Pam yr ydym wedi ymgynghori
Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer eu hardal.
Wrth ddatblygu cyfleusterau cymunedol o’r math hwn, mae’n bwysig ymgynghori mewn modd ystyrlon â’r cyhoedd, busnesau a phartïon eraill â diddordeb er mwyn llywio ein hymagwedd.
<Mae’r ddarpariaeth ddigonol o doiledau diogel, glân, hylan sydd ar gael i’r cyhoedd mewn unrhyw dref fawr yn cael effaith sylweddol ar fywyd a lles ei thrigolion, ymwelwyr a’r fasnach dwristiaeth.
Nod y Strategaeth fydd gwella darpariaeth toiledau o fewn y sir. Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn edrych ar newid y ffordd yr ydym yn darparu rhai gwasanaethau wrth i ni geisio defnyddio ffyrdd mwy creadigol o ddarparu cyfleusterau toiledau cyhoeddus.
Sut aethom ati i ymgynghori
Bydd y wybodaeth a gesglir yn llywio Strategaeth Toiledau Lleol wedi’i diweddaru ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Bydd y Pwyllgor Craffu priodol yn craffu ar y ddogfen ddrafft
Canlyniad yr ymgynghoriad
Bydd y wybodaeth a gesglir yn llywio Strategaeth Toiledau Lleol wedi’i diweddaru ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Bydd y Pwyllgor Craffu priodol yn craffu ar y ddogfen ddrafft