Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gydag ymgynghorwyr Burroughs ar ddatblygu gwelliannau Teithio Llesol ar draws cymuned Llanymddyfri ac i sefydlu rhwydwaith cerdded, olwyno a beicio effeithiol a fydd yn cefnogi gwell mynediad at ddulliau teithio mwy cynaliadwy.
Yn sgil ymgysylltu â’r cyhoedd ym mis Tachwedd 2024, lle derbyniwyd adborth gwerthfawr gan y gymuned ar y rhwydwaith ehangach arfaethedig yn Llanymddyfri, rydym bellach yn gofyn am gyfraniad pellach gan y cyhoedd ar un llwybr blaenoriaeth arfaethedig sy'n arwain o Orsaf Drenau Llanymddyfri drwy Goleg Llanymddyfri a thuag at Ysgol Rhys Pritchard. Y nod allweddol yw y bydd hyn yn helpu i ddatblygu dyluniad effeithiol sy'n cefnogi cerdded ac olwyno o gyrchfannau allweddol, yn ogystal â chasglu gwybodaeth leol gan y gymuned i annog cerdded ac olwyno ymhellach fel rhan o'u teithiau dyddiol. Rydym yn croesawu unrhyw adborth gan y cyhoedd i fireinio ein cynnig ymhellach, gan sicrhau ein bod yn gweithredu ymyriadau ystyrlon yng ngham cyntaf y gwelliannau i sicrhau cysylltiadau gwell ar draws Llanymddyfri â chyfleusterau a gwasanaethau allweddol.
Beth sydd wedi'i wneud ar y prosiect hyd yn hyn...
Gorffennaf 2022 - WelTAG Cam 1 -Nodwyd 13 o Opsiynau Lefel uchel ar gyfer Llwybro Teithio Llesol yn Llanymddyfri
Mai 2023 - Cyn-WelTAG Cam 2 - Lleihawyd Rhestr Hir o 13 i 8 llwybr
Tachwedd 2024 - Ymgynghoriad Cyhoeddus - yn Adolygu 3 llwybr
Mawrth 2025 - WelTAG Cam 2 - yn nodi llwybr i'w flaenoriaethu ar gyfer gweithredu
Beth yw ystyr WelTAG?
WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) yw dull Llywodraeth Cymru o gynllunio acasesu prosiectau trafnidiaeth. Mae'n helpu i ddeall beth yw problem trafnidiaeth, archwilio gwahanol ffyrdd ofynd i'r afael ag ef a sicrhau bod buddsoddiad yn darparu manteision gwirioneddol i bobl a chymunedau. Mae WelTAG yn dilyn cyfres o gamau:
Cam 1 - Achos Amlinellol Strategol - Yn nodi'r broblem, yn gosod amcanion ac yb cadarnhau bod y cynllun yn cyd-fyn â pholisiau ehangach.
Cam 2 - Achos Busnes Amlinellol - Datblygu opsiynau, asesu effeithiau a dewis ffordd ymlaen a ffefrir.
Cam 3 - Achos Busnes Llawn - Yn darparu dyluniad manwl, arfarniad llawn ac yn cadarnhau bod modd cyflawni'r cynllun a'i fod yn cynnig gwerth ar gyfer arian.
Cam 4 – Gweithredu mae'r cynllun yn cael ei gyflawni, gan fonitro costau, y rhaglen a chanlyniadau.
Cam 5 - Adolygiad Ôl-weithredu g werthuso a yw'r cynllun wedi cyflawni ei amcanion a'i fod yn cofnodi gwersi ar gyfer prosiectau'r dyfodol
Gellir gweld manylion ein cynigion drwy'r dolenni canlynol isod
Sut i gymryd rhan
Cymerwch ran drwy lenwi'r arolwg ar-lein hwn.
Sesiwn galw heibio gyhoeddus ddydd Gwener 27 Chwefror yng Nghanolfan Hamdden Llanymddyfri rhwng 10am a 7pm.
Camau nesaf
Bydd yr adborth o'r ymgysylltiad yn cael ei ddefnyddio i lywio a chwblhau'r dyluniad arfaethedig ymhellach fel rhan o broses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod y seilwaith arfaethedig yn ystyrlon i gymuned Llanymddyfri yn ogystal â'r adborth a ddarparwyd gan randdeiliaid allweddol hyd yma.
