Cynllun Trechu Tlodi
Rhagair
Y Cynghorydd Linda Davies Evans,
Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi
Mae'r Cynllun Trechu Tlodi hwn yn ddogfen bwysig i'r Cyngor wrth i ni fynd ati i geisio lleihau peth o'r pwysau mae tlodi'n ei achosi i bobl a chymunedau lleol. Mae'n siomedig bod yn rhaid i ni baratoi cynllun o'r fath, ond y gwir amdani yw bod mwyfwy o'n trigolion a'n cymunedau bellach yn wynebu heriau o achos tlodi. O ganlyniad rydym ni fel Cyngor, gan weithio gyda'n partneriaid, yn awyddus i helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn.
Rydym yn cydnabod yn fawr fod yr argyfwng costau byw presennol yn cael effaith fawr ar ein trigolion, ond rydym hefyd yn cydnabod yr effaith hirdymor a gaiff tlodi felly rydym yn awyddus i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi a dod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo ein trigolion i godi eu hunain allan o dlodi.
Rhaid i ni sylweddoli na allwn ni fel Cyngor ddatrys tlodi ein hunain - mae angen rhoi sylw i nifer o'r ffactorau sy'n cyfrannu at y sefyllfa, ar lefel Gymreig ac ar lefel y DU. Fodd bynnag mae gennym rôl flaenllaw o ran cefnogi ein trigolion a'n cymunedau i helpu eu hunain, trwy waredu'r hyn sy'n eu rhwystro rhag cael cymorth, a grymuso pobl i wneud drostynt eu hunain.
Gyda hyn mewn golwg, mae mynd i'r afael â thlodi yn flaenoriaeth thematig i'r Cyngor fel rhan o'i Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-27, a bydd yn allweddol o ran gwneud cynnydd mewn perthynas â'n hamcan llesiant i alluogi ein pobl i fyw a heneiddio'n dda. Yn ogystal, mae trechu tlodi ac effaith tlodi yn un o amcanion llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, ac fel Cyngor byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill ar feysydd lle mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd, er mwyn gwneud cynnydd ar yr amcan hwn.
Mae'r Cynllun hwn yn ymateb i'n gweithgarwch dros y 12 mis nesaf, ac yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae hefyd yn nodi meysydd datblygu allweddol a fydd yn ein galluogi i fireinio ein cynllun tymor hwy er mwyn mynd i'r afael ag achosion ehangach tlodi. Yn ystod y 12 mis nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Strategaeth Genedlaethol ar Dlodi Plant, ac wedi i hynny ddigwydd, byddwn yn adolygu ein dull gweithredu ac yn datblygu ymhellach ein cynllun trechu tlodi tymor canolig/hir.
Rwy'am gydnabod mewnbwn a chefnogaeth y Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi, sef panel o aelodau etholedig trawsbleidiol, sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r cynllun hwn mewn modd ystyriol, adeiladol ac ystyrlon. Mae'r cyfraniad hwn i'w groesawu'n fawr wrth i ni gyd wneud ein gorau i gefnogi trigolion a chymunedau Sir Gâr.
Cyflwyniad a Chyd-destun
2.1 Sut ydym yn diffinio tlodi?
At ddibenion y cynllun hwn a'n dull gweithredu fel Cyngor, byddwn yn mabwysiadu diffiniad Sefydliad Joseph Rowntree o dlodi yn y DU:
Mae tlodi yn effeithio ar filiynau o bobl yn y DU. Mae tlodi yn golygu peidio â gallu cynhesu'ch cartref, talu eich rhent, neu brynu'r hanfodion ar gyfer eich plant. Mae'n golygu deffro bob dydd yn wynebu ansicrwydd, amhendantrwydd a phenderfyniadau amhosibl am arian. Mae'n golygu wynebu ymyleiddio – a hyd yn oed gwahaniaethu – oherwydd eich amgylchiadau ariannol. Gall y straen cyson y mae'n ei achosi arwain at broblemau sy'n amddifadu pobl o'r cyfle i chwarae rhan lawn mewn cymdeithas.
2.2 Pam yr ydym yn paratoi cynllun?
- Un diffiniad o dlodi cymharol yw pryd y bydd cyfanswm enillion aelwyd yn llai na 60% o'r incwm canolrifol cenedlaethol. Yn 2022, roedd 60% o'r incwm canolrifol cenedlaethol yn £22,020. Ar lefel aelwydydd mae'r data paycheck diweddaraf sydd ar gael yn awgrymu bod 34.5% o'r holl aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi, mae hyn yn cyfateb i tua 28,730 o aelwydydd. Mae Sir Gaerfyrddin yn arddangos yr 8fed lefel uchaf o'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae'r lefelau tlodi yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru o 1.1%.
- Yn ogystal ag enillion, rydym hefyd wedi rhoi ystyriaeth i ganfyddiadau'r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru diweddaraf (2019), sef dull swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer mesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae'n nodi ardaloedd sydd â'r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd gan gynnwys mynediad at wasanaethau; diogelwch cymunedol; addysg; cyflogaeth; iechyd; tai; incwm; a'r amgylchedd ffisegol. Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfanswm o 112 Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) ac mae 25 o'r rhain sydd yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hystyried yn rhai sydd o fewn y 30% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd hyn (60%) wedi'u lleoli yn rhanbarth Llanelli (15 LSOA) gydag 20% yn ardal Aman (5 LSOA), 12% yn ardal Gwendraeth (3 LSOA) ac 8% wedi'u lleoli yn ardal Caerfyrddin (2 LSOA).
- Mae gennym Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol statudol i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2021.
- Mae'r pandemig COVID-19 ac argyfyngau costau byw cyfredol yn dangos mwy o effaith ar y rheiny sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae angen i ni gael gwell dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n gyrru hyn a mynd i'r afael â hwy er mwyn sicrhau newid tymor hwy i'n trigolion a'n cymunedau.
2.3 Ni all y Cyngor ddatrys y sefyllfa ar ei ben ei hun, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol a rhanddeiliaid o'r trydydd sector, y sector cymunedol a'r sector preifat i symud rhwystrau a galluogi pobl i helpu eu hunain, gan hefyd roi llais i lobïo ar lefel Cymru a'r DU.
2.4 Mae'r Cyngor wedi nodi Trechu Tlodi fel un o'n blaenoriaethau thematig yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor 2022-27, sy'n cyd-fynd â'r Amcan Llesiant ehangach o alluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus. Yn ogystal, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin wedi gosod Amcan Llesiant penodol i drechu tlodi a'i effeithiau fel rhan o Gynllun Llesiant 2023-28. Felly, byddwn yn sicrhau bod y Cyngor a phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i ymateb i'r heriau sy'n wynebu ein trigolion.
2.5 Mae'r Cyngor wedi penodi Aelod Cabinet yn benodol i ganolbwyntio ar drechu tlodi ac mae Panel Ymgynghorol Trechu Tlodi, wedi'i ethol gan aelodau'r gwahanol bleidiau, ar waith i gefnogi a chynghori'r Aelod Cabinet ynghylch ei ddull o ddatblygu'r agenda hon. Mae yna Weithgor Swyddogion ar lefel Penaethiaid Gwasanaeth sy'n arwain ymateb y Cyngor i'r gwaith hwn ac mae disgwyl i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i nodi meysydd gweithredu ar y cyd lle gall partneriaid ychwanegu gwerth drwy gydweithio.
2.6 Mae'r Cyngor eisoes yn darparu ystod o wasanaethau cymorth sy'n ceisio darparu cyngor ac arweiniad i'n trigolion ar ystod o faterion. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys, ymhlith eraill:
- Gwasanaethau cymorth tai gan gynnwys cymorth i denantiaid ac atal digartrefedd
- Gwasanaethau refeniw a budd-daliadau
- Canolfannau Hwb a'r Ganolfan Gyswllt
- Cynlluniau cyflogadwyedd
- Gwasanaethau cymorth yn seiliedig ar addysg, gwasanaethau cymorth i deuluoedd a chefnogi pobl
- Cynlluniau adfer economaidd a chymorth busnes.
Bydd y Cyngor yn edrych yn barhaus ar ffyrdd o sicrhau bod y gwasanaethau hyn wedi'u hintegreiddio'n llawn ac yn ymateb i anghenion ein preswylwyr mewn ffordd gyfannol. Byddwn hefyd yn sicrhau mwy o gydweithio rhwng ein gwasanaethau a gwasanaethau darparwyr allanol er mwyn hwyluso mynediad trigolion at wasanaethau cymorth perthnasol.
2.7 Ar gyfer y cynllun hwn rydym wedi nodi pedwar maes ffocws allweddol. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu unwaith y bydd y Strategaeth Genedlaethol ar Dlodi Plant yn cael ei chyhoeddi:
- Mae angen i ni ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu ein sir a defnyddio ein dealltwriaeth well i ysgogi ein hymyriadau. Bydd angen i ni edrych ar hyn ar draws gwasanaethau'r Cyngor a'i bartneriaid, gan ganolbwyntio ar ardaloedd daearyddol allweddol (tebyg i'r rhaglen waith bresennol yn Tyisha) a grwpiau poblogaeth sy'n wynebu anfanteision penodol.
- Mae angen inni atal tlodi – mae cydberthynas gref rhwng cael eich geni'n dlawd a wynebu oes o dlodi ac mae modd atal llawer o'r ffactorau sy'n sbarduno tlodi yn ystod plentyndod ac yn ddiweddarach mewn bywyd os cânt eu nodi ac os eir i'r afael â nhw yn amserol. Felly gall darparu ymyriadau cynnar, cyfannol a dargedwyd helpu i leihau'r tebygolrwydd o dlodi yn ein cymunedau.
- Mae angen i ni helpu pobl i gael gwaith – gwaith yw un o'r ffyrdd mwyaf sylfaenol ac effeithiol o drechu tlodi yn ei holl ffurfiau. Mae gwaith yn darparu incwm a chyfleoedd ar gyfer gwell iechyd a llesiant.
- Mae angen i ni wella bywydau pobl sy'n byw mewn tlodi drwy gefnogi'r rheiny sy'ndlawd a gwella mynediad i gymorth ar gyfer cynnal safonau byw sylfaenol.
2.8 Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant genedlaethol newydd. Rhagwelir y bydd hyn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y 12 mis nesaf. Mae'r Cyngor yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu'r Strategaeth genedlaethol honno a bydd yn adolygu ein cynlluniau lleol unwaith y caiff ei chyhoeddi.
2.9 Fodd bynnag, o ystyried y pwysau presennol sy'n wynebu trigolion yn Sir Gaerfyrddin, teimlwn ei bod yn bwysig ac yn angenrheidiol nodi'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i gefnogi rhai o'r heriau tymor byr y bydd ein trigolion yn eu hwynebu wrth ddatblygu ein dealltwriaeth a'n hymateb i'r materion tymor canolig a thymor hwy. Felly, ystyrir y bod cynllun hwn yn gynllun tymor byr dros dro a fydd yn cael ei adolygu'n llawn unwaith y bydd y Strategaeth Tlodi Plant genedlaethol ar waith.
2.10 Byddwn yn ymgorffori pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth i ni weithredu amrywiol gamau gweithredu'r cynllun hwn ac rydym yn datblygu ymhellach ein dull gweithredu yn y tymor canolig a'r tymor hir.
5 ffordd o weithio | Dul y Cyngor |
---|---|
Cydweithio Cydweithio ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o'r corff ei hun) a allai helpu'r corff i gyflawni ei amcanion llesiant. | Datblygu dealltwriaeth ar draws y Cyngor o gyfleoedd cydweithio. Bydd hyn yn cael ei adolygu a'i ddatblygu'n barhaus fel rhan o'r dull Un Cyngor o ymdrin â'r flaenoriaeth thematig hon. |
Integreiddio Ystyried sut y gallai amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau llesiant, ar ei amcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill. | Gwella ein dealltwriaeth o effeithiau ar draws gwasanaethau a sicrhau bod ein hymyriadau yn gweithio tuag at yr un nod ac amcan.Datblygu gwell dealltwriaeth ac ymateb ar draws y sefydliad er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyfannol i'n trigolion. |
Cynnwys Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal sy'n cael ei gwasanaethu gan y corff. | Sicrhau bod y rheiny sydd â phrofiad bywyd o dlodi yn cael llais blaenllaw wrth lunio ein dull gweithredu. |
Ffocws hirdymor Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr gyda'r angen i ddiogelu'r anghenion tymor hir. | Datblygu ein dealltwriaeth o'r heriau er mwyn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi ac nid mynd i'r afael â'r heriau tymor byr sy'n codi yn unig. |
Atal Sut y gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu hamcanion. | Rydym yn cydnabod bod ymyrraeth gynnar i atal problemau rhag gwaethygu yn ganolog i'r agenda hon. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu cymorth yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon. |
2.11 Un o brif feysydd ffocws y cynllun hwn yw deall yn well yr heriau sy'n wynebu ein Sir. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd yn y maes hwn gan ddatblygu Proffil Tlodi ar gyfer Sir Gaerfyrddin a fydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n barhaus bob chwe mis. Atodir y fersiwn diweddaraf (Ebrill 2023) fel Atodiad 1. Byddwn yn defnyddio'r proffil hwn fel modd o gasglu, cydosod a dadansoddi gwahanol setiau data a gwybodaeth er mwyn adeiladu'r darlun o dlodi yn y Sir, datblygu ein dealltwriaeth, nodi bylchau data a llywio ein penderfyniadau ynghylch ymyriadau arfaethedig.
Cynllun Gweithredu
Nodwyd swyddog(ion) arweiniol ar gyfer pob un o'r camau hyn, ond dylid nodi y bydd holl wasanaethau perthnasol y Cyngor yn cyfrannu'n rhagweithiol at y gwaith hwn a bydd y Cyngor yn ymgysylltu ag aelodau perthnasol eraill o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill er mwyn gwneud cynnydd.
Maes Blaenoriaeth | Materion allweddol | Cam Gweithredu a Nodwyd | Swyddogion Arweiniol a Amserlenni |
---|---|---|---|
Atal Tlodi |
Gall llu o wasanaethau cymorth fod ar gael a gall fod yn anodd i drigolion (a staff) wybod beth a sut i gael mynediad ato. Nid yw croesgyfeirio rhwng gwasanaethau yn y Cyngor bob amser yn digwydd - am nifer o resymau: diogelu data, diffyg ymwybyddiaeth, capasiti, golwg arbenigol ar fynd i'r afael ag anghenion cwsmeriaid. |
Datblygu model cymorth cyffredinol trwy gyfrwng Hwb – brysbennu a chyfeirio. Bydd hyn yn ychwanegol at fynediad uniongyrchol at wasanaethau arbenigol sydd eisoes ar waith.
Datblygu cynnwys gwefan y Cyngor a gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael ac opsiwn hunangyfeirio.
Ymgorffori dull cyfannol o fynd i'r afael ag anghenion cwsmeriaid ar draws holl wasanaethau'r cyngor drwy ddatblygu dulliau trawsgyfeirio a rheoli cleientiaid ar draws gwasanaethau – adolygu'r arfer gorau cyfredol h.y. ffurflen atgyfeirio sengl gwasanaethau plant. Adolygu'r pwyntiau mynediad presennol a datblygu dull cyson o weithredu a datblygu map ffordd ar gyfer cyswllt â chwsmeriaid – ffocws penodol ar broses ymholiadau Cynghorwyr.
Nodi materion diogelu data a datblygu dull ar gyfer mynd i'r afael â hyn h.y. ceisio caniatâd perthnasol ar gyfer rhannu data ar y pwynt cyswllt cychwynnol â chwsmer.
Datblygu cyfeiriadur mewnol o wasanaethau cymorth i staff y Cyngor (a chynghorwyr) – ystyried defnyddio a datblygu ymhellach gyfeiriaduron presennol megis Dewis.
Datblygu ffyrdd o ddarparu cymorth i ddisgyblion a theuluoedd ehangach trwy gyfrwng staff cymorth ysgolion – bydd angen bod yn ystyriol o adnoddau a chapasiti. Datblygu cynllun cyfathrebu gyda ffocws ar ymgyrchoedd penodol – gan gysylltu â gwaith cenedlaethol. |
Deina Hockenhull Deina Hockenhull Deina Hockenhull a Gwyneth Ayers Deina Hockenhull, Siân Rees-Harper a Gwyneth Ayers Deina Hockenhull, Siân Rees-Harper a Gwyneth Ayers Deina Hockenhull a Siân Rees-Harper Aeron Rees Deina Hockenhull |
Gwella bywydau pobl sy’n byw mewn tlodi |
Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o gymorth ariannol, a'r stigma sy'n gysylltiedig â hawlio yn dal i fod yn broblem. Mae'r pandemig/argyfwng costau byw wedi cael effaith galetach ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig - mae angen ystyried pa ymyriadau penodol y gellir eu darparu. Gall llythrennedd digidol fod yn rhwystr rhag cael gafael ar y cymorth sydd ar gael. Mae nifer o grwpiau a sefydliadau cymunedol hefyd yn darparu cefnogaeth – rhai yn lleol iawn, eraill ar draws y sir. |
Hyrwyddo budd-daliadau nad ydynt yn cael eu hawlio yn benodol gyda grwpiau wedi'u targedu e.e. prydau ysgol am ddim; Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor; Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai.
Ystyried cyfleoedd ar gyfer sesiynau allgymorth – gan ganolbwyntio ar 10 tref wledig.
Adolygu cysylltiadau presennol y Cyngor gyda grwpiau a sefydliadau allanol a nodi ffyrdd o wella trawsgyfeirio a rhannu gwybodaeth am faterion allweddol sy'n wynebu Sir Gaerfyrddin.
Gweithio gyda phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall y prif heriau yn well, nodi'r gefnogaeth bresennol a bylchau ar gyfer datblygu ymhellach. Cael gwell dealltwriaeth o lythrennedd digidol ar draws Sir Gaerfyrddin a datblygu cynllun ar gyfer mynd i'r afael â hyn. |
Deina Hockenhull a Gwyneth Ayers Deina Hockenhull
Deina Hockenhull, Siân ReesHarper a Gwyneth Ayers Gwyneth Ayers Gwyneth Ayers |
Helpu pobl i gael gwaith |
Darperir nifer o wahanol raglenni cyflogadwyedd (maent yn tueddu i gael eu hariannu gan grant) –cysylltedd da gyda rhai gwasanaethau ond gallent gael eu datblygu ymhellach ar draws y Cyngor. Mae tlodi mewn gwaith yn broblem ond mae angen i ni ddeall yn well pam a sut y mae hyn yn effeithio ar ein trigolion. |
Wrth i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno, sicrhau cysylltiadau rhwng ysgolion a'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol gyda golwg ar baratoi disgyblion trwy roi iddynt sgiliau ar gyfer y dyfodol a meysydd ar gyfer twf o ran cyflogaeth/gyrfaoedd.
Adolygu gwybodaeth a gasglwyd trwy gynlluniau cyflogadwyedd mewn perthynas â heriau a rhwystrau lleol wrth gael pobl i mewn i waith. Ystyried prosiectau/rhaglenni newydd y gellid eu darparu trwy gyfleoedd cyllido yn y dyfodol. |
Aeron Rees a Jason Jones
Jason Jones a Gwyneth Ayers Gweithgor Swyddogion Trechu Tlodi |
Gwell dealltwriaeth o'r heriau |
Mae angen i ni fynd yn ôl i ganolbwyntio ar bwy sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y pandemig/argyfwng costau byw, lle mae'r angen mwyaf a deall grwpiau allweddol yn well a pha gymorth sydd ei angen/ar gael e.e. y digartref, y di-waith, y rheiny sydd angen addysg neu hyfforddiant. Manteisio ar fudd-daliadau/hawliau - angen deall y sefyllfa bresennol yn well er mwyn targedu carfannau penodol yn y dyfodol. Tlodi mewn gwaith – angen deall goblygiadau a chwmpas hyn yn well. Gwella'r defnydd o ddata a gwybodaeth sydd eisoes gan y Cyngor – adeiladu darlun o Sir Gaerfyrddin. Mae gan grwpiau a sefydliadau allanol gyfoeth o wybodaeth – angen rhannu gwybodaeth i ddatblygu darlun o Sir Gaerfyrddin. |
Dadansoddiad o ymchwil a gwybodaeth yn ymwneud â COVID/effaith costau byw ar y gymuned – nodi cymunedau allweddol/grwpiau poblogaeth sydd o ddiddordeb yn Sir Gaerfyrddin.
Ymchwil i fudd-daliadau nad ydynt yn cael eu hawlio er mwyn datblygu ymgyrchoedd wedi'u targedu.
Ymchwil i gyfraddau tlodi mewn gwaith yn Sir Gaerfyrddin a deall y rhwystrau yn well.
Defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd drwy'r amrywiol ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan wasanaethau i helpu i adeiladu darlun o Sir Gaerfyrddin – dull dywedwch wrthym unwaith. |
Gwyneth Ayers a Rachel Clegg Gwyneth Ayers a Rachel Clegg
Gwyneth Ayers a Rachel Clegg Gwyneth Ayers a Rachel Clegg |