- Cynnig gwasanaethau rhywiol
- Unrhyw fath o weithgaredd anghyfreithlon; neu
- Unrhyw fath o weithgaredd a allai, ym marn y Cyngor, ddwyn anfri ar y Cyngor ac sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithdrefnau, cynhyrchion a thriniaethau mewnwthiol sydd heb eu rheoleiddio, modelu noeth neu hanner noeth, canolfannau hapchwarae, gwasanaethau gwelyau haul, therapïau amgen, cynhyrchion a meddyginiaethau, aciwbigo, siopau fêps, siopau tybaco, dylanwadu drwy gyfryngau cymdeithasol, cwnsela, hyfforddi ffordd o fyw, tatŵyddion, adeiladu hapfasnachol, triniaethau meddygol cyflenwol, cynhyrchion cosmetig, gweithdrefnau esthetig, cynhyrchion olew CBD, cryptoarian.