Polisi Diogelu Corfforaethol
Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023
Yn yr adran hon
- Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt
- Delio â phryder diogelu
- Rhoi gwybod am bryder
- Monitro ac Adolygu
- Atodiad 1 - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod - Plant
- Atodiad 1 parhad - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth - Oedolion mewn Perygl
- Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflwyniad
Yn unol â Pholisi Diogelu Corfforaethol Sir Gaerfyrddin, disgwylir i bob sefydliad sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer oedolion sydd mewn perygl, plant, pobl ifanc a theuluoedd, neu sy'n gweithio gyda nhw, gynnal archwiliad o'u harferion diogelu, yn seiliedig ar broses o hunanwerthuso.
Bydd cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod ganddynt weithdrefnau gweithredol diogelu ar waith a'u bod yn cynnal archwiliad blynyddol o'u cyfarwyddiaeth gan ddefnyddio'r Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol.
Mae'r fframwaith hunanasesu canlynol wedi'i drefnu mewn tair adran sy'n cwmpasu tair safon benodol sy'n sail i 'ddiogelu' ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i bob maes gwasanaeth feddwl am eu harferion a'u gweithdrefnau eu hunain yn eu lleoliadau perthnasol. Mae wedi'i fwriadu i roi dealltwriaeth o sut y mae'r thema 'diogelu' yn cael ei chyflawni'n llwyddiannus mewn maes gwasanaeth penodol ar hyn o bryd, a sut y gellid datblygu hyn.
Yn ogystal, mae'r hunanasesiad yn rhoi trosolwg i'r Cyngor o arferion diogelu ar draws ei holl feysydd gwasanaeth a gall sicrhau bod cydymffurfiaeth â'r gofynion diogelu a'r dyletswyddau yn cael eu bodloni'n effeithiol. Bydd y data o'r hunanwerthusiadau blynyddol yn rhan annatod o lywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau a thrwy hynny wella'r canlyniadau llesiant i ddinasyddion Sir Gaerfyrddin.
Bydd yr archwiliad hunanasesu yn cael ei gwblhau bob blwyddyn a bydd yn gofyn i chi ystyried y cyfnod treigl diwethaf o 12 mis.
Safonau:
- Polisi/Ymarfer (Cadarn) - Pa mor gadarn yw eich arferion diogelu yn eich maes gwasanaeth? (polisïau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd ac a ddefnyddir/ recriwtio diogel/cydymffurfio/hyfforddiant/archwiliadau ac arolygiadau/ rhoi gwybod).
- Amgylchedd (Diogel) - Pa mor ddiogel mae eich maes gwasanaeth yn teimlo i ddinasyddion sy'n defnyddio'ch gwasanaethau, ac i'ch staff sy'n gweithio yn eich maes wasanaeth? (awyrgylch/adeiladau/e-ddiogelwch / rhannu gwybodaeth/ cwynion a chanmoliaeth).
- Diwylliant (Effeithiol) - Pa mor effeithiol yw ymagwedd eich maes gwasanaeth tuag at ddiogelu? (Gweithio'n effeithiol gydag eraill i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl a hyrwyddo lles dinasyddion, h.y. trwy wasanaethau a gomisiynir/cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â staff a gwirfoddolwyr i wreiddio diogelu mewn ymarfer ac wrth gynllunio meysydd gwasanaeth)
Canllawiau ar gyfer cwblhau'r Offeryn Archwilio Hunanasesiad
Mae'r offeryn archwilio yn offeryn hunanasesu sy'n cwmpasu'r tair safon. O fewn pob un o'r safonau ceir mesurau y dylech eu darparu i ddangos pa mor effeithiol y mae eich maes gwasanaeth yn bodloni pob safon ar hyn o bryd, a ble mae modd gwneud gwelliannau.
Yn yr adran dystiolaeth rydych wedi cael rhai enghreifftiau byr mewn print italig, nid yw hon yn rhestr ofynnol o ddisgwyliadau a chânt eu darparu fel enghraifft eglurhaol er cymorth yn unig. Eich cyfrifoldeb chi fel rheolwr gwasanaeth eich meysydd gwasanaeth yw darparu'r dystiolaeth gywir i ddangos sut y caiff y mesurau eu cyflawni'n effeithiol. Meddyliwch yn ofalus am yr arferion a'r gweithdrefnau ar draws eich maes gwasanaeth perthnasol a'r sgôr RAG fel yr amlinellir isod.
Cofiwch y bydd angen i chi o bosibl feddwl am nifer o safleoedd / lleoliadau wrth ateb y cwestiynau. Rydych yn cyflwyno'r hunanwerthusiad mewn perthynas â'ch cyfran o'r maes gwasanaeth; fodd bynnag, bydd hyn wedyn yn cael ei goladu gydag ymatebion y rheolwyr gwasanaethau eraill i wneud hunanwerthusiad ar y cyd ar gyfer y maes gwasanaeth cyfan.
Lle bo'n berthnasol, byddwch yn benodol yn eich archwiliad ynghylch pa wasanaeth sy'n cael sylw os ydych yn nodi problem gydag un safle/gwasanaeth penodol yn eich maes. Er enghraifft, yn eich portffolio efallai y byddwch yn gyfrifol am sawl safle ac yn nodi bod yr arferion ar gyfer presenoldeb contractwyr ar y safle yn cael eu rheoli'n wahanol i'r polisi sydd ar waith a pholisi safleoedd eraill. Felly, dylai eich archwiliad ddangos y prif sgôr RAG ar gyfer eich perfformiad cyffredinol ac os nodir mater penodol ar gyfer safle / gwasanaeth penodol, dylid cofnodi hyn yn y blwch "Angen camau pellach" ynglŷn â sut y rhoddir sylw i hyn.
Byddwch yn barod i ganiatáu digon o amser i gasglu'r wybodaeth angenrheidiol ac ymgynghori â'ch rheolwyr tîm/gweinyddwyr/ac ati a allai fod â'r wybodaeth fesul safle /lleoliad, ac ati.
Cofiwch y gallwch hefyd gysylltu â'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig yn eich maes gwasanaeth, partneriaid Adnoddau Dynol (e.e. ar gyfer data ar gofnodion hyfforddi), neu'r Uwch-reolwr Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Plant neu Oedolion am unrhyw gyngor neu gymorth arall ar ôl cwblhau'r adnodd hunanasesu hwn.
Sgôr Hunanasesiad
Mae'r system goleuadau traffig yn ymwneud â sut y mae maes gwasanaeth yn asesu ei hun o ran cyrraedd y safon ofynnol. Os yw eich maes gwasanaeth yn ei asesu ei hun fel coch neu oren dylech gofnodi yn y blwch "Angen camau pellach" yr hyn sydd ei angen yn eich barn chi, neu os nad ydych yn siŵr, nodwch pa gymorth/cyngor sydd ei angen gan eich Arweinydd Diogelu Dynodedig i wella ar y mesur hwn i symud ymlaen.
Ar ddiwedd pob safon, cewch gyfle i fyfyrio ar y mesurau gan roi adroddiad ar yr hyn yr ydych chi'n teimlo eich bod yn ei wneud yn dda fel maes gwasanaeth; ble gallwch wella ac os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ymgorffori 'diogelu.’
GWYRDD - Mae'n golygu bod popeth yn ei le, yn gyfoes, ac yn cyrraedd y safon ofynnol
OREN - Mae'n golygu bod angen adolygu neu wella rhywbeth
COCH - Mae'n golygu bod angen datblygu rhywbeth ar frys neu
fod angen mynd i'r afael â'r mesur ar frys
Ar ôl ei chwblhau, dylid dychwelyd y ffurflen hunanwerthuso ar y dyddiad penodedig i'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig.
Templed archwilio llawn ar gael gan yr Uwch Reolwr Diogelu Corfforaethol
Cathy Richards, CRichards@sirgar.gov.uk