Pam yr ydym yn ymgynghori

Rydym yn gwahodd preswylwyr ac unigolion sydd â diddordeb i roi adborth ynghylch cymorth a gweithgareddau lleol sydd â'r nod o wella llesiant pobl, cysylltiadau cymunedol ac ansawdd bywyd yn gyffredinol.

Gan adeiladu ar yr adborth a gasglwyd gennym yn 2023, hoffem glywed gennych eto i ddeall a yw eich anghenion neu'ch barn wedi newid. Yn benodol, hoffem wybod beth sy'n bwysig i chi a pha weithgareddau a fyddai'n gwella'ch ansawdd bywyd orau.

Os ydych yn defnyddio gwasanaethau cymunedol, gofynnir i chi rannu'ch meddyliau drwy gwblhau ein harolwg. Mae eich mewnbwn yn dylanwadu'n uniongyrchol ar y cymorth sydd ar gael yn ein cymuned.

Sut i gymryd rhan

Cymerwch ran drwy lenwi'r arolwg ar-lein.

Arolwg ar-lein

Camau nesaf

Bydd adborth a sylwadau o'r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i ddatblygu ymhellach y model cymunedol o wasanaethau llesiant yn Sir Gaerfyrddin. Bydd adroddiad sy'n cynnwys yr holl adborth yn cael ei lunio a bydd yn tynnu sylw at sut y mae adborth preswylwyr Sir Gaerfyrddin wedi dylanwadu ar y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu dylunio a'u darparu.