Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2024-2025
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol
- Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)
- Amcan Llesiant 2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)
Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)
Trosolwg o'r Cynnydd
Mae'r Cyngor yn credu bod pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd beth bynnag ei gefndir. Mae sicrhau bod gan blant sylfaen gref yn gynnar yn eu rhoi ar lwybr sy'n cyfyngu ar effeithiau anghydraddoldeb ar draws canlyniadau iechyd a llesiant, cyflawniad addysgol, a statws economaidd. I'r Cyngor, beth sydd wrth wraidd gwneud hynny yw darparu'r gefnogaeth gywir i blant a theuluoedd pryd a lle mae ei hangen arnynt, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, darparu mynediad at fentrau iechyd a llesiant sy'n cyfoethogi, a system addysg sy'n helpu plant i fod gystal ag y gallant fod.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi parhau â'i ymdrechion i fynd i'r afael â rhai heriau sylweddol. Er bod lefel y plant mewn tlodi wedi gostwng yn y sir, credir bod tua 30% yn dal i fyw mewn tlodi. Nid yw'r sefyllfa hon yn un sy'n unigryw i Sir Gaerfyrddin, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i leihau effeithiau tlodi ar ein preswylwyr fel y nodir dan amcan llesiant 2. Mae darparu prydau ysgol maethlon am ddim yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac mae 25,000 o brydau bwyd yn cael eu darparu bob dydd yn ysgolion Sir Gaerfyrddin. Mae'r ddarpariaeth hon hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod plant yn cadw at ddiet iach a chytbwys. Ymhen amser, dylai hyn gyfrannu'n gadarnhaol at lefel gordewdra yn ystod plentyndod yn y sir, sydd ar hyn o bryd yn 30% ar gyfer plant 4 i 5 oed. Mae'r llu o fentrau chwaraeon a hamdden, fel 'Actif Unrhyw Le ar gyfer Ysgolion' a rhaglen nofio 'Sblash', wedi cynyddu'n sylweddol nifer y plant sy'n gwneud gweithgarwch corfforol, yn enwedig y rheiny o gefndiroedd difreintiedig.
Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd o dan bwysau oherwydd galw mawr, yn enwedig o achos cymhlethdod y galw hwnnw a phrinder gweithlu. I gydnabod hyn, mae'r Cyngor wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol, gan gynnwys rhaglen drawsnewid sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd hirdymor ar gyfer y gwasanaeth. Gan Sir Gaerfyrddin y mae'r nifer leiaf o blant sy'n derbyn gofal o1 gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru, ac roedd ychydig yn llai o blant mewn lleoliadau maeth ar ddiwedd y flwyddyn o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae prinder gofalwyr maeth yn lleol ac yn genedlaethol o hyd sy'n effeithio ar sefydlogrwydd lleoliadau. Mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â hyn yn rhagweithiol trwy ymgyrchoedd recriwtio wedi'u targedu. Mae cynnydd da wedi'i wneud mewn Cartrefi Plant, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl ofal preswyl yn cael ei ddarparu o fewn y sir erbyn 2026. Mae gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol yn parhau i ddarparu cymorth o ansawdd da sy'n cyflawni canlyniadau da i deuluoedd, er gwaethaf yr heriau sy'n ymwneud â'r galw cynyddol a chymhlethdod yr angen.
Mae'r cynnig gofal plant ledled y sir wedi cynyddu, ac mae cam 2 y broses o ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg wedi'i gyflwyno'n llawn. Bydd cam 3 yn cael ei gyflwyno yn ystod 2025/26.
Er gwaethaf wynebu heriau ariannu ac effeithiau parhaus y pandemig, mae cynnydd da wedi'i wneud o fewn Addysg. Mae'r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi'u cyflwyno, gan ehangu cymorth arbenigol, ac mae'r camau dilynol cadarnhaol wedi arolygiad Estyn yn dangos y cynnydd a wnaed. Ar ben hynny, mae seilwaith ysgolion wedi gweld datblygiadau drwy'r Rhaglen Moderneiddio Addysg, gan gynnwys cyfleusterau newydd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac addysg ADY. Mae datblygu'r cwricwlwm yn unol â Chwricwlwm Cymru hefyd wedi parhau i fod yn flaenoriaeth, gan hyrwyddo dysgu cynhwysol, cymunedol gyda phwyslais ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol.
Mae presenoldeb ysgol yn parhau i fod yn bryder, a chyda'r sir mae'r lefelau presenoldeb isaf yng Nghymru. Mae gan y sir hefyd lefel gymharol uwch o ddysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref sydd angen cymorth wedi'i deilwra. Rydym yn mynd i'r afael â'r heriau hyn yn rhagweithiol trwy farchnata a chymorth wedi'u targedu.
Yn Gryno
Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ledled Cymru dan bwysau i ymateb i'r galw digynsail. Mae hyn wedi cyd-fynd â phrinder yn y gweithlu cenedlaethol, cwymp yn y lleoliadau sydd ar gael i blant, a gostyngiad yn y cyllid gaiff yr Awdurdod Lleol. Er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa, mae buddsoddiad nas gwelwyd ei fath erioed o'r blaen wedi'i wneud yn y gweithlu, mewn atal a chostau gofal.
Mae ymateb i hyn yn hanfodol bwysig ac mae Rhaglen Drawsnewid ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi darparu £7.5 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer gwneud gwelliannau ac arbedion effeithlonrwydd, ochr yn ochr â £2 filiwn o fuddsoddiad cyfalaf mewn cartrefi plant newydd. Mae ffrydiau gwaith y Rhaglen yn canolbwyntio ar y meysydd y nodwyd bod angen buddsoddiad ynddynt. Bydd hyn yn helpu i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac yn darparu cymorth i sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol. Eleni mae'r ffocws wedi bod ar gyflawni blwyddyn gyntaf y rhaglen drawsnewid hon.
I gydnabod pwysigrwydd bod yn egnïol yn ifanc, rydym wedi gweithredu ystod o fentrau iechyd sy'n anelu at hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac atal datblygiad clefydau cronig yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae hyn yn cynnwys ffocws ar addysg iechyd i ddyfnhau ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mesurau iechyd ataliol ac ymyrraeth gynnar.
Mae gweithio ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth wedi arwain at ddatblygu gwasanaethau iechyd cynhwysfawr a chefnogaeth i'r gymuned. Hefyd mae ffocws wedi bod ar gynyddu mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys grwpiau cwnsela a chymorth mewn ymateb i'r galw cynyddol.
Sut ydyn ni'n gwneud?
- Er gwaethaf cynnydd o 36% yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yn Sir Gaerfyrddin rhwng 2022/23 (190) a 2023/24 (259), gyda ni o hyd mae'r nifer isaf o blant sy'n derbyn gofal fesul 10,000 o'r boblogaeth o dan 18 oed yng Nghymru, sef 70.60. Mae hyn yn is o dipyn na chyfradd Cymru o 116.10. Erbyn diwedd 2024/25, roedd y gyfradd wedi cynyddu ychydig i 269. Ni fydd y data cymharol ar gyfer hyn fesul 10,000 o'r boblogaeth ar gael tan ddiwedd 2025, ond rydym wedi bod yn isel yng nghyd-destun awdurdodau lleol eraill ers blynyddoedd lawer.
- Roedd 205 o blant sy'n derbyn gofal mewn lleoliadau maeth ar 31 Mawrth 2025, o gymharu â 208 y flwyddyn gynt. Mae prinder gofalwyr maeth yn lleol ac yn genedlaethol o hyd sy'n effeithio ar sefydlogrwydd lleoliadau. Mae'r adran yn cydweithio ar draws y rhanbarth gyda Maethu Cymru, a chafodd ymgyrch genedlaethol i recriwtio gofalwyr maeth lawer o sylw yn y cyfryngau.
Cynnydd yn erbyn Canlyniadau
Canlyniad: Lleihau'r anghydraddoldebau sy'n wynebu plant o gefndiroedd difreintiedig a allai effeithio ar eu cyfleoedd yn nes ymlaen yn eu bywydau.
Mae ein ffocws ar ymyrraeth gynnar ac atal. Mae hyn yn cynnwys lleihau'r anghydraddoldebau sy'n wynebu plant difreintiedig, cefnogi teuluoedd mewn sefyllfaoedd heriol i greu amgylcheddau cartref diogel a sefydlog, a helpu teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau iechyd a llesiant lleol.
Cartrefi Plant
Mae hwn yn faes â nifer o heriau cymhleth, ac mae ganddo risgiau sylweddol sydd i gyd yn newid yn gyflym ac yn gofyn am ymatebion creadigol, brys.
Mae ein prif gyflawniadau dros y 12 mis diwethaf yn cynnwys:
- Ymrwymiad i sicrhau bod yr holl ofal preswyl yn cael ei ddarparu o fewn Sir Gaerfyrddin erbyn 2026.
- Mae ein Strategaeth Comisiynu Lleoliadau yn nodi ein bwriad strategol a chynllun manwl ar gyfer gweithredu, gan gynnwys rhagolwg costau ar gyfer pob elfen o'r cynllun.
- Mae'r broses recriwtio yn ein cartrefi plant newydd yn mynd yn dda ac mae 75% o'r swyddi wedi'u llenwi a rheolwyr tîm wedi'u penodi. Mae'r defnydd o staff asiantaeth wedi lleihau'n sylweddol.
- Gwneud y mwyaf o'n capasiti mewnol drwy sicrhau bod cartrefi plant Hafan a Rhodfa Ross yn llawn.
- Cytunwyd ar y dyluniad ar gyfer cartref plant newydd. Mae dau ddyluniad (ar gyfer adeiladau un llawr a deulawr) yn dempledi ar gyfer y rhanbarth cyfan a byddant yn helpu i weithredu'r polisi gwaredu elw. Mae amserlen glir o ddwy flynedd ar gyfer ein cartrefi plant newydd hefyd wedi'i llunio. Mae astudiaeth ddichonoldeb ar y gweill, i'w chwblhau erbyn Mehefin 2025.
Plant a Phobl Ifanc Digwmni sy'n Ceisio Lloches
Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi 62 o blant a phobl ifanc digwmni: 19 yn y sir a 43 tu allan i'r sir. Mae gennym 27 o dan 18 oed a 35 dros 18 oed. Mae nifer y bobl dros 18 oed yn cynyddu'n gyflymach na'r rhai dan 18 oed, gan arwain at lai o incwm o'r Swyddfa Gartref. Mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar ein cyllideb. Mae ein cyflawniadau allweddol yn cynnwys y canlynol:
- Creu tîm arbenigol o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth ac ymgynghorwyr personol.
- Cafodd pum eiddo yn Sir Gaerfyrddin eu sefydlu o'r dechrau, gyda 10 o bobl ifanc yn byw ynddynt.
- Nid oes unrhyw leoliadau a gomisiynir yn cael eu defnyddio ar gyfer unrhyw atgyfeiriadau newydd o'r cynllun trosglwyddo cenedlaethol. Mae hyn wedi bod yn her enfawr, ond mae ein timau'n cyflawni.
- Mae canllawiau a phrosesau ymarfer ar waith i gefnogi gwaith y timau.
Y Gwasanaeth Anabledd
Rydym yn dal i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc anabl, yn cael eu cefnogi i gadw mewn cysylltiad gyda'u teuluoedd a lleihau'r angen am lety â chymorth lle y mae'n ddiogel gwneud hynny.
Ers mis Ionawr 2025, mae cynllun peilot amlasiantaeth yn ei ail gam gweithredu trwy leoli'r tîm yn ein Hwb Cymorth Cynnar. Mae'r cynllun yn dod o hyd i ffyrdd o gyrraedd pobl ifanc a'u teuluoedd yn gynharach, yn helpu perthnasoedd rhag chwalu, ac yn atal digartrefedd ar gyfer pobl ifanc.
Llwybr Niwroddatblygiadol
Mae Sir Gaerfyrddin wedi bod yn datblygu a gweithredu Llwybr Niwroddatblygiadol i helpu pobl ifanc niwroamrywiol i gael mynediad at addysg addas a chynhwysol. Mae'r fenter hon yn cynnwys asesu, hyfforddiant ac ymyrraeth uniongyrchol gyda phobl ifanc, eu teuluoedd, a chydweithwyr ar draws Addysg, a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Mae Model Portsmouth wedi bod yn rhan sylweddol o'r datblygiad hwn ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd darparu'r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, heb yr angen am ddiagnosis i ddiwallu anghenion.
Cynhaliwyd cynhadledd Niwroddatblygiadol a oedd yn canolbwyntio ar gymhlethdodau niwroamrywiaeth a phwysigrwydd ystafelloedd dosbarth cynhwysol. Roedd y gynhadledd yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu plant niwrowahanol, yn enwedig mewn perthynas â phresenoldeb ysgol. Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys trafodaethau ar bwysigrwydd meddu ar lens seicolegol i ddeall a chefnogi plant niwroamrywiol.
Rydym wedi sefydlu grŵp cyflawni Niwroddatblygiadol adrannol a fydd yn goruchwylio gweithredu'r llwybr Niwroddatblygiadol. Rydym wrthi'n recriwtio tri Gweithiwr Ymyrraeth Anabledd newydd a Gweithiwr Camfanteisio a fydd yn darparu'r gallu ychwanegol i gyflawni hyn.
Mentrau Chwaraeon a Hamdden
Actif Unrhyw Le ar gyfer Ysgoliom
Mae prosiect Actif Unrhyw Le ar gyfer Ysgolion wedi rhoi hwb sylweddol i'r niferoedd sy'n gwneud gweithgareddau corfforol ar draws Sir Gâr, gyda 4,677 o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn 288 o gyfleoedd i wneud gweithgareddau drwy sesiynau sy'n cael eu ffrydio'n fyw a rhai ar alw. Bu i sioe deithiol Nadoligaidd, wedi'i ffrydio'n fyw o ganolfannau hamdden ac wedi'i harwain gan Lysgenhadon Ifanc, greu 45 o gyfleoedd gwirfoddoli a gwella sgiliau arwain ieuenctid. Ar y cyfan, mae'r prosiect wedi gwneud cynnydd ystyrlon wrth hyrwyddo gweithgarwch corfforol a datblygiad ieuenctid ledled y sir.
Chwaraeon a Hamdden Actif
Cynnig a hwyluso mynediad at ystod eang o gyfleoedd i blant a theuluoedd er mwyn gwella eu hiechyd a'u llesiant. Mae ein haelodaeth aelwyd yn ychwanegu gwerth enfawr gyda dau oedolyn a hyd at bedwar o blant yn gallu defnyddio'r canolfannau hamdden i gyd. Rydym wedi derbyn £169,000 o gyllid ychwanegol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i barhau â'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yn y gymuned, yn enwedig mewn mannau gwledig/anodd eu cyrraedd yn Sir Gaerfyrddin, i roi cyfle i bawb fod yn egnïol. Yn 2024/25 cynyddodd presenoldeb mewn rhaglenni hamdden mewn cyfleusterau i bobl ifanc i 357,420 o ymweliadau, lan o 331,357 – twf o 8% flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Rhaglen Nofio Sblash
Gan dargedu plant nad ydynt yn gallu symud ymlaen mewn gwersi nofio ysgol, roedd y rhaglen Sblash chwe wythnos hon yn cefnogi 24 o ddysgwyr, y rhan fwyaf o gefndiroedd difreintiedig. Aeth dros hanner ymlaen i'r lefel nesaf, gyda rhai'n parhau i'r rhaglen 'Dysgu Nofio'. Trwy fynd i'r afael â bylchau mewn mynediad at sgiliau bywyd hanfodol fel nofio, helpodd y fenter i leihau anghydraddoldebau iechyd a diogelwch, gan adeiladu hyder a gwytnwch sy'n gallu dylanwadu'n gadarnhaol ar ganlyniadau hirdymor i'r plant hyn.
Cymorth i Glwb Athletau Llanelli
Trwy Leoedd Actif, ehangodd Clwb Athletau Llanelli ei ddarpariaeth i gynnwys digwyddiadau neidio, nad oedd modd eu darparu cynt o achos prinder adnoddau. Mae'r gefnogaeth hon wedi cynyddu cyfranogiad plant, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig. Trwy gael gwared ar rwystrau ariannol a strwythurol i chwaraeon, mae'r prosiect yn hyrwyddo mynediad cyfartal at gyfleoedd datblygu corfforol, gan helpu i wneud pethau'n decach a chefnogi ffyrdd o fyw iachach, mwy egnïol sydd o fudd i obeithion plant yn y dyfodol.
Menter Grymuso Ieuenctid
Gyda chyllid wedi'i sicrhau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lansiodd Chwaraeon a Hamdden Actif y fenter Grymuso Ieuenctid—rhaglen ymyrraeth gynnar sydd â'r nod o gefnogi pobl ifanc 11-14 oed sydd mewn perygl o gamddefnyddio sylweddau. Cyflawnwyd y prosiect ataliol hwn mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol gan gynnwys Swansea Foundation, Scarlets Community Foundation, nyrsys y GIG, Choices a People Speak Up. Bu i 39 o ddisgyblion o bob rhan o Sir Gâr gymryd rhan yn y rhaglen 16 wythnos, a oedd yn rhoi cyfleoedd ystyrlon iddynt hunan-ddarganfod trwy brofiadau ymgysylltiol a heriol. Roedd y sesiynau yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol gan ddefnyddio ymagwedd oedd yn canolbwyntio ar y plentyn. Anogwyd y sawl oedd yn cymryd rhan i roi ystyriaeth i'w dewisiadau, cynyddu hunan-gymhelliant, gosod nodau personol, a datblygu hunan-barch. Nod y rhaglen hefyd oedd gwella llesiant cyffredinol trwy greu amgylchedd cefnogol lle gallai pobl ifanc dyfu mewn hyder a gwytnwch.
Canlyniad: Mae teuluoedd o gefndiroedd difreintiedig yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth iechyd a llesiant yn eu hardaloedd lleol.
Cefnogaeth Cymorth Cynnar
Rydym wedi bod yn datblygu cynnig effeithiol o Gefnogaeth Cymorth Cynnar ledled Sir Gaerfyrddin i'n Teuluoedd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu Hwb Cymorth Cynnar sy'n dod â thimau ynghyd i weithio gyda'i gilydd yn effeithiol er mwyn cynnig cymorth i deuluoedd ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn. Rydym hefyd wedi cynnal adolygiad systemau i nodi meysydd lle gallwn wella ein cynnig. Rydym wedi datblygu ein Strategaeth Cymorth Cynnar sy'n nodi'n glir y weledigaeth sy'n sail i'n gwaith. Rydym yn parhau i ymgorffori'r dull Cymorth Cynnar ar draws ein holl asiantaethau partner a thimau statudol, ac yn dal i ddod o hyd i ffyrdd o gyrraedd teuluoedd cyn gynted ag y bo modd i'w helpu i ddod o hyd i'w datrysiadau a gwneud y newidiadau y maent am eu gwneud.
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) wedi bod yn diweddaru teuluoedd a gweithwyr proffesiynol am wasanaethau, adnoddau a datblygiadau. Mae gwefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi'i gwella gyda swyddogaethau newydd fel Hysbysfwrdd Teulu, botwm Hygyrchedd, ffurflenni Adborth, a Chalendr Digwyddiadau. Mae hyn wedi arwain at ragor o ymgysylltu â defnyddwyr. Yn ystod y flwyddyn, ymatebodd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i 2,193 o ymholiadau.
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi hyrwyddo digwyddiadau cymunedol trwy ei dudalen Facebook ac wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau allgymorth ledled y sir gydag amrywiol bartneriaid Awdurdod Lleol a thrydydd sector. Yn ystod gwyliau'r haf, cefnogodd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ddigwyddiadau Diwrnod Chwarae Cenedlaethol a Diwrnod Chwarae'r Haf, yn ogystal â'r rhaglen Bwyd a Hwyl yn wyth o ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin. Hefyd cymerodd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ran mewn prosiect peilot Trechu Tlodi yn ardal Aman-Gwendraeth, gan gynnig cymorth a gwybodaeth i deuluoedd mewn angen. Yn ogystal, cefnogodd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ddau ddigwyddiad llwyddiannus 'Hey Come Play' yn ystod hanner tymor mis Chwefror, a chydweithio ar ddiwrnod galw heibio Cymorth Niwrowahaniaeth Gorllewin Cymru, y daeth 170 o bobl iddo.
Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
- Bwyd a Hwyl 2024: Llwyddodd 8 Ysgol Gynradd i gynnal 'Bwyd a Hwyl' dros 12 diwrnod o'r gwyliau haf. Yr ysgolion hyn oedd Y Bedol, Pontyberem, Pen Rhos, Porth Tywyn, Betws, Hen Heol, Myrddin a Llanmilo. Gwnaeth tua 331 o ddisgyblion rhwng 5 ac 11 oed fynychu. Mae 11 ysgol gynradd arall (sy'n cwmpasu 12 carfan) wedi ymrwymo i redeg y rhaglen yn ystod haf 2025.
- Mae ‘People Speak Up’ wedi cael ei ariannu drwy Grant Gwyliau Playworks i gynnal sesiynau chwarae mynediad agored ledled y Sir. Maent wedi cyflwyno sesiynau yn ystod gwyliau ysgol a rhai penwythnosau. Cynhaliwyd 17 sesiwn ar draws chwe lleoliad ar gyfer 58 o blant unigol yn ystod hanner tymor mis Hydref. Yn ystod gwyliau'r Nadolig, cafodd sesiwn ei chynnal mewn naw lleoliad, gyda 37 o blant unigol yn elwa. Cymerodd 63 o blant unigol ran mewn sesiynau ar benwythnosau yn ystod y tymor ar draws pedwar lleoliad.
- Mae prosiect 'Aros a Chwarae' wedi'i dreialu yn Ysgol Ffairfach, sy'n rhedeg bob dydd Mawrth rhwng 3.30pm a 4.15pm yn ystod mis Mawrth 2025.
- Cefnogwyd Meithrinfa Ddydd Andi Pandy i gynnal Archwiliad Chwarae o'r adnoddau mewn dwy o'u hystafelloedd.
- Ym mis Awst 2024, cynhaliodd y Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Gofal Plant a Chwarae gyfres o ddigwyddiadau am ddim i deuluoedd ledled y sir i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Aeth tua 400 o blant i 38 o wasanaethau.
- Cafodd Ludicology ei gomisiynu i helpu'r Tîm Chwarae i gwblhau'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Cynhaliwyd cyfuniad o ymchwil bwrdd gwaith, grwpiau ffocws, ac ymgynghoriadau yn ystod y flwyddyn. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chasglu a'i defnyddio i lywio'r asesiad a'r Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, sydd i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin.
Sesiynau Haf i'r Teulu Actif Llanelli
Mewn cydweithrediad â phum canolfan deulu leol, cyflwynodd Actif Llanelli sesiynau gweithgareddau wythnosol cynhwysol yn ystod gwyliau'r haf, a chymerodd 810 ran ynddynt. Roedd y sesiynau hyn yn darparu cyfleoedd am ddim, hygyrch i blant o gefndiroedd difreintiedig ddatblygu sgiliau corfforol, cymdeithasol ac emosiynol mewn amgylchedd diogel, cefnogol. Trwy alluogi brodyr a chwiorydd a theuluoedd i chwarae gyda'i gilydd, mae'r fenter yn meithrin cysylltiadau teuluol cryfach ac yn helpu i leihau'r hyn sy'n rhwystro cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol strwythuredig. Mae hyn yn cyfrannu at gyfleoedd bywyd a llesiant gwell yn y dyfodol.
Oes unrhyw un ar ei ennill?
Taith Plentyn Maeth yn Sir Gaerfyrddin
I ddathlu Diwrnod Gofal 2025 ar 21 Chwefror, mae bachgen 10 oed sydd wedi bod mewn gofal maeth yn Sir Gaerfyrddin ers ychydig dros ddwy flynedd, wedi rhannu ei gerdd am ei daith deimladwy.
Yn dwyn y teitl 'Fy Mywyd Maeth' mae'r gerdd yn rhoi cipolwg pwerus ar brofiadau G, o'r ansicrwydd o fynd i ofal i ddod o hyd i sefydlogrwydd, llawenydd a pherthyn mewn cartref gofalgar.
Mae Diwrnod Gofal yn ddathliad o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
My Foster Life (Fy Mywyd Maeth)
“I'm nervous, I'm anxious, everything's strange,
My sisters are with me, but it's still a change
These people are strangers, I feel so scared,
I wouldn't be here if only they cared.
The rules are different, this life is new,
Things used to be bad, but it's all I knew,
It seems to get easier every day,
Here, for a football team I get to play.
In foster care I don't have to move school,
And I think the food is really cool,
I don't have to move, and I love the days out,
At Christmas time, they went all out.
One year later, its decision time,
And we will stay in care full time,
They found a family for us all,
Altogether we had a ball.
Foster care is scary, but you need to stay strong,
Eventually you will find where you belong,
I love my new family, and they love me,
Each day is awesome and filled with glee.”
Sut gallwn ni wneud yn well?
Byddwn yn cryfhau ein dull o gefnogi plant a theuluoedd drwy ddatblygu Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd, gan sicrhau bod pawb yn y Cyngor yn deall eu rôl o ran helpu plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal i ffynnu. Bydd ein gwasanaethau cymorth cynnar yn cael eu gwella fel y gall teuluoedd gael mynediad at gymorth yn gynt, gan helpu mwy o blant i aros yn ddiogel gartref. Byddwn yn gweithredu'r Polisi Dyrannu Adnoddau'n Deg ar gyfer plant anabl a'u teuluoedd, gan roi mwy o ddewis a rheolaeth iddynt dros y gefnogaeth maent yn ei derbyn. Yn ogystal â hyn, byddwn ni'n cynyddu capasiti ein gwasanaeth maethu ac yn gwella recriwtio a chadw er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o leoliadau maeth mewnol i ddiwallu anghenion amrywiol plant yn Sir Gaerfyrddin.
Yn Gryno…
Yn ystod y flwyddyn, gwnaed cynnydd ar draws y gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar:
- Newid polisi allweddol oedd gwaredu'r polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed yn ffurfiol yn dilyn adolygiad gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant. Bu i'r newid hwn ysgogi ymgysylltu â darparwyr nad ydynt yn cael eu cynnal a thrafodaethau gyda saith ysgol i ehangu eu hystod oedran i ddarparu ar gyfer y galw yn sgil hyn. Bydd hyn yn dechrau o fis Medi 2025 ymlaen.
- Tyfodd y ddarpariaeth gofal plant hefyd, gyda chynnydd i 218 o ddarparwyr cofrestredig yn cynnig 4,502 o leoedd erbyn mis Mai 2025. Cwblhaodd y rhaglen Dechrau'n Deg ei hail gam ehangu a dechrau cyflwyno cam tri, gyda ffocws ar hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'r diwylliant.
- Cafodd y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd eu cryfhau trwy strwythur wedi'i ailgynllunio a rolau newydd i wella arferion maethu.
- Roedd ymdrechion i gefnogi Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig yn cynnwys alinio lwfansau â gofalwyr maeth ac integreiddio gofalwyr Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig i strwythur Maethu Cymru Sir Gâr.
- O ganlyniad i waith ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r sector gwirfoddol, gwnaed cynnydd o ran y Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar. Roedd hyn yn cynnwys datblygu pecyn e-ddysgu.
- Ymgysylltwyd â'r gymuned drwy ddigwyddiadau wedi'u hariannu gan y Grant Trechu Tlodi, a oedd o fudd i nifer o blant.
- Cefnogodd y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf 9,701 o unigolion drwy 2,704 o atgyfeiriadau, gyda chyfraddau llwyddiant uchel mewn ymyriadau rhianta a chanlyniadau cadarnhaol ar yr Offeryn Pellter a Deithiwyd.
- Er gwaetha'r galw cynyddol a'r cymhlethdod, parhaodd gwasanaethau ymyrraeth gynnar i ddarparu cymorth o safon, er i rai prosiectau adrodd rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau arbenigol fel trais domestig a chymorth therapiwtig. Mae'r rhain yn cael eu rheoli'n weithredol i sicrhau cymorth amserol.
Sut ydyn ni'n gwneud?
- Bu'n rhaid i 9.7% o blant mewn gofal yn Sir Gaerfyrddin yn ystod 2024/25 symud dair gwaith neu ragor yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i 26 o'r 269 o blant, o gymharu ag 8.5% (22 o'r 259) yn 2023/24. Bu cynnydd arall yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal ar 31 Mawrth 2025 i 269 o gymharu â 259 y flwyddyn flaenorol.
- Mae 218 o ddarparwyr gofal plant cofrestredig, sy'n cynnig 4,502 o leoedd gofal plant a ddarperir gan warchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, cylchoedd meithrin, Dechrau'n Deg, clybiau ar ôl ysgol, a chlybiau gwyliau.
- 84.3% oedd y gyfradd bresenoldeb yn y lleoliadau gofal plant di-dâl Dechrau'n Deg a neilltuwyd ar gyfer plant cymwys 2-3 oed i'w paratoi ar gyfer yr ysgol, sef gwelliant ar ganlyniad 2023/24 o 78.1%. Gyda'r lefelau isaf o absenoldeb anawdurdodedig a gofnodwyd hyd yn hyn sef 0.88%. Mae'n galonogol gweld teuluoedd yn adrodd absenoldeb ac yn ymgysylltu â lleoliadau gofal plant wrth adrodd absenoldeb.
- Cafodd 179 o deuluoedd sydd ag anghenion llesiant cymdeithasol ychwanegol ac sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg, ymyriadau amser penodol gan y Tîm Dechrau'n Deg ehangach e.e. Gweithiwr Cymdeithasol, Swyddog Cymorth i Deuluoedd, Gweithiwr Prosiect Cam-drin Domestig neu Fydwraig. Mae hyn yn 98% o'r teuluoedd hynny a atgyfeiriwyd ac yn gynnydd ers 2023/24, pryd derbyniodd 149 ymyriadau amser penodol.
Cynnydd yn erbyn Canlyniadau
Canlyniad: Gwell argaeledd o ran lleoliadau addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar ar draws y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig; gyda ffocws penodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg.
Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed
Yn 2018/19 cwblhawyd Adolygiad Gorchwyl a Gorffen gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant o'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleoedd chwarae.
Un o'r casgliadau a nodwyd yn yr adroddiad oedd bod polisi 'Plant sy'n Codi'n 4 oed' yr Awdurdod yn wahanol iawn i awdurdodau lleol eraill cyfagos a bod y 'Cyngor yn cynnal adolygiad ffurfiol o'i bolisi derbyn presennol ar gyfer addysg llawn amser i blant 4 oed (y polisi plant sy'n codi'n 4 oed).’
Ar ôl ymgynghoriad priodol, penderfynwyd gwaredu'r polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed a bydd hynny'n dod i rym ym mis Medi 2025. Rydym wedi ymgysylltu â'r sector nas cynhelir ac mae sawl darparwr wedi mynegi diddordeb mewn darparu addysg feithrin anstatudol naill ai o fewn neu'n agos at rai o'n hysgolion 4-11. Bydd hyn yn ateb y galw a ragwelir yn sgil yr oedi o un tymor cyn gallu dechrau mewn dosbarthiadau derbyn amser llawn o dan y Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed. Mewn meysydd eraill, rydym wedi dechrau trafodaethau gyda saith ysgol i newid eu hystod oedran o 4 i 11 i 3 i 11 lle mae bylchau yn y ddarpariaeth yn parhau. Dylai'r ddwy broses fod wedi'u cwblhau erbyn mis Medi 2026.
Gofal Plant
Ym Mai 2025 roedd cynnydd yn nifer y darparwyr a'r lleoedd gofal plant, gyda 218 o ddarparwyr gofal plant cofrestredig yn cynnig 4,502 o leoedd gofal plant a ddarperir gan warchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, cylchoedd meithrin, Dechrau'n Deg, clybiau ar ôl ysgol, a chlybiau gwyliau. Ym mis Mehefin 2024, roedd 213 o ddarparwyr a 4,214 o leoedd. Mae adroddiad cryno ein Hasesiad Digonolrwydd Gofal Plant Statudol yn parhau i gael ei rannu gyda darpar-ddarparwyr gofal plant, ac mae hefyd ar gael ar wefan Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Gofal Plant Dechrau'n Deg
Mae ail gam ehangu gofal plant Dechrau'n Deg bellach wedi'i gwblhau. Targedwyd meysydd newydd, gan sicrhau bod y darparwyr gofal plant yn cael eu comisiynu i gofrestru plant cymwys ar gyfer gofal plant. Mae teuluoedd cymwys yn cael eu hysbysu trwy dargedu cardiau post ac yna fe'u gwahoddir i lenwi ffurflen hunan-gofrestru. Mae'r holl ardaloedd ehangu bellach wedi'u cofrestru'n llawn yn Dechrau'n Deg. Mae ein swyddog Iaith Gymraeg wedi dechrau gweithio gyda phob darparwr gofal plant ar draws Dechrau'n Deg i hyrwyddo'r iaith, a diwylliant ac amgylcheddau Cymru. Mae gwaith wedi bod yn digwydd yn barhaus gydag ymweliadau i gefnogi'r darparwyr gofal plant mewn ardaloedd newydd er mwyn hyrwyddo Dechrau'n Deg Sir Gaerfyrddin.
Mae Cam 3 o'r gwaith i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg bellach yn cael ei gyflwyno yn ystod 2025/26. Rydym yn rhagweld y bydd pobl yn dechrau manteisio ar hyn ym Mehefin 2025.
Canlyniad: Cadw plant gartref gyda'u teuluoedd lle bynnag y bo modd.
Ein nod yw atal yr angen am gyfranogiad statudol a chael plant a phobl ifanc i aros gyda'u teuluoedd a'u cymunedau pryd bynnag y mae'n ddiogel gwneud hynny. Os bydd angen cymorth statudol, mae'n flaenoriaeth amddiffyn plant sy'n profi camdriniaeth, esgeulustod, neu niwed arall, neu sydd mewn perygl o'u profi.
Cymorth i Deuluoedd ac Adnoddau
Mae'r maes hwn ar y trywydd iawn i ddarparu set o wasanaethau cydgysylltiedig, ymatebol sy'n darparu adnodd effeithiol i Weithwyr Cymdeithasol ei ddefnyddio. Mae'r cyflawniadau allweddol yn cynnwys y canlynol:
- Mae'r strwythur newydd ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd wedi'i gynllunio trwy gwblhau'r Adolygiad Meddwl trwy Systemau.
- Lluniwyd swyddi newydd a phenodwyd pobl i wella ein hymarfer a'n perfformiad ym maes maethu.
- Rydym yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn targedau cenedlaethol ar gyfer recriwtio gofalwyr maeth er bod prinder sylweddol o leoliadau maeth o hyd.
- Mae strategaeth farchnata maethu wedi cael ei datblygu ac yn cael ei gweithredu. Mae ymgyrch recriwtio ar waith ar hyn o bryd.
Gwarcheidwaid Arbennig
Rydym wedi ceisio gwella trefniadau parhad cynnar trwy sefydlu cydraddoldeb ffioedd a lwfansau rhwng gofalwyr Gwarcheidiaeth Arbennig a gofalwyr maeth, i annog gofalwyr cysylltiedig i fod yn Warchodwyr Arbennig. Mae hyn yn cadw plant gyda'u teuluoedd, allan o ofal, ac maent bellach yn cael eu derbyn i strwythur Maethu Cymru Sir Gâr a'u hasesu ynddo.
Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar
Rydym wedi gweithredu blaenoriaethau allweddol yn y Cynllun Gweithredol Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar, a'r Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar Ranbarthol. Rydym yn symud tuag at fodel cyflawni integredig mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r sector gwirfoddol.
Tîm Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar
Ar hyn o bryd mae 42 o deuluoedd yn derbyn cymorth un-i-un gan Weithwyr Cymorth i Deuluoedd. Mae hyn ar gyfer ystod o anghenion, gan gynnwys anghenion cymdeithasol cymhleth, oedi mewn datblygiad, bwydo babanod, iechyd meddwl rhieni, cymorth tai; neu faterion rhianta cyffredin fel mynd i'r toiled, rheoli ymddygiad, rheoli cysgu neu fod yn ffyslyd wrth fwyta. Cafwyd £15,000 arall o'r Gronfa Fuddsoddi Ranbarthol (RIF) i helpu i gwblhau'r prosiect gordewdra plant. Bu i'r cyllid hwn hwyluso creu cymeriad animeiddiedig o'r enw Gwen, a ddyluniwyd i gyfleu negeseuon allweddol mewn llais plentyn. Bydd y pecyn e-ddysgu ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Trawsnewid Mamolaeth a'r Blynyddoedd Cynnar
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad yn ystod hanner tymor mis Chwefror ar gyfer teuluoedd plant blynyddoedd cynnar. Ariannwyd y digwyddiadau hyn gan Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau Trechu Tlodi. Mynychodd 66 o blant gyda'u teuluoedd, a mynychodd 20 o stondinwyr bob digwyddiad. Mae gwerthusiadau gan deuluoedd yn dangos eu bod yn gwerthfawrogi'r digwyddiadau cymunedol hyn fel ffyrdd o gael gwybodaeth, cwrdd â theuluoedd eraill, a chael mynediad at weithgareddau am ddim i'w plant. Roedd y digwyddiadau'n ddefnyddiol i'r stondinwyr ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd. I gyd, mae 468 o blant wedi elwa ar weithgareddau a ddatblygwyd fel rhan o'r Grant Trechu Tlodi.
Canlyniad: Caiff teuluoedd sy'n wynebu anawsterau eu cynorthwyo i ddarparu cartrefi sefydlog, diogel a sicr i'w plant.
Mae gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol yn parhau i ddarparu cymorth o ansawdd da sy'n cyflawni canlyniadau da i deuluoedd, er gwaethaf yr heriau sy'n ymwneud â'r galw cynyddol a chymhlethdod yr angen.
Yn 2024/25, o fewn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf:
- Cafwyd 2,704 o atgyfeiriadau.
- Cefnogwyd 9,701 o unigolion, gyda 5,140 (53%) ohonynt yn unigolion newydd.
- Agorwyd 693 o Ffurflenni Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd un asiantaeth newydd.
- Caewyd 574 Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd un asiantaeth gyda symudiad ymlaen o 518 (90%) ar yr offeryn pellter a deithiwyd.
- Cafodd 19 o achosion un asiantaeth eu camu i fyny a'u derbyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, a chafodd 127 o achosion eu camu i lawr o'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
- Bu i 97% o'r rhieni elwa o ymyrraeth rhianta.
Mae'r prosiectau wedi wynebu heriau, gan gynnwys galw cynyddol am gymorth ac atgyfeiriadau mwy cymhleth gyda nifer o faterion sy'n gofyn am gefnogaeth dros gyfnod hirach. O ganlyniad, mae gan rai prosiectau restrau aros am fathau penodol o gymorth, gan gynnwys cymorth i blant yr effeithiwyd arnynt gan drais domestig, rhianta, a chymorth therapiwtig (therapi Celf a Chwarae). Mae rhestrau aros yn cael eu monitro a'u rheoli gan brosiectau. Cysylltir â theuluoedd i gydnabod bod atgyfeiriad wedi'i wneud a thrafodir cymorth tra byddant yn aros, lle bo'n briodol. Rhoddir sicrwydd y bydd cymorth yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosibl.
Sut gallwn ni wneud yn well?
Er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, byddwn yn parhau i adolygu dyddiadau derbyn ac ystod oedran ysgolion ledled y sir, ar ôl gwaredu'r polisi Codi'n 4 oed o fis Medi 2025. Byddwn ni'n mynd i'r afael â'r bylchau a nodwyd yn Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022-27, gan gynnwys hyrwyddo a datblygu gofal plant cyfrwng Cymraeg. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn yn cyflwyno Cam 3 ehangu gofal plant Dechrau'n Deg yn ystod 2025/26, gan sicrhau bod mwy o deuluoedd yn gallu cael mynediad at addysg a gofal plant o ansawdd da ble bynnag maent yn byw.
Yn Gryno
Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwnaeth adran Addysg Sir Gaerfyrddin gynnydd sylweddol o ran hyrwyddo addysg gynhwysol o ansawdd da er gwaethaf pwysau ariannol ac effeithiau parhaus y pandemig.
Mae hyn wedi'i gyflawni yng nghyd-destun heriau sylweddol fel gostyngiad yn nifer disgyblion a phwysau ariannol sylweddol ar draws ein system addysg. Mae hefyd wedi digwydd ar adeg pryd mae galw cynyddol am wasanaethau, yn enwedig ar ôl y pandemig a chyda newidiadau cymdeithasol ehangach. Mae'r lefelau cynyddol o gymhlethdod ac anghenion plant a phobl ifanc, boed hynny'n Anghenion Dysgu Ychwanegol, Addysg Ddewisol yn y Cartref, presenoldeb, ymddygiad ac ati, yn gofyn am ymateb gwahanol iawn ac yn creu pwysau sylweddol nid yn unig yn ein hysgolion ond yn yr adran Addysg.
Arweiniodd y Gwasanaeth Cynhwysiant y gwaith o gyflwyno diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Llywodraeth Cymru, gan ehangu cymorth arbenigol, yn enwedig ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg ac oedran uwchradd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Rhoddwyd help llaw i'r ysgolion o ran asesu anghenion disgyblion, teilwra cynlluniau dysgu, a chynnwys teuluoedd, gydag Estyn yn canmol gwaith yr Awdurdod.
Roedd addysg ddwyieithog yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gyda mynediad cyfartal i ddarpariaethau Cymraeg a Saesneg, datblygu adnoddau Cymraeg mewnol, a darparu dysgu proffesiynol dwyieithog.
Roedd mentrau fel y rhaglen Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc yn galluogi disgyblion a staff ag ADY i arwain gweithgareddau corfforol cynhwysol.
Fodd bynnag, roedd presenoldeb yn broblem barhaus, gyda Sir Gaerfyrddin yn cofnodi'r cyfraddau isaf yng Nghymru. Gan ymateb, mae'r Cyngor wedi lansio strategaethau a dargedwyd i dynnu sylw at bwysigrwydd presenoldeb rheolaidd ac mae'n gweithio'n agos gydag ysgolion. Mae nifer y disgyblion sy'n cael Addysg Ddewisol yn y Cartref hefyd wedi parhau i gynyddu'n raddol yn unol â'r patrwm ledled Cymru dros y degawd diwethaf. Ar ddiwedd 2024/25, roedd 694 o ddysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref wedi'u cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.
Cafodd y gefnogaeth i ddysgwyr agored i niwed ei gwella trwy well cydweithio rhwng amlasiantaethau.
Mae datblygu'r cwricwlwm yn cyd-fynd â Chwricwlwm Cymru, gan hyrwyddo dysgu cynhwysol, cymunedol sydd â phwyslais ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol.
Er bod canlyniadau TGAU a Safon Uwch wedi gostwng ychydig yn is na'r lefelau cyn y pandemig, roeddent dal yn gystadleuol yn genedlaethol.
Gwnaed penodiadau allweddol ar ddiwedd 2024/25 i fwrw ymlaen â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP), ac ailsefydlwyd partneriaeth strategol gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Hefyd gwelodd y seilwaith ysgolion welliannau gyda buddsoddiadau'n cael eu gwneud drwy'r Rhaglen Moderneiddio Addysg, gan gynnwys cyfleusterau newydd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ADY.
Sut ydyn ni'n gwneud?
- Mae'r Cyngor yn cynnal 1 ysgol feithrin, 94 ysgol gynradd, 12 ysgol uwchradd ac 1 ysgol arbennig. Mae'r rhain yn darparu addysg i dros 27,000 o ddisgyblion.
- Ar ddiwedd mis Mawrth 2025 roedd gan gyllidebau ysgolion ddiffyg net cyffredinol o £1.8m er gwaethaf gwarchod cyllidebau ysgolion yn gymharol dros y degawd diwethaf. Rhagwelir y bydd y pwysau hwn ar y gyllideb yn cynyddu ymhellach.
- Ymatebodd ychydig dros 3,500 i'n harolwg preswylwyr 2024. Yn gyffredinol, mae'r ymatebwyr yn cytuno bod ysgolion lleol yn darparu addysg dda i blant a phobl ifanc, gyda sgôr o 0.27. 2 Serch hynny, mae'r sgôr wedi gostwng yn sylweddol o'r flwyddyn flaenorol (0.41), gydag 20% o'r ymatebwyr yn anghytuno.
- Mae nifer y rhai sy'n gadael Blwyddyn 11 nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) yn ystod 2024/25 wedi cynyddu eto gyda 2.4% (51 allan o 2,083) o gymharu â 2.3% (46 allan o 1,987) y flwyddyn flaenorol.
Cynnydd yn erbyn Canlyniadau
Canlyniad: Mae disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cefnogi'n llawn.
Addysg
Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn rhan annatod o wasanaeth rheng flaen yr Awdurdod Lleol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n wasanaeth sydd â chyfrifoldebau statudol ac sy'n darparu cymorth ac ymyrraeth lle bo angen.
Mae'r Cyngor wedi gweithredu rhaglen trawsnewid ADY Llywodraeth Cymru i gefnogi system ADY newydd sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n cefnogi dysgwyr drwy ddysgu wedi'i bersonoli, er mwyn cyflawni canlyniadau effeithiol. Fodd bynnag, mae hyn mewn sefyllfa o gyni ariannol ac o adfer yn dilyn covid. Mae tîm cymorth canolog y Cyngor yn sicrhau bod ysgolion yn meithrin capasiti i nodi anghenion yn gynnar, gwneud y ddarpariaeth gywir, ac yna monitro ac adolygu'r ddarpariaeth hon. Mae ysgolion wedi bod angen cymorth sylweddol gan yr Adran ADY i gyflawni'r disgwyliad hwn oherwydd toriadau cyllidebol a disgwyliadau newydd ar Gydlynwyr ADY ac athrawon dosbarth. Roedd y galw cynyddol ac annisgwyl am leoliadau awtistig wedi golygu bod angen defnyddio adnoddau adrannol a nodwyd ar gyfer twf i ddarparu ymateb amserol i ddatblygu darpariaeth arbenigol newydd. Roedd y ddarpariaeth newydd yn llenwi'r bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth arbenigol anhwylder sbectrwm awtistiaeth cyfrwng Cymraeg ac uwchradd. Mae'r sefyllfa hon wedi golygu bod adnoddau i gefnogi adeiladu capasiti yn ein hysgolion prif ffrwd i ddiwallu anghenion dysgwyr wedi'u cyfeirio at ddarpariaeth arbenigol, gan effeithio ar allu'r adran i gyrraedd targedau ar gyfer cryfhau arferion cynhwysol.
Mae strategaeth y Cyngor ar ADY yn datgan bod addysg gynhwysol yn golygu bod yr holl blant a phobl ifanc yn cael cwricwlwm wedi'i bersonoli a rhwydweithiau cymorth priodol. Rydym wedi ymrwymo i'r gred mai 'dysgu cynhwysol' yw'r arfer gorau mewn addysgu a dysgu. Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar gefnogi ysgolion yn y meysydd allweddol canlynol:
- Asesu cryfderau ac anghenion yn fanwl;
- Cynllunio'n effeithiol i adeiladu ar gryfderau ac i fynd i'r afael â'r meysydd lle mae angen;
- Mabwysiadu dulliau addysgegol o optimeiddio dysgu unigol;
- Cynnwys plant wrth osod eu nodau dysgu a gwerthuso eu cynnydd tuag at dargedau y cytunwyd arnynt;
- Cadw mewn cysylltiad â rhieni er mwyn rhoi gwybod iddynt am gynnydd eu plentyn, a'u cynnwys wrth iddynt gefnogi dysgu eu plentyn;
- Gwerthuso cynnydd plentyn unigol a chynnydd grwpiau a dosbarthiadau;
- Mireinio'r dull o addysgu a dysgu gan roi ystyriaeth i werthuso;
- Cadw cofnodion systematig i adrodd cynnydd ac i alluogi ymarfer myfyriol.
Mae llwyddiant yn cael ei dystiolaethu gan fod ysgolion yn gwneud dyfarniadau sy'n statudol gywir mewn perthynas ag ADY ac yn gweithio'n dda gyda theuluoedd a dysgwyr. Mae hyn yn golygu mai prin yw'r achosion pan fo'n rhaid i'r Cyngor ailystyried penderfyniadau.
Lluniodd Estyn Adroddiad Thematig ar y system ADY yng Nghymru ym mis Tachwedd 2024, gan dynnu sylw at arfer da mewn ADY yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.3
Mae Sir Gaerfyrddin yn awdurdod lleol dwyieithog, lle mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael statws cyfreithiol cyfartal a chydraddoldeb. Wrth ystyried y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion, boed hynny mewn ysgolion dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg, cytunir bod y ddwy iaith yn cael eu hystyried yn unol ag anghenion y plentyn.
Mae darpariaeth arbenigol gan yr awdurdod lleol drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu'n ddwyieithog. Yn ddiweddar, maent wedi agor tri dosbarth arbenigol cynradd i ddisgyblion ag awtistiaeth mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, sy'n darparu darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a/neu'n ddwyieithog.
Mae cyfran sylweddol o ddisgyblion ag ADY yn cael addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys disgyblion o gartrefi Cymraeg iaith gyntaf, dwyieithog, di-Gymraeg ac amlieithog. Er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn nodi proffil iaith ac anghenion plant a phobl ifanc yn glir, mae pob disgybl yn cynnal asesiad gwaelodlin i sicrhau bod man cychwyn eu taith ddysgu yn cyd-fynd yn iawn ag anghenion iaith a dysgu y plentyn.
Mae'r asesiad hwn yn cael ei gynnal yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r awdurdod lleol yn darparu Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, gan ddiwallu anghenion iaith disgyblion unigol.
Fel sy'n digwydd yn genedlaethol, mae'r awdurdod lleol yn nodi bod mynediad at adnoddau ac asesiadau Cymraeg yn rhwystr parhaus. Fodd bynnag, mae Sir Gaerfyrddin wedi goresgyn hyn yn llwyddiannus, trwy greu adnoddau yn fewnol neu gyfieithu adnoddau i gefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol eraill. Dros nifer o flynyddoedd mae wedi datblygu llyfrgell o adnoddau a dogfennau sy'n rhoi cyngor/arweiniad er mwyn cefnogi ysgolion i ddarparu darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r holl ddysgu proffesiynol yn cael ei gyflwyno yn ddwyieithog gan yr adran ADY a chynhwysiant. Lle mae gwasanaethau allanol yn darparu hyfforddiant na ellir ei gyflwyno'n ddwyieithog, maent yn darparu gwasanaethau cyfieithu, ac mae'r holl ddogfennaeth a sleidiau cysylltiedig yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg.
Mae Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu ei dosbarthiadau arbenigol o 38 lle i 62. Mae gan y rhan fwyaf o leoliadau arbenigol staff sy'n gallu cynnig cymorth os oes angen drwy gyfrwng y Gymraeg neu gellir ystyried gwella'r cymorth a gynigir drwy gyllid ychwanegol. Nid yw disgyblion yn eu dosbarthiadau arbenigol yn cael eu heithrio rhag y Gymraeg, defnyddir dull gwahaniaethol sy'n canolbwyntio ar y disgybl yn unol â'r modd yr addysgir pob pwnc.
Mentrau Chwaraeon a Hamdden
Rhaglen Llythrennedd Corfforol
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Tîm Pobl Ifanc Egnïol Actif wedi parhau â'i waith effeithiol yn cefnogi Unedau ADY Cynradd, tra hefyd yn ehangu i Unedau ADY Uwchradd. Mae'r fenter hon yn mabwysiadu dull ysgol gyfan i wella hyder a chymhwysedd staff wrth ddarparu sesiynau gweithgarwch corfforol cynhwysol trwy'r Rhaglen Llythrennedd Corfforol. Trwy gyfuniad o hyfforddiant a mentora, mae staff ysgol wedi datblygu'r sgiliau a'r sicrwydd sydd eu hangen i deilwra sesiynau gweithgarwch corfforol i anghenion amrywiol eu disgyblion. O ganlyniad, mae wyth uned ADY ychwanegol wedi elwa ar y gefnogaeth hon yn ystod y flwyddyn.
Rhannodd un o'r unedau sy'n cael eu cefnogi ei gwerthfawrogiad:
“Diolch i chi am eich mewnbwn a'ch adnoddau, sydd wedi gwella ein sesiynau Addysg Gorfforol yn fawr.”
— Canolfan Amanwy
Mae'r adborth hwn yn dangos llwyddiant y rhaglen wrth rymuso addysgwyr a chyfoethogi'r profiad addysg gorfforol i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol.
Rhaglen Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc
Mae'r Tîm Pobl Ifanc Egnïol Actif wedi lansio menter arweinyddiaeth gynhwysol newydd sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer disgyblion ag ADY ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhaglen hyfforddi Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc yn darparu cyfleoedd cyfartal i fyfyrwyr ADY ymgymryd â rolau arwain mewn chwaraeon, gan hyrwyddo hyder, cyfrifoldeb a chynhwysiant. Mae'r rhaglen bwrpasol hon wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion amrywiol disgyblion ADY, gan gynnig lefelau amrywiol o gyfrifoldeb a hyfforddiant ymarferol mewn arwain gweithgareddau corfforol. Mae'r dull wedi'i gynllunio i rymuso myfyrwyr trwy adeiladu eu hyder a'u galluogi i gyfrannu'n ystyrlon yn eu cymunedau ysgol. Mae'r canlyniadau cychwynnol yn addawol. Yn Uned Elfed Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, cwblhaodd dau fyfyriwr eu hyfforddiant fel Llysgenhadon ym mis Ionawr 2025. Ers hynny, maent wedi mynd ati i drefnu a chyflwyno sesiynau chwaraeon, gan gynnwys digwyddiadau criced bwrdd a gemau pêl-droed cynhwysol yn ystod amseroedd egwyl. Mae eu cyfranogiad nid yn unig wedi gwella eu sgiliau arwain ond hefyd wedi meithrin empathi, gwaith tîm, ac ymdeimlad o berthyn ymhlith eu cyfoedion. Mae'r llwyddiannau cynnar hyn yn amlygu potensial y rhaglen i greu effaith barhaol. Golyga'r mentora parhaus gan staff Actif a'r brwdfrydedd cynyddol ymhlith cyfranogwyr fod Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc sydd ag ADY yn datblygu i fod yn fodelau rôl cadarnhaol yn eu hysgolion.
Wrth edrych ymlaen, y nod yw ehangu'r rhaglen i gynnwys unedau ADY o bob ysgol gynradd ac uwchradd ledled y sir, gan sicrhau bod pob disgybl yn gallu arwain, ysbrydoli a ffynnu trwy chwaraeon.
Hyfforddiant Llythrennedd Corfforol
Mae Tîm Pobl Ifanc Actif wedi parhau i gryfhau hyder staff ysgolion cynradd wrth ddarparu chwaraeon ysgol ac addysg gorfforol o safon drwy Hyfforddiant Llythrennedd Corfforol. Ers lansio'r rhaglen, mae'n cyrraedd 20% yn ychwanegol, gyda 70% o ysgolion bellach yn elwa ar hyfforddiant a mentora pwrpasol. Mae'r gefnogaeth hon wedi bod yn allweddol wrth wella capasiti staff a'r ddarpariaeth gyffredinol o ran addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion.
Wrth edrych ymlaen, bydd y ffocws ar gynnal y cynnydd hwn trwy gynnig cymorth parhaus trwy adnoddau wedi'u diweddaru a chyfleoedd hyfforddiant gloywi.
Canlyniad: Cynyddu cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion a mynediad i addysg ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed.
Presenoldeb
Mae lefelau presenoldeb yn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn bryder. Ar hyn o bryd rydym yn safle 22 allan o 22 awdurdod lleol ar gyfer cyfraddau presenoldeb. Mae amryw ddulliau strategol ar waith, gyda'r nod o helpu ysgolion i wella eu cyfraddau presenoldeb disgyblion.
Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
Darperir cefnogaeth sylweddol i ysgolion, disgyblion a theuluoedd, wedi'i thargedu at y rheiny sydd fwyaf agored i niwed. Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd gan sicrhau bod yr holl 'gymorth cynnar' sydd ei angen ar gael.
Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion
Yn ôl ysgolion, mae effaith y gweithwyr ieuenctid yn sylweddol o ran cefnogi dysgwyr i gymryd rhan mewn bywyd ysgol. Mae'r gwasanaeth hwn a ariennir gan grant yn cael effaith sylweddol ar atal plant a phobl ifanc rhag ymwneud â'r system gyfiawnder hefyd. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth mewn perygl oherwydd toriadau mewn grantiau.
Ffocws Bugeiliol
Mae cynnydd wrth adolygu systemau bugeiliol yn parhau, gyda'r nod o greu gwell ymdeimlad o berthyn ymhlith dysgwyr. Mae hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol yn cael ei ddatblygu, gan ganolbwyntio ar gywirdeb systemau cofrestru, yn ogystal ag ar ethos arferion bugeiliol i ennyn ymdeimlad o 'berthyn.’ Mae'r tîm cymorth ymddygiadol yn parhau i ddarparu ystod o gymorth ar sail dulliau adfer a dulliau sy'n ystyriol o drawma. Mae'r holl benaethiaid uwchradd wedi cael cyfle i ymgysylltu'n uniongyrchol ag arweinydd y tîm i amlinellu pryderon a'r gefnogaeth sydd ei hangen. Yn ogystal mae'r Tîm sy'n ymwneud â Disgyblion, Rhieni ac Ysgolion (TAPPAS), ymateb amlasiantaethol i anghenion strategol neu unigol disgyblion, yn parhau i gryfhau yn unol â blaenoriaethau ysgolion unigol. Mae gweithgor sy'n myfyrio ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yn parhau i adeiladu momentwm, gan greu pecyn cymorth i ysgolion ei ddefnyddio wrth fynd i'r afael â phryderon ynghylch cyfryngau cymdeithasol a defnyddio ffonau symudol.
Ymgysylltu â Dysgwyr
Mae cyfleoedd cwricwlwm sy'n anelu at ennyn diddordeb dysgwyr yn parhau i esblygu, gan gryfhau gwaith sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae'r effaith ar ddisgyblion sy'n cymryd rhan yn gadarnhaol. Mae gwaith datblygu cwricwlwm ehangach dan arweiniad y Cyngor, sy'n cynnwys gweithio yn yr awyr agored, yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan athrawon ac mae'n parhau i gryfhau profiadau dysgu a dulliau addysgol. Mae rhannu digwyddiadau ac annog dysgu gan gymheiriaid rhwng ysgolion, yn dal i fod yn agwedd allweddol ar y strategaeth hon.
Llais y Dysgwr
Mae gweithgor strategol dan arweiniad y gwasanaeth Ieuenctid wedi'i sefydlu, gyda'r nod o ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc i ddeall eu barn am bresenoldeb yn yr ysgol a diffyg presenoldeb yn yr ysgol. Bydd eu barn yn cael eu hystyried wrth ddatblygu gweithredoedd a strategaeth gefnogol.
Gweithgarwch Marchnata
Cynhaliodd yr Adran Addysg ymgyrch Colli Ysgol: Colli Cyfle ar ddechrau'r Flwyddyn Academaidd ym mis Medi. Cynlluniwyd yr ymgyrch i danlinellu i rieni bwysigrwydd presenoldeb ysgol, ac roedd negeseuon yr ymgyrch yn cynnwys:
- Nod yr ymgyrch hon yw atgoffa ac annog plant, pobl ifanc a'u teuluoedd nad yw'n dderbyniol colli ysgol ar ddiwrnod penodol, neu am gyfnod penodol o amser.
- Dylai plentyn fynychu'r ysgol am nifer o resymau, gan gynnwys cwrdd â'i ffrindiau, meithrin perthnasoedd, a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddysgu a datblygu.
- Mae presenoldeb ysgol rhagorol yn caniatáu i blentyn ddatblygu fel dysgwr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu trwy gydol ei fywyd.
- Bydd mynd i'r ysgol yn helpu plentyn i fod yn gyfrannwr mentrus a chreadigol, sy'n barod i weithio a byw mewn modd cyflawn, ac yn ei alluogi i aeddfedu fel dinesydd moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.
- Mae plant a phobl ifanc hefyd yn fwy tebygol o ddod yn unigolion iach a hyderus os ydynt yn mynychu'r ysgol, yn barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
- Mae'r Cyngor Sir yn deall bod gan rai plant anghenion cymhleth a rhesymau penodol pam ei bod ar rai adegau yn anodd iddynt fynychu’r ysgol. Gall pob un o'n hysgolion gefnogi plentyn a rhiant/rhieni neu warcheidwaid i fynd i'r afael â'r anawsterau hynny.
Yn Sir Gaerfyrddin, nid yw presenoldeb ysgolion mor uchel eto ag yr oedd cyn COVID. Trwy'r ymgyrch 'Colli Ysgol: Colli Cyfle' bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda rhieni a gwarcheidwaid, ysgolion, athrawon a staff cymorth i wella presenoldeb ysgolion er lles Sir Gaerfyrddin, ein plant a'n pobl ifanc yn y dyfodol.
Dysgwyr agored i niwed
Er bod pob ysgol yn cael cefnogaeth i adolygu'r cynnydd a wnaed gan bob disgybl, mae gan y Cyngor systemau cadarn i nodi a mesur y cynnydd a wnaed gan grwpiau penodol o blant. Mae'r rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
Yn ystod y flwyddyn, mae gwaith wedi bod yn digwydd i ddatblygu ffordd fwy effeithiol o allu ystyried defnyddio'r Proffil Asesu Bod yn Agored i Niwed i gynorthwyo i adnabod dysgwyr 'agored i niwed' perthnasol. Mae'r trafodaethau wedi cynnwys uwch-reolwyr ar draws yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant.
Mae'r Proffil Asesu Bod yn Agored i Niwed yn hanfodol i'r modd mae Sir Gaerfyrddin yn gweithredu'r Fframwaith Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid. Ceir Cydlynydd Ymgysylltu a Chynnydd dynodedig sy'n gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid e.e. Gyrfa Cymru, ysgolion, a dysgu seiliedig ar waith, er mwyn casglu a gwirio data misol i nodi pobl ifanc 16 i 18 oed perthnasol sydd angen cymorth i gael cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Bwriad y dull adnabod cynnar hwn yw cefnogi a chynorthwyo dysgwyr a allai gyflwyno ystod o anghenion. Y nod yw gweithio fel partneriaid i geisio mynd i'r afael ag anghenion cymorth (iechyd, teulu, perthnasoedd, presenoldeb, ac ati) i gyflawni canlyniadau mwy ffafriol.
Tîm Cymunedol Cymorth Ymddygiad (BSCT)
Mae'r Tîm Cymunedol Cymorth Ymddygiad wedi meithrin cysylltiadau â'i ysgolion dynodedig, ac mae gan bob un athro arbenigol cyswllt a chynorthwyydd addysgu arbenigol cyswllt. Trwy TAPPAS a chyfarfodydd ymgynghori ar y cyd â'n cydweithwyr Addysg a Seicoleg Plant, mae ysgolion yn cynllunio ac yn nodi'r hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Mae gan ysgolion hefyd fynediad uniongyrchol i drafod anghenion newydd sy'n dod i'r amlwg trwy gydol y flwyddyn. Mae prosesau casglu data a sicrhau ansawdd bellach ar waith. Mae hyn yn caniatáu dadansoddi anghenion hyfforddi a'r galw ar draws y Sir i sicrhau bod y tîm yn gallu cynllunio a darparu hyfforddiant a chymorth, ar ôl ystyried tueddiadau a ddaw i'r amlwg ymlaen llaw. Mae cyngor ac arweiniad am wahardd yn cael ei groesawu gan ysgolion trwy ein Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Ymddygiad Cam 2. Yn ei dro, mae'r rôl hon yn cael cefnogaeth ac arweiniad gan banel newydd o uwch-swyddogion a rheolwyr – y Panel Cyngor ar Wahardd. Maent yn rhoi arweiniad o ran y gwaharddiad ei hun ac yn cefnogi'r opsiynau sydd ar gael i ddiogelu'r rhai sy'n gysylltiedig er mwyn lliniaru unrhyw risg yn y dyfodol. Mae'r Tîm Cymunedol Cymorth Ymddygiad yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion ar weithredu Asesiadau Risg Unigol a Chynlluniau Cymorth Bugeiliol.
Addysg a Llesiant
Mae'r Tîm Addysg a Llesiant yn sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael mynediad at addysg briodol mewn lleoliad lle maent yn ddiogel, a lle mae eu hanghenion yn cael eu diwallu. Mae'r Tîm wedi rhoi hyfforddiant i 205 o unigolion, gan gynnwys : staff ysgol, llywodraethwyr ysgol, gofalwyr maeth, Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA), a gweithwyr cymdeithasol, i ddatblygu dealltwriaeth o effaith trawma ar ddysgu a rhoi strategaethau ymarferol i gefnogi dysgwyr sy'n Blant sy'n Derbyn Gofal yn yr ysgol. Mae'r tîm yn darparu cymorth wythnosol i ysgolion, gan uwchsgilio a chefnogi staff sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda'n dysgwyr sy'n Derbyn Gofal, i'w helpu gyda strategaethau i ymdopi'n well yn yr ystafell ddosbarth, trefnu eu gwaith, a deall eu hemosiynau. Trwy dymor yr haf, fe wnaethom nodi dysgwyr a fyddai'n pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, a sicrhau bod y plant hyn yn cael ymweliadau ychwanegol, yn cwrdd â staff newydd, ac yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus yn eu lleoliad newydd. Rydym mewn cysylltiad agos â'r tîm ymadael â gofal ac yn cwrdd yn rheolaidd i rannu gwybodaeth am ein dysgwyr sy'n agosáu at ddiwedd eu haddysg orfodol. Rydym yn sicrhau bod gan bob un ohonynt gynllun unigol a chynorthwyydd personol sy'n cyd-fynd yn dda i'w cefnogi gyda'r camau nesaf yn eu taith ddysgu a gwaith. Mae'r Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion yn cefnogi'r disgyblion i oresgyn rhwystrau pan fydd eu presenoldeb mewn ysgolion yn disgyn o dan 80%. Maent hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r person ifanc, gan drefnu cyfarfodydd rhwng rhieni, y disgybl, a'r ysgol, cefnogi teuluoedd gyda threfniadau a strwythur, a'r cyfan wrth fynd i'r afael â'r pryderon presenoldeb.
Dysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref
Mae nifer y plant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref yng Nghymru wedi tyfu'n sylweddol o 1.6 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2009/10 i 13.0 fesul 1,000 yn 2023/24. Ar hyn o bryd, mae gan Sir Gaerfyrddin 694 o ddysgwyr addysg ddewisol yn y cartref wedi'u cofrestru.
- Mae'r strategaeth 'Addysg Ddewisol yn y Cartref' yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd gan y tîm Ysgolion, Myfyrwyr ac Athrawon (SSAT).
- Mae rheidrwydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod disgyblion nad ydynt wedi'u cofrestru mewn ysgolion yn derbyn addysg addas, i asesu addasrwydd addysg a ddarperir gan rieni, ac i gydweithio ag adrannau eraill i roi cymorth.
- Mae ymgynghorwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref yn cadw mewn cysylltiad â theuluoedd i sicrhau addysg o safon ac i fynd i'r afael â phryderon. Nid oes dim Gorchmynion Presenoldeb Ysgol wedi'u cyflwyno yn ystod y tair blynedd diwethaf, sy'n dangos cydweithrediad gan deuluoedd.
- Darperir dosbarthiadau ac adnoddau amrywiol i gefnogi dysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref, a ariennir gan Grant Addysg yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau a deunyddiau dysgu i wella profiadau addysgol.
- Mae addysg hyblyg yn caniatáu i blant fynychu'r ysgol yn rhan-amser tra'n cael eu haddysgu gartref. Fodd bynnag, mae'r trefniant hwn yn ôl disgresiwn y pennaeth ac nid yw'n cael ei warantu.
- Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau blynyddol i gefnogi ymgynghorwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref ac i gynorthwyo teuluoedd gyda chostau addysgol, gan sicrhau hyblygrwydd i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref.
Canlyniad: Cyflwyno cwricwlwm cyflawn sy'n codi safonau addysgol.
Cwricwlwm
- Wedi'i gyd-gynllunio gan athrawon a disgyblion, mae cwricwlwm dysgu sy'n seiliedig ar Gwricwlwm Cymru bellach wedi'i sefydlu ledled Sir Gaerfyrddin. Mae profiadau dysgu yn ein hysgolion yn gynhwysol ac yn bwrpasol, ac yn anelu at leihau effaith tlodi.
- Yn fwyfwy, mae profiadau dysgu yn cael eu cysylltu'n bwrpasol â'r gymuned leol, 'ein cynefin', gan sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth gyfoethog o'u hardal leol a'u treftadaeth.
- Mae gennym gysylltiadau cryf ers meitin â Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin ac Oriel Myrddin. Mae'r cymorth cydweithredol, trawsadrannol hwn yn cynnwys rhannu gwybodaeth ag ysgolion am raglenni addysg sydd ar ddod a chysylltu'n uniongyrchol â swyddogion addysg yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ac Archifau Sir Gâr.
- Mae ein hysgolion yn helpu plant a phobl ifanc yn effeithiol i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau, tra'n datblygu eu sgiliau dwyieithog Cymraeg a Saesneg yn effeithiol. Mae ystod eang o brofiadau dysgu yn sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn datblygu eu sgiliau menter a meddwl creadigol, gan sicrhau eu bod yn wybodus am Gymru a'r byd.
- Mae ymgysylltu â phrofiadau a gweithgareddau dysgu yn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn datblygu fel unigolion hyderus ac iach, gan fwyhau cyfleoedd i ddysgu yn yr ysgol, tu allan, ac yn ein hamgylchedd lleol.
- Mae'r meysydd dysgu a phrofiad yn cynnwys ffocws ar ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; gwyddoniaeth a thechnoleg; mathemateg a rhifedd; celfyddydau mynegiannol; y dyniaethau; ac iechyd a llesiant.
- Mae'r cwricwlwm hefyd yn datblygu gwybodaeth disgyblion am hawliau dynol, perthnasoedd priodol a rhywioldeb, amrywiaeth, a pharchu gwahaniaethau, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth am yrfaoedd a'r gweithle.
Mae ysgolion yn cael eu cefnogi i gryfhau eu harferion addysgu a sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu diwallu'n effeithiol. O ganlyniad, mae ansawdd yr addysgu yn gadarn neu'n well mewn llawer o ysgolion, gan sicrhau bod cynnydd disgyblion yn unol â disgwyliadau uchel athrawon. Mae cynnydd a safonau disgyblion yn cael eu monitro ar y cyd, ac mae ysgolion yn derbyn cymorth i sicrhau eu bod yn gallu mynd i'r afael â'u blaenoriaethau datblygiadol. Y meysydd ffocws allweddol o hyd yw datblygu sgiliau disgyblion mewn llythrennedd, rhifedd a digidol, gan gynnwys sut maent yn defnyddio'r sgiliau hyn ar draws ystod eang o feysydd pwnc. Mae cynnydd disgyblion unigol yn parhau i fod yn ffocws allweddol, gyda chynllunio sy'n canolbwyntio ar y person yn sail i brofiadau dysgu ar draws llawer o ysgolion. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY ac mewn grwpiau penodol, yn gwneud cynnydd da dros amser wrth ddatblygu sgiliau yn eu blynyddoedd cynnar, mewn rhifedd, llythrennedd, a sgiliau digidol.
Ein blaenoriaethau diwygiedig ar gyfer 2024/25 oedd:
- Cryfhau cynnydd ac ymgysylltiad disgyblion trwy systemau bugeiliol effeithiol, addysgu, a chwricwlwm diddorol, yn enwedig yn y sector uwchradd;
- Datblygu sgiliau arwain ar bob lefel wrth werthuso cynnydd sgiliau disgyblion, ac wrth gynllunio a chyflawni cynnydd disgyblion;
- Datblygiad proffesiynol Athrawon Newydd Gymhwyso, Cynorthwywyr Addysgu, ac arweinwyr y dyfodol;
- Ffocws sylweddol gan y Tîm Gwella Ysgolion ar hunanwerthuso a monitro dysgu proffesiynol.
Canlyniadau
Mae'r Tîm Gwella Ysgolion, sy'n cynnwys Ymgynghorwyr Cymorth Addysg ac Ymgynghorwyr Cymorth Addysg Cysylltiol, yn gweithio ochr yn ochr â phenaethiaid, uwch-arweinwyr, athrawon a llywodraethwyr ysgol yn ystod eu prosesau hunanwerthuso. Mae hyn yn datblygu dealltwriaeth gref o gryfderau'r ysgol, meysydd datblygu, ac effaith addysgu ar gynnydd a dysgu disgyblion.
Crynodeb Arolygiad Estyn
Crynodeb o Ganlyniadau Estyn 2017-2025
Cyflwynodd Estyn fframwaith arolygu newydd ym mis Mawrth 2022 ac nid yw bellach yn darparu dyfarniadau crynodol ar gyfer meysydd arolygu unigol. Gall arolygwyr barhau i osod ysgol mewn Adolygiad Estyn os ydynt yn barnu y byddai'r ysgol yn elwa o gyfnod byr i wella rhai agweddau ar ei gwaith. Mae'r ddau gategori statudol o gamau dilynol yn parhau heb newid. Dyma pryd mae angen gwelliant sylweddol ar ysgolion neu lle mae angen mesurau arbennig arnynt.
Rydym eisiau lleihau cyfran yr ysgolion sydd angen camau dilynol ar ôl arolygiad Estyn.
- Ym mis Mawrth 2022, ailgychwynnodd Estyn arolygiadau ysgolion yn dilyn y pandemig. Mae llawer o'n hysgolion heb fod yn destun unrhyw waith dilynol, a phrin yw'r rhai mewn categori. Bron ym mhob achos, mae canlyniadau Estyn a dealltwriaeth yr adran o gryfderau ysgolion a'r meysydd i'w gwella yn cyd-fynd yn agos.
- Cafodd ysgol ychwanegol ei harolygu ym mis Mawrth 2025, ond ni chyhoeddwyd yr adroddiad tan fis Mai 2025. Nid yw’r canlyniadau wedi'u cynnwys yn y tabl uchod.
- Nodwyd pedair astudiaeth achos arfer da yn ein harolygiadau rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025.
- Bernir bod yr ysgol a roddwyd mewn Gwelliant Sylweddol ym mis Medi 2023 yn gwneud cynnydd da ond mae'n parhau i fod yn y categori oherwydd arweinyddiaeth ansefydlog. Mae'r tri a roddwyd mewn Mesurau Arbennig yn 2023/24 yn parhau i fod yn y categori ond bernir eu bod yn gwneud cynnydd da mewn perthynas â'u hargymhellion.
Cyrhaeddiad
Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da dros amser. Mae lefel yr her yn Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu'n sylweddol fel y gwelir yn y cyd-destun isod. Dyma ganlyniadau data arholiadau 2024.
Yn 2024, mae'r lefel prydau ysgol am ddim ar gyfer Sir Gaerfyrddin 6.1 pwynt canran yn uwch na 2019, ond ledled Cymru dim ond 3.9 pwynt canran yw'r cynnydd hwn wedi bod.
TGAU
- Yn 2024, mae canlyniadau yn Sir Gaerfyrddin yn uwch na chanlyniadau cenedlaethol Cymru ar raddau A* i C, a dim ond ychydig yn is na'r canlyniadau cenedlaethol ar raddau A* i A.
- A* i C oedd 66.9% o'r graddau yn 2024, sy'n ostyngiad bach o 0.9 pwynt canran o gymharu â 2023. Mae hyn yn llai na'r gostyngiad ledled Cymru o 2.8 pwynt canran. Fodd bynnag, mae canlyniadau A* i C yn is nag yn 2019 (cyn y pandemig).
- Mae 20.2% o'r graddau yn rhai A* i A sydd ond ychydig yn is na 2019 a'r data cenedlaethol cyfredol o 20.6%. Mae hyn yn adlewyrchu'n dda yr her prydau ysgol am ddim ychwanegol yn Sir Gaerfyrddin.
Safon Uwch
- Mae'r graddau ar draws yr holl ddangosyddion wedi gostwng. Mae hyn yn adlewyrchu'r duedd genedlaethol. Mae graddau cenedlaethol yn is nag yn 2023, gan ddychwelyd yn fras i'r hyn oeddent cyn y pandemig. Mae'r canlyniadau ychydig yn is na 2019 (cyn y pandemig), a ddylai fod yn feincnod inni.
- Mae'r gostyngiad mwyaf yn y graddau A* i A, gyda'r gostyngiad ychydig yn uwch na'r gostyngiad cenedlaethol.
Mae'r canlyniadau o gymharu â Chymru gyfan ychydig yn is, fel y patrwm a welwyd yn 2019. Fodd bynnag, mae bwlch o 7 pwynt canran rhwng A* ac A, lle mae'n ymddangos bod disgyblion ledled Cymru yn perfformio'n well. - Mae'r gostyngiad ar raddau A* i C yn is na'r gostyngiad cenedlaethol.
- Yn genedlaethol, nid oedd unrhyw ostyngiad mewn canlyniadau ar raddau A* i E. Yn Sir Gaerfyrddin, roedd y gostyngiad yn 1.1 pwynt canran.
Canlyniad: Prydau ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.
Mae ein Gwasanaeth Arlwyo yn gyfrifol am ddarparu prydau ysgol yn holl ysgolion Sir Gaerfyrddin, gan weini tua 25,000 o brydau bob dydd. Rydym yn cydymffurfio â safonau cenedlaethol gan gynnwys bwyta'n iach, hylendid bwyd, ac alergenau. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth brecwast am ddim yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd.
Rydym yn cynnig bwydlen sy'n cydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru ac sy'n cyflawni'r radd uchaf sydd ar gael ar gyfer cydymffurfiaeth a chydbwysedd maethol. Caiff bwydlenni eu dadansoddi'n faethol gan ddefnyddio meddalwedd datblygu ryseitiau Saffron.
Rydym yn parhau i weithio gyda rhieni, ysgolion, a rhanddeiliaid allanol i reoli dietau arbennig ac alergeddau. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau gofal unigol i ddisgyblion, cyfarfodydd un-i-un gyda rhieni, a system waith gadarn i sicrhau amgylchedd bwyta iach, diogel. Rydym yn mynd y tu hwnt i'r canllawiau a'r gwaith cyfredol i gynnwys disgyblion nad ydynt yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd yn y grwpiau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhai â hawl i fwydlen deiet arbennig. Er enghraifft, disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, disgyblion â phroblemau synhwyraidd, ac ati.
Prydau Ysgol am Ddim
Roedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglŷn ag ymestyn yr hawl i Brydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn gofyn am gynllunio sylweddol, cyllid a buddsoddiad i adeiladu capasiti a pharatoi i weithredu'r ymrwymiad.
Darperir prydau ysgol ar gyfer ein 97 lleoliad trwy dair cegin gynhyrchu ganolog – 85 o geginau cynhyrchu ynghlwm wrth leoliadau, yn ogystal â danfoniadau rhwng ceginau cynhyrchu, a 15 canolfan fwyta.
Ers Ebrill 2024 cynigiwyd Prydau Ysgol am Ddim i Bob Disgybl Ysgol Gynradd i'r holl ddisgyblion amser llawn yn Sir Gaerfyrddin. Rydym hefyd yn arloesi wrth ddatblygu cadwyni cyflenwi cynaliadwy lleol yng Nghymru.
Fferm Bremenda Isaf
Rydym hefyd wedi buddsoddi'n helaeth mewn creu ein model cynhyrchu bwyd ni ein hunain ar un o'n Ffermydd Sirol. Fferm Bremenda Isaf oedd y cyntaf yn y DU lle mae'r Cyngor yn cyflogi'n uniongyrchol staff sy'n gyfrifol am gynhyrchu bwyd ar y plât cyhoeddus. Drwy ddatblygu a lansio Bwydlen Cenedlaethau'r Dyfodol mewn Ysgolion Cynradd, rydym hefyd yn cefnogi Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru. Drwy fwydlen seiliedig ar y tymhorau ac argaeledd cynnyrch Cymreig, bydd gwella'r model hwn yn cynyddu gwytnwch cadwyn gyflenwi leol Sir Gaerfyrddin yn uniongyrchol. Ar yr un pryd, rydym yn gwella ac yn defnyddio ein ffermydd sirol i leihau ein heffaith amgylcheddol wrth gaffael bwyd ac yn cynyddu'r gwerth economaidd a gedwir gan y Cyngor.
Rydym yn edrych ar sut gall Bremenda Isaf fod yn ganolfan arloesi i gefnogi'r system fwyd leol yn Sir Gaerfyrddin – popeth o gynhyrchu bwyd amrywiol i addysg, iechyd a llesiant. Ceisir buddsoddiad ar gyfer y gofynion seilwaith angenrheidiol, ochr yn ochr ag ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid lleol sy'n canolbwyntio ar sut y gellid cyflawni'r model orau.
Canlyniad: Mwy o addysg ddwyieithog ac addysg cyfrwng Cymraeg.
Ein gweledigaeth yw sicrhau cynnydd o’r ddarpariaeth cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg i addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, i fyd gwaith neu addysg bellach ac uwch. Rydym yn cynyddu'r gyfran o bob grŵp blwyddyn sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â dynodiadau newydd Llywodraeth Cymru. Rydym wedi cryfhau ac ehangu'r ddarpariaeth i ddysgwyr drwy Ganolfannau Iaith gyda darpariaeth benodol ar gyfer hwyrddyfodiaid a thrwy wella safonau. Rydym yn sicrhau bod dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd ieithyddol â'u cyfoedion. Mae ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) a'n cynllun gweithredu wedi'u trefnu o dan saith prif nod neu ganlyniad:
- Mwy o blant tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mwy o blant pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i gam arall.
- Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau yn y Gymraeg - fel pwnc, a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol.
- Cynnydd yn y ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, yn unol â'r dyletswyddau a nodwyd gan y ddeddfwriaeth.
- Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc, ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Categoreiddio Ieithyddol Ysgolion
Fe wnaethom gydweithio ag ysgolion i'w trosglwyddo i'r system categoreiddio ieithyddol newydd. Yn unol â'r canllawiau, rydym wedi cymryd yr awenau trwy nodi categori sy'n adlewyrchu categori cyfredol pob ysgol orau. Rydym hefyd wedi gosod categori i bob ysgol anelu amdano o fewn 10 mlynedd. Mae ysgolion yn dal i ddatblygu yn unol â'u categoreiddiad Cymraeg wrth baratoi i gyflwyno Bil Addysg a'r Gymraeg.
Canlyniad: Ysgolion ar gyfer dysgu cymunedol cynaliadwy sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
Cyflwr Adeiladau Ysgol
Mae 90% o adeiladau ysgol Sir Gaerfyrddin yn cael eu graddio fel "Da" neu "Foddhaol", o gymharu â 72% yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae hyn oherwydd newid yn meini prawf asesu Llywodraeth Cymru. Rydym bellach yn dilyn methodoleg wrthrychol, gan ddefnyddio proses bwysoli a sgorio. Mae hyn yn rhoi gradd cyflwr cyffredinol gywirach, a gellir cymharu eiddo ar draws yr holl bortffolios. Mae'r fethodoleg newydd hon yn rhoi hyder i ni fod cyflwr adeilad yn briodol. Mae buddsoddiad pellach yn heriol gan fod cost gwella neu adeiladu ysgolion newydd wedi cynyddu'n sylweddol, gan roi mwy o bwysau ar gyllideb gyfalaf gyfyngedig. Bydd yn amhosibl cyflawni holl ddyheadau'r Cyngor.
Y Rhaglen Moderneiddio Addysg
Ar ôl cymeradwyo Strategaeth ddiwygiedig y Rhaglen Moderneiddio Addysg ym mis Tachwedd 2024, rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein hadeiladau ysgol. Ar hyn o bryd mae prosiect 'byw' parhaus gwerth £15m ar waith i ddatblygu mannau addysgu gwyddoniaeth ac ystafelloedd dosbarth newydd, ynghyd â chynllun gwella cyfleusterau chwaraeon cymunedol yn Ysgol Gyfun Bryngwyn, Llanelli. O dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, cymeradwywyd ein Rhaglen Amlinellol Strategol yn ffurfiol ym mis Awst 2024. Mae cyfanswm o £60.9m ar gael ar gyfer prosiectau cyfalaf sy'n cynnwys darpariaeth ADY yn Llanelli, Ysgol Dewi Sant, a darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn ardal Cydweli a Llanismel. Rydym hefyd yn defnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru i ddatblygu Canolfan Trochi Iaith ar gyfer y Gymraeg yn Ysgol Gyfun y Strade a phrosiectau amrywiol i wella cyfleusterau cymunedol ar draws rhwydwaith yr ysgolion. Mae'r holl gynlluniau yn cael eu datblygu'n unol â chanllawiau cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, sydd wedi'u cynllunio i wneud ysgolion mor effeithlon o ran ynni â phosibl.
Ar hyn o bryd rydym yn bwrw ymlaen â sawl cynllun i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon cymunedol mewn ysgolion uwchradd. Y bwriad yw cwblhau'r gwaith hwn yn ystod haf 2025. Bydd yr holl gyfleusterau yn yr ysgolion hyn ar gael at ddefnydd cymunedol ehangach, yn ogystal â gwella'r ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion. Cynlluniau pellach i'w datblygu'n unol â'r cyllid grant newydd sydd ar gael yn 2025/26.
Rydym wedi cwblhau adolygiad cynhwysfawr o gyfrifiadau capasiti ysgolion mewn partneriaeth â'r holl ysgolion cynradd ac uwchradd, er mwyn cyfrannu at y Polisi Derbyniadau newydd ar gyfer 2026/27.
Oes unrhyw un ar ei ennill?
Agor adeilad newydd Ysgol Pen-bre yn swyddogol
Cafodd adeilad newydd Ysgol Pen-bre ei agor yn swyddogol gan Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, mewn seremoni yr oedd plant, athrawon, a staff yr ysgol yn bresennol ynddi ddydd Mercher, 17 Gorffennaf 2024.
Mae'r adeilad ysgol gynradd newydd sbon hwn, a gostiodd £8.25m, wedi'i godi ar dir ger safle'r hen ysgol, ac mae lle i 270 o ddisgyblion cynradd 3-11 oed, a 30 o leoedd meithrin. Cyflawnwyd y cynllun hwn fel rhan o fuddsoddiad B and B Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru a Sir Gaerfyrddin. Adeiladwyd yr adeilad gan gontractwyr lleol, TRJ (Betws) Ltd.
Gan gymryd lle'r hen adeilad, mae'r safle newydd yn cynnwys cyfleuster Dechrau'n Deg (a oedd gynt mewn ystafell ddosbarth symudol ar wahân) o dan yr un to. Mae wedi trawsnewid y ddarpariaeth addysg yn ardal Pen-bre trwy ddarparu cyfleusterau ac adeilad o'r radd flaenaf i ddisgyblion a staff, yn ogystal ag amgylchedd dysgu addas ar gyfer addysg yn yr 21ain ganrif.
Mae'r cyfleuster modern a newydd hwn ar gyfer yr ysgol a chymuned Pen-bre yn cael ei gyflawni dros ddau gam. Y cam cyntaf oedd gweld y plant, yr athrawon a'r staff yn symud i'r ysgol newydd ym mis Chwefror 2024.
Mae'r gwaith ar yr ail gam yn mynd yn dda, lle dymchwelir hen adeilad yr ysgol i greu cae chwaraeon at ddefnydd cymunedol, ardal gemau amlddefnydd (MUGA), ysgol goedwig ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, a gwaith tirlunio a seilwaith cysylltiedig.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cae chwaraeon newydd yn cael ei drosglwyddo i ddwylo Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn, yn lle'r cyfleusterau cymunedol a gollwyd ar y tir lle mae'r ysgol newydd. Bydd y cae yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol yn ystod oriau ysgol ac ar gael i'r gymuned y tu allan i'r oriau hyn.
Sut gallwn ni wneud yn well?
Mae ein ffocws yn parhau i fod ar gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol trwy weithredu diwygiadau ADY yn llawn ac adolygu trefniadau trafnidiaeth i sicrhau mynediad teg. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i fynd i'r afael â diffygion ariannol, cryfhau llywodraethu, a datblygu ein Rhaglen Moderneiddio Addysg, gan gynnwys prosiectau cyfalaf, adolygiadau ysgolion, a chynigion i newid ystod oedran sawl ysgol gynradd. Mae gwella presenoldeb a chefnogi disgyblion sy'n agored i niwed yn flaenoriaeth, fel y mae diweddaru ein hymagwedd at Addysg Ddewisol yn y Cartref. Byddwn hefyd yn annog ysgolion i hunanwerthuso eu Hymagwedd Ysgol Gyfan at Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl, gan nodi cryfderau a gosod camau gweithredu ar gyfer gwella.
