Pam yr ydym yn ymgynghori
Rydym yn gwahodd adborth ar y Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer diweddaraf ar gyfer Llandeilo, Llanelli a Chaerfyrddin.
Ers dros 25 mlynedd mae'r Cyngor wedi bod yn monitro nitrogen deuocsid yn y trefi hyn, sy'n deillio'n bennaf o draffig. Oherwydd achosion yn y gorffennol o lefelau oedd yn uwch na'r safonau ansawdd aer cenedlaethol, cafodd Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer eu datgan a datblygwyd cynlluniau gweithredu.
Mae data diweddar yn dangos gwelliant parhaus, gyda'r lefelau presennol yn bodloni'r amcanion cenedlaethol. Mae'r cynllun newydd yn adolygu'r cynnydd ac yn nodi mesurau i wella ansawdd aer ymhellach rhwng 2025 a 2030.
Dogfennau Ategol
Sut i gymryd rhan
Cymerwch ran drwy lenwi'r arolwg ar-lein hwn.