Pam yr ydym yn ymgynghori

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gweithio gyda'r ymgynghorwyr Mott MacDonald ar lunio'r rhwydwaith cerdded, olwyno a beicio yng Nghaerfyrddin. Trwy broses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, rydym wedi gallu nodi a mireinio set o lwybrau sy'n cefnogi cysylltedd ar draws Caerfyrddin i gyrchfannau allweddol i annog teithiau bob dydd trwy ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.

Fel rhan o gam cyntaf y dull prif gynllun ehangach ar gyfer Caerfyrddin yr ydym wedi ymgynghori arno dros y 3 blynedd diwethaf, rydym yn ceisio ymgysylltu â'r cyhoedd ar gynigion sy'n cysylltu o gyffordd Rhiw'r Castell i Lwybr Dyffryn Tywi drwy Abergwili i gefnogi cyfleoedd cerdded, olwyno a beicio mwy diogel a hygyrch. Bydd y cyswllt hwn yn chwarae rhan allweddol o ran parhau â'r ymagwedd tuag at rwydwaith cydlynol i Gaerfyrddin, gan gysylltu cymunedau ehangach i gefnogi cyfleoedd busnes, cyflogaeth a thwristiaeth ochr yn ochr â manteision cefnogi ffyrdd iachach o fyw. Rydym am sicrhau y gall aelodau'r gymuned roi eu cyfraniad gwerthfawr ar y cynigion er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ymyriadau ystyrlon ac i helpu i gwblhau dyluniad a fydd yn cefnogi teithio cynaliadwy ledled Caerfyrddin.

 

Gwaith Hyd Yma

Yn dilyn sesiynau ymgysylltu cychwynnol yng Ngwanwyn 2022, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio â Mott MacDonald i ddatblygu rhwydwaith teithio llesol strategol a fyddai'n trawsnewid yr amgylchedd teithio llesol yn nhref Caerfyrddin. 

Newid Ymddygiad a Datblygu Rhwydwaith – 2023

Gan ddefnyddio cyfuniad o fentrau Newid Ymddygiad ac arbenigedd proffesiynol, bu Mott MacDonald yn helpu 
Cyngor Sir Caerfyrddin i ddatblygu rhwydwaith o 10 llwybr cerdded a beicio â blaenoriaeth ar draws Caerfyrddin. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i gysylltu mannau allweddol fel ysgolion, canolfannau trafnidiaeth, a'r rhwydwaith teithio llesol presennol. 
Mae'r 10 llwybr cerdded a beicio a gaiff flaenoriaeth yn cyd-fynd â'r coridorau teithio presennol yng Nghaerfyrddin, gan gynnwys cysylltu Abergwili a Thre Ioan, Pensarn a chanol y dref, yn ogystal â chysylltu Ysbyty Glangwili â chanol Caerfyrddin ac aneddiadau i'r gogledd o'r dref.

Map Teithio Llesol Caerefyrddsin

Astudiaeth WelTAG Byr – 2024

Yn 2024, trodd Cyngor Sir Caerfyrddin a Mott MacDonald ffocws y cynllun i bedwar opsiwn ar gyfer llwybrau blaenoriaeth oedd ar restr fer, i'w datblygu a'u gwerthuso ymhellach. Gan ddefnyddio dull asesu wedi'i gymeradwyo gan Drafnidiaeth Cymru, yn ôl asesiad tîm y prosiect, y pedwar llwybr canlynol fyddai o'r budd mwyaf i Gaerfyrddin a dylid gwneud cynnydd pellach arnynt: 

Llwybr 2: B4312 i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin trwy Dre Ioan
Llwybr 4: Heol y Gwyddau i Ysbyty Glangwili
Llwybr 5: Y Brifysgol ac S4C i Dregynnwr trwy Orsaf Reilffordd Caerfyrddin 
Llwybr 6: Canolfan Hamdden Caerfyrddin i Lwybr Dyffryn Tywi 

Cynhaliwyd asesiad pellach o'r pedwar llwybr hyn yn dilyn proses WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru), sy'n angenrheidiol er mwyn cael cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ac adeiladu cynlluniau trafnidiaeth. Mae proses WelTAG yn ystyried y prif bolisïau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru', ac yn dangos sut mae'r cynllun yn cyd-fynd â nodau trafnidiaeth a llesiant cenedlaethol.

Rhan allweddol o asesiad WelTAG yw'r Arfarniad Llesiant Integredig, sy'n ystyried ffactorau llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol, ac yn asesu effaith pob llwybr. Trwy'r asesiad hwn, ac ymgysylltu pellach â'r cyhoedd yn Neuadd Ddinesig San Pedr ym mis Hydref 2024, daethpwyd i'r casgliad mai Llwybr 6: Canolfan Hamdden Caerfyrddin i Lwybr Dyffryn Tywi oedd y llwybr mwyaf buddiol i'w ddatblygu yn gyntaf. 

Ein Gwaith Presennol 

Datblygu Llwybr Blaenoriaeth 6 (WelTAG Cam 3) – 2025-2026

Yn 2025, derbyniodd Cyngor Sir Caerfyrddin gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru i barhau i ddatblygu Llwybr Blaenoriaeth 6: Canolfan Hamdden Caerfyrddin i Lwybr Dyffryn Tywi. 

Ffocws cam presennol y gwaith yw pen dwyreiniol Llwybr 6 (y cyfeirir ato fel Llwybr 6 y Dwyrain), rhwng Y Llannerch ac Abergwili, a ddangosir isod. 

East of Route 6

I'r dwyrain o Lwybr 6

Bydd canolbwyntio ar Lwybr 6 y Dwyrain yn helpu i greu cyswllt â gwaith cwblhau Llwybr Dyffryn Tywi ym mis Ebrill 2026. Rydym am ddarparu seilwaith cysylltiedig lle mae porth i ganol tref Caerfyrddin o Lwybr Dyffryn Tywi. 

I gyflawni hyn, mae'r gwaith ar Lwybr 6 y Dwyrain yn cynnwys gwelliannau i'r seilwaith cerdded a beicio ar hyd Heol Abergwili, man croesi gwell i'r de o Ysbyty Glangwili, goleuadau gwell ar hyd y llwybr sydd oddi ar y ffordd ger yr A40, a mân waith ar hyd Y Llannerch i wella diogelwch a chysur cerddwyr a beicwyr.  

Map o adrannau dwyreiniol Llwybr 6

Map o adrannau dwyreiniol Llwybr 6

 

Gellir gweld manylion ein cynigion drwy'r dolenni canlynol isod

 

Sut i gymryd rhan

Cymerwch ran drwy lenwi'r arolwg ar-lein hwn.

Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Abergwili – Mawrth 2026

Er mwyn cefnogi datblygiad Llwybr 6 y Dwyrain, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Mott MacDonald yn cynnal sesiwn ymgysylltu wyneb yn wyneb am un diwrnod yn Neuadd Eglwys Dewi Sant, Abergwili rhwng 12pm a 6pm ddydd Mercher 11 Mawrth 2026. Rydym yn gwahodd unrhyw un sydd am ddysgu rhagor am y cynigion a rhoi adborth i fynychu. 

Bydd copïau papur o'r arolwg hefyd ar gael i'w cwblhau yn ystod y sesiwn ymgysylltu wyneb yn wyneb yn Neuadd Eglwys Dewi Sant, Abergwili ddydd Mercher 11 Mawrth 2026.

Camau nesaf

Bydd yr adborth o'r ymgysylltiad yn cael ei ddefnyddio i lywio a chwblhau'r dyluniad arfaethedig ymhellach fel rhan o broses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod y seilwaith arfaethedig yn ystyrlon i gymuned Abergwili yn ogystal â'r adborth a ddarparwyd gan randdeiliaid allweddol hyd yma.