Dewisiadau dyddiol gwyrdd

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/11/2024

Mae annog arferion megis lleihau, ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu yn gallu lleihau rhyddhau allyriadau carbon niweidiol i'r atmosffer yn sylweddol, sy'n chwarae rhan sylweddol o ran gyrru newid yn yr hinsawdd. Mae'n werth nodi bod cynhyrchu cynhyrchion bob dydd yn cyfrannu at tua 45% o allyriadau byd-eang, sy'n tynnu sylw at yr angen brys am weithredu ar y cyd. Yn ogystal, gall yr arferion cynaliadwy hyn helpu i leihau sbwriel a faint o wastraff plastig sy'n mynd i'r cefnforoedd, gan amddiffyn ecosystemau lleol a byd-eang.

Yn Sir Gaerfyrddin, gall preswylwyr wneud gwahaniaeth trwy fabwysiadu arferion syml fel prynu llai, prynu nwyddau ail-law, benthyca eitemau gan adnoddau cymunedol fel Llyfrgell Pethau Sero, neu siopa mewn siopau diwastraff. Mae dewis prynu ffrwythau a llysiau rhydd yn lle nwyddau wedi'u pecynnu hefyd yn helpu i leihau'r defnydd diangen o blastig. Trwy groesawu'r dewisiadau cynaliadwy hyn, mae'r gymuned nid yn unig yn lleihau ei heffaith amgylcheddol ond gall hefyd arbed arian.

Mae mentrau sy'n hyrwyddo mynediad i gerdded a beicio, fel y rhaglen Teithio Llesol a'r cynllun Cerdded i'r Ysgol, yn cefnogi'r ymdrechion hyn ymhellach trwy annog dewisiadau amgen o ran cludiant sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Gyda'i gilydd, gall y camau hyn arwain at blaned lanach ac iachach ynghyd â dyfodol mwy cynaliadwy i Sir Gaerfyrddin.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau