Pam yr ydym wedi ymgynghori
Rydym yn ceisio casglu barn trigolion a defnyddwyr gwasanaethau ar sawl maes allweddol i ddeall sut maen nhw'n teimlo am berfformiad y Cyngor er mwyn llywio ein gwaith cynllunio a phennu blaenoriaethau yn y dyfodol.
Rydym yn canolbwyntio ar gael dealltwriaeth o'r materion sy’n bwysig i unigolion a'u teuluoedd, a’u blaenoriaethau.
Mae ymgynghori â'n trigolion ar berfformiad hefyd yn un o ofynion allweddol y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau. Yr arolwg hwn yw'r trydydd yn yr hyn a fydd yn sgwrs sy'n datblygu gyda phreswylwyr.
Sut aethom ati i ymgynghori
Yr Haf diwethaf, cymerodd 3,597 ohonoch ran mewn arolwg preswylwyr i ddweud wrthym:
- Sut rydych chi'n teimlo amdanom ni fel Cyngor a'n perfformiad,
- Beth oedd yr heriau mwyaf enbyd i chi a’ch teuluoedd; a
- Sut y byddech chi'n blaenoriaethu meysydd ar gyfer buddsoddi.
Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei rhannu gyda ni yn hanfodol bwysig gan ei bod yn ein helpu i ddod i'ch adnabod chi'n well a datblygu dealltwriaeth o'r hyn sydd bwysicaf i chi a'ch teuluoedd. Ein bwriad felly yw cynnal yr un arolwg yn rheolaidd i fonitro sut mae eich barn yn newid dros amser.
Mae'n gyfnod heriol i lawer, ac nid yw'r Cyngor yn ddiogel rhag yr heriau hyn. Rydym yn wynebu cyfnod o alw cynyddol am ein gwasanaethau mewn cyfnod lle mae adnoddau (ariannol ac fel arall) yn gostwng. Ein blaenoriaeth bob amser oedd gwneud ein gorau i'n preswylwyr a'n defnyddwyr gwasanaeth, ond mae'n rhaid i ni i gyd fod yn realistig ynghylch sut olwg sydd ar hynny yn y dyfodol. O barhau i ymgysylltu â ni byddwch yn rhoi'r cyfle gorau i ni ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eich anghenion.
Mae prif ganfyddiadau'r arolwg ar gyfer 2024 wedi'u rhannu ar draws y sefydliad a gofynnwyd i'r adrannau ystyried y rhain yn eu gwaith cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd diweddariad ar hyn yn cael ei ddarparu maes o law. At ei gilydd, mae'r canfyddiadau'n gyson â'r rhai a gasglwyd yn 2023. Roedd y prif ganfyddiadau fel a ganlyn;
- Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn hoffi byw yn Sir Gaerfyrddin. Dyma'r datganiad sydd wedi sgorio uchaf dros y tair blynedd diwethaf.
- Roedd yr ymatebion yn gymysg o ran y graddau y mae preswylwyr yn teimlo bod y Cyngor yn rhoi gwybod iddynt sut mae'n perfformio. Dewisodd y gyfran fwyaf o'r ymatebwyr 'nid y naill na'r llall'. Mae hyn yn gyson â'r tueddiadau a welwyd y llynedd.
- Roedd safbwyntiau'n gymysg ynglŷn â 'mae'r Cyngor yn darparu cyfleoedd i breswylwyr gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.' Mae awydd ymhlith ymatebwyr am wneud penderfyniadau mewn modd mwy ymatebol, tryloyw ac wedi'i deilwra i anghenion cymunedau unigol.
- Mae proses gyfathrebu'r Cyngor yn effeithiol ar y cyfan o ran caniatáu i breswylwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau, a chytuna'r rhan fwyaf fod cysylltu â'r Cyngor yn syml ac yn rhwydd. Fodd bynnag, mae rhai problemau gyda phrosesau cyswllt uniongyrchol, megis ar adegau pan fydd preswylwyr yn defnyddio'r prif switsfwrdd, yn defnyddio e-bost i gysylltu â swyddogion neu'n dymuno siarad yn uniongyrchol â swyddogion mewn adrannau unigol. Mae'r canfyddiadau hyn yn gyson â'r flwyddyn flaenorol.
- Ar y cyfan mae'r ymatebwyr o'r farn nad yw'r Cyngor yn gwneud defnydd da o'r adnoddau ariannol sydd ar gael i ni, ac nad yw buddsoddi'n digwydd yn y meysydd cywir.
- Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i fod yn her sylweddol i breswylwyr a'u teuluoedd. Mae costau cynyddol yn parhau i roi pwysau sylweddol ar breswylwyr Sir Gaerfyrddin.
- Er bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno bod eu hiechyd a'u llesiant cyffredinol yn dda, mae mynediad at wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol addas i'r diben yn parhau i fod yn bryder ac yn her wirioneddol i breswylwyr.
- Mae diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus addas i'r diben a chysylltiadau trafnidiaeth da yn rhwystr i lawer. Tynnwyd sylw at dyllau a diogelwch cyffredinol ar y ffyrdd fel problemau.
- Gwasanaethau gwastraff a gafodd y lefelau boddhad uchaf gyda 59% o'r ymatebwyr yn mynegi boddhad. Er hynny, derbyniwyd sylwadau o hyd mewn perthynas â sbwriel, tipio anghyfreithlon ac ymdeimlad cyffredinol anniben rhai ardaloedd o'r Sir. Mae'r sylwadau hyn yn arbennig o berthnasol i ganol trefi.
- Er bod y mwyafrif (46%) yn cytuno bod eu hamgylchedd lleol yn ddymunol ac yn cael gofal da, mae cyfran gymharol uchel yn anghytuno.
- Sir Gaerfyrddin sydd ag un o'r cyfraddau troseddu isaf o blith holl siroedd Cymru. Mae'r sgôr gadarnhaol i'r gosodiad hwn yn cadarnhau hyn, gyda 67% o'r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau.
- Er bod newid wedi bod o 'cytuno'n gryf' i 'cytuno', mae'n parhau i fod yn bwysig i breswylwyr bod pobl leol yn cael eu cefnogi i brynu cartrefi yn lleol. Mae hyn yn cyfateb i 'cytuno' yn gyffredinol gan 75% o'r ymatebwyr.
- Nododd cyfran sylweddol o ymatebwyr 'nid y naill na'r llall' pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn teimlo bod pobl leol yn cael cefnogaeth dda i fanteisio ar gyfleoedd lleol.
- Mae mwyafrif yr ymatebwyr (63%) yn cytuno ei bod yn bwysig hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg. Fodd bynnag, mynegodd rhai preswylwyr safbwyntiau gwrthwynebol gyda theimladau ynglŷn â faint o adnoddau a ddefnyddir ar y flaenoriaeth hon pan fydd adnoddau yn lleihau.
- Er bod y sgôr wedi gostwng ychydig flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'n dal yn bwysig i breswylwyr fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl.
- Nododd y gyfran fwyaf (42%) o ymatebwyr 'nid y naill na'r llall' pan ofynnwyd iddynt a oedd yr argyfwng hinsawdd yn cael sylw yn lleol. Mae hon yn duedd gyson â'r flwyddyn flaenorol.
- Ac eithrio'r rhai a atebodd nid y naill na'r llall neu ddim yn gwybod, roedd y lefelau anghytuno yn uwch (33%) na'r lefelau cytuno (14%) ar gyfer y graddau y cefnogir busnesau yn yr ardal leol.
- Mynegodd 21% o'r ymatebwyr anfodlonrwydd â gwasanaethau cymorth cyflogaeth.
- Yn gyffredinol, mae'r ymatebwyr (44%) yn cytuno bod ysgolion lleol yn darparu addysg dda i blant a phobl ifanc.