Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg2023 - 28
Rhagair gan y Cynghorydd Glynog Davies
Mae Canlyniadau Cyfrifiad 2021 wedi cynyddu pwysigrwydd llwyddiant y Strategaeth hon eto fyth.
Wrth i Sir Gâr golli’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru am yr ail ddegawd yn olynol, mae’n rhaid gweithredu’n gadarn ac yn hyderus er mwyn atal y trai niweidiol hwn.
Nid oedd yr holl waith cynllunio a gweithredu a wnaed ers cyhoeddi canlyniadau 2011 ac ers llunio Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2016-21 yn ofer fodd bynnag. Yn wir, mae’r gweithredu pwrpasol a chydlynus wedi llwyddo i arafu’r gostyngiad yn sylweddol o 6% yng Nghyfrifiad 2011 i 4% yng Nghyfrifiad 2021. Ar ben hynny, mae profiad siaradwyr Cymraeg Sir Gâr o fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg yn profi y tu hwnt i unrhyw ddata moel fod y Gymraeg yn fyw ac yn hyfyw yn ein Sir. Defnyddir y Gymraeg gan ein trigolion yn helaeth ym mhob ward yn ein Sir ac ym mhob rhan o fywydau ein trigolion, o’n haddysg i’n bywydau hamdden a’n bywydau gwaith.
Mae defnydd y Gymraeg yn Sir Gâr a’i pharhad yn gwbl hanfodol i barhad y Gymraeg yng Nghymru.
Hyderaf ein bod mewn sefyllfa, o fod wedi gweithredu strategaeth hybu bwrpasol ers pum mlynedd a mwy, a hynny mewn partneriaeth weithredol gadarnhaol gyda phartneriaid lu, i weld gwahaniaeth mawr i hyfywedd y Gymraeg yn Sir Gâr yn ystod cyfnod y Strategaeth hon. Mae’r Strategaeth yn elwa o waelodlin clir a nodwyd yn adroddiad y Strategaeth gyntaf ac, yn fwy na dim, yn elwa o ddealltwriaeth ymarferol go iawn o’r hyn sydd angen ei wneud a sut i’w gyflawni, wedi gweithredu’r Strategaeth gyntaf mor egnïol. Mae ein dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar y Gymraeg o fewn maes yr economi, ac o fewn ein gweithleoedd yn awr yn ddatblygedig ac fe fydd y Strategaeth hon yn datblygu’r Gymraeg yn y meysydd hynny.
Fe fydd hefyd yn parhau, wrth reswm, gyda’r gwaith o gynyddu defnydd y Gymraeg a wneir eisoes yn fywiog yn y sector addysg a’r sector gymunedol drwy’r mentrau iaith, y Ffermwyr Ifanc ac eraill.
Mae’r Strategaeth hon yn datgan nod, gweledigaeth, amcanion ac is-amcanion. Mae’r nod yn un uchelgeisiol ac yn lleisio yn benderfynol ein bod am i Sir Gâr barhau i fod yn gadarnle’r
Gymraeg.
Nod: Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y Sir. Ein nod yw adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd ar fywyd.
Mae’r weledigaeth yn lleisio ymhellach ein hawydd i weld y Gymraeg yn norm ym mhob agwedd ar fywyd. Nid cynyddu niferoedd ac annog defnydd yw ein dymuniad yn Sir Gâr ond, yn hytrach, croesawu pobl i’r Gymraeg yn hyderus a heb ymddiheuro:
Gweledigaeth: Rydym eisiau gweld cynnydd yng nghyfran trigolion Sir Gâr sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn defnyddio’u Cymraeg yn gyson. Rydym eisiau gweld y Gymraeg yn norm gweithio a gweithredu yn sefydliadau cyhoeddus y Sir ac yn fwyfwy cyffredin ym musnesau’r Sir. Rydym eisiau i’n pobl ifanc weld dyfodol iddynt yn y Sir mewn cymunedau Cymraeg cynaliadwy a ffyniannus, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.
Rydym eisiau i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr
Nodir pedwar 4 amcan lefel uchel i’r Strategaeth hon ac iddynt is-amcanion i gyrraedd y nod ac fe fydd Cynllun Gweithredu’n cael ei lunio i yrru gweithredur Strategaeth yn ei blaen.
Amcan 1 - Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg
Amcan 2 - Cynnal balchder a hyder trigolion y Sir yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni
Amcan 3 - Y Gymraeg yn norm yn y gweithle a’r gweithlu
Amcan 4 - Cymunedau Cymraeg sy’n ffynnu
Rydym wedi adnabod naw maes gwaith ar gyfer y Cynllun Gweithredu a fydd yn rhoi fframwaith ymarferol i ni weithredu amcanion y Strategaeth ac fe fydd cynllunio a gweithredu o fewn pob maes gwaith yn eu tro yn cyflawni’r amcanion uchod.
Bydd y Cynllun Gweithredu yn cael ei baratoi maes o law wrth i ni ymgysylltu gyda phartneriaid a chymunedau ar draws y sir.
I gloi, hoffwn ddiolch i holl bartneriaid y Cyngor Sir am eu
cydweithio parod ar y Strategaeth Hybu gyntaf o’i bath i’r Sir
fod yn statudol gyfrifol amdani. Edrychaf ymlaen yn llawn
cyffro at gyfnod arall o bum mlynedd o gydweithio er budd y
Gymraeg.
Cyng. Glynog Davies
Aelod Cabinet dros Addysg a’r Iaith Gymraeg,
Cyngor Sir Gâr
Cyflwyniad: Cyd-destun Polisi
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a reoleiddir gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg yn gosod 174 o Safonau Iaith ar Gyngor Sir Gâr yn ei Hysbysiad Cydymffurfio 2016.
Mae’r Safonau yn nodi disgwyliadau o ran triniaeth y Gymraeg wrth i’r Cyngor:
- cyflenwi gwasanaethau Cymraeg,
- llunio polisi mewn modd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg,
- gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg,
- cadw cofnodion ynglŷn â’r Gymraeg ac yn olaf
- hybu’r Gymraeg.
O fewn y Safonau Hybu, mae Safon 145 a 146 yn benodol yn galw ar y Cyngor Sir i lunio’r Strategaeth hon. Safon 145: Rhaid ichi lunio, a chyhoeddi ar eich gwefan, strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach yn eich ardal; a rhaid i’r strategaeth gynnwys (ymysg pethau eraill).
- targed (yn nhermau canran y siaradwyr yn eich ardal) ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn eich ardal erbyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd o dan sylw,
a - datganiad sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cyrraedd y targed hwnnw; a rhaid ichi adolygu’r strategaeth a chyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni ar eich gwefan o fewn 5 mlynedd i ddyddiad cyhoeddi’r strategaeth (neu i ddyddiad cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig ohoni).
Safon 146: Bum mlynedd ar ôl cyhoeddi strategaeth yn unol â
safon 145 rhaid ichi:
- asesu i ba raddau yr ydych wedi dilyn y strategaeth honno
ac wedi cyrraedd y targed a osodwyd ganddi, a - cyhoeddi’r asesiad ar eich gwefan, gan sicrhau ei fod yn
cynnwys yr wybodaeth a ganlyn:
- nifer y siaradwyr Cymraeg yn eich ardal, ac oedran y
siaradwyr hynny; - rhestr o’r gweithgareddau a drefnwyd gennych neu a
ariannwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd flaenorol er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg.
Lluniwyd a gweithredwyd Strategaeth Hybu gyntaf Cyngor SirCaerfyrddin ar gefn y gwaith a wnaed mewn ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011. Roedd Adroddiad Y Gymraeg yn Sir Gâr, a gwaith y Gweithgor y Cyfrifiad a sefydlwyd gan y Cyngor Sir, yn sail gadarn i’r gwaith o lunio a gweithredu Strategaeth Hybu 2016-2001. Crynhoir yr ymdrechion a wnaed ar sail Strategaeth Hybu Un mewn adroddiad cynhwysfawr a osododd, yn ei dro, sail gadarn i lunio’r Strategaeth hon, sef Strategaeth Hybu Dau.
Mae cyd-destun Strategaeth Hybu Dau o safbwynt ymdrechion bwriadus eraill i gynllunio ar gyfer datblygu’r Gymraeg yn Sirol ac yn Genedlaethol wedi newid yn sylweddol ers adeg llunio Strategaeth Un.
Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth uchelgeisiol, Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr. Roedd y Strategaeth yn nodi dau darged penodol, sef:
- Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
- Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant (yn 2013–15) i 20 y cant erbyn 2050.
Mae’n fwriad gan y Llywodraeth i ddefnyddio ystadegau’r Cyfrifiad a’r Arolwg Defnydd Iaith i fesur cynnydd yn erbyn y targedau yma.
Ar adeg llunio’r Strategaeth hon, mae Cymraeg 2050 yn dal i sefyll fel craidd cynllunio ieithyddol y Llywodraeth, ac yn 2022, ychwanegwyd ato weledigaeth y Gweinidog newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg, sef Jeremy Miles AS. Rhoddodd yntau bwyslais
ar ddefnyddio’r Gymraeg, ‘darparu a siarad nid jyst creu sefydliadau’. Mae’n symud y pwyslais oddi ar ‘hybu a hwyluso’ a
thuag at gynyddu defnydd y Gymraeg gyda’r neges gyson fod ‘y
Gymraeg yn perthyn i ni i gyd’.
Mae’n nodi’r bwriad o annog mudiadau cydweithredol, a fydd yn
gweithredu’n Gymraeg, o brif ffrydio’r Gymraeg i bob maes polisi o fewn y Llywodraeth, o daclo problem ail gartrefi a thai ac o sefydlu Comisiwn Cymunedau Cymraeg i edrych ar sefyllfa’r Gymraeg ar lefel gymunedol.
Yn 2015, cyhoeddwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol oedd yn gosod saith nod cenedlaethol y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio tuag atynt, er mwyn sicrhau eu bod yn ‘meddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau’. Mae un o’r nodau hynny’n cyfeirio’n uniongyrchol at y Gymraeg a’r angen i greu ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’. Mae arwyddocâd cael nod cenedlaethol sydd yn dod o’r tu allan i faes traddodiadol cynllunio ieithyddol yn atgyfnerthu ein hymdrechion o fewn y maes hwnnw heb os.
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) a’r Ddeddf Llesiant ei hun wedi gwreiddio erbyn hyn ac mae’n dod yn gliriach o hyd sut y gall hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r Strategaeth Hybu gydblethu â’r ymdrechion yma i hyrwyddo llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae amserlen cynllunio y Strategaeth hon a Chynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr wedi cydredeg yn ystod 2022-23 a bu cyfle i Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg gael mewnbwn i’w chynnwys yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae’r Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-28 yn cynnwys nod o ran ‘Helpu i greu cymunedau dwyieithog, diogel ac amrywiol’, ac un o’r prif gamau dros gyfnod y Cynllun Llesiant nesaf fydd i “Gefnogi gweithrediad, datblygiad pellach a monitro Strategaeth Hybu’r Gymraeg”.
Rydym am sicrhau bod dolen wedi ei chreu rhwng y BGC a’r Fforwm Sirol a bod y Fforwm yn trafod materion allweddol am y Gymraeg gyda’r Bwrdd. Yn yr un modd, rydym am sicrhau fod swyddogion y cyrff partner sydd yn eistedd ar y Fforwm yn cael eu cefnogi gan gynrychiolaeth y BGC er mwyn gwireddu amcanion yStrategaeth Hybu.
Mae Mwy Na Geiriau, sef Cynllun y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, wedi profi cyfnod o lymder yn ystod y cyfnod ,diwethaf. Yn bennaf o ganlyniad i’r ffaith fod yr holl ,sector wedi cael ei throi ben i waered gan bandemig COVID-19, ni chafodd y ‘cynnig rhagweithiol’ lawer o sylw ar lefel strategol yn ddiweddar. Fodd bynnag, yn dilyn cynnal gwerthusiad annibynnol o Fframwaith Mwy na Geiriau yn 2019, cyhoeddwyd cynllun pum mlynedd newydd o 2022-2027.
Er gwaetha cyfraniad cadarnhaol y polisïau uchod oll, erys nifer o ffactorau sy’n effeithio’n fwyaf andwyol ar y Gymraeg yn Sir Gâr y tu allan i’w cwmpas. Mae fforddiadwyedd tai i bobl ifanc leol er enghraifft yn cael ei ddylanwadu’n bennaf gan fympwy’r farchnad agored ac elw’r sector breifat. Mae’r un yn wir o ran mewnlifiad pobl hŷn o’r tu allan i Gymru i gymunedau Cymraeg. Wedi ymdrechion Strategaeth Un i gydweithio ag arwerthwyr tai i geisio cael gwybodaeth ddefnyddiol i ymgodymu â’r broblem hon, rhaid cydnabod mai mater i Lywodraeth Cymru yw dylanwadu’n ystyrlon ar y ffactorau yma.
Edrychwn ymlaen yn awyddus at gydweithio ar ymdrechion arloesol gan y Llywodraeth yn y maes hwn ac i archwilio pwerau deddfu newydd a allai liniaru effeithiau niweidiol ar y Gymraeg.
Yn yr un modd, mae graddau llwyddiant y Strategaeth hon yn ddibynnol ar ymrwymiad cyrff cyhoeddus eraill sydd y tu allan i reolaeth perchennog y Strategaeth, sef y Cyngor Sir. Erys, gwaith i’w wneud i sicrhau bod cyrff eraill y Fforwm Strategol
Sirol yn ymrwymo i weithredu’r Strategaeth, a hynny ar bob lefel o fewn y sefydliadau.
Mae angen integreiddio nod y Strategaeth hon i waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a sicrhau bod yna gefnogaeth lwyr o’r sefydliadau hynny i’w cynrychiolwyr sydd ar y Fforwm Strategol Sirol er mwyn sicrhau perchnogaeth y Strategaeth ar draws sefydliadau’r sir yn hytrach na dim ond i elfen gyfyngedig Gymraeg y sefydliadau hynny.
Rhaid cofio ‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb’ a’n nod ni yw ‘adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd ar fywyd’.
Nid ar chwarae bach mae cyflawni’r nod.
Cyflwyniad: Cyd-destun ieithyddol
Wrth lunio’r Strategaeth hon, rydyn ni newydd gael canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021. Mae nifer a chanran siaradwyr Cymraeg Sir Gaerfyrddin wedi disgyn unwaith yn rhagor.
Rydyn ni wedi colli 6,000 o siaradwyr Cymraeg, sy’n gyfystyr â 4 pwynt canran. Mae’r nifer sy’n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg bellach yn 72,800 sy’n golygu fod y Sir wedi colli ei safle o fod yr awdurdod lleol gyda’r mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Bellach, mae Gwynedd wedi cymryd y fantell honno.
Er bod Sir Gaerfyrddin wedi gweld y cwymp mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg o gymharu a siroedd eraill Cymru, a hynny unwaith yn rhagor, mae’r gostyngiad yn y ganran yn llai o ostyngiad nag yn y Cyfrifiad diwethaf. Mae’r trai wedi arafu ac mae hynny’n galonogol, ond does dim amheuaeth bod angen gweithredu’n fwy egnïol fyth os ydyn ni am ddal ein gafael o fewn y Sir ar ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gyfrwng naturiol ein hymwneud â’n gilydd.
Mae’r canlyniadau cychwynnol yn nodi o’r 112 o ardaloedd bach yn Sir Gaerfyrddin, roedd canran y bobl tair oed neu’n hŷn a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn amrywio o 62.2% (ardal o amgylch Brynaman) i 15.0% (ardal gyfagos i Lanelli). Ar yr olwg gyntaf, mae rhai wardiau wedi gweld cynnydd bychan yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ac fe fydd yn ddadlennol dadansoddi achosion y twf hwnnw mewn ardaloedd fel Gorslas.
Ond mae’n wir dweud hefyd fod y lleihad mwyaf yn yr ardaloedd hynny sy’n gartref naturiol traddodiadol i’r Gymraeg, lle mae dwysedd y boblogaeth yn draddodiadol yn siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Dyffryn Aman.
Mae’r Gymraeg yn dal i fod yn gryf yn yr ardaloedd yma, ond mae’n colli tir yn gyflym. Fe fydd dadansoddi’r rhesymau y tu ôl i’r dirywiad yma’n hanfodol ar gyfer gweithredu Strategaeth Hybu effeithiol ar gyfer y Sir. Bydd adnabod y tueddiadau trosglwyddo iaith a symudoledd poblogaeth, er enghraifft, yn gymorth i ni fedru adnabod pa gamau a fyddai’n arwain at newid arferion yn yr ardaloedd daearyddol yma.
O gymharu â’r sefyllfa ar draws Cymru, mae canlyniadau cychwynnol y Cyfrifiad yn awgrymu nad ydy’r casgliadau cychwynnol mor berthnasol i sefyllfa Sir Gâr. Nid yw’r lleihad sylweddol yn nifer y plant ieuengaf sy’n medru siarad Cymraeg, sy’n cael ei briodoli i raddau helaeth i gyfnod COVID-19 pan oedd methrinfeydd ac ysgolion ar gau, wedi digwydd yn Sir Gâr.
Mae’r lleihad yn ein niferoedd ni wedi amlygu ei hun yn yr oed 45+ ac mae’r ganran wedi gostwng fwyaf yn yr oed 50 hyd at 80 oed. Eto, bydd dadansoddiad pellach o symudoledd poblogaeth yn taflunio goleuni arwyddocaol ar y newid hwn.
Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer y Strategaeth hon wedi cael ei gwblhau cyn i ganlyniadau’r Cyfrifiad gael eu cyhoeddi. Ac mae’n dderbyniol fod y gwaith o gynllunio wedi ei selio ar adroddiad y Strategaeth ddiwethaf, gyda’r manylder ystadegol ac ansoddol sydd ynddo, yn hytrach na ffigurau moel y cyfrifiad.
Mae yna gyfyngiadau i ddefnyddioldeb ffigurau’r Cyfrifiad gan ystyried effeithiau cyfrifo yn ystod cyfnodau clo COVID-19 a’r gwahaniaeth arwyddocaol sydd rhwng y ffigurau a ffigurau arolygon eraill megis cyfrifiad blynyddol y boblogaeth. Wedi dweud hynny, fe fydd yna sylw yn cael ei roi yn Strategaeth 2 i ddadansoddi’r ffigurau pan fyddant ar gael yn eu cyfanrwydd ac i gynllunio rhai blaenoriaethau o ganlyniad.
Mae Ystadegau Arolwg Blynyddol y Boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi darlun tra gwahanol i ni. Ym Mehefin 2011, cofnodir 82,300 (47.2%) o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, sy’n gosod y Sir yn ail i Wynedd o ran nifer. Yn ôl yr un ffynhonnell, ceir 94,000 o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr ym Mehefin 2021, (52.5%), sy’n ein gosod gyda’r nifer uchaf o siaradwyr yng Nghymru. Felly, nid yn unig y mae’r ffigurau yma’n sylweddol uwch na ffigurau’r Cyfrifiad, ond maent hefyd yn dangos tuedd gwbl groes i’r Cyfrifiad o dwf mewn niferoedd a chanrannau yn Sir Gaerfyrddin, fel yn y siroedd eraill.
Gwyddwn am bwysigrwydd data ar ddefnydd Cymraeg yn ogystal ar gyfer cynllunio ieithyddol ystyrlon. Mae’n gwbl allweddol ein bod yn cynnal cymunedau lle mae’r Gymraeg yn norm cymunedol a chymdeithasol ac nid yw nifer y rhai sy’n medru’r Gymraeg ond hanner y darlun.
Yn ôl Arolygon Defnydd Iaith y Comisiynydd a’r Llywodraeth gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn Sir Gâr o 80% i 71% rhwng Arolwg 2004-06 ac Arolwg 2013-15. Roedd hyn yn debyg iawn i’r cyfartaledd cenedlaethol ac yn cyfateb i golledion canrannol y siroedd tebyg i ni o ran dwysedd siaradwyr Cymraeg.
Yn anffodus, gorffennwyd Arolwg Defnydd 2019-20 yn gynnar o achos y pandemig. Golygodd hyn fod y sampl draean yn is na’r arolygon blaenorol ac nid oedd modd dadansoddi canlyniadau’r arolwg yn ôl awdurdod lleol fel a wnaed yn yr arolygon blaenorol.
Roedd y canlyniadau cenedlaethol yn awgrymu fodd bynnag fod ‘dros hanner (56%) yn siarad yr iaith bob dydd (waeth beth fo lefelau eu rhuglder) o’i gymharu â 53% yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, a bron i un ym mhob pump yn siarad yr iaith bob wythnos (19%, union yr un ganran ag yn 2013-15)’.
Ymddengys felly fod y Gymraeg yn cael ei chynnal yn weddol lwyddiannus fel iaith gymunedol a chymdeithasol ar hyn o bryd. Yn amlwg, fe fyddai cael data ystyrlon a chymharol ar ddefnydd
iaith yn ddefnyddiol iawn i fesur effaith Strategaeth Hybu fel
hwn i’r dyfodol.
Ar ddechrau cyfnod Strategaeth Hybu Un, gwnaed ymdrech i ganfod mwy o ddata lleol ar agweddau ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Gweinyddwyd holiadur drwy’r mentrau iaith yn bennaf a roddodd ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i ni.
Roedd yr adroddiad yn nodi fod 97% o’r ymatebwyr yn ystyried dwyieithrwydd yn fanteisiol ac mai ‘cyfleodd gwaith’ oedd fwyaf blaengar ym meddyliau pobl wrth feddwl am y manteision hynny. Canfuom mai dim ond hanner yr ymatebwyr oedd yn deall na fyddai disgyblion oedd yn derbyn addysg cyfrwng Saesneg yn y sir yn debygol o fod yn ddwyieithog cyn gadael yr ysgol.
Roedd hefyd modd cadarnhau fod ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r cyrff sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir yn gymharol uchel (rhwng 67% a 82 %). Er gwaethaf defnyddioldeb yr arolwg hwn, roedd y sampl yn rhy fach i fod yn gynrychiadol ac roedd yn rhaid derbyn, yn ogystal, fod yr ymatebwyr yn dod o gynulleidfaoedd arferol y mentrau iaith, yn hytrach na rhoi gwybodaeth i ni am drigolion y sir yn ehangach.
Er bod yna fwriad i ail-redeg yr arolwg ar ddiwedd cyfnod y strategaeth, penderfynwyd nad oedd adnodd ar gael i’w weinyddu, ac er y byddai wedi bod yn ddefnyddiol i ddeall a oedd ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o addysg Gymraeg wedi cael effaith, penderfynwyd nad oedd y seilwaith angenrheidiol ar waith lle ar lefel sirol i ganfod data ystyrlon a chynrychioladol.
Erys felly’r bwlch yma o ran canfod effaith ymgyrchoedd ac ymyraethau’r strategaeth y tu hwnt i ffigurau’r Cyfrifiad ar allu ieithyddol ein trigolion.
Seiliau: Y Gwaith a wnaed yn Strategaeth Un
Wrth lunio Strategaeth Hybu Sir Gâr 2016-2021, sefydlwyd yfarfodydd rheolaidd o Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg i ynorthwyo’r awdurdod lleol i gynllunio, gweithredu a chraffu ar y Strategaeth.
Adnabuwyd gwaith sylweddol y Mentrau Iaith yn ogystal â’r cyrff eraill sy’n hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sir fel asgwrn cefn y Strategaeth ac yna, yn ystod cyfnod y Strategaeth, cynhaliwyd 10 o gyfarfodydd gan edrych ar faes gwaith ar gyfer ei ddatblygu ym mhob cyfarfod. Ym mhob cyfarfod, cafwyd cyflwyniadau gan swyddogion o’r Cyngor Sir a chynrychiolwyr allweddol sy’n gweithredu yn y meysydd dan sylw. Yn dilyn y drafodaeth, lluniwyd camau gweithredu o’r newydd ar gyfer y maes gwaith. Gosodwyd y camau gweithredu mewn Cynllun Gweithredu a ddiweddarwyd fesul cyfarfod.
Parhaodd y Cynllun Gweithredu yn ddogfen fyw felly drwy gydol y cyfnod. Y tu ôl i gyfarfodydd Fforwm cynhaliwyd cyfarfodydd gydag adrannau amrywiol o fewn y Cyngor i gynllunio ar gyfer y Gymraeg wrth baratoi i gyflwyno i’r Fforwm ac yna yn dilyn y cyfarfod i gynnig ac i ymrwymo i gamau gweithredu newydd.
Ym Medi 2019, cychwynnodd Meri Huws gadeirio cyfarfodydd y Fforwm yn chwarterol, gan ddarparu sefydlogrwydd ac arweiniad i’r trafodaethau a’r cydgynllunio. Bu’n rhaid diwygio cynnwys yr amserlen o ganlyniad i COVID-19 wrth reswm. Roedd y cyfnod clo wedi bwrw nifer fawr o ddarparwyr gwasanaethau a gweithgarwch cymunedol yn drwm ac roedd yn rhaid oedi ar y gwaith craffu ar rai meysydd o ganlyniad. Nid ataliwyd y cyfarfodydd fodd bynnag. Trosglwyddwyd yn syth i blatfform digidol heb golli dim o fomentwm nac ymrwymiad yr aelodau.
Yr amcanion a adnabuwyd ar gyfer y strategaeth oedd:
- Caffael sgiliau
- Cynyddu hyder a defnydd
- Effeithio ar symudiadau poblogaeth
- Ardaloedd blaenoriaeth
- Marchnata a hyrwyddo
Y meysydd gwaith a adnabuwyd ar gyfer cyrraedd yr amcanion
hyn ac a ddarparodd ganolbwynt i weithredu’r Cynllun
Gweithredu ac i gyfarfodydd y fforwm oedd:
- Cyn-oed ysgol
- Cymraeg i Oedolion a Chymraeg yn y Gweithle
- Hamdden
- Ieuenctid
- Tai
- Cynllunio a chymathu mewnfudwyr (ac adroddiad
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen)
- Adfywio
- Sector preifat
- Pobl ifanc a’r byd gwaith
- Ardaloedd blaenoriaeth.
Lluniwyd adroddiad manwl i bwyso a mesur effaith y Strategaeth yn 2022 a daethpwyd i’r casgliad canlynol ar gynnydd a diffyg cynnydd yn erbyn yr amcanion.
Rhaid cofio bod yna waith sylweddol wedi digwydd ers diwedd cyfnod y Strategaeth ddiwethaf yn ogystal, yn enwedig yn narpariaeth gymunedol ardal Llanelli, ac yn ailsefydlu darpariaeth gynhwysfawr i gefnogi defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg y tu allan i addysg ffurfiol wedi COVID-19.
Gwnaed hefyd waith partneriaeth effeithiol i gynyddu ymwneud trigolion y Sir yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023. Bydd y gwaith hwn yn cael ei adlewyrchu a’i ddatblygu yn Strategaeth Hybu 2023-2028.
Bu’r Fforwm hefyd yn ymdrechu i ddylanwadu ar y meysydd gwaith uchod drwy godi materion gyda chyrff eraill i geisio cael effaith ar yr elfennau o bolisi oedd y tu allan i gyrraedd y cyrff ar y Fforwm Sirol Strategol ar lefel sirol. Llythyrwyd yLlywodraeth a’r Comisiynydd am brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, am weithdrefnau ymgynghori’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, am reoliadau hysbysebu ac, yn fwy diweddar llythyrwyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sirol am y Cynllun Llesiant drafft.
Aeddfedodd y Fforwm felly i geisio dylanwadu ar lefel strategol i faterion sy’n effeithio ar y Gymraeg ac fe fydd yn parhau i wneud hyn yn Strategaeth Hybu 2023-28 wrth i faterion godi.
Nod a gweledigaeth
Nod: Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y Sir. Ein nod yw adfer y Gymraeg yn iaith a siaredir ac a ddefnyddir gan fwyafrif ein trigolion yn gyson, ac ym mhob agwedd ar fywyd.
Wrth lunio Strategaeth Hybu Sir Gâr 2016-2021, sefydlwyd cyfarfodydd rheolaidd o Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg i gynorthwyo’r awdurdod lleol i gynllunio, gweithredu a chraffu ar y Strategaeth.
Er bod aelodau’r Fforwm yn gytûn ynglŷn â pharhau gyda’r un nod i’r cyfnod nesaf o bum mlynedd, nodwyd hefyd bod awydd i newid gêr o safbwynt y nod hwn. Yn dilyn yr holl waith o gydgynllunio, dylanwadu a chydweithio a wnaed yn ystod y pum mlynedd diwethaf a chyn hynny, rydym yn teimlo fod sail ac angen i ni fod yn fwy hyderus wrth drafod y Gymraeg yn y Sir bellach.
Credwn ein bod wedi cyrraedd man yn hanes y Gymraeg yn y Sir lle y dylem symud oddi wrth ‘annog defnydd’ a thuag at ddatgan fod y Gymraeg yn elfen greiddiol o hunaniaeth y Sir, a chroesawu pawb at yr iaith ac at gymuned yr iaith, heb ymddiheuro. Rydym eisiau gweithredu mewn modd sy’n derbyn fod y Gymraeg yn norm yn y Sir ac nid angen cael ei ‘normaleiddio’ bellach. I adlewyrchu hyn, cydluniwyd y weledigaeth ganlynol i lywio’r ymagwedd y byddwn yn ei harddel wrth weithredu’r Strategaeth hon.
Gweledigaeth: Rydym eisiau gweld cynnydd yng nghyfran trigolion Sir Gâr sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn defnyddio’u Cymraeg yn gyson. Rydym eisiau gweld y Gymraeg yn norm gweithio a gweithredu yn sefydliadau cyhoeddus y Sir ac yn fwyfwy cyffredin ym musnesau’r Sir. Rydym eisiau i’n pobl ifanc weld dyfodol iddynt yn y Sir mewn cymunedau Cymraeg cynaliadwy a ffyniannus, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.
Rydym eisiau i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr.
Rydym hefyd yn cydnabod y bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn amlygu ardaloedd daearyddol o fewn y sir sydd heb gyrraedd y sefyllfa yma o hyder ieithyddol eto, a bydd ffigurau’r Cyfrifiad newydd yn sbarduno ein hymateb i’r heriau yma. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys y bydd ‘trosglwyddo iaith’ a ‘materion mewnfudo ac allfudo’ yn feysydd y bydd y Strategaeth hon yn eu harchwilio’n fanylach wrth ddadansoddi canlyniadau’r Cyfrifiad
hefyd.
Bydd amcanion sylfaenol Strategaeth Un, megis creu mwy o siaradwyr hyderus, a chynnal defnydd y Gymraeg drwyddi draw yn parhau yn y Strategaeth hon wrth reswm, ond bydd yna bwyslais mwy penodol ar y Gymraeg a’r economi, y gweithlu a’r gweithle gan fod rhain yn themâu lle rydyn ni, fel Fforwm, wedi datblygu dealltwriaeth gliriach o’r modd y mae angen gweithredu er mwyn gwella sefyllfa’r Gymraeg yn y Sir.
Teimla’r Fforwm hefyd fod ‘Marchnata’r Gymraeg’ wedi symud, ymlaen yng nghyfnod y Strategaeth hon. Ymddengys ei fod bellach yn fwy addas i’w drin ymhlyg yn yr amcanion eraill, fel nodwedd o holl waith Strategaeth Dau. Bydd y gwaith o godi statws y Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o elfennau penodol o’r Gymraeg (fel addysg Gymraeg, a’r angen am sgiliau Cymraeg yn y gweithlu) yn cael ei wneud fel rhan greiddiol o gyflawni’r amcanion oll. Fe fydd ymgais hefyd, yn ystod y cyfnod o bum mlynedd nesaf, i nodi cynulleidfaoedd o fewn y sir sydd ddim yn deall arwyddocâd a manteision dwyieithrwydd a’r iaith Gymraeg fel agwedd sylfaenol ac unigryw ar hunaniaeth a diwylliant ein sir. Byddwn ni’n ceisio cyfleu’r negeseuon hyn mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Fe fydd y Fforwm hefyd yn blaenoriaethu data’r Cyfrifiad, gan ddadansoddi ar lefel gymunedol y tueddiadau mwyaf arwyddocaol ac ymateb drwy gynllunio ar lefel ddaearyddol. Amser a ddengys beth fydd y blaenoriaethau daearyddol newydd ac fe fydd yn rhaid blaenoriaethu’n ofalus er mwyn bod yn realistig am yr hyn a all gael ei gyflawni gyda’r adnoddau sydd ar gael.
Mae’r Strategaeth hon yn categoreiddio’r is-amcanion yn rhai y dylid rhoi sylw iddynt yn y tymor byr, canolig a hir. Mae angen gwneud hyn er mwyn rhoi cyfeiriad clir a chydnabod nad ydyw’n realistig ceisio cyflawni popeth yr un pryd. Mae’r Strategaeth hefyd yn nodi maes gwaith i gyfateb â phob is-amcan, a hynny er mwyn gosod cyfeiriad gweithredol clir.
Dulliau Gweithredu a monitro’r Amcanion:
Mecanwaith
Amcanion, Is-amcanion, meysydd gwaith a phrif bartneriaid
Amcan 1 - Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg
Amcan 2 - Cynnal balchder a hyder trigolion y Sir yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni
Amcan 3 - Y Gymraeg yn norm yn y gweithle a’r gweithlu
Amcan 4 - Cymunedau Cymraeg sy’n ffynnu
Amcan 1: Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg
Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Milestones.cshtml)
Amcan 2: Cynnal balchder a hyder trigolion y Sir yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni
Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Milestones.cshtml)Amcan 3: Y Gymraeg yn norm yn y gweithle a’r gweithlu
Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Milestones.cshtml)
Amcan 4: Cymunedau Cymraeg sy’n ffynnu
Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Milestones.cshtml)