Polisi Diogelu Corfforaethol

Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023

Atodiad 1 - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod - Plant

Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod - Plant

Mae diogelu’n golygu amddiffyn iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl, a’u galluogi i fyw heb gael niwed a heb gael eu cam-drin na’u hesgeuluso.
Mae Adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r categorïau cam-drin, sef:

  • Corfforol
  • Rhywiol
  • Seicolegol/Emosiynol
  • Esgeulustod
  • Ariannol

Mae cam-drin ariannol wedi cael ei ychwanegu fel categori newydd ar gyfer Plant o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Diffinio Cam-drin ac Esgeuluso Plant – (Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008)

Mae plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso pan fydd rhywun yn achosi niwed iddo neu'n methu â gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin mewn teulu neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol, gan bobl y maent yn eu hadnabod neu, yn fwy prin, gan rywun dieithr. Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed gael ei gam-drin neu ei esgeuluso a gall fod angen ei amddiffyn trwy gynllun amddiffyn plant rhyngasiantaethol.

Gall cam-drin corfforol gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu, neu achosi niwed corfforol mewn ffordd arall i blentyn. Gall niwed corfforol gael ei achosi hefyd pan fo rhiant neu ofalwr yn ffugio neu’n achosi salwch mewn plentyn o dan eu gofal.

Cam-drin emosiynol yw cam-drin plentyn yn emosiynol dros amser i’r graddau lle achosir effeithiau niweidiol difrifol a chyson i ddatblygiad emosiynol y plentyn. Gallai olygu cyfleu’r syniad i’r plentyn ei fod yn ddiwerth neu fod neb yn ei garu, ei fod yn annigonol neu â gwerth ond i’r graddau ei fod yn bodloni anghenion person arall. Gall gynnwys beichio plentyn â disgwyliadau anaddas i’w oed neu ddatblygiad. Gall gynnwys peri i blentyn deimlo’n ofnus neu mewn perygl yn aml, er enghraifft, trwy orfod bod yn dyst o fewn y cartref i gam-drin domestig neu trwy gael ei fwlio. Gall hefyd olygu camfanteisio ar neu lygru plant. Mae elfen o gam-drin emosiynol yn perthyn i bob math o gamdriniaeth, er y gall fodoli ar ei ben ei hun.

Esgeuluso yw methiant cyson i fodloni anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn sy’n debygol o arwain at nam difrifol i iechyd neu ddatblygiad y plentyn. Gall olygu methiant rhiant neu ofalwr i ddarparu digon o fwyd, cysgod neu ddillad, methiant i amddiffyn plentyn rhag niwed corfforol neu berygl, neu fethiant i sicrhau mynediad i ofal neu driniaeth feddygol addas. Gall hefyd gynnwys esgeuluso anghenion emosiynol sylfaenol plentyn, neu fethu ag ymateb iddyn nhw. Gall esgeuluso ddigwydd hefyd yn ystod beichiogrwydd pan mae mam yn camddefnyddio sylweddau.

Mae cam-drin plant yn rhywiol yn golygu gorfodi neu hudo plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol, p’un a yw’r plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio. Gall y gweithredoedd olygu cyffwrdd corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddio i gorff y plentyn neu beidio. Gallan nhw fod yn weithredoedd sydd ddim yn cynnwys cyffwrdd, fel cynnwys plant yn y broses o edrych ar neu gynhyrchu deunyddiau pornograffig, o wylio gweithredoedd rhywiol neu o annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd anaddas yn rhywiol.

Math o gam-drin rhywiol lle camfanteisir yn rhywiol ar blant ar gyfer arian, pŵer neu statws yw camfanteisio’n rhywiol ar blant. Gall gynnwys ymosodiadau rhywiol treisgar, bychanol a diraddiol. Mewn rhai achosion, caiff pobl ifanc eu perswadio neu eu gorfodi i gyfnewid gweithgaredd rhywiol am arian, cyffuriau, rhoddion, serch neu statws. Ni ellir rhoi cydsyniad, hyd yn oed lle mae plentyn o bosibl yn credu ei fod yn cymryd rhan yn wirfoddol mewn gweithgaredd rhywiol gyda’r person sy’n camfanteisio ar y plentyn. Nid yw camfanteisio’n rhywiol ar blant wastad yn cynnwys cyswllt corfforol a gall ddigwydd ar-lein. Mae nifer sylweddol o blant sy’n ddioddefwyr camfanteisio rhywiol yn mynd ar goll o’u cartref, o sefydliad gofal ac o leoliad addysg ar ryw adeg.

Gweler hefyd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

 

Diogelu plant mewn addysg

Bydd pob ysgol wedi dynodi Athro Dynodedig Amddiffyn Plant gyda chyfrifoldeb am ddiogelu ac amddiffyn plant. Bydd gan bob ysgol ei pholisi amddiffyn plant ei hun hefyd. Bydd y polisi’n nodi personél allweddol. Dylid hysbysu’r Athro Dynodedig Amddiffyn Plant neu’r dirprwy yn absenoldeb yr Athro Dynodedig Amddiffyn Plant ynghylch unrhyw bryderon am ddiogelu.

Dylai staff sicrhau eu bod yn cadw cofnodion llawn a chywir o’u pryderon, gan gynnwys manylion unrhyw ddatgeliadau, a dylent gynnwys camau a gymerwyd, e.e. ‘wedi atgyfeirio at yr Athro Dynodedig Amddiffyn Plant’. Mae cadw cofnodion yn allweddol bwysig wrth ymdrin â diogelu a dylai cofnodion fod yn glir, yn fanwl a gwahaniaethu rhwng ffeithiau a barn.

Rhaid i gofnodion wastad gynnwys enw’r plentyn, dyddiad y digwyddiad/pryder, enw llawn y person sy’n gwneud y cofnod a manylion y cam gweithredu a gymerwyd a’r bobl y siaradwyd gyda hwy.

Er mai’r Athro Dynodedig Amddiffyn Plant yw’r person â chyfrifoldeb am amddiffyn a diogelu plant, os oes gan aelod o staff bryderon nad yw mater wedi cael sylw gall wneud atgyfeiriad ei hun.

Dylid cofio bod Amddiffyn Plant yn gyfrifoldeb ar bawb ac y gall unrhyw unigolyn wneud atgyfeiriad at dîm asesu’r gwasanaethau plant. Ni all gweithwyr proffesiynol aros yn ddienw wrth wneud atgyfeiriadau.