Pam yr ydym yn ymgynghori

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi comisiynu AtkinsRéalis i ymgymryd â’r gwaith i ddylunio gwelliannau i Oleuadau Traffig Halfway yn Llanelli.

Cyn y gwaith o greu’r dyluniad manwl sydd i ddechrau ym Mlwyddyn Ariannol 2026/2027 (sy’n amodol ar gymeradwyaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru), hoffem ymgysylltu â'r cyhoedd a gofyn i chi rannu eich barn a'ch syniadau ynghylch sut y dylid datblygu'r gyffordd â signalau (a’r seilwaith trafnidiaeth gysylltiedig) ar sail y dyluniad cychwynnol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid rhanbarthol wedi ymrwymo i ddatblygu Llanelli fel lle iach, bywiog, ac atyniadol i fyw a gweithio.

Fel rhan o'r ymdrechion hyn, mae'r Cyngor yn cynnig gwella Goleuadau Traffig Halfway; sy’n cysylltu’r A4138 â Theras Glyncoed a Heol Llandafen yn ogystal â Pharc Manwerthu Pemberton i’r de.  Datblygwyd y gwelliannau yn wreiddiol fel rhan o Brosiect WelTAG Cysylltiadau Trefol ac Arfordirol Llanelli, a oedd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thagfeydd ar hyd y coridorau strategol sy'n gwasanaethu Llanelli  a’r Llain Arfordirol ehangach. Cafodd y prosiect hwn ei ohirio oherwydd Pandemig COVID-19 ac Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, oherwydd pwysigrwydd mynd i'r afael â materion y tagfeydd presennol o gwmpas  Goleuadau Traffig Halfway ar yr A4138, datblygwyd y cynllun gwelliant arfaethedig ar gyfer y lleoliad hwn ar ben ei hun.

Yn dilyn yr angen i fynd i’r afael â materion trafnidiaeth presennol o ran Goleuadau Traffig Halfway ar yr A4138, mae’r gwelliannau hyn yn hanfodol i fynd i’r afael â’r heriau trafnidiaeth presennol megis tagfeydd yn ystod cyfnodau brig, diogelwch ac oedi, yn ogystal â darparu Seilwaith Teithio Llesol. Mae’r cynnig presennol yn cael effaith gadarnhaol ar lif traffig, diogelwch i bob defnyddiwr ffordd, Teithio Llesol a dengarwch amgylcheddol. 

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thagfeydd yn ystod oriau brig, gan sicrhau taith mwy esmwyth a mwy dibynadwy i bob teithiwr yn yr ardal. Yn ogystal, mae’r cynllun yn anelu at hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy, megis trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, i annog ffyrdd o fyw iachach a mwy cynaliadwy.

Mae’r gwelliannau allweddol yn cynnwys: 

  • Ehangu lôn ddeuol yr A4138 (De) i ganiatáu lôn hirach wrth droi i’r dde ar y ffordd tuag at Gyffordd Morrisons a Halfway  (i Heol Llandafen)
  • Lôn a Phorth Fysiau arfaethedig ar Ffordd Ymadael Parc Manwerthu Pemberton.
  • Croesfan newydd â reolir ar Deras Glyncoed a gwelliannau i gyfleusterau Teithio Llesol presennol drwy ddarparu Llwybr Cyd-ddefnyddio ger cerbytffordd yr A4138 tua’r de yn arwain i mewn i Barc Manwerthu Pemberton (a fydd yn darparu cysylltiad ehangach â Phrif Lwybr Teithio Llesol Llanelli - gyda fideo ar gael drwy’r ddolen ganlynol Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol).

 

Sut i gymryd rhan

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid rhanbarthol wedi gweithio ochr yn ochr â'i gilydd i ddatblygu'r opsiwn mwyaf hyfyw yn seiliedig ar gyfyngiadau'r safle presennol, i fynd i'r afael â'r heriau trafnidiaeth presennol ar Oleuadau Traffig Halfway ar yr A4138, megis tagfeydd yn ystod cyfnodau brig, diogelwch ac oedi yn ogystal â darparu Seilwaith Teithio Llesol ar hyd Prif Lwybr Llanelli.   

Bydd Ymgysylltu â'r Cyhoedd gan gynnwys digwyddiad wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal ym mis Chwefror 2026. Bydd hyn yn cynnwys elfennau hygyrch i ddefnyddwyr ag amhariad ar y golwg gan gynnwys modelau cyffyrddadwy 3D wedi'u hargraffu. 

Holiadur Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Mae manylion y digwyddiad isod:

Halfway Hotel, 33 Teras Glyncoed, Halfway, Llanelli SA15 1EZ
2pm tan7.30pm Dydd Iau  5 Chwefror 2026

 

Camau nesaf

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma wrth i’r cynllun symud ymlaen tuag at adeiladu.