Pam yr ydym yn ymgynghori
Fel pob awdurdod lleol arall yng Nghymru, mae Cyngor Sir Caerfyrddin unwaith eto yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar sut i lenwi'r bwlch yn ei gyllid wrth gynllunio ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn wynebu diffyg o oddeutu £25 miliwn yn ei gyllideb am 2026/27.
I lenwi'r bwlch hwn mae'r Cyngor wedi clustnodi arbedion o dros £9.5m ar draws ei wasanaethau, ac wedi defnyddio arbediad cylchol o £5m o'i gyfraniad fel cyflogwr i Gronfa Bensiwn Dyfed. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, ar 24 Tachwedd 2025, y byddai Sir Gaerfyrddin yn derbyn cynnydd o 2.3% mewn setliad cyllid dros dro. Fodd bynnag, ac er gwaethaf cynnydd arfaethedig o 6.5% yn y Dreth Gyngor, mae'r Cyngor Sir yn dal i wynebu diffyg o £3.5 miliwn yn ei gyllideb ddrafft am 2026/27.
Paratowyd y ffigurau uchod cyn y cytundeb ar y gyllideb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar 9 Rhagfyr, a allai arwain at gynnydd cyffredinol o 4.5% yng nghyllidebau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd y Senedd yn pleidleisio ar y cytundeb newydd ar 20 Ionawr 2026. Tan ein bod yn cael gwybod beth yw ein sefyllfa derfynol gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor yn ymgynghori â’i breswylwyr ynghylch y setliad cyllid dros dro cychwynnol o 2.3%.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys yn flynyddol, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Grant Cynnal Refeniw, y Dreth Gyngor, grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.
Mae amseriad ein hymgynghoriad yn unol â chyllideb Llywodraeth y DU a chyllideb dros dro Llywodraeth Cymru.
Bydd y Cynghorwyr yn ystyried y farn a fynegir yn yr ymgynghoriad hwn, ochr yn ochr â chynigion gweithredol pan gaiff y gyllideb ei chymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2026.
Mae'r cyfnod ymgynghori ynghylch y gyllideb yn dod i ben ar 1 Chwefror 2026.
Sut i gymryd rhan
Gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn drwy gwblhau ein harolwg cyllideb ar-lein.
Fel arall, gallwch ofyn am gopi papur yn unrhyw un o'n canolfannau Hwb.
Camau nesaf
Bydd yr holl farn a gyflwynir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael ei ddadansoddi fel rhan o adroddiad ymgynghori cyllideb. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried gan gynghorwyr wrth bennu cyllideb 2026/29 y cyngor.
Bydd copi o'r adroddiad ymgynghori cyllideb ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor ym mis Mawrth 2026.

