Beth allwn ni ei wneud?

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/11/2024

Y nod yw i Gymru gyrraedd sero net erbyn 2050, sy'n golygu bod y nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu tynnu o'r atmosffer mewn cydbwysedd â'r nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu hallyrru. Mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i wneud i hyn ddigwydd – Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymunedau, busnesau, a phawb yng Nghymru.

Yn Sir Gaerfyrddin, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn cydnabod ein rôl sylweddol o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ein nod yw dod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030, gan ddechrau gyda'n hôl troed carbon mesuradwy. Mae'r ymdrech hon yn ymestyn ar draws holl adrannau'r Cyngor, gyda mentrau i annog preswylwyr, busnesau a sefydliadau eraill i leihau eu hôl troed carbon eu hunain.

Gall pob un ohonom gyfrannu drwy fyw'n fwy cynaliadwy: defnyddio llai, ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu mwy; lleihau gwastraff bwyd; prynu ond yr hyn sydd ei angen arnom; lleihau'r defnydd o ynni yn y cartref; a dewis beicio, cerdded ac olwynio. Yn ogystal, gallwn siopa'n fwy cynaliadwy, gwneud dewisiadau bwyd iachach, addasu ein cartrefi ar gyfer gwell effeithlonrwydd ynni, ac ystyried cerbydau trydan wrth brynu ceir newydd.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau