Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2024-2025
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol
- Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)
- Amcan Llesiant 2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)
- Amcan Llesiant 3 - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)
- Amcan Llesiant 4 - Ein Cyngor: Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon
- Galluogwyr Busnes Craidd
- Atodiadau
Amcan Llesiant 4 - Ein Cyngor: Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon
Trosolwg o'r cynnydd
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran moderneiddio ei weithrediadau a gwella gwytnwch ac effeithlonrwydd:
- Mae'r Rhaglen Drawsnewid wedi cyflawni arbedion cost sylweddol, gan gynnwys dros £200,000 o adolygiadau fflyd a £2.5 miliwn drwy wella adennill dyledion.
- Mae gweithio hybrid wedi'i ymgorffori'n llwyddiannus, ac mae gwerthu Parc Dewi Sant a defnyddio dulliau rheoli'r gweithle wedi cefnogi rhesymoli eiddo.
- Mae buddsoddiadau technolegol wedi symleiddio gweithrediadau, gydag awtomeiddio a roboteg yn lleihau llwythi gwaith â llaw ac yn arbed dros £61,000 trwy bost hybrid yn unig.
- Mewn perthynas â Rheoli Pobl, mae Strategaeth Recriwtio a Chadw newydd yn cael ei datblygu, a chafodd y Cyngor ei gydnabod fel 'Cyflogwr y Flwyddyn' am ei gefnogaeth i ddysgu Cymraeg.
- Mae ymgysylltu â'r staff yn parhau i fod yn gryf, gyda sgoriau arolwg gwell yn dangos balchder ac eiriolaeth dros y Cyngor fel cyflogwr.
- Mae blwyddyn gyntaf ein Strategaeth Ddigidol wedi cyflawni newid trawsnewidiol ar draws y sefydliad. Rydym wedi gwella seilwaith, grymuso ein gweithlu, gwella darparu gwasanaethau, a sicrhau bod seiberddiogelwch wrth wraidd ein gwaith. Mae sylfeini cadarn ar waith, ac rydym mewn sefyllfa dda i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n fwy clyfar, mwy diogel, a mwy cysylltiedig yn y blynyddoedd i ddod.
- Rydym hefyd wedi datblygu ei allu i wneud penderfyniadau ar sail data ac wedi buddsoddi mewn datblygu sgiliau digidol.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Rydym yn rhoi pwyslais sylweddol ar bwysigrwydd barn ein preswylwyr. Y brif ffordd o fesur cynnydd yn erbyn yr amcan hwn yw drwy ein harolwg preswylwyr blynyddol. Mae'r canlyniadau ar gyfer 2024 yn cael eu darparu isod gyda chymharydd ar gyfer y ddwy flynedd flaenorol. Mae'r datganiadau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Cyngor a'n perfformiad.
O'r naw datganiad a gyflwynwyd yn gysylltiedig â'r Cyngor a'i berfformiad, roedd yr ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf â phump (56%) ohonynt. Mae hyn yn gyson â'r tueddiadau a welwyd am y flwyddyn flaenorol.
Er hyn, bu gwelliant eleni, gyda phedwar datganiad yn gweld gostyngiad mewn sgoriau, o gymharu ag wyth datganiad y llynedd. Mae dau ddatganiad wedi aros yr un fath a thri yn dangos canlyniadau gwell.
- Mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi byw yn Sir Gaerfyrddin. Dyma'r datganiad sydd wedi sgorio uchaf dros y tair blynedd diwethaf.
- Roedd yr ymatebion yn gymysg o ran y graddau y mae preswylwyr yn teimlo bod y Cyngor yn rhoi gwybod iddynt sut mae'n perfformio. Dewisodd y gyfran fwyaf 'y naill na'r llall', sy'n gyson â'r tueddiadau a welwyd y llynedd.
- Roedd safbwyntiau'n gymysg ynglŷn â 'mae'r Cyngor yn darparu cyfleoedd i breswylwyr gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.' Mae awydd ymhlith ymatebwyr am wneud penderfyniadau mewn modd mwy ymatebol, tryloyw ac wedi'i deilwra i anghenion cymunedau unigol.
- Mae proses gyfathrebu'r Cyngor ar y cyfan yn effeithiol o ran caniatáu i breswylwyr gael mynediad at wybodaeth gyfredol am wasanaethau, ac mae'r rhan fwyaf yn cytuno bod cysylltu'r â'r Cyngor yn syml ac yn hawdd. Fodd bynnag, mae rhai problemau gyda phrosesau cyswllt uniongyrchol, megis pan fydd preswylwyr yn defnyddio'r prif switsfwrdd, yn defnyddio e-bost i gysylltu â swyddogion neu'n dymuno siarad yn uniongyrchol â swyddogion mewn adrannau unigol. Mae'r canfyddiadau hyn yn gyson â'r flwyddyn flaenorol.
- Ar y cyfan mae'r ymatebwyr o'r farn nad yw'r Cyngor yn gwneud defnydd da o'r adnoddau ariannol sydd ar gael i ni, ac nad yw buddsoddi'n digwydd yn y meysydd cywir.
- Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i fod yn her sylweddol i breswylwyr a'u teuluoedd. Mae costau cynyddol yn parhau i roi pwysau sylweddol ar breswylwyr Sir Gaerfyrddin.
- Er bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno bod eu hiechyd a'u llesiant cyffredinol yn dda, mae mynediad at wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol addas i'r diben yn parhau i fod yn bryder ac yn her wirioneddol i breswylwyr.
- Mae diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus addas i'r diben a chysylltiadau trafnidiaeth da yn rhwystr i lawer. Dywedwyd bod tyllau a diogelwch ffordd cyffredinol yn broblem.
- Y gwasanaethau gwastraff gafodd y lefelau boddhad uchaf, wrth i 59% o'r ymatebwyr fynegi boddhad. Er hynny, derbyniwyd sylwadau o hyd mewn perthynas â sbwriel, tipio anghyfreithlon ac ymdeimlad cyffredinol anniben rhai ardaloedd o'r Sir. Mae'r sylwadau hyn yn arbennig o berthnasol i ganol trefi.
- Er bod y mwyafrif (46%) yn cytuno bod eu hamgylchedd lleol yn ddymunol ac yn cael gofal da, mae cyfran gymharol uchel yn anghytuno.
- Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfradd droseddu eithaf isel o gymharu â siroedd eraill yng Nghymru, gyda 67% o'r ymatebwyr yn cytuno eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau.
- Er bod newid wedi bod o 'cytuno'n gryf' i 'cytuno', mae'n parhau i fod yn bwysig i breswylwyr bod pobl leol yn cael eu cefnogi i brynu cartrefi yn lleol. Mae hyn yn cyfateb i 'cytuno' yn gyffredinol gan 75% o'r ymatebwyr.
- Nododd cyfran sylweddol o ymatebwyr 'y naill na'r llall' pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn teimlo bod pobl leol yn cael cefnogaeth dda i fanteisio ar gyfleoedd lleol.
- Mae'r rhan fwyaf o ymatebwyr (63%) yn cytuno ei bod yn bwysig hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg. Fodd bynnag, mynegodd rhai preswylwyr safbwynt i'r gwrthwyneb, gan dynnu sylw at yr adnoddau oedd yn cael eu defnyddio ar y flaenoriaeth hon pan oedd adnoddau'n prinhau.
- Er bod y sgôr wedi gostwng ychydig flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'n dal yn bwysig i breswylwyr fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl.
- Nododd y gyfran fwyaf o ymatebwyr (42%) 'y naill na'r llall' pan ofynnwyd iddynt a oedd yr argyfwng hinsawdd yn cael sylw’n lleol. Mae hon yn duedd gyson â'r flwyddyn flaenorol.
- Ac eithrio'r rhai a atebodd 'nid y naill na'r llall' neu 'ddim yn gwybod', roedd y lefelau anghytuno yn uwch (33%) na'r lefelau cytuno (14%) ar gyfer y graddau y cefnogir busnesau yn yr ardal leol.
- Mynegodd 21% o'r ymatebwyr anfodlonrwydd â gwasanaethau cymorth cyflogaeth.
- Yn gyffredinol, mae'r ymatebwyr (44%) yn cytuno bod ysgolion lleol yn darparu addysg dda i blant a phobl ifanc.
Cynnydd yn erbyn Canlyniadau
Canlyniad: Moderneiddio a datblygu ffyrdd y Cyngor o weithio ymhellach.
Trawsnewid
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein Rhaglen Drawsnewid wedi canolbwyntio ar gyflymu ei hymdrechion moderneiddio i sicrhau y darperir gwasanaethau cost-effeithiol sydd o safon uchel.
Un o'r prif bethau sydd wedi'u cyflawni yw clustnodi a gwneud arbedion cost drwy reolaeth ariannol glyfrach. Er enghraifft, mae'r adolygiad o'n fflyd cerbydau eisoes wedi cyflawni dros £200,000 mewn arbedion cost, ac mae bellach yn cael ei ymestyn i feysydd eraill. Yn ogystal, mae ymdrechion i adennill dyledion wedi arwain at £2,523,468 mewn refeniw ychwanegol, gan dynnu sylw at lwyddiant ymagwedd fasnachol y Cyngor at ddarparu gwasanaethau.
Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd o ran rhesymoli asedau'r Cyngor, gan ryddhau safle Parc Dewi Sant i'w werthu ac ail-leoli staff i adeiladau eraill. Mae'r cam hwn, ynghyd â'r defnydd o feddalwedd rheoli gweithleoedd, yn cefnogi penderfyniadau gwybodus ar gydgrynhoi eiddo ac yn caniatáu ar gyfer dulliau gweithio mwy clyfar.
Mae buddsoddiadau mewn technoleg wedi moderneiddio gwaith y Cyngor ymhellach. Mae awtomeiddio prosesau papur wedi arwain at arbedion sylweddol, gyda gwasanaethau post hybrid yn unig yn arbed £61,884 mewn costau ar gyfer y flwyddyn. Ar ben hynny, mae defnyddio technoleg roboteg (RPA) wedi optimeiddio swyddogaethau swyddfa gefn, gan ryddhau staff i ganolbwyntio ar dasgau sy'n rhoi mwy o werth ychwanegol. Mae enghreifftiau o RPA yn cynnwys Create New Post, sydd wedi rhyddhau amser i staff AD gefnogi rheolwyr gyda materion mwy cymhleth, a'r broses Ymgeisio am Grant Hanfodion Ysgol (SEG). Mae gweithredu RPA ar gyfer SEG wedi cynnwys awtomeiddio'r broses o wirio cymhwysedd rhieni/gwarcheidwaid, sydd nid yn unig wedi rhyddhau amser sylweddol i staff Addysg ond hefyd yn fanteisiol yn yr ystyr bod rhieni/gwarcheidwaid yn cael gwybod a ydynt yn gymwys o fewn 48 awr o gyflwyno'r cais, yn hytrach nag wythnos neu ragor mewn rhai achosion.
Rydym wedi cwblhau cynllun peilot llwyddiannus o fewn ein Gwasanaethau Gofal Preswyl er mwyn lleihau'r defnydd o weithlu'r asiantaeth, ac, yn hytrach, defnyddio adnoddau mewnol. Nod y cynllun peilot oedd darparu gwasanaeth mwy cost-effeithiol, gan gynyddu hefyd lefelau boddhad y preswylwyr drwy wella cysondeb, a hynny drwy gael staff CSC cyfarwydd i ddarparu eu gofal. Mae hyn wedi rhoi bod i ostyngiad o 79% mewn oriau a fyddai fel arall wedi cael eu cyflawni gan asiantaethau.
Canlyniad: Cefnogi datblygiad y Cyngor fel sefydliad modern, amrywiol, cynhwysol ac ymatebol a bod yn 'Gyflogwr o Ddewis’.
Prentisiaethau
Ystyrir bod prentisiaethau'n sylfaenol i ddatblygiad ein gweithlu yn y dyfodol. Fel Cyngor, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddechreuwyr newydd, yn ogystal â staff presennol sydd am uwchsgilio. Ers 2022, cwblhaodd 21 o bobl ar gontractau prentisiaeth eu hastudiaethau gyda 13 ohonynt yn dal i fod yn gyflogedig.
Rydym hefyd yn cefnogi lleoliadau mewn partneriaeth â chynllun Cyfle, i roi i ddysgwyr ystod o brofiadau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gyflawni eu cymhwyster. Mae hwn wedi bod yn llwybr effeithiol i lawer o'n staff. Yn ogystal, ar hyn o bryd mae 83 aelod o staff sy'n ymgymryd â chymwysterau prentisiaeth i uwchsgilio – yn amrywio o Lefel 2 (sy'n cyfateb i TGAU) hyd at lefel gradd.
Gwella Recriwtio a Chadw
Mae Strategaeth Recriwtio a Chadw newydd yn cael ei llunio ar hyn o bryd, a fydd yn nodi ein hamcanion ac yn disgrifio sut byddwn yn mynd i'r afael â'n heriau ariannu. Mae hyn yn cyfateb i'n 'Strategaeth Gweithlu' a'n 'Strategaeth Drawsnewid', gan adlewyrchu ein hymrwymiad corfforaethol i gydraddoldeb ac amrywiaeth, tra'n sicrhau bod arferion recriwtio diogel ar waith. Mae hefyd yn cyfateb i ddatganiad gweledigaeth y Cabinet, yn benodol:
- Gweithio mewn modd cystadleuol a gweithio tuag at wella lefelau recriwtio yn barhaus ar draws y sefydliad. Ceisio deall y camau sydd eu hangen er mwyn dod yn gyflogwr o ddewis yng Ngorllewin Cymru.
- Gweithio i farchnata Cyngor Sir Caerfyrddin fel cyflogwr deniadol i brentisiaid, pobl sy'n gadael yr ysgol a graddedigion. Canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc sy'n mudo o Sir Gaerfyrddin ac o ardaloedd gwledig.
- Gweithio gyda grwpiau perthnasol i hyrwyddo'r Cyngor fel cyflogwr ar draws pob cymuned gan gynnwys o fewn y gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Hyd at fis Mawrth 2025, roedd 91 (1.08%) o weithwyr y Cyngor o gymunedau sydd o leiafrifoedd ethnig o gymharu â 78 (0.94%) ar ddiwedd Mawrth 2024.
Datblygu Sgiliau Cymraeg
Cafodd y Cyngor wobr 'Cyflogwr y Flwyddyn' gan Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gaerfyrddin, o Brifysgol Aberystwyth. Roedd hyn yn cydnabod ei ymroddiad i gefnogi staff i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i feithrin gweithlu dwyieithog a chreu amgylchedd cefnogol lle gall y Gymraeg ffynnu. Gall staff fynychu cyrsiau Cymraeg yn ystod oriau gwaith ac mae cyrsiau'n cael eu hariannu'n gorfforaethol.
Presenoldeb
Mae cynnydd bach wedi bod yn absenoldeb salwch cyfartalog gweithwyr y Cyngor yn ystod 2024/25, gan gynyddu o 11.1 diwrnod i 11.5 diwrnod. Mae hyn yn uwch o lawer na'r lefelau cyn y pandemig sef tua 10 diwrnod.
Canlyniad: Gwrando ar ein staff drwy ymgysylltu'n rheolaidd â staff a'u grymuso i wella eu meysydd gwasanaeth eu hunain.
Cawsom dros 1,600 o ymatebion i'n harolwg staff yn ystod 2024/25, gellir gweld y sgoriau a'r cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn isod. Dadansoddwyd y canlyniadau a'r sylwadau, gyda chanfyddiadau'n cael eu trafod ar lefel gorfforaethol ac adrannol, a chamau lleol cytunedig i fynd i'r afael â rhai o'r meysydd sydd angen eu gwella.
Canlyniad: Sicrhau bod y gwaith a wneir mewn partneriaeth yn lleol ac yn rhanbarthol yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn ychwanegu gwerth at waith y Cyngor.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin wedi symud ymlaen â chamau allweddol o'r Cynllun Llesiant.
Un enghraifft yw datblygu Strategaeth Fwyd Sir Gaerfyrddin, sydd wedi cynnwys ymgynghori â thros 450 o randdeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae grwpiau ffocws, gweithdai, arolygon, a chyfweliadau un-i-un gyda phobl, busnesau a sefydliadau wedi cefnogi'r ymchwil academaidd i'r system fwyd leol sydd ei hangen i ddatblygu'r strategaeth. Mae mewnbwn a chyfranogiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn hanfodol wrth nodi'r meysydd mwyaf addas ac effeithiol ar gyfer ymyrraeth, gan arwain at ddiffinio a blaenoriaethu amcanion a thargedau strategol.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng y ddwy ardal.
PARTNERIAETH
Sefydlwyd PARTNERIAETH i gefnogi ysgolion mewn partneriaeth â chynghorau Abertawe a Sir Benfro, yn dilyn diddymu'r gwasanaeth Ein Rhanbarth Ar Waith (ERW). Sefydlwyd Cyd-bwyllgor newydd, a datblygwyd Cytundeb Cyfreithiol i reoli gwaith yr endid newydd. Mae staff craidd wedi cael eu hailstrwythuro i greu tîm o swyddogion i gefnogi ac ategu gweithgareddau gwella ysgolion yn y tair sir.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Cytundeb Cydweithio newydd wedi cymryd lle'r Cytundeb Cyfreithiol. O 1 Ebrill 2025, mae yno i gynnal lefel gymesur o lywodraethu er mwyn cynnal cyfrifoldeb ar y cyd a gweithio partneriaeth effeithiol.
Mae gwaith yn parhau i gryfhau'r gwaith o lywodraethu, monitro a dwyn PARTNERIAETH i gyfrif am ei gyfraniad at wella ysgolion yn y rhanbarth. Blaenoriaethau'r dyfodol yw:
- Blaenoriaeth 1: Cefnogi pob ysgol a lleoliad addysgol i ddylunio a darparu eu cwricwlwm eu hunain, sy'n deg ac yn safonol.
- Blaenoriaeth 2: Cynnwys egwyddorion a phrosesau sy'n sail i gydraddoldeb addysgol ym mhob ysgol a lleoliad addysgol.
- Blaenoriaeth 3: Cefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol i ddatblygu ystod o sgiliau ymchwilio ac ymholi fel rhan allweddol o'u dysgu proffesiynol.
- Blaenoriaeth 4: Darparu llwybrau gyrfa i arweinwyr, ymarferwyr a staff cymorth ar bob lefel o'r system.
Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad nas gwelwyd ei debyg o'r blaen o hyd at £1.3 biliwn erbyn 2033 gan greu 9,000 o swyddi ar draws portffolio o naw o brif brosiectau a rhaglenni ledled siroedd Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae'r portffolio'n cael ei gyflawni'n llawn, gan gyd-fynd â thair thema sef cyflymu'r economi, ynni a gweithgynhyrchu clyfar, a gwyddor bywyd a llesiant. Bydd y Fargen yn cynnig cyfleoedd i lawer o fusnesau rhanbarthol presennol a newydd, yn ogystal â thrigolion ar draws y rhanbarth.
Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru (CJC)
Sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru (CJC) fel corff corfforaethol rhanbarthol gan Weinidogion Cymru. Mae'r aelodaeth yn cynnwys arweinwyr gweithredol Cynghorau Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, ynghyd ag aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2023-2028, sy'n cydnabod ei swyddogaethau a'i gyfrifoldebau yn Ne-orllewin Cymru, a hynny mewn perthynas â llesiant economaidd, ynni, trafnidiaeth, a chynllunio strategol, gan gyfleu'r cynnydd a wnaed hyd yma, ac i nodi uchelgeisiau am y dyfodol. I'r perwyl hwn, mae'r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys Gweledigaeth ar gyfer De-orllewin Cymru 2035, yn ogystal â thri amcan llesiant ac amcan cydraddoldeb.
Datblygu Economaidd
Mae gwaith partneriaeth lleol yn parhau yn ein prif drefi, sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Gwneir hyn trwy'r gwahanol dasgluoedd canol trefi, a fforymau tref, lle mae'r holl randdeiliaid yn dod at ei gilydd i drafod materion, datblygiadau a gweithgareddau canol tref er mwyn cyflawni Cynlluniau Adfer Datblygu Economaidd pob tref.
Mae partneriaethau rhanbarthol yn mynd rhagddynt drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol, a'i strwythurau cymorth. Yn fwyaf nodedig, Bwrdd Ymgynghorol y Sector Preifat. Ar hyn o bryd mae'r pedwar Awdurdod Lleol yn cynnal adolygiad o'r Cynllun Datblygu Economaidd Rhanbarthol, sy'n nodi'r cyfeiriad strategol rhanbarthol ar gyfer datblygu economaidd a fydd yn sail i weithgarwch economaidd am y pum mlynedd nesaf.
Canlyniad: Mwy o ymgysylltu â'r cyhoedd drwy ymgysylltu, cyfranogi ac ymgynghori.
Strategaeth Gynnwys
Yn ystod 2024/25, rydym wedi datblygu a chymeradwyo Strategaeth Gynnwys ar gyfer 2025-27, sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw ymgysylltu â'n cymuned wrth ddylunio a darparu gwasanaethau. Nod y strategaeth yw sicrhau bod pob preswylydd yn ymwybodol o'r cyfleoedd i gyfrannu at drafodaethau sy'n llunio eu hamgylchedd a'u gwasanaethau lleol. Cefnogir yr ymrwymiad hwn gan amrywiol fframweithiau deddfwriaethol sy'n anelu at hyrwyddo llesiant a chynhwysiant ledled Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu'n effeithiol, a chaiff hyn ei ategu gan ystod o ddeddfwriaeth gan gynnwys:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015,
- Deddf Cydraddoldeb 2010,
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015,
- Mesur y Gymraeg 2011,
- Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,
- Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) 2023.
Fel rhan o'r Strategaeth, byddwn yn dilyn arferion gorau a safonau cenedlaethol. Er enghraifft, Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc a'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu arferion gorau newydd, fel gyda llwyfannau ymgysylltu digidol a gweithio gyda'n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Fel rhan o'r Strategaeth, byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd ein strategaeth drwy'r pecyn cymorth Gwerthuso Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd.
Hamdden – Arolwg NPS Leisure
Roedd gan 2024/25 ei heriau amrywiol o ran profiadau cwsmeriaid mewn canolfannau hamdden, megis dirywiad parhaus teils pwll nofio Canolfan Hamdden Caerfyrddin, y to'n gollwng yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, a phroblemau parcio a chyflwr cyffredinol Canolfan Hamdden Llanelli. Wrth gwrs, dim ond buddsoddiad hollol hanfodol a wnaed yn Llanelli gan fod y safle ar fin cau, ond mae disgwyl i'r gwaith ail-wynebu ym mhwll nofio Caerfyrddin, a'r gwaith ar y to yn Rhydaman, gael eu gwneud yn y flwyddyn ariannol newydd - buddsoddiad o ryw £400,000. O ystyried bod y safleoedd hyn yn cyfrif am dros 76% o'r ymatebion gafwyd, roedd y sgôr gyffredinol yn is na'n targed sef 44%. Fodd bynnag, mae hyn bwynt canran yn uwch na'r sgôr o 2023/24, yn cyfateb i'r sgôr meincnod fyd-eang, ac mae 4% yn uwch na sgôr meincnod y DU ar 40%.
Mae sgoriau uchel safleoedd gwledig hefyd yn gadarnhaol, gyda Llanymddyfri yn 87%, Castell Newydd Emlyn yn 80%, a Sanclêr yn 57%. I raddau helaeth iawn, mae staff a chyfleusterau ar frig y tabl ar gyfer adborth cadarnhaol yn y safleoedd hyn.
Gyda'r gwaith atgyweirio yn yr arfaeth a gyda Chanolfan Pentre Awel yn agor yn 2025/26, byddem yn disgwyl gweld cynnydd yn y canlyniadau y flwyddyn nesaf.
Gweithgarwch Ymgynghori Blynyddol
Yn unol â'n rhwymedigaeth statudol drwy'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, ymgynghorodd y Cyngor â phreswylwyr, busnesau, staff ac undebau llafur ar y graddau yr ydym yn bodloni ein gofynion perfformiad:
Arolwg Preswylwyr: 2024
Cawsom ychydig o dan 3,600 o ymatebion i'n Harolwg Preswylwyr yn ystod 2024, ac mae hwn yn ostyngiad o 9% ar y gyfradd ymateb ar gyfer y flwyddyn flaenorol (3,943), er bod hyn dal yn dda. Cafodd y canfyddiadau eu dadansoddi a'u crynhoi mewn adroddiad. Mae'r prif ganfyddiadau ar ein gwefan ac wedi'u cynnwys ym mhroses cynllunio busnes 2025/26. Gofynnwyd i feysydd gwasanaeth ystyried y rhain wrth lunio camau gweithredu.
Arolwg Staff (Rheoli Pobl): 2024
Cawsom dros 1,600 o ymatebion i'n harolwg staff yn ystod 2024/25, ac mae hwn yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol ac yn cyfateb i tua 18% o'n gweithlu cyfan. Yn dilyn eu dadansoddi, trafodwyd y canfyddiadau ar lefel gorfforaethol ac ariannol, a chytunwyd ar gamau lleol i roi sylw i rai o'r meysydd roedd angen eu gwella.
Arolwg Busnes: 2024
Cawsom 110 o ymatebion i'n Harolwg Busnes yn ystod 2024, sy'n gyson â'r flwyddyn flaenorol. Rydym wedi crynhoi'r dadansoddi a'r canfyddiadau mewn adroddiad sy'n cynnwys cymariaethau â blynyddoedd blaenorol.
Arolwg Undebau Llafur: 2024
Dim ond 1 ymateb a gafwyd, sy'n siomedig ac yn llai na'r ddwy flynedd flaenorol. Bydd y wybodaeth brin ddaeth i law yn cael ei chrynhoi a'i hadrodd.
Ymgynghori ynghylch y Gyllideb
Wrth baratoi cyllideb heriol iawn arall, estynnwyd gwahoddiad gennym i'r cyhoedd, a phartïon eraill â diddordeb, fynegi eu barn am ystod o faterion, gan gynnwys cynnydd yn y dreth gyngor, trafnidiaeth addysg, cyfleusterau cyhoeddus, a rhai gwasanaethau diwylliannol a hamdden. Cafodd y rhain eu hystyried ochr yn ochr â 90 o gynigion gweithredol manwl, megis costau adeiladu, defnydd effeithlon o gerbydau, effeithlonrwydd digidol, strwythurau staffio a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa.
Ymatebodd dros 2,900 o bobl i'r ymgynghoriad ar-lein, ac fe ddaeth 61 o bobl ifanc o naw o ysgolion uwchradd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb 'Golwg Sir Gâr' yn Neuadd y Sir i drafod ag Aelodau'r Cabinet a mynegi eu blaenoriaethau. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddisgyblion gamu i esgidiau Cabinet y Cyngor a thrafod eu barn am gynigion y gyllideb. Roedd hefyd yn gyfle i Aelodau'r Cabinet glywed barn disgyblion a thrafod gyda nhw'n uniongyrchol y materion sy'n bwysig iddynt.
Mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd newidiadau eu gwneud i gynigion cyllideb y Cyngor. Er enghraifft, peidio â chynyddu taliadau parcio ceir yn uwch na chwyddiant, gan gydnabod sylwadau'r cyhoedd ynghylch cyfraniad pwysig y cyfleusterau hyn o ran cefnogi busnesau canol tref a thwristiaeth, yn ogystal â'r effaith ddyddiol ar fywydau trigolion.
Partneriaeth Gymdeithasol
Mae gan y Cyngor fframweithiau gwybodaeth, ymgynghori a negodi sydd wedi hen ennill eu plwyf ar waith gyda'i Undebau Llafur cydnabyddedig. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn rhoi cyfle i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach, gyda'r potensial i gael buddiannau cydfuddiannol trwy gydweithredu a chydweithio. Trwy gydol y flwyddyn rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â'r Undebau Llafur trwy gadw fframweithiau sefydledig ar gyfer cyfathrebu ac ymgynghori rheolaidd, ond rydym hefyd wedi ymdrechu i ymgysylltu ag ystod o faterion strategol sy'n effeithio ar y gweithlu. Mae manylion llawn am y gweithgareddau hyn i’w gweld yn Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Gymdeithasol yn Atodiad 6.
Canlyniad: Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir.
Ystadau a Rheoli Asedau
Rydym yn edrych ar gyfleoedd i ddefnyddio ein hystâd yn y modd gorau posib, sy'n cynnwys rhesymoli asedau sy'n cael eu tanddefnyddio neu sy'n perfformio'n wael, ac ailfuddsoddi mewn safleoedd craidd. Er mwyn cefnogi egwyddor Canol y Dref yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i flaenoriaethu lleoliad ac adleoli cyfleusterau gwasanaeth cyhoeddus a swyddfeydd yng nghanol trefi. Mae'r ymagwedd strategol hon yn cydnabod rôl allweddol canol trefi mewn llesiant amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ein cymunedau. Trwy ymgorffori swyddogaethau dinesig a masnachol yn ganolog, rydym yn anelu at wrthdroi'r duedd o ddatganoli sydd wedi cyfrannu yn hanesyddol at leihau nifer yr ymwelwyr a lleihau gwariant lleol. Mae ein cynigion adfywio yn ystyried defnyddio canol trefi ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys hamdden, tai, a chanolfannau gweithio ar y cyd, er mwyn creu cyrchfannau bywiog, amlswyddogaethol. Mae hyn nid yn unig yn cefnogi hyfywedd y sectorau manwerthu a lletygarwch ond hefyd yn annog teithio cynaliadwy, yn lleihau allyriadau carbon, ac yn meithrin cymdogaethau cynhwysol, cerddadwy. Trwy fuddsoddiad wedi'i dargedu a phartneriaethau cydweithredol, rydym yn gweithio i adfywio canol ein trefi fel lleoedd ffyniannus i fyw, gweithio ac ymgysylltu ynddynt.
Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau adolygiadau rhent o'n portffolio diwydiannol a gynhyrchodd refeniw ychwanegol o £193,728 y flwyddyn, gan gynyddu ein hincwm ar y portffolio o £1,974,001 i £2,167,729.
Canlyniad: Parhau i wneud gwell defnydd o dechnoleg ddigidol i drawsnewid ein gwasanaethau ymhellach yn brosesau gwasanaeth mwy clyfar ac effeithlon a chynnig gwell profiad i gwsmeriaid.
Ym mis Gorffennaf 2024, cymeradwyodd y Cyngor ei Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2024–2027, gan bennu gweledigaeth feiddgar ar gyfer Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i galluogi'n ddigidol. Mae'r Strategaeth hon wedi bod yn sail i'n hymdrechion i wella galluoedd digidol, gwella gwasanaeth cwsmeriaid ac ymgysylltu, a thrawsnewid y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Mae'n cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac agendâu digidol ac yn gosod pobl wrth wraidd dylunio gwasanaethau cyhoeddus - "dyluniwyd ar gyfer pobl, galluogwyd gan dechnoleg.”
Sylfeini a Gweledigaeth Strategol
Mae'r Strategaeth yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y pedair blynedd diwethaf, yn enwedig mewn ymateb i bandemig COVID-19. Mae'n amlinellu pum maes blaenoriaeth allweddol:
- Gwasanaethau Digidol
- Pobl a Sgiliau
- Data a Gwneud Penderfyniadau
- Technoleg ac Arloesi
- Cymunedau Digidol a'r Economi
Mae pob maes yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiadau wedi'u targedu, partneriaethau strategol, ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd diwylliannol y Gymraeg yn ein dyfodol digidol.
Cyflawniadau a Chynnydd Allweddol yn 2024/25
Technolegau Cwmwl a Systemau Mudo
Fe wnaethom ganolbwyntio ar fudo systemau busnes hanfodol i lwyfannau modern, a reolir gan y cwmwl, er mwyn gwella darparu gwasanaethau, effeithlonrwydd, gwytnwch a pharhad busnes. Roedd y prosiectau allweddol yn cynnwys:
- System Rheoli Ariannol Agresso
- System Refeniw a Budd-daliadau iWorld
- System Gofal Cymdeithasol Gofal yn Gyntaf OLM
- System Gwasanaethau Tai Civica CX
Mae'r mudo hwn yn hanfodol i wella'r gwasanaethau a ddarperir i breswylwyr wyneb yn wyneb, effeithlonrwydd gweithredol, dadgomisiynu ein hamgylchedd ar y safle, a symleiddio ein hôl troed canolfan ddata.
Cyfnewid Systemau a Gwelliannau i'r Gwasanaeth
Fe wnaethom gyfnewid hen systemau am atebion cwmwl modern, gan alluogi darparu gwasanaethau 24/7 i breswylwyr:
- System a Phorth Pridiannau Tir Arcus
- System Rheoli Gwastraff ALLOY
- System Atgyweirio Tai Total Connect
- System Rheoli Dysgu Thinqi
- System a Phorth Recriwtio Oleeo
Mae'r systemau hyn wedi gwella profiad cwsmeriaid, effeithlonrwydd gweithredol, ac integreiddio ar draws adrannau.
Arloesi, Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio
Fe wnaethom groesawu technolegau datblygol i foderneiddio gwasanaethau:
- Microsoft 365 Copilot (cynorthwyydd personol AI) - wedi'i dreialu gyda 240 o staff; bwriedir ei gyflwyno'n ehangach.
- Magic Notes AI – Wedi'i dreialu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol, gan arbed hyd at saith awr yr wythnos y person o ran cymryd nodiadau.
- Gweithrediadau Awtomeiddio Prosesau Robotig – Tasgau AD awtomataidd, Prydau Ysgol am ddim, a Grantiau Mynediad Grant Datblygu Disgyblion – dros 3,000 o geisiadau wedi'u prosesu gyda phenderfyniadau ar yr un diwrnod.
Fe wnaethom hefyd ddechrau llunio Strategaeth AI a Data gynhwysfawr a blaengar sy'n cyd-fynd â'n huchelgeisiau digidol a chorfforaethol. Bydd hyn yn darparu fframwaith strwythuredig, moesegol a blaengar er mwyn defnyddio technolegau newydd mewn ffyrdd sydd o fudd uniongyrchol i breswylwyr, staff, a'r gymuned ehangach.
Seiberddiogelwch: Blaenoriaeth Strategol
Roedd seiberwydnwch yn brif ffocws eleni. Fe wnaethom gryfhau ein hamddiffynfeydd ac ymgorffori ymhellach ddiwylliant o fod yn wyliadwrus:
- Fe wnaethom gael ein sefydliad i ymuno â'n Canolfan Gweithrediadau Diogelwch Cymru gyfan, gan ddarparu gwybodaeth am fygythiadau seiber ac ymateb i ddigwyddiadau 24/7. Gan gydweithio â Llywodraeth Cymru, mae'n cefnogi 21 o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn cyd-fynd â strategaeth "Defend as One" Llywodraeth y DU a Chynllun Gweithredu Seiber Llywodraeth Cymru.
- Efelychiadau Gwe-rwydo - Wedi'u cynnal ar draws ein gweithlu; hyfforddiant ar sail canlyniadau a chynyddu ymwybyddiaeth.
- Cynllun Gweithredu Seiber - Yn cynnwys adolygiadau caniatâd, diweddariadau polisi, a llyfrau chwarae seiber.
- Ymarferion Ymateb i Ddigwyddiadau – Wedi cymryd rhan mewn efelychiadau cenedlaethol (Tŷ Coch, Celyn Coch).
- Adolygiad Seiber Archwilio Cymru – Wedi'i gwblhau; argymhellion yn yr arfaeth.
- Hyfforddiant Seiber ThinQi - Wedi'i lansio a'i wneud yn orfodol ar gyfer yr holl staff swyddfa.
Mae'r ymdrechion hyn wedi gwella'n sylweddol ein parodrwydd a'n gwytnwch yn erbyn bygythiadau newydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni barhau i fuddsoddi yn y maes hwn i wrthsefyll y bygythiad seiber cynyddol.
Pobl a Sgiliau Digidol
Fe wnaethom fuddsoddi mewn datblygu'r gweithlu i adeiladu sefydliad sy'n hyderus yn ddigidol:
- Archwiliad Sgiliau Digidol - 1,092 o ymatebion; hyfforddiant gwybodus wedi'i dargedu.
- ThinQi LMS - Wedi'i lansio gyda modiwlau mewn Seiberddiogelwch, Diogelu Data, ac AI.
- Mentoriaid Digidol – Rhwydwaith wedi'i sefydlu i gefnogi staff.
- Cynllunio'r Gweithlu – Datblygu cynlluniau olyniaeth.
Hefyd cynhaliwyd seminarau gennym, fe wnaethom ymgysylltu â cholegau, a recriwtio prentisiaid a graddedigion i ddiogelu ein gweithlu yn y dyfodol.
Data a Gwneud Penderfyniadau
Fe wnaethom wreiddio diwylliant lle mae pwyslais mawr ar ddata i gefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth:
- Mabwysiadu Power BI – dros 80 o ddefnyddwyr hyfforddedig yn darparu mewnwelediadau gweithredadwy.
- Prosiect Diogelu LINC – Menter rhannu data arloesol gyda'r heddlu a'r gwasanaethau iechyd.
- Asesiadau Aeddfedrwydd Digidol – Wedi'u cynnal ar draws adrannau i lywio trawsnewid.
- Rheoli SharePoint - 38TB o ddata wedi'i reoli, polisïau cadw a mentrau cadwraeth ddigidol ar waith.
Technoleg a Seilwaith
Fe wnaethom barhau i foderneiddio ein seilwaith trwy fudo cwmwl, Rhaglen Cyfnewid Dyfeisiau, Adolygiad Technoleg Llais, a chefnogi anghenion digidol symud a chau swyddfeydd.
Cymunedau Digidol a'r Economi
Fe wnaethom gefnogi cysylltedd a chynhwysiant ledled y sir:
- Uwchraddio Ffeibr Parc Gwledig Pen-bre – buddsoddiad o £201,000 drwy'r Fargen Ddinesig.
- Rhwydwaith Rhyngrwyd Pethau Trefi Clyfar – dros 60 o byrth wedi'u defnyddio, cynlluniau peilot mewn monitro diogelwch a gwastraff.
- Prosiect Ffeibr Tywyll – buddsoddiad o £3.5 miliwn i gysylltu 33 o safleoedd sector cyhoeddus erbyn 2026.
- Buddsoddiad Seilwaith Rhanbarthol – £26.7M dros y tair blynedd diwethaf mewn prosiectau cysylltedd.
Fe wnaethom hefyd gefnogi datblygiadau strategol fel Pentre Awel, HWB Caerfyrddin, a Chanol Tref Llanelli, gan sicrhau parodrwydd digidol.
Cwynion
Mae nifer y cwynion ddaeth i law yn ystod 2024/25 wedi gostwng rhyw fymryn i ychydig dan 1,700 o gymharu â bron 2,000 y flwyddyn flaenorol. Ymdriniwyd ag ychydig dros 61% o'r cwynion hyn ar amser. Gan fod natur y cwynion yn mynd yn fwy cymhleth a gan fod y cyfathrebu gan achwynwyr yn fwy manwl, mae cwrdd â'r amserlenni ymateb statudol yn fwyfwy heriol.
Canlyniad: Croesawu a hyrwyddo arferion gweithio ystwyth, cyfarfodydd hybrid a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sefydliad, drwy fod yn fwy cynaliadwy a chreadigol i wella gwasanaethau'r Cyngor.
Trawsnewid
Rydym wedi trosglwyddo'n llwyddiannus i ffyrdd newydd o weithio gyda chefnogaeth rhesymoli ein hasedau, sy'n caniatáu i staff weithio'n glyfrach, gan sicrhau parhad a chynhyrchiant. Amlygwyd yr ymagwedd hon drwy ryddhau safle Parc Dewi Sant i'w werthu a symud staff i adeiladau eraill y Cyngor. Mae'r defnydd o feddalwedd rheoli gweithfannau wedi galluogi penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch rhesymoli portffolio eiddo, gan sicrhau y defnydd gorau posibl o adnoddau.
Mae ein symudiad tuag at awtomeiddio prosesau, fel technoleg post hybrid a roboteg, wedi gwella effeithlonrwydd gweithredol yn sylweddol. Er enghraifft, mae gweithredu post hybrid wedi arwain at dros £61,884 o arbedion cost yn ystod y flwyddyn, tra bod awtomeiddio prosesau robotig (RPA) wrth adennill dyledion wedi rhyddhau staff i ganolbwyntio ar dasgau gwerth uchel, gan arwain at gasglu £2,523,468 mewn dyled ychwanegol.
Rydym hefyd wedi canolbwyntio ar hyfforddi a rhoi i reolwyr y sgiliau angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau mewn modd masnachol a modern. Mae'r sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd ar gyfer dros 50 o reolwyr ym mis Mawrth 2025 yn rhan o'r cynllun hwn, gan feithrin meddylfryd busnes ar draws y sefydliad.
Digidol
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau pendant a mesuradwy i gofleidio a hyrwyddo gweithio ystwyth, cyfarfodydd hybrid a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sefydliad. Mae'r ymdrechion hyn wedi'u hategu gan ymrwymiad clir i gynaliadwyedd, creadigrwydd a gwella gwasanaethau, fel y nodir yn ein Strategaethau Digidol, Gweithlu a Thrawsnewid.
Rydym wedi gweithredu ystod o offer a seilwaith digidol i gefnogi hyn. Er enghraifft, cyflwynodd y Cyngor feddalwedd rheoli gweithfannau i alluogi archebu desgiau hyblyg a phenderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth ar resymoli eiddo. Roedd hyn yn cefnogi rhyddhau safle Parc Dewi Sant a symud staff i adeiladau eraill y Cyngor, gan ddangos bod egwyddorion gwaith hybrid yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Cyfarfodydd hybrid yw'r norm bellach, wedi'u cefnogi gan Microsoft Teams a strwythurau SharePoint gwell.
Un o'r cynlluniau mwyaf trawsnewidiol oedd cynllun peilot Microsoft CoPilot, cynorthwyydd AI a gyflwynwyd i 240 o ddefnyddwyr. Dangosodd Achos Busnes Copilot sut oedd CoPilot yn helpu staff i wneud tasgau arferol, gan ryddhau amser ar gyfer cyfrifoldebau mwy cymhleth. Rydym wedi nodi nifer o achosion byd go iawn lle mae cynnydd wedi bod mewn cynhyrchiant heb golli swyddi. Arweiniodd llwyddiant y peilot at gynnig bod yr offeryn hwn yn cael ei ymestyn i bob rhan o'r sefydliad.
Un o alluogwyr allweddol y trawsnewidiad hwn yw ein hymrwymiad i gynnal ystâd ddyfeisiau defnyddwyr gadarn a modern. Ac eithrio ysgolion, rydym yn cefnogi ac yn rheoli'n llawn oddeutu 3,500 o liniaduron, 450 o lechi, 2,500 o ffonau clyfar, a 300 o fyrddau gwaith ar gyfer ein hadrannau a'n gwasanaethau corfforaethol – pob un ohonynt wedi'u ffurfweddu i alluogi gweithio symudol, ystwyth a hyblyg. Mae'r ystâd hon yn sicrhau bod staff yn gallu cael mynediad diogel at systemau a chydweithio'n effeithiol o unrhyw leoliad, boed yn y swyddfa, gartref, neu yn y gymuned. Mae rhagoriaeth gliniaduron a ffonau clyfar yn adlewyrchu ein newid strategol tuag at symudedd a darparu gwasanaethau digidol-gyntaf, tra bo byrddau gwaith yn parhau i gael eu defnyddio lle mae gweithfannau sefydlog yn dal i fod yn briodol.
Canlyniad: Sicrhau newid sefydliadol sy'n cefnogi targedau allweddol Carbon Sero Net
Dylunio Eiddo
- Mae datblygiadau Tai newydd wedi'u cynllunio i leihau'r carbon a ddefnyddir wrth weithredu ac wrth adeiladu. Mae'r holl eiddo wedi'u dylunio i gwrdd â gradd SAP 1 o 92+ man lleiaf. Dyluniwyd ac adeiladwyd Wauniago yn unol ag egwyddorion Passivhaus, a chafodd ei drosglwyddo ym mis Tachwedd 2024.
- Cwblhawyd Ysgol Pen-bre ym mis Hydref 2024. Mae'r ysgol yn ysgol Passivhaus, sy'n golygu ei bod yn hynod effeithlon o ran ynni oherwydd lefelau uchel o inswleiddio ac aerdyndra.
- Wedi helpu i ddarparu'r prosiect datgarboneiddio i gyfnewid boeleri tanwydd ffosil am bympiau gwres o'r aer a thrydan solar ffotofoltäig mewn chwe ysgol gynradd bresennol.
- Parhau i fonitro a dadansoddi perfformiad ynni mewn ysgolion cynradd i werthuso effeithiolrwydd mabwysiadu egwyddorion 'ffabrig yn gyntaf' a mesurau datgarboneiddio i lywio dyluniadau a manylebau prosiectau'r dyfodol.
Canlyniad: Sicrhau bod y Cyngor yn defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol.
Mae'r Cyngor wedi cymeradwyo cynnydd o 8.9% yn y Dreth Gyngor a gostyngiadau mewn gwariant o fwy nag £8m yn ystod cyfarfod i osod ei Strategaeth Gyllideb.
Cafodd cynnig gwreiddiol gan y Cabinet o 9.75% ei ostwng i 8.9% yn dilyn mân addasiadau yng nghyllid y Cyngor oherwydd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, ardoll ychydig yn is i’r Frigâd Dân, a dyraniad o £500,000m o'r gyllideb wrth gefn.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:
‘Y gyllideb hon yw'r un fwyaf heriol ers blynyddoedd lawer. Mae'r Cyngor hwn dros £150m ar ei golled mewn termau real nag yr oeddem ddegawd yn ôl. Mae hynny'n golygu bod £150m yn llai i'w wario ar wasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol, addysg, priffyrdd ac yn y blaen.’
Dim ond 16% o incwm y Cyngor sy'n dod o'r Dreth Gyngor. Daw'r rhan fwyaf o'n cyllid o Lywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn dibynnu ar grant bloc gan Lywodraeth y DU. Fel pob Cyngor arall, rydym yn wynebu cyfnod heriol iawn wrth i'r pwysau enfawr ar wariant cyhoeddus a gwasanaethau barhau.
O ganlyniad i gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025, a mynd â hanner miliwn o'r gyllideb wrth gefn, cynigiodd y Cabinet godiad o 8.9% yn y Dreth Gyngor. Mae hyn yn llawer mwy nag y byddem wedi'i hoffi yn y dyddiau anodd hyn, ond fel Awdurdod Lleol, mae'n rhaid i ni osod cyllideb gyfreithiol sy'n cadw cydbwysedd rhwng codi'r Dreth Gyngor a diogelu'r gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.
Wedi'i osod yn erbyn cyllid annigonol a'r gost ychwanegol o ran Yswiriant Gwladol, yw'r galw cynyddol am wasanaethau. Er gwaethaf y pwysau presennol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi £11m yn ychwanegol i ofal cymdeithasol oedolion a phlant, lle mae'r pwysau'n aruthrol. Rydym yn benderfynol o ddarparu ar gyfer lles cenedlaethau'r dyfodol yn Sir Gaerfyrddin trwy hefyd ddiogelu cyllid ar gyfer ysgolion.
Ar nodyn cadarnhaol, mae gostyngiad mewn costau tanwydd, yn dilyn cynnydd enfawr ddwy flynedd yn ôl oherwydd y rhyfel yn yr Wcrain, wedi arbed £2.1m ychwanegol i'r Cyngor ar ben y £1m a ragwelwyd. Mae hyn wedi ein galluogi i ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus drwy waredu’r ddau gynnig mwyaf amhoblogaidd, sef cau toiledau cyhoeddus os na throsglwyddir yr asedau, a chynnydd o 10% mewn taliadau parcio.
Gwasanaethau Ariannol
- Casglwyd 96.41% o'r Dreth Gyngor yn ystod 2024/25, sydd ychydig yn llai na'r flwyddyn gynt (97.01%). Fodd bynnag, gyda ni mae'r ganran bumed uchaf yng Nghymru ac mae'n uwch na chyfradd Cymru gyfan o 95.97%. Rydym yn cymryd ymagwedd ragweithiol tuag at adennill ac wedi darparu cefnogaeth a chyngor perthnasol i'r rheiny sy'n mynd i ôl-ddyledion er mwyn sicrhau'r ffordd orau bosibl ymlaen o ran trefniadau ad-dalu.
- Casglwyd 97.95% o'r ardrethi annomestig oedd yn ddyledus ar gyfer 2024/25 gan y Cyngor, sef y gyfradd chweched uchaf yng Nghymru. Mae'n llai na chyfradd gasglu ragorol y flwyddyn flaenorol o 99.24%, sef y gyfradd gasglu uchaf yng Nghymru.
- Talwyd 95.6% o'r anfonebau o fewn 30 diwrnod yn ystod 2024/25, sef gwelliant ar y flwyddyn flaenorol (94.9%). Mae hyn er gwaethaf cynnydd o 7% yn nifer yr anfonebau ddaeth i law, o 311,466 i 333,272.
- Mae mwy o fynediad at wasanaethau ar-lein wedi creu newid tuag at daliadau ar-lein gyda llawer o gwsmeriaid yn cysylltu â ni, yn cyflwyno ffurflenni a dogfennau, ac yn talu am ein gwasanaethau'n electronig. Mae wedi codi o 63,427 o drafodion yn 2023/24 i 144,570 o drafodion yn ystod 2024/25 gyda gwerth o £17,098,947. Mae taliadau'r Dreth Gyngor, taliadau rhent tai, talu anfonebau ac incwm amrywiol ymhlith y gwasanaethau a ddefnyddir fwyaf.
Canlyniad: Ymgorffori'r egwyddor datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wna'r Cyngor.
Mae egwyddorion a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ategu popeth a wnawn fel sefydliad, ac mae hyn yn sicrhau bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wrth wraidd datblygu a gweithredu strategaethau. Mae'r egwyddor yn sail i'n hymagwedd at hunanasesu blynyddol, ac mae gofynion y Ddeddf yn atgyfnerthu'r ymagwedd at ddatblygiad a gweithrediad dilynol y Rhaglen Drawsnewid.
Trawsnewid
Rydym wedi ceisio moderneiddio fflyd cerbydau'r Cyngor, sydd wedi arwain at arbedion cost sylweddol, ac wedi dangos ymrwymiad i wneud y mwyaf o bob adnodd. Yn yr un modd, mae'r defnydd o offer rheoli gweithfannau wedi darparu data hollbwysig sy'n cefnogi penderfyniadau gwybodus ynghylch rhesymoli portffolio eiddo, gan sicrhau y defnydd mwyaf effeithiol posibl o adnoddau.
Enghraifft allweddol o ddatblygu cynaliadwy ar waith yw ein rhaglen ddatgarboneiddio, sydd wedi cyflawni gostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon o gymharu â'r flwyddyn sylfaen. Mae'r garreg filltir hon yn adlewyrchu perfformiad cadarn yn unol â thargedau hinsawdd ehangach ac yn tanlinellu ymroddiad y Cyngor i weithredu ar newid hinsawdd. Yn ogystal, mae mentrau fel datblygu modiwlau hyfforddi e-ddysgu ar weithredu ar newid hinsawdd ar gyfer staff a phartneriaethau gyda sefydliadau lleol yn tynnu sylw at ein hymagwedd ragweithiol at addysg ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o welliant parhaus. Mae cyflwyno system gymorth dogfennaeth ariannol wedi galluogi ysgolion i nodi a gweithredu mesurau arbed costau, a thrwy hynny gyfrannu at gyllidebau ysgol mwy cynaliadwy. Trwy'r fenter hon, mae ysgolion gyda'i gilydd wedi gwneud arbedion sylweddol, gan ddangos newid tuag at reolaeth ariannol fwy darbodus.
Oes unrhyw un ar ei ennill?
Llwyddiannau Prosiect Peilot Tîm Adnoddau'r Gweithlu
Mae prosiect peilot Tîm Adnoddau'r Gweithlu yn y gwasanaeth gofal preswyl wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae bellach yn bwriadu ehangu.
Nodau’r Prosiect
- Lleihau'r ddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth.
- Lleihau'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gweithwyr asiantaeth.
- Cynyddu cyfleoedd i staff presennol weithio oriau ychwanegol y tu allan i'w lle gwaith presennol.
Canlyniadau'r Prosiect
- Mae preswylwyr cartrefi gofal yn dweud eu bod yn fwy bodlon ar eu gofal oherwydd bod staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu cefnogi sy'n rhoi mwy o hyder a chysondeb iddyn nhw.
- Mae rheolwyr cartrefi gofal yn dweud bod ansawdd y gwaith wedi gwella.
- Mae staff yn dweud bod gwell cydlyniant tîm a bod ymdeimlad o gael eu gwerthfawrogi.
- Cafodd dros 2,000 o oriau eu darparu'n fewnol ym mis Rhagfyr 2024, sef cynnydd o 312% o gymharu â'r oriau a gafodd eu darparu ym mis Mai 2024.
- Ym mis Rhagfyr 2024 cafodd dros £6,000 o gostau eu hosgoi ar draws y pedwar cartref gofal drwy ddefnyddio staff Tîm Adnoddau'r Gweithlu yn hytrach na staff asiantaeth.
Adborth gan Reolwyr Cartrefi Gofal: Mae Tîm Adnoddau'r Gweithlu wedi bod yn ased amhrisiadwy i'n gwasanaeth. Rydyn ni wedi llwyddo i symud i ffwrdd o ddefnyddio staff asiantaeth ac rydyn ni bellach yn elwa ar dîm cyson o staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda sy'n gyfarwydd â'r unigolion rydyn ni'n eu cefnogi.
Adborth gan Alison, Aelod o'r Tîm: Ers ymuno â Thîm Adnoddau'r Gweithlu fis Mai diwethaf rwy'n teimlo fy mod i'n fwy hyderus i ddarparu gofal o'r ansawdd gorau. Mae rheolwyr y tîm yn fy helpu ac yn fy nghefnogi gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gen i. Ers i fi weithio gyda'r tîm rwyf wedi dangos fy mhrofiad o weithio mewn gofal o'r blaen ac rwyf hefyd wedi dysgu gwybodaeth a sgiliau newydd i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r holl breswylwyr rwy'n eu helpu.
Llwyddiant Gradd-brentisiaethau TG
Llongyfarchiadau i dri aelod o staff TGCh, sef y garfan gyntaf i ymgymryd â'u Gradd-brentisiaethau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dros y pedair blynedd diwethaf, gwnaeth John Williams, Julian Milligan ac Emma Williams radd-brentisiaeth, a bu i hyn eu galluogi i ennill gradd is-raddedig wedi'i hariannu'n llawn wrth weithio.
Cafodd John Williams (Rheolwr Gweithrediadau a Llywodraethu TGCh) BSc gydag Anrhydedd mewn Cyfrifiadureg (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch). Mae John wedi gwneud prentisiaeth ochr yn ochr â chyflawni ei gyfrifoldebau yn ei rôl uwch yn yr Adran TG. Dros y blynyddoedd, mae ei rôl wedi datblygu oherwydd y galw cynyddol ar y gwasanaethau. Mae'r rhaglen radd wedi ei alluogi i ddiweddaru ei gymhwyster presennol, mireinio ei sgiliau o ran rheoli prosiectau, llywodraethu gwybodaeth ac ysgrifennu adroddiadau, ynghyd â darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am agweddau technegol ei rôl. Ychwanegodd: "Rwy'n falch iawn o'r hyn rydw i ac Emma a Julian wedi'i gyflawni. Heb os, mae cael cydbwysedd rhwng gwaith amser llawn ac astudiaethau academaidd yn dasg aruthrol, yn enwedig gyda'r heriau ychwanegol a ddaeth yn sgil y cyfyngiadau symud yn 2020. Bydd y sgiliau a'r wybodaeth a gafwyd drwy ein rhaglen radd yn amhrisiadwy yn ein rolau wrth ddarparu gwasanaethau digidol i'r Cyngor yn y dyfodol.”
Yn ogystal, cafodd y swyddog technegol, Emma Williams, radd BSc gydag Anrhydedd mewn Cyfrifiadureg (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch). Dechreuodd Emma ei gyrfa yn gweithio fel cynorthwyydd gweinyddol cyn dringo gam wrth gam yn yr adran TG o fod yn Swyddog Monitro TG i swydd yn y tîm Cyflawni Gwasanaethau fel Peiriannydd Cymorth Digidol. Yn 2020 llwyddodd i symud i rôl Swyddog Technegol TGCh yn y Tîm Cyflawni Technegol, ac mae'n diolch i'w hastudiaethau am roi'r hwb i'w hyder, ynghyd â'r wybodaeth a'r sgiliau roedd eu hangen arni i ymgeisio am y rôl. Ers mis Medi 2022 mae hi wedi gweithio yn y tîm Seiberddiogelwch, mewn rôl sy'n ei hysbrydoli ac yn ei galluogi i barhau i dyfu a datblygu. Oherwydd llwyddiant Emma, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gofyn yn aml iddi fynd i gyfarfodydd dros frecwast gyda chyflogwyr ac i sgyrsiau gyda myfyrwyr i roi cipolwg o'i gwaith mewn maes STEM a gweithio yn y sector TG. Nid yw'n teimlo y byddai wedi bod ganddi'r hyder i wneud hyn cyn astudio'r cwrs. 2 Ychwanegodd Emma: "Mae'r Cyngor yn gyflogwr sy’n annog ac yn cefnogi yn helaeth. Gallwn gymryd yr amser i astudio ac i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol, gan gynnig yr hyn rydym yn ei ddysgu a'n profiadau i'r gweithle a'r gwasanaeth.”
Enillodd Julian Milligan, Uwch-ddatblygwr Cymwysiadau, BSc gydag anrhydedd mewn Cyfrifiadureg (Peirianneg Meddalwedd). Dywedodd Julian ei fod o'r farn, o ddiwrnod cyntaf y darlithoedd, fod gwybod sut i ddrafftio adroddiadau a phapurau ymchwil wedi ei helpu gyda phrosiectau cyfredol y mae'n gweithio arnynt. Mae'n gallu addasu ei sgiliau ac mae hyn wedi caniatáu iddo ddatblygu yn ei rôl newydd. Mae'n credu iddo gael y rôl oherwydd y wybodaeth a'r sgiliau newydd sydd ganddo yn sgil dilyn y cwrs hwn. Ychwanegodd: "Ar ddechrau fy ngyrfa, roedd popeth a ddysgais yn hunan-ddysgedig. Felly, mae gwneud y radd wedi dangos arfer gorau i mi, a'r ffordd orau o raglennu ac adeiladu cronfeydd data SQL. Rwyf bellach yn defnyddio'r dulliau hyn mewn unrhyw brosiectau newydd ac rwy'n teimlo bod ansawdd fy ngwaith wedi datblygu a gwella. “
Yn dilyn llwyddiant rhyfeddol John, Emma, a Julian mae gennym bellach y garfan nesaf o fewn yr adran TG yn ymgymryd â'r BSc gydag Anrhydedd - Prentisiaeth Gradd Cyfrifiadureg.
