Pam yr ydym yn ymgynghori
Rheoli Perygl Llifogydd - Asesiad Amgylcheddol Strategol
Mae'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi'i ddatblygu i weithredu amcanion strategol y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol sy'n ceisio lleihau'r perygl o lifogydd i bobl a chymunedau ar lefel gymunedol drwy weithredu'n lleol.
Mae'r Asesiad Amgylcheddol Strategol hwn yn ceisio sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol yn rhan o'r broses o baratoi cynlluniau a rhaglenni penodol.
Dogfennau Ategol
Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd Sir Gaerfyrddin - Adroddiad Amgylcheddol AAS
Adroddiad Amgylcheddol AAS Atodiad A Asesiad o’r Cynllun Gweithredu
Sut i gymryd rhan
Rydym yn eich gwahodd i rannu eich adborth ar yr Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer y Cynllun Rheoli Llifogydd arfaethedig i helpu i lunio dyfodol mwy cynaliadwy a chydnerth.