Canllawiau cyhoeddusrwydd cyn yr etholiad: Etholiadau'r Senedd 2026
Cyflwyniad
Cynhelir etholiadau'r Senedd ar 7 Mai 2026.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweinyddu'r etholiad ar gyfer etholaeth Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod cyfnod etholiad, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddilyn cyfnod o sensitifrwydd cynyddol cyn yr etholiad. Fodd bynnag, nid yw'r gyfraith mewn perthynas â'r mater hwn yn atal y Cyngor rhag cyflawni ei swyddogaethau arferol a all barhau.
Drwy gydol y cyfnod perthnasol, rhaid i'r Cyngor sicrhau nad oes unrhyw gamau yn cael eu cymryd a allai'n rhesymol arwain at y canfyddiad bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio i gefnogi unrhyw blaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol a allai ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad.
Pwrpas y canllawiau hyn yw rhoi cyngor allweddol ar y cyfyngiadau o ran cyhoeddusrwydd sy'n berthnasol i holl aelodau'r Cyngor, gweithwyr a chontractwyr y Cyngor.
Bydd y cyfnod cyn yr etholiad yn dechrau ar 23 Mawrth 2026.
Deddfwriaeth a Chanllawiau Statudol
Deddf Llywodraeth Leol 1986
Mae adran 2 Deddf Llywodraeth Leol 1986 yn gwahardd awdurdodau lleol rhag cyhoeddi unrhyw ddeunydd sydd, yn ei gyfanrwydd, neu'n rhannol, yn ymddangos fel pe bai wedi'i fwriadu i effeithio ar gefnogaeth y cyhoedd i blaid wleidyddol.
Mae adran 6 Deddf Llywodraeth Leol 1986 yn diffinio cyhoeddusrwydd fel unrhyw gyfathrebu, ar ba ffurf bynnag, sydd wedi’i gyfeirio at y cyhoedd yn gyffredinol neu at ran o'r cyhoedd.
Mae'n bwysig nodi bod y rheolau cyn yr etholiad yn cyfyngu ar ystod ehangach o weithgarwch na dim ond cyhoeddusrwydd. Dylai'r defnydd o gyfleusterau ac adnoddau'r Cyngor (rhaid cyfeirio unrhyw geisiadau o'r fath at y Pwynt Cyswllt Unigol dynodedig fel y nodir isod), datblygu polisïau newydd, a chynnal digwyddiadau — gan gynnwys rhai cyfarfodydd sy'n cynnwys swyddogion etholedig — i gyd gael eu hystyried yn ofalus yn y cyfnod cyn yr etholiad.
Y Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd gan Awdurdodau Lleol
Mae canllawiau statudol ynghylch cyhoeddusrwydd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a gyhoeddwyd o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986, a rhaid i'r Cyngor roi sylw iddynt.
Mae gofynion allweddol Deddf Llywodraeth Leol 1986 a'r Cod ar yr Arferion a Argymhellir wedi'u crynhoi isod yn y Canllawiau Cyn yr Etholiad.
Canllawiau cyn yr etholiad
Wrth arfer swyddogaethau gwneud penderfyniadau, rhaid i'r Cyngor roi ystyriaeth briodol i'r egwyddorion canlynol:
- Yn ystod cyfnod yr etholiad, mae angen i'r Cyngor sicrhau ei fod yn ddiduedd a dylai ymdrechu i gymryd safiad niwtral.
- Ni ddylai'r Cyngor roi amlygrwydd na chyhoeddusrwydd i unrhyw ymgeisydd, plaid wleidyddol neu fater sy'n wleidyddol ddadleuol. Felly, yn ystod y cyfnod hwn, mae angen cymryd gofal ynglŷn â materion a gyflwynir i'r Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau neu faterion sy'n cael sylw'r cyhoedd ac a welir fel rhai sy'n gysylltiedig ag ymgeiswyr unigol neu blaid wleidyddol.
- Mae'r hyn sy'n fater dadleuol yn dibynnu i ryw raddau ar yr amgylchiadau lleol ond, yn gyffredinol, mae'n debygol o fod â nodweddion fel y canlynol, ond nid y rhain yn unig:
- rhannu barn y cyhoedd yn sylweddol,
- cyfnodau hir o ddadlau proffil uchel a diddordeb gan y wasg a/neu faterion sy’n ymwneud â dyfarnu cyllid neu gontractau sylweddol
Mae gan y Swyddog Canlyniadau Etholaethol yr awdurdod terfynol i benderfynu a yw mater yn ddadleuol. Yn unol â hynny, dylai unrhyw fater yr ystyrir y gallai fod yn ddadleuol gael ei gyfeirio at y Swyddog Canlyniadau Etholaethol gan y Cyfarwyddwr perthnasol.
- Dylai'r Cyngor osgoi cyhoeddi unrhyw gyhoeddusrwydd neu wneud unrhyw beth neu ddweud unrhyw beth y gellid tybio ei fod yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr. Enghraifft o hyn fyddai hyrwyddo ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol, fel cyfeirio at ymgeiswyr unigol neu bleidiau mewn datganiadau i'r wasg. Yr eithriad i hyn yw lle mae deddfwriaeth neu reoliad yn gofyn am gyhoeddi gwybodaeth.
- Ni ddylai cyhoeddusrwydd y Cyngor a/neu unrhyw ymgynghoriadau ac ymgysylltu ymdrin â materion dadleuol neu wleidyddol sensitif yn lleol neu'n genedlaethol a, lle nad oes,amserlen statudol yn berthnasol, dylid ystyried a ddylid trefnu'r gweithgarwch y tu allan i'r cyfnod cyn yr etholiad.
- Ni ddylai'r Cyngor roi sylw i safbwyntiau, cynigion neu argymhellion mewn modd sy’n ei uniaethu ag unrhyw bleidiau gwleidyddol a/neu ymgeisydd unigol a allai gael mantais etholiadol o ganlyniad i hynny.
- Dylid cyflwyno unrhyw gyhoeddusrwydd sy'n ymwneud â pholisïau neu gynigion y Llywodraeth ganolog mewn modd cytbwys a ffeithiol gywir.
- Ni ddylai'r Cyngor gynnal gweithgareddau, trefnu unrhyw ddigwyddiadau rhagweithiol gyda'r cyfryngau sy'n cynnwys ymgeiswyr, na gwneud unrhyw gyhoeddiadau neu benderfyniadau sy’n rhoi mantais etholiadol i ymgeisydd penodol neu blaid wleidyddol neu y gellid dod i’r casgliad eu bod yn gwneud hynny.
- Ni ddylid rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a phrosiectau sy'n cael eu hariannu gan gyllid grant y Llywodraeth yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Os ydych yn ansicr, siaradwch â’r Cyfarwyddwr perthnasol, y Swyddog Canlyniadau Etholaethol a/neu’r Swyddog Monitro/Rheolwr Marchnata a’r Cyfryngau.
- Dylai llythyron neu negeseuon e-bost gan bob ymgeisydd gael eu trin yn gyfartal ac ni ddylid defnyddio cyfleusterau'r Cyngor ar gyfer argraffu, cyfieithu a/neu bostio deunydd cyhoeddusrwydd yr ymgeiswyr.
Mae Cod Ymddygiad yr Aelodau yn nodi na ddylai’r aelodau ddefnyddio adnoddau'r Cyngor at ddibenion gwleidyddol. Dylai unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir neu y mae aelodau etholedig yn gofyn amdanynt, gan gynnwys ceisiadau am wybodaeth gan swyddogion, gael eu defnyddio at ddibenion busnes y Cyngor yn unig neu i alluogi'r Aelod dan sylw i gyflawni ei swyddogaeth fel cynghorydd.
- Rhaid i weithwyr beidio â darparu briffiau i'w defnyddio mewn dadleuon ymgyrchu/llenyddiaeth a deunydd cyhoeddusrwydd yr etholiad sy'n ymwneud ag ymgeiswyr unigol neu blaid wleidyddol.
- Yn ystod cyfnod yr etholiad, dylid osgoi cyfarfodydd gydag ymgeiswyr, oni bai eu bod yn gyfarfodydd rheolaidd (er enghraifft, cyfarfod corff partneriaeth) y mae’r unigolion dan sylw yn cymryd rhan ynddynt fel arfer. Dylai swyddogion beidio â gwahodd ymgeiswyr, unigolion sy'n gysylltiedig â phlaid wleidyddol, neu unrhyw aelodau etholedig i gyfarfodydd, cynadleddau, agoriadau neu ddigwyddiadau lansio yn ystod cyfnod yr etholiad.
- Ni ddylid arddangos posteri neu sticeri ar gyfer unrhyw blaid wleidyddol neu/ac unrhyw ymgeiswyr, ar swyddfeydd y Cyngor, cartrefi preswyl, depos, ysgolion, cerbydau ac ati neu'r tu mewn iddynt.
- Ni chaiff ffotograffau o ymgeiswyr, unigolion sy'n gysylltiedig â phlaid wleidyddol, neu unrhyw aelodau etholedig eu rhyddhau neu'u cyhoeddi gan y Cyngor a dylid cymryd gofal i sicrhau nad yw unrhyw ffotograffau yn cynnwys y bobl uchod yn anfwriadol.
- Os gwneir cais i ddefnyddio unrhyw rai o ddelweddau'r Cyngor sy'n cynnwys ffotograffau, clipiau fideo neu unrhyw ddeunyddiau eraill o'r fath, rhaid gwneud ymholiadau ynghylch sut y cânt eu defnyddio. Ni ddylid rhoi ffotograffau na deunyddiau eraill y Cyngor i staff grwpiau gwleidyddol nac unrhyw un arall yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad oni bai bod hynny wedi'i wirio a bod cytundeb wedi'i roi na fyddant yn cael eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu.
- Ni ddylid cynnal digwyddiadau'r Cyngor ar safleoedd pleidiau gwleidyddol ar unrhyw adeg.
- Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i geisiadau penodol i hwyluso ymweliadau â safleoedd neu leoliadau sy'n eiddo i'r Cyngor gan ymgeiswyr posibl neu unigolion sy'n gysylltiedig â phleidiau gwleidyddol. Gan fod ymweliadau o'r fath yn tueddu i fod yn gysylltiedig â chyfleoedd am luniau a chyhoeddusrwydd yn y wasg, gall ymddangos i'r cyhoedd fel pe baent wedi’u bwriadu i hyrwyddo ymgeisydd neu ei blaid.
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chysondeb, bydd pob cais am ymweliadau neu am ddefnyddio safleoedd gan ymgeiswyr etholiad tebygol, eu hasiantau, personoliaethau gwleidyddol neu bleidiau gwleidyddol yn cael eu cyfeirio at y Pwynt Cyswllt Unigol dynodedig:
Shelley Williams, Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol, gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk
Ni ddylid cytuno i unrhyw ddefnydd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Pwynt Cyswllt Unigol.
Bydd penderfyniad ar geisiadau o'r fath yn cael ei wneud gan y Pwynt Cyswllt Unigol yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y canllawiau hyn. Bydd y Pwynt Cyswllt Unigol yn hysbysu'r person a wnaeth y cais o'r penderfyniad, ar ôl gofyn am gyngor gan y Prif Weithredwr (fel Swyddog Canlyniadau Etholaethol) os yw'n briodol. Os yw’r sefyllfa yn parhau i fod yn aneglur, gofynnir am gyngor y Swyddog Monitro.
- Efallai y bydd angen atal cynnal deunyddiau a gynhyrchir gan drydydd partïon, neu gau fforymau cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn er mwyn osgoi torri cyfyngiadau cyfreithiol.
- Mae cynghorau hefyd wedi'u gwahardd rhag rhoi cymorth ariannol neu gymorth arall i gyrff eraill i'w galluogi i gyhoeddi deunydd na all yr awdurdod ei hun ei gyhoeddi.
- Ni ddylai'r awdurdod lleol gynorthwyo gydag ymweliadau gwleidyddol cenedlaethol neu leol (rhaid iddynt gael eu trefnu gan y pleidiau gwleidyddol heb unrhyw oblygiadau o ran costau nac adnoddau i'r awdurdod lleol).
Ymgyrchoedd ac ymgynghoriadau
Ni ddylai ymgyrchoedd ac ymarferion ymgynghori ymdrin â materion dadleuol neu wleidyddol sensitif yn lleol neu'n genedlaethol, gan na ddylai'r Cyngor ymddangos fel pe bai'n hyrwyddo ymgeisydd neu ei blaid. Lle nad oes amserlen statudol yn berthnasol, dylid ystyried a ddylid trefnu'r gweithgarwch y tu allan i'r cyfnod cyn yr etholiad.
Os yw'r ymgyrch eisoes ar waith ac nad yw'n ddadleuol (er enghraifft, ar faterion fel recriwtio neu ofal maeth) ac y byddai'n wastraff arian cyhoeddus ei chanslo neu ei gohirio, yna dylid parhau. Fodd bynnag, os gellid ystyried bod ymgyrch yn debygol o ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad, dylid ystyried ei hatal neu ei gohirio. Enghraifft fyddai ymgyrch ar fater sydd wedi bod yn destun dadl wleidyddol leol a/neu anghytundeb.
Gall ymarferiadau ymgynghori gael eu cynnal yn ystod cyfnod yr etholiad ar yr amod nad oes cyfeiriad at ymgeiswyr unigol neu blaid wleidyddol neu gyswllt â hwy. Fodd bynnag, oni bai ei bod yn ddyletswydd statudol neu yr ystyrir ei fod yn fusnes arferol y Cyngor, fel ymgynghoriadau ar y gyllideb, dylai cynghorau ystyried yn ofalus cyn dechrau unrhyw ymgynghoriadau newydd neu gyhoeddi canfyddiadau adroddiadau ymarferion ymgynghori a allai fod yn wleidyddol sensitif. Mae'n rhaid i unrhyw fwriad i lansio unrhyw ymgynghoriad neu ymarfer ymgysylltu yn ystod y cyfnod hwn gael ei gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr a'r Swyddog Canlyniadau Etholaethol.
Defnyddio cyfleusterau ac adnoddau’r cyngor
Rhaid i'r Cyngor sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a chysondeb o ran defnyddio adnoddau a chyfleusterau'r Cyngor. Er mwyn sicrhau hyn, bydd pob cais am ddefnyddio eiddo gan ymgeiswyr etholiad tebygol, eu hasiantau, personoliaethau gwleidyddol neu bleidiau gwleidyddol yn cael ei gyfeirio at y Pwynt Cyswllt Unigol dynodedig:
Shelley Williams, Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol, gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk
Ni ddylid cytuno ar unrhyw ddefnydd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Pwynt Cyswllt Unigol, a fydd yn cadw cofnod o geisiadau o'r fath a gafwyd a'r penderfyniad a wnaed.
Bydd penderfyniad ar geisiadau o'r fath yn cael ei wneud gan y Pwynt Cyswllt Unigol yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y canllawiau hyn. Bydd y Pwynt Cyswllt Unigol yn hysbysu'r person a wnaeth y cais o'r penderfyniad, ar ôl gofyn am gyngor gan y Prif Weithredwr (fel Swyddog Canlyniadau Etholaethol) os yw'n briodol. Os yw'r sefyllfa yn parhau i fod yn aneglur, gofynnir am gyngor y Swyddog Monitro.
Y Cyfryngau
Y Cyfryngau Cymdeithasol
Mae’r canllawiau cyn yr etholiad yn berthnasol i bob platfform cyfryngau cymdeithasol a weithredir gan y Cyngor.
- Mae angen i bawb gymryd gofal arbennig mewn perthynas â defnyddio'r holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol megis X (Twitter), Facebook, Instagram, Tik Tok. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i bostio ac ymateb. Dylai golygyddion cyfryngau cymdeithasol corfforaethol gyfeirio at y Polisi Cyfryngau Cymdeithasol i gael arweiniad pellach ynghylch y defnydd o gyfryngau cymdeithasol corfforaethol.
- Yn unol â phrotocol y wasg a'r cyfryngau sydd gan y Cyngor, dylai pob cyswllt â'r wasg fod drwy'r tîm Marchnata a'r Cyfryngau. Bydd unrhyw ddatganiadau gan y Cyngor y mae angen eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu priodoli i uwch-swyddog a enwir neu, mewn argyfwng, yr Aelod Cabinet perthnasol.
- Wrth ddefnyddio X, Facebook, Instagram, LinkedIn, YouTube neu blatfformau eraill, mae swyddogion yn cael eu llywodraethu gan y canllawiau ar y cyfnod cyn yr etholiad a’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol.
- Ni ddylid rhannu neu ail-drydar barn wleidyddol a bostiwyd gan bleidiau gwleidyddol neu wleidyddion na delweddau, diweddariadau neu gynnwys gwleidyddol ddadleuol.
- Dylid dileu unrhyw gynnwys gwleidyddol ddadleuol ar unwaith o blatfformau cyfryngau cymdeithasol awdurdodau lleol a dylid monitro hyn yn rheolaidd.
- Gwaherddir swyddogion sy'n dal swyddi dan gyfyngiad gwleidyddol, neu sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â'r etholiadau, rhag ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol naill ai yn y gweithle neu'r tu allan i'r gweithle. Ni ddylent gyhoeddi deunydd na chymryd rhan mewn dadl wleidyddol weithredol nac ail-drydar neu gyhoeddi cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol a allai effeithio ar gefnogaeth i blaid wleidyddol.
Beth mae hawl i'r cyngor ei wneud?
Mae hawl i'r Cyngor wneud y canlynol:
- Parhau i gyflawni busnes arferol y Cyngor (gan gynnwys ymgynghoriadau ar y gyllideb neu benderfynu ar geisiadau cynllunio a thrwyddedu, hyd yn oed os ydynt yn ddadleuol).
- Mae cyhoeddi hysbysiadau i'r wasg a gwybodaeth ynghylch cynnal pleidleisiau wedi'i eithrio o'r cyfyngiadau hyn, yn ogystal â darparu ymatebion ffeithiol i geisiadau penodol am wybodaeth, er enghraifft, gwybodaeth am sut y gall pobl gofrestru i bleidleisio.
- Gall cynghorau hefyd gyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r etholiad ac sy’n addysgiadol neu'n ffeithiol yn unig, fel dyddiad yr etholiad, sut i gael pleidlais drwy'r post a lleoliad gorsafoedd pleidleisio. Fodd bynnag, rhaid i'r holl wybodaeth ffeithiol sy'n ymwneud ag etholiad gael ei chyhoeddi ar y ffurf a bennir gan y ddeddfwriaeth berthnasol neu yn y fath fodd nad yw'n rhoi amlygrwydd i wybodaeth sy'n ymwneud ag unrhyw ymgeisydd, ymgeiswyr neu blaid wleidyddol. Gall awdurdodau eraill gyfeirio at y deunydd hwn ar eu gwefannau eu hunain.
- Mae hefyd yn dderbyniol fod y Cyngor yn ymateb dan amgylchiadau priodol i ddigwyddiadau ac ymholiadau dilys ynghylch gwasanaethau ar yr amod bod ei atebion yn rhai ffeithiol nad ydynt yn ffafrio plaid wleidyddol. Dylai aelodau sy’n dal swyddi gwleidyddol neu ddinesig allweddol gael gwneud sylwadau mewn argyfwng neu pan fo gwir angen ymateb i ddigwyddiad pwysig sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod. Ni ddylai unrhyw ddigwyddiadau rhagweithiol a drefnir yn y cyfnod hwn gynnwys aelodau sy’n debygol o fod yn sefyll etholiad.
- Caiff y Cyngor gyhoeddi gwybodaeth ffeithiol am ymgeiswyr os gofynnir iddo wneud hynny gan y Swyddog Canlyniadau Etholaethol perthnasol neu i wrthweithio gwybodaeth gamarweiniol, ddadleuol neu eithafol (er enghraifft, gwybodaeth hiliol/rywiaethol).
- Gall ymgeiswyr a/neu bleidiau gwleidyddol ryddhau eu datganiadau eu hunain i’r wasg neu gyhoeddi gwybodaeth gyhoeddus yn gyfreithlon. Dylai fod yn glir fod y rhain yn cynrychioli barn yr ymgeiswyr/pleidiau unigol hynny ac nid barn y Cyngor.
Mae'n hanfodol y byddai unrhyw benderfyniad a wneir yn cael ei ystyried yn deg ac yn rhesymol gan y cyhoedd a'r rheiny sy'n sefyll yn yr etholiad.
Os oes unrhyw amheuaeth, gofynnwch am gyngor gan y Swyddog Canlyniadau Etholaethol a/neu'r Swyddog Monitro, neu gydweithwyr yn y timau cyfreithiol neu gyfathrebu.
| Wendy Walters | Swyddog Canlyniadau Etholaetholr | WSWalters@carmarthenshire.gov.uk |
| Steve Murphy | Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil / Swyddog Monitro | spmurphy@carmarthenshire.gov.uk |
| Caio Higginson | Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau | CSHigginson@carmarthenshire.gov.uk |
| Gaynor Morgan | Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol | gmorgan@carmarthenshire.gov.uk |
| Shelley Williams | Rheolwr y Gwasanaethau Cofrestru Etholiadol | ShWilliams@carmarthenshire.gov.uk |
| Becki Thomas | Cyfreithiwr Etholiadau | ReThomas@carmarthenshire.gov.uk |
