Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2024-2025
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol
- Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)
- Amcan Llesiant 2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)
Amcan Llesiant 2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)
Trosolwg o'r cynnydd
Mae patrwm demograffig Sir Gaerfyrddin yn newid mewn modd cadarnhaol. Mae pobl yn byw'n hirach oherwydd datblygiadau mewn gofal iechyd a gwelliant cyffredinol mewn safonau byw. O gofio hynny, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda.
Er bod incwm wythnosol gros yn parhau i wella, credir bod tua 30% o aelwydydd yn byw mewn tlodi, ac mae'r costau byw cynyddol yn parhau i fod yn bryder i lawer o bobl ein sir. Mewn ymateb i hyn, mae gwaith y Grŵp Ymgynghorol Trechu Tlodi yn parhau ar gyflymder, gyda'n Cynllun Trechu Tlodi yn llywio'r gweithgarwch. Aed i ymdrech fawr i sicrhau bod preswylwyr yn gallu cael mynediad at y cymorth mae hawl ganddynt iddo drwy ein canolfannau Hwb a gwasanaeth Hwb Fach y Wlad.
Yn fwyfwy mae argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da, yn ogystal â chynnal buddsoddiad parhaus mewn tai presennol, yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Mae mynediad at dai addas i'r diben yn hyrwyddo iechyd a llesiant ac yn sylfaen i well safonau byw. Mae ffocws ar gaffael eiddo sector preifat, ailddefnyddio cartrefi gwag, a datblygu tai newydd wedi golygu bod 361 o gartrefi ychwanegol wedi'u hychwanegu at y stoc dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae cynnydd da wedi'i wneud yn yr ymdrechion i ddatgarboneiddio'r stoc dai bresennol, sy'n lleihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd.
Mae disgwyliad oes iach yn y Sir wedi gostwng yn achos dynion (59.2 mlynedd) a menywod (57.9 mlynedd). Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau yn y dyfodol. I gydnabod hyn, rydym yn parhau â'n hymdrechion o ran ymyrraeth gynnar ac atal, sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn derbyniadau i'r ysbyty, gwell canlyniadau iechyd, ac arosiadau byrrach yn yr ysbyty. Mae hyn yn galluogi unigolion i ddychwelyd adref yn gynt gyda'r cymorth cywir ar waith. Mae lleihau dibyniaeth ar ofal preswyl yn flaenoriaeth allweddol, ac mae ffocws cryf ar ehangu opsiynau byw â chymorth sy'n hyrwyddo annibyniaeth.
Mae llu o fentrau iechyd a llesiant ar gael i'n preswylwyr, gan ganolbwyntio ar gynyddu hygyrchedd a sicrhau bod ein cynnig yn diwallu anghenion amrywiol defnyddwyr gwasanaeth. Mae mentrau iechyd a llesiant yn parhau i gael eu cyflwyno mewn ffyrdd arloesol i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at fentrau ataliol. Mae nifer y preswylwyr yn Sir Gaerfyrddin sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw yn parhau i gynyddu. Mae'r ymddygiadau hyn yn lleihau'n sylweddol y risg o glefydau cronig fel clefyd y galon, diabetes, a rhai canserau, ac yn cynyddu disgwyliad oes unigolion. Yn ei dro, dylai hyn leihau'r galw ar ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
I gydnabod bod iechyd meddwl yn bryder cynyddol ac yn flaenoriaeth i bob un ohonom, mae'r gwasanaeth llesiant iechyd meddwl yn darparu cymorth ymyrraeth gynnar ac atal hanfodol. Mae cymorth iechyd meddwl hefyd yn cael ei ystyried trwy fentrau chwaraeon a llesiant, o ystyried pa mor bwysig yw cynnal a gwella iechyd meddwl.
Yn Gryno
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau sylweddol i drechu tlodi trwy ystod eang o fentrau wedi'u targedu:
- Cyrhaeddodd prosiect Lleoedd Actif dros 117,000 o bobl gyda rhaglenni iechyd a llesiant cynhwysol, gan gynnwys cymorth i iechyd meddwl, oedolion hŷn, a'r digartref.
- Canolbwyntiodd y Panel Ymgynghorol Trechu Tlodi ar ymgyrchoedd cymorth gaeaf ac ymwybyddiaeth o fudd-daliadau.
- Datblygodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin y fenter 'Gwneud i Bob Cysylltiad Gyfrif' (MECC), gan hyrwyddo iechyd a llesiant trwy ryngweithiadau bob dydd a hyfforddiant cydgysylltiedig.
- Helpodd ymgynghorwyr Hwb bron 6,000 o breswylwyr i hawlio dros £7.5m mewn budd-daliadau. Yn ogystal, sicrhaodd gwaith refeniw rhagweithiol y Cyngor fod teuluoedd yn cael mynediad at gymorth ariannol hanfodol, gan gynnwys Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai a grantiau atal digartrefedd.
- Cefnogodd y Tîm Cyn-Lety dros 750 o denantiaid newydd, gan sicrhau dros £730,000 mewn cynilion, ac estyn cefnogaeth i'r sector rhentu preifat trwy hyfforddiant wedi'i dargedu a mynediad at fudd-daliadau.
- Aethpwyd ati i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi trwy ôl-osod, inswleiddio a gosodiadau ynni adnewyddadwy, tra bo'r cynllun ECO Flex wedi gwella gwresogi ac inswleiddio yn achos cannoedd o gartrefi.
- Bu timau caffael a datblygu economaidd yn ymgysylltu â busnesau lleol trwy gymorthfeydd a digwyddiadau, gan wella mynediad at gontractau'r sector cyhoeddus.
- Mae prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd fel Fit2Employ yn rhoi sgiliau a llwybrau gyrfa i bobl ifanc.
- Ehangodd Dysgu Oedolion yn y Gymuned fynediad at sgiliau hanfodol ac addysg ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill), gydag Estyn yn nodi cynnydd cryf.
- Roedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cefnogi miloedd o ran hyfforddiant a chymwysterau, tra bo'r Rhwydwaith Heneiddio'n Dda wedi hwyluso cais Sir Gaerfyrddin i fenter Cymunedau Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
- Darparodd Hwb Fach y Wlad wasanaethau gwledig hanfodol, a gwellodd Theatrau Sir Gâr fynediad diwylliannol drwy gynlluniau tocynnau gostyngol.
- Er gwaethaf gostyngiad bach mewn llwyddo i atal digartrefedd, cyflwynwyd strategaethau ymyrraeth gynnar newydd ac ymdrechion i ymgysylltu â landlordiaid. Fe wnaethom hefyd ddod â 239 o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd a sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer gwelliannau safle Sipsiwn a Theithwyr.
- Cefnogodd y cynllun peilot 'Fy Lle Diogel' (My Safe Place) oroeswyr cam-drin domestig drwy wneud gwelliannau diogelwch i'w cartrefi, ac fe wnaeth rhaglen Wallich gyfuno ffitrwydd ac addysg i gefnogi unigolion sy'n ddigartref. Mae'r cyd-ymdrechion hyn yn adlewyrchu dull cynhwysfawr, cymunedol o leihau tlodi a chefnogi preswylwyr agored i niwed ledled y Sir.
Sut ydyn ni'n gwneud?
- Mae 30.7% o holl aelwydydd Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi. Mae hyn yn cyfateb i tua 25,800 o aelwydydd. Mae hyn yn ostyngiad ers y llynedd (34.6%) sy'n adlewyrchu tueddiadau a welwyd yn genedlaethol.
- Bu cynnydd sylweddol pellach yn yr Enillion Wythnosol Gros cyfartalog yn Sir Gaerfyrddin, o £617.80 (2022) i £664.20 (2023) i £700.00 (2024). Gyda'r 6ed ffigwr uchaf yng Nghymru, mae ffigurau Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn uwch na Chymru (£684.40) ond yn parhau i fod yn is na'r DU (£728.3).
- Dangosodd ein harolwg preswylwyr 2024 fod cytundeb cyffredinol â'r datganiad; ‘Mae tlodi yn broblem yn fy ardal i’.
Cynnydd yn erbyn Canlyniadau
Canlyniad: Help a chefnogaeth i liniaru effeithiau'r argyfwng 'costau byw' a thlodi yn y Sir.
Prosiect Lleoedd Actif
Wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, fe wnaeth prosiect Lleoedd Actif roi hwb i iechyd a llesiant yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig drwy ehangu mynediad at weithgarwch corfforol a rhaglenni cynhwysol. Roedd mentrau allweddol yn cynnwys Symudiad Meddylgar ar gyfer iechyd meddwl, mynediad i'r gampfa i'r digartref, Motiview i oedolion hŷn, a ffitrwydd sy'n pontio'r cenedlaethau. Trwy welliannau digidol cynhaliwyd dosbarthiadau rhithwir, a bu i bartneriaethau fynd i'r afael ag unigrwydd a dementia. Gan gyrraedd dros 117,000 o bobl, creodd y prosiect 13 menter a gosod sylfaen ar gyfer rhaglenni iechyd cynaliadwy, cynhwysol ar draws llawer o ardaloedd difreintiedig y Sir.
Y Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod prysur a chynhyrchiol i'r Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi, a fu wrthi'n ddiwyd yn cefnogi preswylwyr ar draws Sir Gaerfyrddin drwy ystod o fentrau.
Mae mynd i'r afael â'r heriau sy'n ymwneud â thaliadau tanwydd y gaeaf, mannau cynnes, a chanolfannau cymunedol wedi bod yn ffocws allweddol, gan sicrhau bod gan breswylwyr amgylcheddau diogel, cefnogol yn ystod y misoedd oerach. Mae'r Panel wedi gweithio'n agos gyda gwasanaethau Hwb a Hwb Fach y Wlad y Cyngor, yn ogystal â chefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth fel 'Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi', sy'n rhoi gwybod i bobl am y budd-daliadau a'r hawliadau sydd ar gael iddynt. Mae ein partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi bod yn ddefnyddiol iawn, gyda chyflwyniadau i'r Panel yn gwella dealltwriaeth aelodau o Gredyd Cynhwysol a'u galluogi i gefnogi pobl yn well. Ar yr un pryd, mae Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi y Cyngor wedi'i adolygu a'i ddiweddaru'n llawn i adlewyrchu'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu cyfredol.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
Sefydlodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Grŵp Gorchwyl a Gorffen i edrych ar Gwneud i Bob Cysylltiad Gyfrif a'r gwasanaethau Hwb fel rhan o'i Amcan Llesiant i fynd i'r afael â thlodi a'i effeithiau. Canolbwyntiodd y grŵp ar:
- gwerthuso cyfleoedd a heriau Gwneud i Bob Cysylltiad Gyfrif ar draws sefydliadau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,
- ymchwilio i'r cyfleoedd a'r rhwystrau ynghylch cyngor a chefnogi darpariaeth,
- deall y materion allweddol sy'n wynebu preswylwyr a chymunedau, yn enwedig y rhai sy'n delio ag anfanteision economaidd-gymdeithasol a grwpiau gwarchodedig,
- adolygu sut mae gwahanol sefydliadau'n trechu tlodi a'u cynlluniau gweithredu.
Mae Gwneud i Bob Cysylltiad Gyfrif yn defnyddio rhyngweithiadau bob dydd i gefnogi newidiadau cadarnhaol mewn iechyd corfforol a meddyliol trwy rannu awgrymiadau am ffyrdd iach o fyw yn ystod sgyrsiau dyddiol yn y gwaith neu yn y gymuned. Mae'n grymuso staff, yn enwedig mewn gwasanaethau iechyd a sefydliadau partner, i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a chefnogi newid ymddygiad. Nid yn unig ar gyfer cleientiaid neu gleifion, ond hefyd ar gyfer ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr.
Cytunodd aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddatblygu presenoldeb ar y cyd ar y we i sicrhau bod gwasanaethau cymorth a chyngor a ddarperir ar draws sefydliadau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu hyrwyddo a'u cydlynu, a bod staff rheng flaen allweddol o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu hannog i gwblhau'r hyfforddiant Gwneud i Bob Cysylltiad Gyfrif Lefel 1 (e-ddysgu).
Cymorth a Chyngor
Yn ystod y 18 mis diwethaf mae tîm penodol o ymgynghorwyr Hwb wedi helpu 5,745 o bobl, a gafodd eu cyfeirio i'w wasanaeth, i hawlio dros £7.5m mewn taliadau cymorth a budd-daliadau. Mae ymgynghorwyr Hwb wedi cefnogi ceisiadau am nifer o gynlluniau cymorth gan y Cyngor a thrydydd partïon. Ymhlith y rhain mae bathodynnau glas ar gyfer parcio i bobl anabl, gostyngiadau ar y dreth gyngor, taliadau annibyniaeth personol, a grantiau i helpu rhieni i brynu hanfodion ysgol, fel gwisg ysgol.
Yn ogystal â chefnogi'r preswylwyr sy'n cael eu cyfeirio i'n hymgynghorwyr, mae'r Cyngor hefyd wedi darparu ar gyfer bron i 90,000 o ymweliadau gan bobl sydd am gyngor yn ein tair prif ganolfan Hwb yng Nghaerfyrddin, Rhydaman, a Llanelli; cymorthfeydd Hwb Bach y Wlad; a digwyddiadau penodol.
Gwaith Rhagweithiol Refeniw ar gyfer rhai mewn Tlodi
Rydym yn cefnogi teuluoedd i hawlio'r holl gymorth ariannol mae hawl gyda nhw iddo ac rydym yn mynd ati i ganfod y wybodaeth sydd ei hangen i brosesu hawliadau Budd-dal Tai a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor mor effeithlon ag sy'n bosibl. Rydym hefyd yn hyrwyddo Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai, gan weithio'n agos gyda'r Adran Tai a Chymdeithasau Tai i annog pobl i fanteisio arnynt. Dyrannwyd £31,000 ychwanegol i gronfa'r Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ar gyfer 2024/25.
Rydym yn sicrhau bod cyfeirio ac atgyfeirio priodol yn digwydd fel y gall teuluoedd gael y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mewn cydweithrediad â'r tîm Tai, rydym yn gwneud atgyfeiriadau amserol ar gyfer ceisiadau i'r Grant Atal Digartrefedd—cynllun dewisol a weinyddir gan y tîm Tai.
Mae ein Swyddog Cyllidebu Personol yn darparu cymorth uniongyrchol i unigolion sy'n wynebu caledi ariannol. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd wedi'u hanelu at breswylwyr a allai fod yn ei chael hi'n anodd, yn seiliedig ar eu hanes talu. Rydym yn cynnal partneriaethau cryf gyda chydweithwyr yn y canolfannau Hwb a'r trydydd sector i gyfeirio cwsmeriaid at wasanaethau priodol fel banciau bwyd, elusennau dyled, a'r Gronfa Cymorth Dewisol.
Rydym yn cadw at Gynllun 'Breathing Space' y DU ac yn gweithio gyda chwsmeriaid i sefydlu trefniadau talu fforddiadwy a chynaliadwy ar gyfer ôl-ddyledion y Dreth Gyngor, yn unol â Phrotocol y Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru.
Caffael
Mae caffael wedi cefnogi cydweithwyr yn datblygu economaidd i benodi cyflenwr ar gyfer cynhyrchion urddas mislif. Mae gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar drefniant tymor hwy ar gyfer gwasanaeth tanysgrifio a chynhyrchion am ddim mewn ysgolion, ac, o bosibl, lleoliadau eraill ledled y sir.
Cymorth cyn-llety
Roedd rhan hanfodol gan y Tîm Cyn-Llety o ran cynnal tenantiaethau a sicrhau bod tenantiaid yn cael yr holl yr oedd hawl ganddynt eu hawlio. Yn ystod 2024/25, cefnogodd y tîm 751 o denantiaid newydd ar draws gwahanol ddeiliadaethau, gan eu helpu i sicrhau cyfanswm o £731,063 mewn arbedion wedi'u cefnogi drwy fwyhau incwm, grantiau a hawl i fudd-daliadau.
Rhoddodd staff gymorth uniongyrchol gyda manteisio i'r eithaf ar incwm a chwblhau nifer o geisiadau am fudd-daliadau a gafodd effaith ariannol sylweddol ar denantiaid. Fel partneriaid dibynadwy Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru, trefnodd y tîm grantiau ar gyfer nwyddau gwyn, tanwydd oddi ar y grid, a Thaliadau Cymorth Brys a ddaeth i gyfanswm o £145,668. Yn ogystal, fel aseswyr gwiriedig ar gyfer Dŵr Cymru, rydym wedi galluogi aelwydydd cymwys i gael ardrethi dŵr gostyngol a ddaeth i gyfanswm o £70,106.
Ymestynnwyd cymorth hefyd i'r Sector Rhentu Preifat, lle cynhaliwyd 97 o denantiaethau drwy gyllid y Grant Cymorth Tai.
Mae gan Swyddogion Cymorth Rhentu Preifat slotiau penodedig mewn Canolfannau Gwaith, sy'n derbyn atgyfeiriadau gan unigolion sy'n hawlio am Gredyd Cynhwysol ac sydd â chostau tai, gan ddarparu cymorth iddynt i'w hatal rhag mynd i drafferthion ariannol. Fe wnaethom ddarparu hyfforddiant penodol i:
- 31 o bobl ifanc agored i niwed sy'n wynebu risg
- 28 o bobl mewn llety dros dro.
- 8 o bobl ifanc agored i niwed sydd mewn llety dros dro neu lety a rennir
- 28 o aelwydydd o atgyfeiriadau gan y Porth, Ymgynghorwyr Dewisiadau Tai, neu asiantaethau eraill.
Yn ogystal darparwyd hyfforddiant parodrwydd i gynnal cartref mewn ysgolion, gan gyrraedd dros 1,000 o ddisgyblion o Ysgol Maes y Gwendraeth, Ysgol y Strade, Ysgol Bro Myrddin, a chynlluniau mynediad ieuenctid.
Darparwyd cymorth hefyd i 1,603 o ymgeiswyr â dyletswydd ddigartref, gan eu galluogi i ddefnyddio'r system a chael llety sefydlog.
Llwyddodd y Tîm Rhaglenni Cynlluniedig Tai i becynnu a chyflawni ystod o brosiectau adeiladu mawr gyda'r nod o wella cadernid strwythurol a lefelau perfformiad ynni ar draws cannoedd o eiddo. Yn ogystal â chyfrannu at welliannau i effeithlonrwydd ynni, mae'r mentrau hyn hefyd wedi cefnogi datblygu cynaliadwy ar draws y rhanbarth. Mae'r cyflawniadau allweddol yn cynnwys y canlynol:
- Cwblhau gwaith ôl-osod manwl dan y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gydag adnewyddiadau cyflawn, gan wella effeithlonrwydd ynni'n sylweddol mewn 15 eiddo a gosod meincnod ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
- Gosod Deunydd Inswleiddio Waliau Allanol (EWI) a gwelliannau cysylltiedig ar 50 eiddo, gan leihau'r gwres a gollir a gwella cysurwch i breswylwyr.
- Ail-doi a gosod systemau ffotofoltäig (PV) ar dros 120 eiddo ledled y sir, gan gyfuno gwelliannau i adeiladau ag atebion ynni adnewyddadwy er mwyn lleihau ôl troed carbon.
Cynllun ECO Flex
Mae'r cynllun ECO Flex yng Nghymru (ECO4 Flex) yn fenter gan y llywodraeth ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni yn nhai'r sector preifat. Y nod yw helpu i leihau tlodi tanwydd, yn enwedig ar gyfer aelwydydd incwm isel a bregus. Mewn partneriaeth â Chymru Gynnes, rydym wedi cyflawni 641 o gynlluniau ECO Flex, gan greu £110,000 o incwm ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth. Mae'r cynlluniau hyn wedi cefnogi gwelliannau o ran inswleiddio a gwresogi mewn cartrefi preifat a rhent, gan wella amodau byw a lleihau costau ynni i breswylwyr. Disgwylir y bydd oddeutu 900 eiddo yn elwa ar y Cynllun ECO4, gyda thua £16m yn cael ei fuddsoddi yn nhai'r sector preifat.
Canlyniad: Caiff pobl eu cynorthwyo i fanteisio ar gyfleoedd lleol boed hynny trwy ddechrau busnes, ennill cymwysterau neu gael gwaith ystyrlon.
Cymorthfeydd Caffael a Busnes
Ymgysylltodd Timau Caffael a Datblygu Economaidd y Cyngor â mentrau bach a chanolig (BBaChau) lleol a sefydliadau'r trydydd sector drwy fenter ymgysylltu â chyflenwyr - Cymorthfeydd Caffael a Busnes ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd cysylltiad rhwng y Gymhorthfa Ymgysylltu â Chyflenwyr a Menter Datblygu Economaidd "Deg Tref" y Cyngor sy'n anelu at gefnogi adferiad economaidd trefi gwledig ar draws y sir.
Pwrpas y cymorthfeydd yw cynnig cyngor caffael proffesiynol, arweiniad, a chymorth i fusnesau/sefydliadau sydd â diddordeb ynghylch cyllid, hyfforddiant, prosiectau a mentrau cymorth busnes, ac opsiynau atgyfeirio i bartneriaid. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cyflenwyr yn gallu cystadlu am unrhyw fusnes posibl i wella eu masnachu. Trwy ddatblygu cyswllt caffael rhwng swyddogion perthnasol y Cyngor a chontractwyr, cyflenwyr a darparwyr, gallwn wneud cyflwyniadau perthnasol, gan ddod â darpar brynwyr a gwerthwyr at ei gilydd.
Yn 2024/25, cynhaliwyd y Cymorthfeydd ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf gan ddilyn llwyddiant y cymorthfeydd gynhaliwyd tua diwedd 2023/24 ym mhrif drefi Caerfyrddin a Llanelli. Cynhaliwyd y cymorthfeydd yn 2024/25 yn nhrefi llai, mwy gwledig Cydweli, Llandeilo a Llanymddyfri ac aeth 22 o fusnesau i’r tair cymhorthfa wledig.
Datblygu Economaidd
Parhaodd y tîm Datblygu Economaidd i gefnogi'r Uned Caffael Corfforaethol a gwahanol wasanaethau i godi ymwybyddiaeth o'n tendrau / contractau ymhlith y gymuned fusnes. Cysylltir trwy e-bost, ein cylchlythyr busnes a galwadau ffôn achlysurol. Mae contractau diweddar yn cynnwys contract sylweddol Gwaith Eiddo lle ymgysylltodd y tîm busnes â'r dwsinau o fusnesau y dyfarnwyd contractau iddynt. Mae astudiaethau achos i'w llunio o'r canlyniadau cadarnhaol.
Rydym yn parhau i weithio ar ymarferion tendro yn y dyfodol i'w hyrwyddo i fusnesau lleol a allai fod â diddordeb. Rydym hefyd yn rhannu ein rhaglen waith bob chwarter i nodi cyfleoedd pellach i hyrwyddo'r cyfleoedd hyn i fusnesau Sir Gaerfyrddin.
Rhaglen Fit2Employ – Llanelli a Chaerfyrddin
Roedd y rhaglen Fit2Employ, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Chymunedau am Waith a Mwy, yn cefnogi pobl ifanc yn Llanelli a Chaerfyrddin i ennill sgiliau ymarferol ac archwilio llwybrau gyrfa. Derbyniodd y cyfranogwyr hyfforddiant mewn Rygbi TAG a Chymorth Cyntaf, gan wirfoddoli mewn digwyddiadau lleol a chymryd rhan mewn taith 'Byd Gwaith' yng Nghanolfan Hamdden Llanelli. Mae'r profiadau hyn wedi helpu i adeiladu hyder, datblygu sgiliau cyflogadwyedd, a chynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwaith lleol. Mae dau gyfranogwr bellach yn dilyn cymwysterau yn y diwydiant hamdden, gyda chefnogaeth barhaus i helpu eraill i gael mynediad at wirfoddoli, hyfforddiant a chyflogaeth - gan eu grymuso i fanteisio ar gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.
Canlyniad: Gwell cyfleoedd i'r holl breswylwyr wella eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol er mwyn cael swyddi.
Adolygiad Ôl-16
Rydym wedi cwblhau adolygiad cynhwysfawr o'r ddarpariaeth addysg ôl-16 ar draws y Sir sydd wedi symud i gam cynllunio gweithredol cadarnhaol iawn. Rydym yn y broses o wireddu'r argymhelliad i ddatblygu cydweithio seiliedig ar glwstwr ar draws ein chweched dosbarth. Byddwn yn parhau ag ymagwedd gyfannol at ddatblygu profiadau gan gynnwys gyrfaoedd, ac ymgysylltu gwleidyddol lleol a byd-eang.
Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Yn dilyn yr arolygiad llwyddiannus o'r ddarpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ym mis Tachwedd 2023, dychwelodd Estyn ym mis Rhagfyr 2024 i adolygu'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r ddau argymhelliad. Daeth Estyn i'r casgliad canlynol:
'Mae'r bartneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn Sir Gaerfyrddin wedi gw neud cynnydd da o ran datblygu ei gweithdrefnau a'i harferion strategol yn dilyn yr arolygiad craidd ym mis Tachwedd 2023. Mae wedi sefydlu grŵp strategol, sy'n cynnwys aelodau partneriaeth craidd o'r awdurdod lleol, Coleg Sir Gâr, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a Gyrfa Cymru. O fewn yr awdurdod lleol, mae dysgu oedolion yn y gymuned yn rhan o'r gyfarwyddiaeth addysg, sy'n ei alluogi i gael ei weld fel rhan werthfawr a hanfodol o'r continw w m dysgu gydol oes.'
Yn ogystal, canfu Estyn fod cyfathrebu gwell ar y wefan yn darparu porth 'hawdd ei ddefnyddio' i ddarpar ddysgwyr, gan alluogi mynediad clir i'r ystod o gyfleoedd dysgu sydd ar gael.
Nodwyd bod yr arsylwadau ar y cyd o ddarpariaeth ddysgu ar draws y bartneriaeth yn fuddiol, gan sicrhau disgwyliadau uchel. Hefyd nodwyd bod y cynnydd cadarn mewn perthynas â datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg a rhaglenni dysgu fel teulu yn hynod ddefnyddiol.
Mae'r gwasanaeth yn parhau i ddarparu ar draws y Sir gan gefnogi dysgu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill o ystod o gefndiroedd gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn ogystal â dysgwyr sy'n gwella eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol. Mae carfan o Blant Digwmni sy'n Ceisio Lloches yn astudio ar un o'n pum cwrs amser llawn. Mae dysgwyr ar raglenni llythrennedd a rhifedd yn astudio hyd at lefel TGAU a gallant gymryd cymwysterau eraill sy'n briodol i'w lefel.
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer sgiliau digidol yn parhau i gael eu cynnig gan gynnwys defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo cynaliadwyedd (e.e. defnyddio Vinted) ac ar gyfer llesiant (e.e. gweithio gyda MIND). Mae dosbarthiadau ymgysylltu sy'n defnyddio crefftau yn parhau i fod yn boblogaidd eleni ac maent bellach ar gael yn ddwyieithog. Cydweithiodd y gwasanaeth â'r tîm Herio ar waddol a phontio, gan gynnwys diwrnodau agored ac ymweliadau â dosbarthiadau Herio i annog dysgwyr i symud ymlaen i ddosbarthiadau dysgu oedolion.
Un prosiect arwyddocaol yw'r prosiect Dysgu fel Teulu/Rhif Cryf, sy'n defnyddio gweithgareddau ac adnoddau gwaddol Herio i weithio gyda rhieni a chynorthwywyr addysgu mewn ysgolion. Mae'r tîm sgiliau hanfodol a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn hyrwyddo'r gwasanaeth drwy'r Canolfannau Hwb, Hwb Bach y Wlad, diwrnodau agored a chyfarfodydd cymunedol, diwrnodau agored y coleg, a chyfleoedd rhwydweithio fel y Digwyddiad Cymorth Niwroamrywiaeth.
Mae Llysgenhadon Dysgwyr Newydd yn ymgymryd â hyfforddiant ac yn cymryd rhan yn y bartneriaeth strategol. Mae casglu a gweithredu ar lais y dysgwr yn flaenoriaeth uchel i'r gwasanaeth o ran darparu darpariaeth i ymgysylltu â dysgwyr newydd ac ar gyfer cyfleoedd priodol i wneud cynnydd. Mae'r bartneriaeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyfeirio dysgwyr rhwng partneriaid er mwyn gwneud cynnydd ac er mwyn tynnu sylw at yr holl ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgwyr ledled y Sir.
Mae gan ddysgwyr ar gyrsiau'r Cyngor fynediad at gyngor am yrfaoedd, Cymunedau am Waith a Mwy a Gweithffyrdd ar gyfer paratoi at gyflogaeth a chymorth.
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Yn 2024/25, mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cyfrannu drwy gefnogi preswylwyr Sir Gaerfyrddin.
- Wedi Mynychu Hyfforddiant: 7,611
- Ennill Cymhwyster: 1,264
- Rhifedd Oedolion Cyrsiau Ddarparwyd: 209
- Pobl sy'n Ymgysylltu a Gweithwyr Allweddol: 2,185
Canlyniad: Cydnabod a cheisio cyfyngu ar y rhwystrau anghymesur y mae grwpiau ymylol yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau a chymorth sy’n caniatáu iddynt fyw a heneiddio’n dda.
Rhwydwaith Heneiddio'n Dda
Nod menter Cymunedau Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yw creu amgylcheddau sy'n cefnogi heneiddio'n iach ac yn egnïol. Mae hyn yn cynnwys gwneud dinasoedd a chymunedau'n fwy cynhwysol a hygyrch i oedolion hŷn, gan sicrhau eu bod yn gallu byw'n ddiogel, mwynhau iechyd da, a chymryd rhan lawn mewn cymdeithas.
Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae ein Swyddog Polisi Cymunedau Oed-gyfeillgar wedi bod yn gweithio i gwblhau'r strategaeth a'r cynllun gweithredu a fydd yn rhan o'r cais i ennill aelodaeth i Rwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd yn ystod 2025/26. Mae ein rhanddeiliaid allweddol yn cynnwys tua 1,200 o aelodau Rhwydwaith Heneiddio'n Dda Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, ac eraill yr ydym wedi ymgysylltu â nhw drwy amrywiol ddigwyddiadau ac ymgynghoriadau.
Hwb Bach y Wlad
Ers ei lansio ym Medi 2023, mae Hwb Bach y Wlad wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan gefnogi dros 11,646 o gwsmeriaid a chynnal mwy na 484 o ymweliadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin. Mae'r prosiect wedi rhoi cymorth hanfodol i gymunedau gwledig, gan gynnig ystod eang o wasanaethau sydd wedi cael effaith fawr ar fywydau ei gwsmeriaid.
Mae'r prosiect yn cynnig gwasanaethau allweddol megis budd-daliadau tai, cymorth gyda'r dreth gyngor, gwybodaeth am wastraff ac ailgylchu, ymholiadau mewn perthynas â thai, cymorth safonau masnach, ac adnoddau cyflogadwyedd.
Yn ogystal, mae Hwb Bach y Wlad wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy ei raglen "Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi", gan helpu unigolion i ddeall a hawlio eu buddion ariannol a llesiant. Y tu hwnt i hyn, mae'r tîm wedi trefnu parseli bwyd brys, trafnidiaeth ar gyfer apwyntiadau meddygol, a chymorth hanfodol yn ystod argyfyngau iechyd meddwl ac ansicrwydd ynghylch tŷ. Mae'r dull hwn sydd wedi'i deilwra wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod pob cwsmer yn cael y cymorth penodol sydd ei angen arnynt.
Un o brif ysgogwyr llwyddiant y prosiect fu ei gydweithrediad agos ag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol. Gan weithio ochr yn ochr â nifer o sefydliadau partner, mae Hwb Bach y Wlad wedi gallu cynnig pecyn gofal cynhwysfawr i'r rhai mewn angen. Mae ymweliadau rheolaidd â hybiau cymunedol fel banciau bwyd, canolfannau hamdden a martau ffermwyr lleol wedi gwneud y gwasanaethau hyn yn hygyrch iawn.
Theatrau Sir Gâr
Mae Theatrau Sir Gâr yn gweithio gyda dros 50 o sefydliadau lleol ledled Sir Gaerfyrddin i wneud y theatr yn fwy hygyrch i unigolion a allai wynebu rhwystrau i fynychu. Boed y rheiny'n rhai ariannol, corfforol, cysylltiedig ag iechyd meddwl, neu oherwydd canfyddiad nad yw theatr ar eu cyfer nhw.
Yn allweddol i'r ymdrech hon mae'r Cynllun Tocynnau Cymunedol, sy'n cynnig tocynnau gostyngol am £5.50 yn unig, beth bynnag fo'r pris gwreiddiol, ar gyfer 20 sioe bob dau fis. Ers ei lansio ym mis Tachwedd, mae dros 500 o docynnau wedi'u prynu'n rhan o'r cynllun, ac mae'r adborth gan y gymuned wedi bod yn hynod gadarnhaol.
Canlyniad: Lleihau digartrefedd a gweithio tuag at ddod ag ef i ben.
Atal Digartrefedd
Roedd dirywiad yng nghanran yr aelwydydd y llwyddwyd i'w hatal rhag mynd yn ddigartref yn ystod 2024/25 gyda 67.5%. Mae hyn yn llai o gymharu â 72.1% yn 2023/24 ond mae'n parhau i fod yn uwch na chyfradd Cymru am 2023/24 o 57.9%.
Yn ystod 2024/25 roedd heriau sylweddol, yn enwedig wrth ddatrys perthnasoedd oedd yn chwalu ac atal digartrefedd yn y sector rhentu preifat. Mae'r materion hyn wedi tynnu sylw at rai meysydd allweddol y mae angen eu gwella a rhoi sylw iddynt. Trwy ailddyrannu adnoddau, sefydlwyd Tîm Ymyrraeth Gynnar i gynnal asesiadau fforddiadwyedd manwl, datblygu pecynnau cymorth pwrpasol wedi'u teilwra i anghenion landlordiaid preifat, a chynnig cymorth cynhwysfawr i atal perthnasoedd rhag chwalu.
Mae ymgysylltu â landlordiaid wedi bod yn allweddol trwy gynnig cymorth a chymhellion ar gyfer cynnal tenantiaethau a gweithredu mesurau rhagweithiol i nodi a mynd i'r afael â phroblemau posibl cyn iddynt waethygu. Credwn y bydd y camau hyn yn gwella ein gallu i atal digartrefedd a chefnogi'r rhai sydd yn y sector rhentu preifat. Trwy ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a chymorth wedi'i deilwra, rydym yn anelu at greu system fwy cadarn ac ymatebol sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd.
Cynnig Landlordiaid
Mae ein Tîm Tai Sector Preifat yn parhau i wneud cynnydd cryf, yn enwedig drwy weithredu'r 'Cynnig Landlordiaid.’ Mae'r fenter hon wedi'i chynllunio i gadw landlordiaid preifat presennol tra hefyd yn denu rhai newydd i helpu i gwrdd â'r galw parhaus am dai. Mae'r cynnig yn cynnwys cymorth ac ymgysylltu wedi'u teilwra i annog cyfranogiad hirdymor yn y farchnad dai leol trwy gryfhau perthnasoedd â landlordiaid a gwella cymorth tenantiaeth.
Tai Gwag
Trwy ymyrraeth a chymorth uniongyrchol, fe wnaethom lwyddo i ddod â 239 eiddo gwag preifat yn ôl i ddefnydd, sy'n welliant o 130% ar berfformiad y flwyddyn flaenorol. O ganlyniad, mae cyfanswm y tai gwag ar draws Sir Gaerfyrddin wedi'i ostwng i fod yn is na'r lefelau targed.
Fy Lle Diogel - Prosiect Peilot
Mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gwnaethom gyflawni prosiect peilot Fy Lle Diogel. Mae'r fenter hon yn galluogi goroeswyr cam-drin domestig i aros yn ddiogel yn eu cartrefi trwy osod mesurau diogelwch pwrpasol fel cloeon, larymau a ffensys. Rhwng Ebrill a Hydref 2024, cefnogodd y cynllun 76 o unigolion ar draws gwahanol ddeiliadaethau tai. Wedi'i ariannu trwy'r fenter Strydoedd Mwy Diogel a chyllid cyfatebol gan y Cyngor, mae'r prosiect yn mynd i'r afael â bwlch nodedig yn achos rhai mewn tai preifat neu rent. Mae wedi derbyn adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac mae'n cael ei ystyried fel model ar gyfer strategaethau atal cam-drin domestig yn y dyfodol. Mae'r fenter yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau Sir Gaerfyrddin ynghylch atal digartrefedd, ymyrraeth gynnar, a diogelwch cymunedol.
Rhaglen Tai, Iechyd a Llesiant y Wallich
Mewn partneriaeth â'r Wallich, rhoddodd Actif Llanelli fynediad wythnosol i'r gampfa i unigolion digartref, a oedd yn gysylltiedig â chymryd rhan mewn sesiynau addysgol. Roedd y rhaglen wyth wythnos yn hyrwyddo trefn arferol, iechyd corfforol a chynhwysiant cymdeithasol tra'n cefnogi dysgu am gyllidebu, tai a llesiant. Dywedodd cyfranogwyr fod eu hiechyd meddwl ac arferion ffordd o fyw wedi gwella, gyda rhai'n parhau â'u teithiau ffitrwydd trwy aelodaethau corfforaethol. Mae'r fenter hon yn dangos sut gall mynediad hamdden cynhwysol helpu unigolion agored i niwed i ailadeiladu eu bywydau.
Gweithredu'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
Gan adeiladu ar lwyddiant y Polisi Dyrannu Brys, fe wnaethom weithredu'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol yn llwyddiannus, gan ein galluogi i baru'n uniongyrchol y tai sydd ar gael ag unigolion a theuluoedd sydd â'r angen tai mwyaf. Mae rhan allweddol gan yr ymagwedd hon sydd wedi'i thargedu mewn lleihau digartrefedd ar draws y sir.
Oes unrhyw un ar ei ennill?
Mae prosiect Pêl-droed Stryd y Cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yng Ngwobrau Chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru 2025.
Dechreuodd y prosiect hwn, sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Menter Effaith Gymdeithasol Orau, yn 2024 ac mae'n cael ei gydlynu gan Chwaraeon a Hamdden Actif. Sefydlwyd y prosiect i gefnogi unigolion sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref drwy ddefnyddio grym chwaraeon i wella eu llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol.
Ond mae sesiynau'n mynd y tu hwnt i bêl-droed trwy gynnig gofod diogel a chynhwysol lle gall cyfranogwyr nid yn unig fod yn egnïol ond hefyd ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau partner sy'n mynychu sesiynau i gynnig help a chefnogaeth gyda thai, cymorth iechyd meddwl, a gwasanaethau eraill y gallai fod eu hangen ar yr unigolion hyn. Mae'r sesiynau'n galluogi cyswllt wythnosol rhwng ymgynghorwyr tai a chyfranogwyr i gynnal cymorth cyson. Mae pob sesiwn hefyd yn cynnwys pryd o fwyd wedi'i goginio.
Cymorth a Chyngor - Canolfannau Hwb
Astudiaeth Achos: Mrs H - Erbyn hyn mae Mrs H £800 y mis yn well ei byd ar ôl gofyn am gyngor gan ein hymgynghorwyr Hwb. Yn fam sengl i dri o blant, Mrs H yw perchennog y cartref ac mae'n derbyn taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) a budd-dal plant. Aeth Mrs H i'r Hwb i siarad ag ymgynghorydd gan ei bod yn cael trafferth talu'r biliau. Drwy'r ymgynghorydd Hwb, cafodd Mrs H wybod ei bod yn gymwys i gael gostyngiad i'r dreth gyngor, a chafodd gwerth tri mis o daliadau eu hôl-ddyddio iddi. Roedd hi hefyd yn gymwys i gael gostyngiad person sengl, a chafodd ad-daliad o £1,200, credyd cynhwysol, PIP ar gyfradd uwch, bathodyn glas, prydau ysgol am ddim i'w phlant, a grant gwisg ysgol o £200.
Astudiaeth Achos: Mr S - Aeth Mr S i'r Hwb ar ôl cael strôc yn ddiweddar, ac roedd yn dibynnu ar ffrind i'w helpu i wneud cais am gredyd cynhwysol. Gan fod y ffrind yn ddibrofiad yn llenwi'r ffurflenni perthnasol, cafodd Mr S ei farnu'n ffit i weithio. Roedd ymgynghorydd Hwb wedi gallu helpu Mr S i wneud cais llwyddiannus am daliad disgresiwn at gostau tai, a wnaeth glirio £600 mewn ôl-ddyledion. Cafodd gostyngiad dros dro i'r dreth gyngor ei ailgyfrifo, a chafodd ei ddyled dreth gyngor o £1,440 ei chlirio drwy ostyngiad ar gyfer nam meddyliol difrifol. Rhoddwyd bathodyn glas a thocyn bws pobl anabl i Mr S, a nawr mae'n derbyn £400 yn fwy bob 4 wythnos ar ôl i'w allu i weithio gael ei ailasesu. Hefyd rhoddwyd cyfradd PIP uwch o £184 yr wythnos iddo.
Sut gallwn ni wneud yn well?
Byddwn yn parhau i weithredu a diweddaru'r Cynllun Trechu Tlodi drwy'r Panel Ymgynghorol Trechu Tlodi, gan sicrhau bod ein camau'n ymateb i'r heriau presennol mae preswylwyr a chymunedau'n wynebu. Mae hyn yn cynnwys cefnogi pobl i gael mynediad at y budd-daliadau a'r gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt, gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth wedi'i dargedu, a defnyddio adborth gan y panel i lunio mentrau yn y dyfodol.
Yn Gryno
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gwasanaeth Tai wedi cyflawni cynnydd nodedig, gyda ffocws cryf ar gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella ansawdd a chynaliadwyedd cyffredinol tai ledled y Sir. Roedd rhaglen 2024/25 wedi cyfrannu 361 o gartrefi ychwanegol, gan ganolbwyntio ar brynu eiddo sector preifat, ailddefnyddio tai gwag, a datblygu unedau newydd, yn cynnwys trosi hen adeilad yr YMCA yn Llanelli yn wyth fflat.
Eleni mae cyllid grant sylweddol wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru, sy'n cynnwys dros £17,000,000 mewn Grant Tai Cymdeithasol. Mae'r arian hwn wedi bod yn allweddol o ran cyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy ychwanegol.
Mae'r Rhaglen Datblygu Adfywio Tai yn parhau i ysgogi'r weledigaeth o ddarparu dros 2,000 o dai erbyn 2027, gan alinio â blaenoriaethau adfywio ehangach fel Canol Trefi, Deg Tref Wledig, a phrosiectau strategol fel Pentre Awel a Tyisha.
Yn ogystal, mae ailgomisiynu'r gwasanaeth cymorth hyblyg ledled y Sir wedi arwain at £500,000 mewn arbedion dros bedair blynedd, gan alluogi ailfuddsoddi mewn llety â chymorth dros dro. Mae cynnig Rheoli Ystadau a Thenantiaeth newydd hefyd wedi'i gyflwyno, gan wella ymgysylltiad â thenantiaid a boddhad tenantiaid trwy fod yn fwy gweladwy ac ymweliadau rheolaidd ag ystadau gan swyddogion tai.
Sut ydyn ni'n gwneud?
- Ar gyfartaledd, cymerwyd 20 diwrnod calendr i gwblhau'r holl atgyweiriadau i'r tai Cyngor yn ystod 2024/25. Mae hyn yn uwch na'r disgwyl wrth i'r galw am atgyweiriadau ymatebol barhau i gynyddu, ac mae'n effeithio ar ein gallu i gyrraedd y targed. Mae cynllun gwella gwasanaeth newydd wedi'i ddatblygu a fydd yn mabwysiadu ymagwedd cam wrth gam i sicrhau bod y modd y darperir y gwasanaeth yn gynaliadwy i'r dyfodol. I ddechrau bydd hyn yn cynnwys gwaith manwl i ddeall y galw presennol a'r ôl-groniad o atgyweiriadau ymatebol, mwy o ffocws ar fân waith wedi'i becynnu, ac ail-alinio'r adnoddau presennol i fodloni blaenoriaethau a risgiau cyfredol.
- Daethpwyd â 239 eiddo sector preifat yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis yn ôl i ddefnydd drwy weithredu uniongyrchol yn ystod 2024/25. Roedd 1,868 eiddo yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy ar ddiwedd mis Mawrth 2025, o gymharu â 2,144 ar ddiwedd mis Mawrth 2024. Mae hwn yn ostyngiad o 13%.
- Mae canran y rhent sy'n cael ei golli oherwydd bod eiddo'r Cyngor yn wag bellach wedi gostwng yn 2024/25 i 1.9%, o gymharu â 2.2% y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y sylfaen contractwyr wedi estyn drwy'r Fframwaith Gwaith Eiddo newydd. Mae hyn wedi gwella'r capasiti cyffredinol o ran contractwyr yn sylweddol.
Cynnydd yn erbyn Canlyniadau
Canlyniad: Argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da ac ynni-effeithlon yn y Sir.
Rydym wedi darparu tua 2,500 o dai fforddiadwy ychwanegol ers dechrau ein cynllun uchelgeisiol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn y sir. Tai fforddiadwy o ansawdd da yw sylfaen cymunedau iach a chynaliadwy. Rydym wedi parhau i ragori ar dargedau bob blwyddyn trwy gynyddu ein cyflenwad o dai gan ddefnyddio ystod o atebion i wneud y mwyaf o gyfleoedd cyllido allanol a diwallu anghenion tai. Byddwn yn parhau gyda'r ymagwedd hon, ond ein ffocws yw sicrhau bod gan raglen adeiladu newydd y Cyngor rôl fwy sylweddol wrth ddatblygu safleoedd mawr o fwy na chant o gartrefi ar gyflymder.
Rhaglen Datblygu Adfywio Tai
Mae ein rhaglen datblygu adfywio tai yn pennu'r weledigaeth i gefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o dai i'w rhentu a'u gwerthu dros y 5 mlynedd nesaf (Chwef 2022 hyd at Rhag 2027). Mae'r cynllun yn seiliedig ar ddiwallu angen tai ac ysgogi twf economaidd ledled y Sir gan greu swyddi, adeiladu cymunedau cynaliadwy cryf, a thyfu'r economi werdd. Roedd rhaglen 2024/25 wedi darparu 361 o gartrefi ychwanegol, gan ganolbwyntio ar brynu eiddo sector preifat at ddefnydd cyffredinol ac arbenigol o ran tai, ailddefnyddio tai gwag, a datblygu tai newydd, yn cynnwys trosi hen adeilad yr YMCA yn Llanelli yn wyth fflat.
Mae'n bwysig bod y cynllun hwn yn cysylltu â blaenoriaethau corfforaethol ac adrannol ehangach fel Canol Trefi, Deg Tref Wledig a phrosiectau adfywio allweddol e.e. Pentre Awel, Tyisha, Gorllewin Caerfyrddin a Thŷ Wauniago (Caerfyrddin). Mae swm sylweddol o arian grant ychwanegol hefyd wedi'i dynnu i lawr gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy ychwanegol, ac mae hyn yn cynnwys dros £17m o Grant Tai Cymdeithasol a £12.1m o gyllid grant arall gan gynnwys Llety Trosiannol a Chyllid Rhaglen Gyfalaf a Thai ar gyfer Gofal.
Datblygu Adeiladau Newydd
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd yr hyn sydd gan y Cyngor ar y gweill o ran datblygu tai newydd yn darparu dros 900 o dai. Bydd ein tai newydd yn diwallu anghenion unigol ein cymunedau ac yn cynnwys tai, byngalos a fflatiau ar gyfer unigolion a theuluoedd. Mae ein holl dai sy'n cael eu codi o'r newydd yn dilyn set glir o egwyddorion dylunio sy'n creu cymunedau newydd cynaliadwy, gydag ymdeimlad gwirioneddol o le.
Gwasanaeth Cymorth
Rydym wedi llwyddo i ailgomisiynu'r gwasanaeth cymorth hyblyg ledled y sir, gan gyflawni arbedion o £500,000 dros bedair blynedd. Bydd yr arbedion hyn yn cefnogi darparu opsiynau llety cymorth dros dro newydd o fewn y rhaglen Grant Cymorth Tai, a thrwy hynny leihau baich y Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai ar ddarparu llety dros dro.
Cynnig Rheoli Ystadau a Thenantiaethau
Mae cynnig Rheoli Ystadau a Thenantiaethau newydd yn cael ei ddarparu, gyda'r nod o wella ymgysylltiad â thenantiaid a boddhad tenantiaid. Mae'r ymagwedd hon yn cynyddu gwelededd a hygyrchedd swyddogion tai ar ystadau, sef rhywbeth y mae tenantiaid wedi'i nodi fel blaenoriaeth allweddol. Trwy ymweliadau gwiriwr cartref ac ystadau rheolaidd, mae'r gwasanaeth yn sicrhau presenoldeb mwy cyson o fewn cymunedau.
Oes unrhyw un ar ei ennill?
Profiad Preswylydd yn Dilyn Gwelliannau i'w Cartref
"Ers cwblhau'r gwelliannau i fy nghartref, mae fy nghartref yn gynhesach am hirach, sy'n golygu fy mod wedi bod yn defnyddio llai o wres. Mae'r tŷ yn gyfforddus, ac rwy'n edrych ymlaen at weld pa mor gynnes fydd e trwy'r misoedd oerach.
Mae'r newid o olew i nwy wedi bod yn hwylus. Roeddwn i eisiau nwy ers sbel, felly roeddwn i'n falch o'i gael o'r diwedd. Rwy' hefyd yn defnyddio ap Solis Cloud i fonitro faint o ynni mae fy nghartref yn ei gynhyrchu a'i ddefnyddio - mae'n syml unwaith rydych chi'n ei ddeall.
Ni chymerodd y gwaith ei hun gymaint â hynny, ac roedd y tîm yn wych - fe wnaethon nhw lanhau ar ôl eu hunain a gwneud yn siwr fy mod i'n gwybod beth oedd yn mynd ymlaen drwy'r amser. Oedd, roedd rhywfaint o sŵn a llwch, ond roedd y canlyniad yn bendant werth ychydig wythnosau o darfu.
Yn ystod y 6 mis diwethaf, rwy' wedi arbed £714 ar fy miliau ynni. Ar ddiwrnod heulog yn ddiweddar, dim ond 46c wnes i wario er gwaeth a' defnyddio'r ffriwr aer, peiriant golchi, sychwr, a'r holl ddyfeisiau arferol. Rwy'n gyffrous i weld cyfanswm yr arbedion ar ôl blwyddyn lawn.
A fydden i'n ei argymell? Yn sicr. Mae wedi bod yn rhywbeth cadarnhaol i mi."
Sut gallwn ni wneud yn well?
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r Rhaglen Buddsoddi mewn Tai Cyngor i fodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023, yn seiliedig ar arolygon cyflwr stoc a'n Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2025–28. Byddwn yn parhau i weithredu camau i wella amseroedd ar gyfer gwneud atgyweiriadau ac addasiadau a llenwi tai gwag, a byddwn yn penodi tîm mewnol i gyflawni addasiadau bach yn fwy effeithlon. Byddwn hefyd yn cefnogi Gofal a Thrwsio i gynorthwyo perchnogion tai preifat. Yn ogystal, byddwn yn ehangu mynediad at dai fforddiadwy trwy ddatblygu ystod ehangach o opsiynau perchnogaeth cartref cost isel, gan gyfrannu at ddarparu dros 2,000 o gartrefi ychwanegol ledled y sir fel rhan o'n Strategaeth Tai Fforddiadwy.
Yn Gryno
- Mae gostyngiad sylweddol wedi bod mewn derbyniadau i'r ysbyty, gwell canlyniadau iechyd, ac arosiadau byrrach yn yr ysbyty, gan alluogi unigolion i ddychwelyd adref yn gynt gyda'r cymorth cywir yn ei le.
- Mae ymyrraeth gynnar ac atal yn ganolog i'n hymagwedd. Mae ein mentrau yn adlewyrchu hyn yn glir, gan sicrhau bod unigolion yn derbyn cymorth amserol cyn i anghenion gynyddu a chyn bod angen ymyrraeth statudol.
- Mae lleihau dibyniaeth ar ofal preswyl yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol, ac mae ffocws cryf ar ehangu opsiynau byw â chymorth sy'n hyrwyddo annibyniaeth, dewis personol, a chanlyniadau hirdymor gwell.
- Mae ystod eang o fentrau cynhwysol a chymunedol wedi hyrwyddo gweithgarwch corfforol, llesiant meddwl, ymgysylltu diwylliannol, a dysgu gydol oes ledled Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cefnogi cymunedau iachach, mwy cysylltiedig.
Sut ydyn ni'n gwneud?
- Rydym yn parhau i fod mewn sefyllfa sefydlog gyda gostyngiad yn y niferoedd sy'n aros yn yr ysbyty am ofal cartref (pump o bobl hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025). Mae hyn er bod ein llwythi achosion yn fwy cymhleth. Mae hyn yn dangos bod ein llwybrau cymunedol ataliol yn gweithio i reoli'r galw sy'n dod drwy'r system. Bu i'r cyllid her 50 diwrnod a ddyfarnwyd drwy Lywodraeth Cymru ddiwedd 2024/25 gyfrannu at greu capasiti ychwanegol yn y system sydd wedi, yn ei dro, leihau'r niferoedd sy'n aros am ofal cartref.
- Cafwyd 1,460 o atgyfeiriadau i'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn ystod 2024/25. Ychydig yn is na'r flwyddyn flaenorol (1,537), ond mae'r niferoedd yn parhau i fod yn uchel. Yn anffodus, dim ond 43% (233/542) o'r rhai a ddechreuodd y cynllun a gwblhaodd y rhaglen 16 wythnos yn ystod 2024/25 o gymharu â 70.2% (316/450) yn 2023/24.
- Mae nifer y diwrnodau calendr, ar gyfartaledd, a gymerir i gyflenwi Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn dal i fod yn uchel sef 272 o ddiwrnodau yn ystod 2024/25. Gwelliant bach iawn ar 273 o ddiwrnodau'r flwyddyn flaenorol.
- Mae dileu'r prawf modd ym mis Chwefror 2022 wedi cynyddu'n sylweddol y galw am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Er mwyn rheoli gwariant, fe wnaethom gyflwyno Cymeradwyo Oedi Cyn Talu. Fodd bynnag, mae'r mesur hwn hefyd wedi arafu pa mor gyflym mae contractwyr yn cwblhau prosiectau, gan effeithio ar amseroedd cyflawni yn 2025/26. Mae ailgyflwyno'r prawf modd yn ddiweddar wedi lleihau nifer y ceisiadau newydd am Grant Cyfleusterau i'r Anabl, ac mae'r gyllideb ar gyfer 2025/26 wedi cynyddu. Bydd y galw'n parhau i gael ei reoli o fewn y gyllideb sydd ar gael.
Cynnydd yn erbyn Canlyniadau
Canlyniad: Gwasanaethau integredig di-dor rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r Llwybr Gartref yn Gyntaf Integredig yn enghraifft o integreiddio rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei orau. Mae'r llwybr Gartref yn Gyntaf yn ceisio gwneud tri pheth:
- Darparu dewisiadau eraill diogel yn lle derbyn i'r ysbyty.
- Cefnogi rhyddhau o'r ysbyty (yn enwedig pan fo unigolyn angen asesiad ar gyfer gofal a chymorth parhaus, ac nad oes angen i'r asesiad hwnnw gael ei gynnal mewn gwely ysbyty acíwt).
- Cael unigolion allan o wasanaethau statudol ac i mewn i wasanaethau ataliol a fydd yn sicrhau bod pobl yn gallu bod mor annibynnol ag sy'n bosib.
Mae'r llwybr yn darparu un pwynt mynediad ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y gymuned, sef tîm amlddisgyblaethol wedi'i gyd-leoli yn gweithio ochr yn ochr â'r swyddogaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth wrth y drws ffrynt. Maent yn darparu sgrinio a brysbennu cadarn ar gyfer pob atgyfeiriad sy'n cyrraedd y ganolfan Gartref yn Gyntaf. Partneriaeth yw hon ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, Llesiant Delta, a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae Gartref yn Gyntaf yn llwyddo i gefnogi tua 225 o bobl bob mis, sy'n gyfuniad o rai sydd wedi osgoi derbyn, rhai sydd wedi'u rhyddhau o'r ysbyty â chymorth, a rhai sy'n destun asesiad ward rhithwir (gall pobl nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty arnynt, ond mae angen goruchwyliaeth feddygol arnynt, gael cymorth i aros gartref gyda'r ward rithwir).
Mae diddordeb enfawr wedi bod gan Lywodraeth Cymru ac ardaloedd Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Mae wedi ennill dwy Wobr GIG Cymru (Gofal Integredig sy'n Canolbwyntio ar y Person ac Enillydd Cyffredinol mewn Trawsnewid Iechyd a Gofal) a gwobr National Improvement and Efficiency Social Enterprise (iESE).
Gofal Cymdeithasol
- Mae'r Gwasanaeth Llesiant Iechyd Meddwl yn parhau i ddarparu cymorth ymyrraeth gynnar ac atal hanfodol. Yn hydref 2024, lansiwyd Gwasanaeth Celcio newydd mewn cydweithrediad â phartneriaid y trydydd sector. Mae'r model hwn yn profi'n llwyddiannus o ran atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu.
- Rydym wedi cryfhau ein partneriaethau gyda chydweithwyr iechyd, tai a'r trydydd sector i gefnogi ymagwedd fwy cydgysylltiedig o gomisiynu. Mae'r Grŵp Comisiynu Rhanbarthol yn dwyn ynghyd gomisiynwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r tri awdurdod lleol. Drwy'r Bwrdd rydym yn parhau i gydweithio ar ofal tymor hir a gwasanaethau i oedolion. Mae'r grŵp hwn yn cyfrannu at y Bwrdd Comisiynu Rhanbarthol, sy'n rhan o strwythur llywodraethu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
- Ar 19 Mawrth 2025, cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhagnodi Cymdeithasol yn y Ganolfan Byw'n Dda, Parc Dewi Sant. Gan dynnu sylw at effaith rhagnodi cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, daeth y digwyddiad â chleifion, partneriaid atgyfeirio, sefydliadau cymunedol a staff ynghyd i rannu profiadau ac amlygu llwyddiannau ar y cyd.
Canlyniad: Gwasanaethau hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy, sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso dysgu, diwylliant, treftadaeth, gwybodaeth, llesiant a hamdden.
Cyfleoedd Dydd
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda phrosiectau cymunedol lleol, gwasanaethau hamdden, a sefydliadau'r trydydd sector fel Gofal Celf i ledaenu mynediad i gyfleoedd dydd i unigolion ag anableddau dysgu a materion iechyd meddwl. Mae cyfleoedd dydd yn weithgareddau strwythuredig sydd wedi'u dylunio i adeiladu sgiliau, hyder ac annibyniaeth. Ein prif nod yw cynyddu nifer y cyfleoedd a'r amrywiaeth ohonynt i alluogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, datblygu cysylltiadau cymdeithasol, a gweithio tuag at nodau personol. Mae hyn wedi arwain at saith unigolyn ag anabledd dysgu yn cael profiad gwerthfawr drwy wirfoddoli yng Nghaffi Llyn Llech Owain.
Y Fenter Pasbort i Hamdden
Drwy'r fenter hon roedd gofalwyr yn gallu cael mynediad am ddim i gyfleusterau hamdden ar draws Sir Gaerfyrddin. Mae'r fenter yn rhan o strategaeth ehangach i wella llesiant, lleihau ynysu, a chynnig seibiant rhag cyfrifoldebau gofalu. Yn ystod 2024, galluogodd hyn 78 o ofalwyr i gael mynediad at wasanaethau hamdden y Cyngor, gan arwain at dros 700 o ymweliadau. Bu rhai cyfranogwyr yn edrych ar weithgareddau newydd, tra bo eraill wedi gwneud newidiadau sylweddol, hirdymor i'w ffordd o fyw. Dywedodd 100% o'r gofalwyr fod eu llesiant yn well, eu bod yn teimlo'n llai ynysig, a'u bod yn gwbl hapus â'r cynnig.
Lleihau Dibyniaeth ar Ofal Preswyl
Un o brif amcanion Gofal Cymdeithasol i Oedolion yw lleihau'r ddibyniaeth ar ofal preswyl trwy ddatblygu ystod ehangach o opsiynau llety â chymorth a fyddai'n gwella canlyniadau ac yn hyrwyddo annibyniaeth a dewis i unigolion. Dros y tair blynedd diwethaf, mae naw lleoliad byw â chymorth newydd wedi'u datblygu, gyda saith arall ar y gweill ar hyn o bryd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 45 o unigolion wedi symud yn llwyddiannus i fyw â chymorth.
Mae gwasanaeth lleoli oedolion Cysylltu Bywydau wedi ehangu ar draws y rhanbarth ac yn gweithio i drosglwyddo unigolion o leoliadau preswyl i drefniadau Cysylltu Bywydau. Mae'r ymagwedd hon yn cynnig dewis arall mwy personol a chymunedol yn hytrach na gofal traddodiadol, ac yn cefnogi'n uniongyrchol ein nod o leihau dibyniaeth ar ofal preswyl.
Mae'r Tîm Defnyddio Sylweddau ac Adfer wedi mabwysiadu dulliau arloesol, sydd wedi helpu i gefnogi unigolion â niwed i'r ymennydd cysylltiedig ag alcohol i gamu i lawr o ofal preswyl trwy ddefnyddio llety'n greadigol. Mae gweithio mewn partneriaeth barhaus â thai a sefydliadau'r trydydd sector yn galluogi datblygu tŷ adfer i wella opsiynau camu i lawr ymhellach ar gyfer pobl sydd â phroblemau defnyddio alcohol a defnyddio sylweddau.
Yn ogystal, mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn gwella'r cynllunio a'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc sy'n symud o'r Gwasanaethau Plant i'r Gwasanaethau Oedolion. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad agos â'r timau Gwasanaethau Plant, Tai a Chomisiynu i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu aros yn eu cymunedau eu hunain a chael mynediad at y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Mae sawl cynllun byw â chymorth newydd wedi'u sefydlu, sy'n cynnig lleoliadau mwy annibynnol a phenodol ar gyfer pobl ifanc wrth iddynt bontio.
Fel rhan o'n cynnig seibiant ehangach, mae Y Caban wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer seibiannau byr. Mae'n darparu cymorth hyblyg sy'n canolbwyntio ar y person i unigolion a'u gofalwyr. Mae'r fenter hon yn cefnogi ein hymrwymiad i gynnig dewisiadau amgen i ofal preswyl a sicrhau cymorth amserol, cymunedol yn ystod cyfnodau o angen cynyddol.
Gwasanaethau Ar-lein
Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y preswylwyr a'r busnesau sy'n cael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau'r Cyngor ar-lein. Trwy gydol 2024/25, mae nifer y sesiynau ar ein gwefan wedi cynyddu unwaith eto i dros 4.5 miliwn.
Mae hygyrchedd gwybodaeth yn bwysig iawn i ni. Eleni, buom yn gweithio gyda'r Ganolfan Hygyrchedd Digidol i archwilio ein gwefan i sicrhau bod ein cynhyrchion a'n gwasanaethau digidol yn gallu cael eu defnyddio'n hwylus ac yn cydymffurfio lle bynnag y bo modd â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG 2.2). Darparu hyfforddiant yn unol â gofynion y Siarter CSC ar gyfer Hyfforddwyr. Mae'n bwysig cofio bod preswylwyr, ymwelwyr a busnesau bellach yn cyrchu'r wefan mewn gwahanol ffyrdd, ac mae 62.9% yn defnyddio dyfais symudol. Mae hyn yn allweddol wrth ystyried sut i gyflwyno gwybodaeth i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â chynulleidfa mor eang â phosibl. Rydym hefyd yn monitro ein gwefannau trwy Silktide, platfform sy'n sganio hygyrchedd a chynnwys gwefannau'n awtomatig.
Mentrau Chwaraeon a Hamdden
Cynllun Cerdyn Aur Actif
Mae Cynllun 'Cerdyn Aur' Sir Gaerfyrddin yn caniatáu i breswylwyr sy'n cynrychioli ein gwlad, fel athletwyr sydd heb fod yn cael tâl yn eu camp ddewisol, gael mynediad i gyfleusterau yng Nghanolfannau Hamdden Actif, yn rhad ac am ddim, i ategu eu rhaglen hyfforddi bresennol. Yn ystod 2024/25 derbyniodd Actif 94 o geisiadau am Gerdyn Aur, a rhoddwyd 79 ohonynt. Mae'r ceisiadau yn adlewyrchu'r amrywiaeth eang o chwaraeon sydd ar gael yn y Sir, gan fod 26 o wahanol chwaraeon yn rhan o hyn.
Atgofion Chwaraeon y Scarlets – 'Straeon y Scarlets'
Cefnogodd Actif Llanelli sesiynau Atgofion Chwaraeon yn wythnosol ym Mharc y Scarlets, lle mynychodd dros 520, a chynnig rygbi cerdded bob tair wythnos. Mae'r fenter yn brwydro yn erbyn unigrwydd, dementia, ac arwahanrwydd trwy chwaraeon, adrodd straeon, a rhyngweithio cymdeithasol. Mae cyfranogwyr wedi ffurfio cysylltiadau cymunedol cryf, gan drefnu teithiau a gweithgareddau y tu hwnt i'r sesiynau. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft o sut y gall rhaglenni cynhwysol, diwylliannol wella llesiant, cadw treftadaeth, a meithrin ymgysylltiad gydol oes mewn bywyd hamdden a chymunedol.
Foothold Cymru - Cynnal a Chadw Beiciau a Mynediad i Feicio
Cydweithiodd Actif Llanelli â Foothold Cymru i wella mynediad i feicio ac addysg mewn ysgolion lleol. Dechreuodd y fenter yn Ysgol Heol Goffa, lle cafodd beiciau wedi'u haddasu eu trwsio a lle cafodd disgyblion hyfforddiant cynnal a chadw beiciau ymarferol, gan roi iddynt sgiliau ymarferol. Roedd hyn yn cefnogi trafnidiaeth gynaliadwy a ffyrdd o fyw egnïol. Hefyd fe wnaeth Actif Llanelli ariannu prynu beiciau newydd, a gafodd eu dosbarthu i ysgolion ledled Llanelli yng Ngwanwyn 2025. Roedd y prosiect yn hyrwyddo dysgu cynhwysol, llesiant, ac ymgysylltu hirdymor â beicio, sef camp y rhoddir sylw penodol iddi tan 2027.
Hwb Cymunedol Llanybydder – Mynediad i Ffitrwydd Digidol
Cyflwynodd neuadd gymunedol Llanybydder ddosbarthiadau ffitrwydd digidol trwy seilwaith newydd, gan gynnig mynediad am ddim fel rhan o'r aelodaeth. Arweiniodd hyn at fwy yn cymryd rhan ac at gynaliadwyedd ariannol, gyda saith aelod newydd yn ymuno yn yr wythnos gyntaf. Mae'r fenter yn hyrwyddo mynediad cynhwysol, lleol at wasanaethau iechyd a llesiant, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae'n cefnogi hyfywedd hirdymor cyfleusterau cymunedol. Cynllunnir sesiynau wyneb yn wyneb yn y dyfodol i ymgysylltu ymhellach.
Codi Pwysau i Fenywod a Merched / Addysg Menopos
Mae'r rhaglen Dysgu Codi Pwysau yn grymuso menywod a merched 14 oed a hŷn i adeiladu cryfder a hyder mewn amgylchedd cefnogol. Mae'r sesiynau'n herio stereoteipiau, yn hyrwyddo iechyd esgyrn, ac yn annog cyfranogiad rhwng cenedlaethau. Mae llawer wedi symud ymlaen i ddosbarthiadau uwch. Mae partneriaeth newydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn treialu addysg a ffitrwydd sy'n canolbwyntio ar y menopos, gan dynnu sylw at botensial y rhaglen i gefnogi iechyd menywod ym mhob cyfnod o fywyd ac i ehangu cyfleoedd ffitrwydd cynaliadwy a chynhwysol.
Beicio i Bobl Hŷn – Cynllun Peilot Motiview
Cyflwynodd Lleoedd Actif Motiview, sef technoleg feicio rithwir ar gyfer pobl hŷn, sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol a therapi atgofion. Mae cyfranogwyr yn beicio trwy dirweddau cyfarwydd, gan ysgogi sgwrs, hiraeth, a gwell symudedd. Mae'r cynllun peilot wedi dangos potensial cryf ar gyfer gwella llesiant mewn lleoliadau gofal. Bydd cynlluniau i ddatblygu llwybrau penodol i Sir Gaerfyrddin yn cynyddu ymgysylltiad lleol a pherthnasedd diwylliannol, gan gefnogi hamdden cynaliadwy a chynhwysol i oedolion hŷn.
Rhaglenni Atgyfeirio ac Atal Iechyd
Fel rhan o'n hymrwymiad i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd, rydym wedi ehangu ein rhaglenni atgyfeirio ac atal iechyd ledled y Sir. Mae'r rhaglenni'n cynnwys Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), Atal Codymau a Chyn-Diabetes.
Rhaglenni Therapi Dyfrol a Ffitrwydd
Mae Good Boost wedi derbyn cefnogaeth werthfawr gan y Bwrdd Iechyd, sy'n cydnabod ei ddull arloesol o wella iechyd cyhyrysgerbydol (MSK) trwy ymarfer corff dyfrol ac ar dir sydd wedi'i bersonoli, gyda chymorth technoleg. Mae'r rhaglen yn defnyddio sesiynau sydd wedi'u cynllunio'n glinigol i gefnogi unigolion â chyflyrau fel arthritis, poen cronig, a'r rhai sy'n aros neu'n gwella ar ôl cael cymal newydd neu anaf. Yn nodedig, mae cyfuniad o Therapi Dyfrol a Good Boost eisoes wedi arwain at arbedion gwirioneddol i'r GIG, gyda rhai cyfranogwyr yn gweld y fath welliant fel eu bod wedi eu tynnu o'r rhestri aros am gymal newydd. Ers hynny, mae'r unigolion hyn wedi cynnal eu ffordd o fyw egnïol trwy barhau â gweithgareddau ehangach Actif mewn canolfannau hamdden ac yn y gymuned, gan elwa ar fanteision hirdymor y rhaglen ar gyfer llesiant personol a'r galw am ofal iechyd. Mae'r cymorth a gynigir gan y GIG bellach wedi galluogi Actif i gychwyn rhaglen gymunedol i gynorthwyo i reoli cyflyrau MSK mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd anodd eu cyrraedd.
Rhaglen ymyrraeth iechyd 16 wythnos yw 'Mae eich Iechyd yn Bwysig', sy'n cefnogi oedolion i wella eu llesiant corfforol a meddyliol. Wedi'i gyflwyno gan hyfforddwyr ac arbenigwyr gwadd, mae 'Mae eich Iechyd yn Bwysig' yn cyfuno addysg, ymarfer corff, meddylgarwch a chyngor dietegol, gyda mynediad i Actif Unrhyw Le a gweithgareddau lleol. Gan dargedu cyflyrau y gellir eu hatal fel diabetes math 2 a salwch sy'n gysylltiedig ag ysmygu, cyflawnodd ganlyniadau nodedig:
- llesiant meddwl 94% o'r cyfranogwyr wedi gwella,
- maint gwast 76% ohonynt wedi lleihau, a
- mynegai màs y corff 70% ohonynt wedi gostwng neu aros yr un peth.
Ar y cyfan, collwyd 81.6 cilogram, ac fe wnaeth y cyfartaledd pwysau gwaed wella. Dywedodd y cyfranogwyr fod mwy o hyder gyda nhw, llai o grefu am bethau, a'u bod yn cynnal arferion iachach. Cryfder allweddol oedd yr amgylchedd grŵp cefnogol. Yn adborth y cyfranogwyr amlygwyd effaith gyfannol y rhaglen, gan newid ffocws o golli pwysau i newid ffordd o fyw. Defnyddiwyd cofnodion a sesiynau un-i-un misol i annog cyrraedd nodau ac olrhain cynnydd unigol. Parhaodd llawer â gweithgareddau corfforol ar ôl y rhaglen, gyda thrawsnewidiadau personol ysbrydoledig a gwell iechyd meddwl yn dangos gwerth ymyriadau iechyd cefnogol, wedi'u targedu.
Gwasanaeth Actif Unrhyw Le
Lansiwyd gwasanaeth Actif Unrhyw Le fel platfform ar-lein dwyieithog i gefnogi ysgolion a chymunedau gwledig ledled Sir Gaerfyrddin. Gan gynnig ystod eang o ddosbarthiadau a gweithgareddau allgyrsiol, mae'r platfform wedi'i ddatblygu ymhellach gyda chefnogaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae hyn yn helpu i sicrhau mynediad at gyfleoedd iachâd a llesiant beth bynnag fo'u lleoliad.
Rhaglenni Cyfleuster Chwaraeon a Hamdden Actif
Mae cynnig cynhwysfawr o sesiynau wedi'u rhaglennu a rhai talu a chwarae ar gael ym mhob safle er mwyn i bobl fod yn egnïol a gwella ansawdd bywyd, iechyd a llesiant cyffredinol. Mae poblogrwydd cynlluniau aelodaeth wedi gweld twf o 8.5% i'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025 a lefel aelodaeth gyfan o 8,720. Cynyddodd ymweliadau'r grŵp oedran 18 i 59 28% i 673,069.
Theatrau Sir Gâr
Mae Theatrau Sir Gâr wedi parhau i hyrwyddo cynhwysiant yn y celfyddydau drwy bartneriaethau a rhaglenni arloesol. Mewn cydweithrediad ag InclusAbility Swansea a Breaking the Box, fe wnaethom ddatblygu offer i wneud y theatr yn fwy hygyrch i unigolion ag anableddau a gorbryder. Gan gydnabod bod amgylchedd theatrau traddodiadol yn gallu bod yn ormod i rai, fe wnaethom gyflwyno bagiau synhwyraidd am ddim. Maent ar gael yn y swyddfa docynnau, ac yn cynnwys stori weledol o'r theatr, amddiffynwyr clust, sbectol haul, ac eitemau bigitan. Rydym hefyd yn datblygu mannau ymlacio yn ystod perfformiadau safonol, sy'n rhoi man tawel, diogel lle gall unigolion leihau tensiwn a dychwelyd i'r perfformiad pan fyddant yn barod. Nod yr ymdrechion hyn yw adeiladu ymddiriedaeth a sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cefnogi yn ein lleoliadau.
Yn ogystal, cynhaliodd Theatrau Sir Gâr The Ancient Oak of Baldor gan Frozen Light – profiad theatr amlsynhwyraidd a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog. Mynychodd dros 80 o westeion a'u gofalwyr, llawer ohonynt yn profi theatr am y tro cyntaf mewn gofod a grëwyd yn bwrpasol ar eu cyfer.
CofGâr
Lansiodd CofGâr ei wasanaeth atgofion newydd, Cofio. Mae'r gwasanaeth hwn yn defnyddio Blychau Cof wedi'u curadu'n ofalus sy'n llawn eitemau cyfarwydd o'r 1950au, 60au, a 70au i sbarduno myfyrio a sgwrsio ystyrlon. Wedi'u cynllunio i'w defnyddio mewn grwpiau cymorth, cartrefi gofal, a chyfarfodydd cymunedol, mae'r blychau'n cynnwys gwrthrychau hanesyddol, deunyddiau printiedig, ysgogiadau trafod, a chwisiau i annog rhyngweithio diddorol a phleserus. Mae CofGâr eisoes wedi cyflwyno sesiynau ledled y Sir, gan gynnwys partneriaeth lwyddiannus gyda'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, lle defnyddiwyd blychau cof yn ystod dawnsfeydd te ar thema'r 1940au yng ngwanwyn 2025.
Canlyniad: Gwell gwasanaethau ataliol i fodloni gofynion poblogaeth sy'n heneiddio.
- Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Gwasanaethau Integredig wedi llwyddo i weithredu cynlluniau gofal wedi'u personoli ar gyfer dros 5,000 o breswylwyr. Mae hyn wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol mewn derbyniadau i'r ysbyty, gwell canlyniadau iechyd, ac arosiadau byrrach yn yr ysbyty - gan alluogi unigolion i ddychwelyd adref yn gynt gyda'r gefnogaeth gywir yn ei lle.
- Mae'r Tîm Gartref yn Gyntaf, sef tîm amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl sy'n gadael yr ysbyty, wedi sefydlu trefniant brysbennu llwyddiannus sy'n cael effaith ar lif ysbytai ac yn lleihau rhestri aros.
- Rydym yn parhau i gefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol cyn hired â phosibl, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a gofal personol. Mae ein dull "rhyddhau amser i ofalu" yn sicrhau bod y cymorth lleiaf ymwthiol posibl yn cael ei ddarparu, gan ryddhau capasiti i eraill. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 851 awr o ofal wedi'u rhyddhau, gan helpu i leihau rhestrau aros gofal cartref i'w lefel isaf ers blynyddoedd ac arwain at 30 yn llai o bobl mewn gofal preswyl er gwaethaf y galw cynyddol.
- Mae dros £1 miliwn o gyllid grant ychwanegol wedi'i sicrhau i gefnogi'r agenda ataliol ymhellach. Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i dargedu materion fel gwella hygyrchedd gwasanaethau i gymunedau amrywiol, mynd i'r afael â bylchau trafnidiaeth a gwella diogelwch cymunedol trwy ddarparu pecynnau technoleg pwrpasol.
Gwasanaeth Rhagnodi Cymdeithasol
Mae ein gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol yn elfen hanfodol o'n strategaeth ataliol, sy'n cysylltu cleifion ag adnoddau cymunedol i gefnogi eu hiechyd a'u llesiant. Mae'r Rhagnodwyr Cymdeithasol yn rhan annatod o'r timau cymunedol lleol, gan weithio'n agos gydag unigolion sydd naill ai'n hunan-gyfeirio, neu'n cael eu nodi gan eu meddygon teulu, neu aelodau o'r Tîm Adnoddau Cymunedol a chontractwyr gofal sylfaenol ehangach, fel rhai mae angen cymorth arnynt i gysylltu â'u cymunedau er mwyn hyrwyddo hunan-werth ac integreiddio, gan ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gleifion ac sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant ymysg poblogaeth Sir Gaerfyrddin.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cysylltu unigolion â chymorth di-glinigol i wella eu hiechyd a'u llesiant, fel grwpiau cymunedol, gweithgareddau corfforol, a gwasanaethau sy'n rhoi cyngor. Rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025, derbyniodd y gwasanaeth dros 1,100 o atgyfeiriadau, yn bennaf ar gyfer cymorth iechyd meddwl lefel isel (68%) ac arwahanrwydd cymdeithasol (50%). Cefnogodd y gwasanaeth unigolion rhwng 18 a 100 oed, ac roedd y grŵp mwyaf rhwng 55 a 64 oed. O'r rhai a gwblhaodd ffurflen profiad claf, roedd 95% yn teimlo bod eu llesiant wedi gwella.
Cysylltu Sir Gâr
Partneriaeth yw Hybiau Cymunedol Cysylltu Sir Gâr o sefydliadau'r trydydd sector sy'n darparu gwasanaeth cymorth ataliol sydd wedi'i gynllunio i helpu preswylwyr ledled Sir Gaerfyrddin i gael gafael ar gyngor, cymorth ac adnoddau lleol yn haws. Mae hyder yn y gwasanaeth yn parhau i dyfu, gyda dros 4,500 o atgyfeiriadau wedi'u gwneud yn ystod 2024/25.
Mae platfform digidol Cysylltu Sir Gâr wedi parhau i esblygu drwy gydol 2024/25. Mae gwelliannau meddalwedd parhaus wedi canolbwyntio ar: ehangu ymarferoldeb, gwella profiad y defnyddiwr; a theilwra'r platfform yn seiliedig ar adborth preswylwyr. Mae gan y platfform 213 o weithgareddau cymunedol a 1,341 o aelodau cofrestredig. Yn 2024/25, derbyniodd y bartneriaeth anrhydeddau mewn pedair seremoni wobrwyo.
Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
Mae Taliadau Uniongyrchol yn rhoi'r grym i unigolion sy'n gymwys i gael gofal a chymorth reoli eu gwasanaethau trwy dderbyn taliadau arian parod i drefnu gofal sy'n diwallu eu hanghenion asesedig. Mae'r ymagwedd hon yn hyrwyddo hyblygrwydd, annibyniaeth, a dewis personol. Ers dod â'r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn fewnol yn 2021, mae'r defnydd ohono wedi cynyddu 51%. Mae'r gwasanaeth yn parhau i esblygu i sicrhau arfer gorau, cydymffurfiaeth gyfreithiol a gwerth am arian, wrth gefnogi unigolion i reoli eu trefniadau yn hyderus ac yn effeithiol. Mae'r prif gerrig milltir yn 2024/25 yn cynnwys:
- Lansio Polisi Taliadau Uniongyrchol ar ei newydd wedd, sy'n darparu fframwaith clir a chyson ar gyfer cyflawni.
- Cyflwyno gwasanaethau Micro-fentrau, ehangu'r farchnad ofal a gwella dewis a rheolaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Prosiect Catalyddion Gofal
Mae'r prosiect yn helpu Catalyddion Gofal i sefydlu eu gwasanaethau gofal bach, annibynnol eu hunain – o'r enw micro-fentrau. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig gofal personol, cymunedol, sydd yn aml wedi'u haddasu i anghenion lleol. Yn 2024, mae 63 o ficro-fentrau yn gweithredu yn Sir Gaerfyrddin, gyda 73% yn darparu gofal personol. Mae'r prosiect wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn rhestrau aros Gofal Cartref, gan wella mynediad a hyblygrwydd yn y ddarpariaeth ofal.
Datblygu Cartrefi Gofal
Mae cynlluniau wedi'u cyhoeddi i ailddatblygu hen gartref gofal Plas y Bryn yng Nghwmgwili yn gyfleuster nyrsio a gofal preswyl 60 gwely newydd i'w gofrestru'n ddeuol – y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Yn amodol ar gyllid rhannol drwy Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Llywodraeth Cymru, bydd y datblygiad arfaethedig yn dyblu capasiti'r cartref gwreiddiol ac yn mynd i'r afael â bwlch sylweddol yn narpariaeth gofal yr awdurdod lleol. Bydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddylunio hyd at safonau Carbon Sero Net, gan gefnogi uchelgais y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Yn ogystal ag ehangu capasiti gofal, disgwylir i'r prosiect ddarparu buddion cymunedol ehangach, gan gynnwys cyflogaeth leol a datblygu sgiliau. Mae Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio wedi'i drefnu ar gyfer Rhagfyr 2025, a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Hydref 2026.
Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin
Wrth lunio Strategaeth Byw'n Dda yn Sir Gaerfyrddin, cynhaliwyd chwe digwyddiad cymunedol yng nghymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cynnig cyfleoedd i ymgysylltu â'r cyhoedd i ddeall beth oedd ystyr byw'n dda iddyn nhw. Daeth y digwyddiadau hyn ag ystod eang o wasanaethau ynghyd sy'n canolbwyntio ar atal, llesiant a hunan-ofal, gan helpu unigolion i ddeall y cymorth sydd ar gael i'w helpu i gadw'n iach a byw'n annibynnol gartref. Daeth 260 o bobl i'r digwyddiadau. Dywedodd y sefydliadau gymerodd ran fod hwn wedi bod yn gyfle gwych i rwydweithio a chodi proffil eu gwasanaethau ymhlith gweithwyr proffesiynol eraill, yn ogystal â'r cyhoedd. Bu i'r adborth gan y cyhoedd ganmol yr amrywiaeth o wybodaeth sydd ar gael gydag un yn dweud:
‘Dwi wedi cael gafael ar wybodaeth hynod ddefnyddiol am waredu eitemau meddygol, wedi cael gwiriad iechyd, fydda i'n cael fy larwm tân wedi'i wirio a chymorth i rwystro galwadau niwsans.’
Astudiaeth Achos
Mae'r Tim Llesiant yn wasanaeth cymorth ac ataliol cynnar sy'n cefnogi oedolion a'u gofalwyr ag anghenion iechyd meddwl a llesiant. Mae'r tîm yn gweithio ar draws y sir ac yn cydweithio â meddygon teulu, gwasanaethau tai, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd lechyd Hywel Dda, ac amryw sefydliadau'r trydydd sector, fel Mind a Gweithredu Gorllewin Cymru dros lechyd Meddwl.
Eleni mae'r tim wedi helpu unigolyn a wynebai sefyllfa lle roedd ei gartref ar fin cael ei adfeddiannu. Gyda'r gefnogaeth a ddarparwyd, llwyddwyd i atal yr adfeddiannu gan ei fod yn cael effaith negyddol dros ben ar ei iechyd meddwl. Rhoddwyd help i'r unigolyn gyfathrebu â'i gwmni morgeisi, a phenderfynodd werthu ei gartref.
Roedd gan yr unigolyn dueddiadau celcio hefyd, ac roedd ei gartref yn orlawn o eitemau. Ar yr adegau rhoddwyd cymorth, trefn odd y Tim Llesiant fwy o gymorth iechyd meddwl tymor byr. Helpodd y tim fe i drefnu a didoli'r hyn oedd ganddo trwy gefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
Mae cefnogaeth barhaus wedi'i darparu gan y Tim Llesiant. Hefyd mae'r unigolyn wedi mynychu grŵp cymorth celcio yn Mind, lle cafodd gefnogaeth gan eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg, yn ogystal ag arweiniad gan weithwyr proffesiynol sy'n arwain y grŵp. Mae hyn wedi rhoi'r gallu iddo adael ei gartref yn rheolaidd i fynychu'r sesiynau, lle mae'n cysylltu ag eraill ac yn parhau i wneud cynnydd yn ei daith.
Gwasanaethau Atal a Monitro Galwadau Niwsans Seraphim trueCall@
Mae 238 o breswylwyr agored i niwed yn destun gwasanaethau gwell i atal twyll telefarchnata o dan raglen atal twyll telefarchnata trueCall© Safonau Masnach. Mae dyfeisiau rhwystro galwadau niwsans trueCall© y preswylwyr yn cael eu monitro'n fisol gan ddefnyddio Seraphimbeta©, sef datrysiad meddalwedd arloesol a ddyluniwyd gan Safonau Masnach i rybuddio swyddogion lle ofnir bod preswylwyr agored i niwed wedi bod mewn cyswllt â throseddwyr telefarchnata.
Y llynedd, rhwystrodd y rhaglen 31,374 o alwadau niwsans, ac o'r rhain roedd 6,756 ohonynt o rifau cysylltiedig â throseddwyr telefarchnata. O hynny, cymerwyd 2,421 o gamau monitro a arweiniodd at 74 o rybuddion ymyrraeth llesiant, gan sbarduno ymyriadau cyswllt uniongyrchol gan y tîm.
Amcangyfrifir bod y rhaglen wedi atal tua 40 o achosion o dwyll telefarchnata ac wedi creu arbedion o £184,554 i aelwydydd agored i niwed. Arweiniodd hyn at ostyngiad o £109,297 mewn costau gwasanaeth cyhoeddus (GIG, Gofal Cymdeithasol a'r Heddlu).
Oes unrhyw un ar ei ennill?
Roedd dau o breswylwyr Sir Gaerfyrddin, Mark a Lesley, sydd wedi elwa o daliadau uniongyrchol drwy wasanaethau Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin, yn westeion anrhydeddus yn Seremoni Cydsyniad Frenhinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ddydd Llun, 24 Mawrth, ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Mae tystiolaeth bwerus Mark a Lesley am eu profiadau cadarnhaol gyda thaliadau uniongyrchol yn Sir Gaerfyrddin wedi cael dylanwad ar ddatblygiad y ddeddfwriaeth nodedig hon. Cydnabuwyd eu cyfraniadau gan Lywodraeth Cymru, a'u gwahoddodd i fod yn dyst i'r digwyddiad hanesyddol hwn, lle rhoddodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, y sêl yn ffurfiol i'r Llythyrau Patent, gan ddeddfu'r gyfraith newydd.
Roedd Mark a Lesley yng nghwmni eu cynorthwyydd personol, wedi'i ariannu trwy daliadau uniongyrchol, a'u huwch-weithiwr cymdeithasol, Catherine James, a oedd wedi eu cefnogi trwy gydol eu taith. Roedden nhw'n teimlo ei bod yn bwysig bod y rhai a oedd wedi chwarae rhan allweddol yn eu gofal yn bresennol i rannu'r foment. Dywedodd Lesley: "Roedd yn anrhydedd i ni gael ein gwahodd i'r Seremoni Cydsyniad Brenhinol a gwybod bod rhannu ein stori wedi helpu i lunio deddf a fydd yn rhoi'r un annibyniaeth a dewis i eraill ag yr ydym wedi'i gael. Mae'n galonogol gweld ein profiad yn cael ei werthfawrogi yn y modd hwn ac rydym yn falch o rannu'r seremoni gyda'r ddau unigolyn sydd mor allweddol wrth ganiatáu i ni fyw ein bywydau gorau posibl.”
Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn cyflwyno diwygiadau sylweddol, gan gynnwys rhoi terfyn ar elw preifat mewn gofal preswyl a gofal maeth i blant, gan olygu mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu'r newid hwn. Mae hyn wedi galluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol o fewn gofal iechyd parhaus y GIG, gan roi mwy o reolaeth dros eu gofal i bobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.
Sut gallwn ni wneud yn well?
Byddwn yn parhau i wrando ar ofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnal digwyddiad "Fe ddwedsoch chi, fe wnaethom ni" i rannu cynnydd a llunio gwelliannau yn y dyfodol. Bydd ein Polisi Addasiadau newydd yn ein helpu i gyflawni addasiadau cartref amserol, gan gefnogi byw'n annibynnol a rhyddhau o'r ysbyty yn gyflymach. Byddwn hefyd yn cryfhau ein gwaith atal hunanladdiad mewn ymateb i bryderon cynyddol, ac yn adolygu gwasanaethau yn unol ag Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad, i sicrhau bod blaenoriaethau'n dal i gyd-fynd ag anghenion cyfredol. Mae hyn yn cynnwys gwella gofal maeth, ehangu'r ddarpariaeth gartref, buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, parhau â'n rhaglen Cysylltu Bywydau sy'n tyfu, cynyddu capasiti cartrefi gofal arbenigol, a chryfhau gofal cartref a chymunedol.
