Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2024-2025

Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol

Rhagarweiniad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (CSC) yn sefydliad mawr, cymhleth gyda gweithlu o oddeutu 8,400 o weithwyr a chyllideb o dros £900 miliwn (refeniw a chyfalaf). Oherwydd y pwysau ariannol parhaus ar wasanaethau cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn ers dros ddegawd, rydym yn parhau i wynebu mwy o bwysau nag erioed wrth ddarparu gwasanaethau i'r oddeutu 188,000 o bobl y mae Sir Gaerfyrddin yn gartref iddynt. Wrth wneud hyn, rydym yn ymdrechu i wneud cynnydd yn erbyn ein pedwar amcan llesiant.   

Pwrpas yr adroddiad blynyddol hwn yw rhoi trosolwg o'r cynnydd rydym wedi'i wneud yn ystod 2024/25 yn erbyn yr amcanion llesiant hyn, sef:   

  1. Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. (Dechrau'n Dda)  
  2. Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda. (Byw a Heneiddio'n Dda) 
  3. Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus. (Cymunedau Ffyniannus)
  4. Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon. (Ein Cyngor)  

Bwriad yr amcanion hyn yw mynd i'r afael â heriau mwyaf dybryd y sir, gan sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint ag sy'n bosibl i'r saith nod llesiant cenedlaethol. Mae gan bob amcan set o ganlyniadau sy'n ein helpu i fesur ein cynnydd a llywio ein gwaith fel sefydliad. Cyfeirir at y rhain trwy gydol yr adroddiad hwn ac mae ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-2027 yn rhoi trosolwg manwl. Fe'u datblygwyd yn 2022/23 yn dilyn asesiad anghenion helaeth a chyfnod o ymgynghori.  

Prif bwrpas yr adroddiad hwn yw darparu dealltwriaeth dda i breswylwyr, defnyddwyr gwasanaeth, a rhanddeiliaid allweddol o sut rydym wedi bod yn perfformio. Hefyd mae'n bodloni'r ddyletswydd statudol sydd arnom ni drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol fel y nodwyd yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.   

Mesur Cynnydd a Hunanasesu

Mae ein hamcanion llesiant wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn egwyddor sy'n hyrwyddo ffocws ar yr holl gyrff cyhoeddus yn cydweithio i wneud cynnydd o ran canlyniadau sy'n gwella ansawdd bywyd preswylwyr a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.   

Er mwyn mesur yn effeithiol y cynnydd rydym yn ei wneud o ran cyflawni ein hamcanion, rydym yn edrych ar ystod o ddata a thystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys casgliadau ein hunanasesiadau ac adroddiadau rheoleiddiol i greu darlun mor gyflawn ag sy'n bosibl o'n cynnydd - yn nhermau tueddiadau dros amser ac o ran y modd rydym yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.   

Er mwyn i ni wneud hyn yn effeithiol, rydym wedi datblygu cyfres ddata o ddangosyddion a mesurau. O'u hystyried gyda'i gilydd, mae'r rhain yn cwmpasu ystod eang o wahanol ffynonellau ac yn caniatáu inni edrych ar y dystiolaeth sydd ar gael i ni yn y rownd. Mae'r ystod o ddata yn cwmpasu'r canlynol a chyfeirir ato drwy gydol yr adroddiad hwn. Gallwch ei weld yn llawn yn Atodiad 5:  

  • Dangosyddion Poblogaeth: Yn bennaf maent yn cynnwys data sydd ar gael i'r cyhoedd ac a nodwyd i ddatblygu dealltwriaeth o dueddiadau a sefyllfa Sir Gaerfyrddin mewn perthynas ag awdurdodau lleol eraill Cymru. Mae'r ffynonellau'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): Arolwg Poblogaeth Blynyddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau.  
  • Mesurau Perfformiad: Cynnwys ffurflenni statudol, mesurau mewnol y Cyngor a gwybodaeth sylfaenol ar ffurf canfyddiadau ymgynghori yr ydym yn eu defnyddio i fesur a monitro perfformiad yn rheolaidd. Cyfrifoldeb uniongyrchol y Cyngor yw'r rhain.

Mae ein hamcanion llesiant hefyd yn llunio ein hymagwedd at hunanasesu. Mae'r ymagwedd hon yn rhoi'r cyd-destun yr ydym yn arfer ein swyddogaethau ynddo, yn defnyddio adnoddau, ac yn sicrhau bod llywodraethu'n effeithiol. A hefyd:  

  • mae'n sicrhau bod ein hunanasesiad yn strategol, gan ganolbwyntio ar y sefydliad, yn hytrach na gwasanaethau unigol ac i ba raddau y mae'r Cyngor yn cyflawni ei amcanion llesiant a'i ganlyniadau bwriadedig.  
  • mae'n caniatáu inni fyfyrio ar lefel strategol ar sut mae ein holl swyddogaethau yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion llesiant, sut rydym yn gweithredu a pha gamau y mae angen i ni eu cymryd i wella ymhellach a pharhau i ddarparu gwasanaethau effeithiol nawr ac yn y tymor hir.  
  • mae'n defnyddio ein hamcanion llesiant fel y fframwaith cyffredinol ac yn annog golwg fwy cyfannol ar berfformiad y Cyngor, gan gydnabod bod llawer o wasanaethau'n 'cydlynu' ac yn cyfrannu at un neu ragor o amcanion llesiant.   
  • rydym yn parhau i reoli perfformiad gwasanaethau unigol drwy Gynlluniau Busnes Is-adrannol. Mae hyn yn rhan bwysig o ymagwedd y Cyngor at reoli perfformiad fel y manylir yn ein Fframwaith Rheoli Perfformiad, sy'n seiliedig ar gylch Cynllunio/Gwneud/Adolygu.   

 

Y Prif Egwyddorion  

Gwerthoedd ac Ymddygiad Craidd 

Mae gweledigaeth y Cyngor yn ategu popeth rydym yn ei wneud fel sefydliad:  

‘Datblygu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd: Un Cyngor, Un Weledigaeth, Un Llais.’ 

O'u hystyried gyda'i gilydd, mae'r weledigaeth, ein gwerthoedd craidd a'n hymddygiadau yn ein helpu i wneud y penderfyniad cywir, ac yn llunio sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddarparu gwasanaethau a gwneud y gorau y gallwn.  

Mae ein chwe gwerth craidd yn ffurfio'r egwyddorion cyffredinol sy'n gonglfaen i'n hugain ymddygiad. Mae'r ymddygiadau hyn yn disgrifio'r camau a'r ymagweddau unigol ar gyfer sut rydym yn gweithio ac yn trin eraill. Mae ein gwerthoedd fel a ganlyn ond gellir eu gweld yn llawn ynghyd â'n hymddygiadau yma: 

  • Gweithio fel un tîm; 
  • Canolbwyntio ar ein cwsmeriaid;   
  • Gwrando er mwyn gwella;   
  • Ymdrechu i ragori;   
  • Gweithredu ag uniondeb;   
  • Cymryd cyfrifoldeb personol.

  

Llywodraethu

Fel Cyngor, mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau bod ein busnes yn cael ei gynnal yn unol â'r gyfraith a safonau priodol. Rhaid inni sicrhau hefyd y diogelir cyllid cyhoeddus, y rhoddir cyfrif priodol amdano ac y’i defnyddir yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol, a sicrhau gwelliant parhaus yn hyn o beth.   

Rydym yn gyfrifol am sefydlu trefniadau priodol ar gyfer Llywodraethu ein gwaith a hwyluso cyflawni ein swyddogaethau'n effeithiol, gan gynnwys bod â threfniadau priodol ar gyfer rheoli risg.   

Mae’r Cyngor yn credu mai Llywodraethu Corfforaethol yw “gwneud y pethau iawn, yn y ffordd iawn, i’r bobl iawn mewn modd amserol, cynhwysol, agored, gonest ac atebol.” Mae’r Fframwaith Llywodraethu yn cynnwys y systemau, y prosesau, y diwylliannau a’r gwerthoedd sy’n ein cyfarwyddo ac yn ein rheoli, ynghyd â’r modd y mae'n atebol i’r gymuned, yn ymgysylltu â hi ac yn ei harwain. Mae’n ein galluogi i fonitro i ba raddau y cyflawnwyd ein hamcanion strategol ac i ystyried a yw’r amcanion hynny wedi arwain at gyflawni gwasanaethau priodol a chost-effeithiol.  

Mae ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel y'i cynhwysir yn ein Datganiad o Gyfrifon yn manylu ar sut rydym wedi cydymffurfio â gwahanol elfennau ein Fframwaith Llywodraethu.   

  

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'r Cyngor wedi ymroi i sicrhau ein bod yn deg i bawb ym mhopeth rydym yn ei wneud. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi egwyddorion ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'n amlinellu sut rydym yn bwriadu cyflawni ein cyfrifoldebau fel cyflogwr, darparwr gwasanaeth, ac fel arweinydd cymunedol.  

Fel corff cyhoeddus mae angen i ni sicrhau bod pawb yn cael mynediad cyfartal i'n gwasanaethau ac yn cael eu trin yn gyfartal. Hefyd mae angen i egwyddorion sylfaenol hawliau dynol fod wrth wraidd darparu gwasanaethau. Mae'n ofynnol i ni ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau cydraddoldeb mesuradwy trwy welliannau penodol mewn polisïau, a'r ffordd mae ein gwasanaethau a'n swyddogaethau yn cael eu cyflawni.  

Rydym wedi ymrwymo i drin ein staff, a phobl Sir Gaerfyrddin, yn deg. Byddwn yn sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran, anabledd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, dosbarth cymdeithasol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, newid rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, cyfrifoldeb am ddibynyddion neu am unrhyw reswm annheg arall.   

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yn cael eu darparu i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn astudio yn Sir Gaerfyrddin ac sy’n ymweld â'r sir. Caiff hyn ei ategu gan ein pedwar amcan cydraddoldeb ar gyfer 2024/2028:  

  • Bod yn gyflogwr o ddewis;  
  • Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda;  
  • Ymwreiddio Cydlyniant Cymunedol yn ein sefydliad a'n cymuned; a   
  • Gwarchod a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol.   

 

Y Cyngor

Yn yr etholiadau lleol yn 2022, pleidleisiodd Sir Gaerfyrddin dros 75 o gynghorwyr sir i gynrychioli ein 51 ward. Mae Cabinet y Cyngor yn cynnwys 10 Cynghorydd, sy'n cynnwys Arweinydd y Cyngor. Mae ganddynt gyfrifoldeb am sicrhau cynnydd yn erbyn ein hamcanion llesiant. Mae gan bob aelod o'r Cabinet bortffolio y mae’n gyfrifol amdano.