Pam yr ydym wedi ymgynghori
Mae'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Y Ddwylan, Ysgol Cwrt Henri, Ysgol Gymraeg y Tymbl, Ysgol Llanybydder ac Ysgol Gynradd Talacharn o 4-11 i 3-11 oed wedi'i baratoi mewn ymateb i benderfyniad Cabinet y Cyngor Sir i gael gwared ar Bolisi Plant sy’n Codi’n 4 oed Sir Gaerfyrddin, lle roedd plant yn hanesyddol i fynd i addysg gynradd amser llawn ar ddechrau'r tymor ysgol pan oeddent yn troi'n bedair oed.
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori â'r cyhoedd rhwng 19 Ionawr 2024 a 1 Mawrth 2024, penderfynodd Cabinet y Cyngor ar 25 Mawrth 2024 gael gwared ar Bolisi Plant sy'n Codi'n 4 oed Sir Gaerfyrddin, sy'n golygu, o 1 Medi 2025, y bydd plant yn gymwys ar gyfer ysgol amser llawn ar ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed. O'r dyddiad hwn, ni fydd unrhyw blant mewn darpariaeth amser llawn sy'n dair oed.
Mae plant sydd wedi troi'n dair oed yn gymwys i gael o leiaf 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth addysg gymeradwy anstatudol ar sail sesiynol ran-amser, naill ai yn un o'r 42 o ysgolion cynradd yn y sir sydd wedi'u dynodi'n ysgolion 3-11 a lle mae'r ddarpariaeth hon yn cael ei chynnal gan y Cyngor, neu o leiaf 10 awr o addysg mewn lleoliadau cymeradwy nas cynhelir, fel meithrinfeydd dydd neu Gylchoedd Meithrin. Mae rhieni sy'n gweithio yn gallu cael mynediad at hyd at 30 awr o addysg a gofal plant wedi'u hariannu drwy Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru ar gyfer plant 3-4 oed cymwys.
Un o effeithiau cael gwared ar y Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed yw y bydd plant yn aros mewn lleoliadau darpariaeth feithrin a gofal plant am dymor ychwanegol bellach. Yn y tymor byr, gallai hyn greu galw ychwanegol am ddarparu addysg anstatudol ar gyfer mwy o blant tair oed, a galw cynyddol am ofal cofleidiol o bosib. Yn ddelfrydol, bydd y galw hwn yn cael ei fodloni gan y sector nas cynhelir lle bydd darparwyr yn gallu ehangu'r ddarpariaeth i dderbyn mwy o blant ar gyfer naill ai o leiaf 10 awr o addysg neu ofal cofleidiol, neu'r ddau.
Mewn cymunedau lle nad yw hyn yn digwydd a lle mae bylchau yn y ddarpariaeth o'r elfen addysg, mae’r Cyngor yn cynnig newid rhai o'n hysgolion 4-11 i fod yn ysgolion 3-11. Byddai hyn yn galluogi’r ysgolion hyn i ddarparu'r elfen o 10 awr o leiaf o addysg anstatudol a bod yn fwy cyson o ran darpariaeth ledled Sir Gaerfyrddin. Mae ysgol 3-11 yn derbyn cyllid dirprwyedig gan y Cyngor ar gyfer darparu addysg ran-amser i blant 3 oed.
Felly, nod y cynnig hwn yw mynd i'r afael â'r bwlch o ran darparu o leiaf 10 awr o addysg anstatudol y Blynyddoedd Cynnar i blaent 3 oed trwy gynnig newid yr ystod oedran yn yr ysgolion.
Canlyniad yr ymgynghoriad
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 4 Medi 2025 yn unol â chyhoeddi'r cynnig a daeth i ben ar 16 Hydref 2025. Derbyniwyd cyfanswm o 16 o ymatebion (heb gynnwys yr ymatebion a dderbyniwyd gan Estyn na’r digwyddiad ymgynghori â’r disgyblion) mewn ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol.
Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, paratowyd Adroddiad Ymgynghori yn crynhoi'r sylwadau a dderbyniwyd ac ymatebion y Corff Llywodraethu a'r Awdurdod Lleol i'r sylwadau hyn. Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Corff Llywodraethu ar gyfer penderfyniad ynghylch a ddylid symud ymlaen i gyhoeddi Hysbysiad Statudol ai peidio.
Penderfynodd y Corff Llywodraethu ar 6 Tachwedd 2025 i fwrw ymlaen i gyhoeddi Hysbysiad Statudol.

