Pam yr ydym yn ymgynghori
Rydyn ni'n datblygu cynlluniau creu lleoedd newydd i helpu i lunio dyfodol canol ein trefi ac rydyn ni am i'ch syniadau fod yn ganolog iddynt.
Cafodd ein Prif Gynlluniau Adfer blaenorol eu creu yn ystod cyfnod o angen brys a hynny yn dilyn pandemig byd-eang.
Nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach wrth i'n cymunedau symud ymlaen, rydyn ni'n edrych o'r newydd ar sut y gall canol ein trefi ffynnu yn y tymor hir. Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd newydd yn canolbwyntio ar greu lleoedd bywiog, croesawgar sy'n cefnogi busnesau lleol, yn dathlu ein treftadaeth, ac yn diwallu anghenion trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Bydd eich barn yn ein helpu i ddeall beth sy'n bwysicaf i chi, boed yn fannau cyhoeddus gwell, cysylltiadau trafnidiaeth gwell, mwy o ddigwyddiadau, neu rywbeth hollol newydd. Dyma'ch cyfle i ddylanwadu ar ddyfodol eich tref a sicrhau bod eich barn yn cael ei glywed.
Sut i gymryd rhan
Er mwyn ei gwneud hi'n hawdd i bawb rannu eu barn, rydyn ni wedi creu arolwg byr ar-lein.
Dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd i'w lenwi a bydd yn ein helpu i gasglu syniadau a blaenoriaethau o bob rhan o'n cymunedau.
Mae'r arolwg yn gofyn am eich profiadau o’r canol trefi, beth hoffech ei weld yn cael ei wella, a pha fath o newidiadau fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i chi. P'un a ydych chi'n byw, yn gweithio, yn siopa neu'n ymweld â'n prif drefi - rydyn ni am glywed gennych.
Bydd yr arolwg yn gofyn i chi pa drefi yr hoffech roi adborth ar eu cyfer, efallai yr hoffech ymateb ar gyfer un, neu hyd yn oed y tri. Gallwch ddarparu adborth ar gyfer y tair tref o fewn yr un arolwg os ydych chi’n dymuno - gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio ar y dref / trefi perthnasol ar y dechrau.
Darllen y Hysbysiad Preifatrwydd.
Digwyddiadau Wyneb Yn Wyneb
Os byddai'n well gennych siarad ag aelod o'n tîm yn uniongyrchol, byddwn hefyd yn cynnal cyfres o ddiwrnodau ymgynghori cyhoeddus personol yng nghanol y trefi ar draws Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau galw heibio anffurfiol lle gallwch siarad yn uniongyrchol â'n swyddogion, rhannu eich meddyliau, a dysgu mwy am y cynlluniau creu lleoedd.
Mae'n gyfle gwych i ofyn cwestiynau, cyflwyno syniadau, a dweud eich dweud wrth lunio dyfodol eich ardal leol. Mae croeso i bawb. Galwch heibio i gael sgwrs!
Gallwch ddod o hyd i ni yn y lleoliadau canlynol:
Caerfyrddin: Neuadd Sant Pedr, 22 Medi a 27 Hydref - 12:00yp i 7:00yp
Rhydaman: Neuadd y Pensiynwyr, 23 Medi a 28 Hydref - 12:00yp i 7:00yp
Llanelli: 1 Rhodfa Stepney, 24 Medi a 29 Hydref - 12:00yp i 7:00yp
Camau nesaf
Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu o’r sesiynau ymgynghori a'r arolygon hyn i lunio'r canfyddiadau cychwynnol. Yna byddwn yn gweithio gyda'n Hymgynghorydd Creu Lleoedd i symleiddio'r manylion yr ydym wedi'u casglu i lunio cynlluniau drafft i'w hystyried gan randdeiliaid pob tref. Bydd sesiwn ddilynol yn cael ei chyhoeddi a rhagor o fanylion yn cael eu darparu am sut y gallwch barhau i gymryd rhan.