Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2024-2025
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol
- Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)
- Amcan Llesiant 2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)
Galluogwyr Busnes Craidd
Yn ogystal â'r blaenoriaethau thematig a'r blaenoriaethau gwasanaeth a nodwyd, ceir amrywiaeth o alluogwyr busnes craidd sy'n sail i swyddogaethau dyddiol y Cyngor a'n gwasanaethau. Nodir sawl un yn yr adran hon; fodd bynnag mae TGCh, Marchnata a'r Cyfryngau, Cyllid, Rheoli Pobl, Polisi a Pherfformiad, Ystadau a Rheoli Asedau a Chymorth Busnes wedi'u plethu o fewn y cynnwys yn Amcanion Llesiant 1-4 uchod.
Cyfreithiol
- Rydym wedi sicrhau cyfreithlondeb a chywirdeb wrth wneud penderfyniadau'r Cyngor.
- Rydym yn gweithio o fewn fframwaith statudol sy'n llywodraethu pethau megis sut y cynhelir cyfarfodydd, sut y gwneir penderfyniadau a'r ddeddfwriaeth y tu ôl i bob penderfyniad sydd angen ei wneud.
- Agorwyd 1,936 o ffeiliau yn 2024/25.
- Rydym yn ceisio gwneud cymaint ag y gallwn o'r gwaith cyfreithiol sydd ei angen gan y Cyngor yn fewnol, er y bydd yna adegau pryd y bydd angen i ni anfon gwaith at gyfreithwyr allanol.
- Mae'r ystod o waith cyfreithiol a wneir nid yn unig yn cynnwys achosion llys a thribiwnlysoedd, ond hefyd cynghori pwyllgorau'r Cyngor, drafftio dogfennaeth gyfreithiol a rhoi cyngor cyfreithiol.
- Mae'r Tîm Trawsnewid wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth. Sefydlwyd grŵp Rheoli Prosiectau er mwyn goruchwylio a llywodraethu'n effeithiol gynllun gwella y Gwasanaethau Cyfreithiol. Mae'r grŵp hwn yn gyfrifol am flaenoriaethu mentrau, monitro eu gweithrediad, nodi rhwystrau, a mesur llwyddiant ar ôl gweithredu.
- Mae sawl mesur i wneud arbedion effeithlonrwydd wedi'u clustnodi eisoes, gan gynnwys:
- Creu ardal gyfathrebu bwrpasol ar y fewnrwyd i ddarparu gwybodaeth hanfodol am y gwasanaethau cyfreithiol
- Cyflwyno e-ffurflen newydd i ddefnyddwyr gwasanaeth ei llenwi wrth geisio cyngor cyfreithiol allanol
- Defnyddio 'Magic Notes' i gynorthwyo i gwblhau datganiadau
- Bydd gwaith y grŵp yn parhau i sicrhau bod y mentrau hyn wedi'u cynllunio i symleiddio prosesau, gwella hygyrchedd, a chefnogi gwella gwasanaethau'n barhaus i dîm y Gwasanaethau Cyfreithiol.
Cynllunio
- Cafodd 91.6% (1,224 / 1,336) o'r ceisiadau cynllunio eu penderfynu ar amser yn ystod 2024/25. Mae hwn yn welliant da iawn ar 87.5% y llynedd ac ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru o 90.5%.
- O'r 32 o apeliadau cynllunio a gafwyd yn ystod 2024/25, cafodd 25 eu diystyru (78.1%). Mae hwn yn welliant ar ffigur y flwyddyn flaenorol (70.4%), ac yn uwch na Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Da' sef 66%.
- Cwblhawyd 19 o'r 22 o geisiadau cynllunio mawr a bennwyd yn y flwyddyn o fewn yr amser gofynnol, i roi canlyniad o 86.4%. Mae hwn yn welliant da ar y llynedd (69.7%).
- Mae nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i gymryd camau gorfodi cynllunio cadarnhaol yn ystod 2024/25 yn dal i fod yn uchel sef 360 o ddiwrnodau (306 diwrnod y flwyddyn flaenorol). Mae nifer sylweddol o achosion yn destun erlyniad. Mae'r ffigurau'n cynrychioli'r amser mae'n cymryd i erlyn achos, sydd ag oedi sylweddol, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth. Mae adolygiad o'r modd y darperir y swyddogaeth orfodi yn barhaus.
- Ymchwiliwyd i 81.6% o'r achosion gorfodi cynllunio o fewn 84 diwrnod. Mae hyn ychydig yn is na'r flwyddyn flaenorol ar 84.3, ond mae'n dal i fod yn uchel o gymharu â blynyddoedd cynt.
- Derbyniwyd Sgôr Sicrwydd o 'Rhesymol' yn ystod arolygiadau Archwilio Mewnol i sicrhau bod systemau a gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer ceisiadau cynllunio - Estyniad Amser a gweinyddu 'Adran 106 - Tai Fforddiadwy’.
Caffael
Gwnaethom wario mwy na £443 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau yn 2024/25. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd ar gyfer y gymuned. Mae'n hanfodol bod gennym ymagwedd strategol at gaffael er mwyn sicrhau bod nwyddau, gwaith, a gwasanaethau yn cael eu caffael mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.
- Roedd 42% o'n gwariant gyda chyflenwyr yn Sir Gaerfyrddin, sy'n uwch na'r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan sef 30%.
- Arweiniodd yr Uned Caffael Gorfforaethol y gwaith o gyflwyno 47 o dendrau gyda gwerth bras o £1.2bn.
- Daeth Deddf Caffael newydd 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 i rym ym mis Chwefror 2025 (gohiriwyd o'r dyddiad gwreiddiol o Hydref 2024). Mae hyn yn newid mawr i gyfraith caffael cyhoeddus yng Nghymru a gweddill y DU, gan gymryd lle rheolau'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.
- Er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i ni gyhoeddi cyfres o dendrau arfaethedig sydd dros £2m a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y 18 mis nesaf erbyn diwedd mis Mai 2025. Mae'r Uned Caffael Corfforaethol wedi cysylltu ag adrannau i gael yr holl dendrau sydd dros y gwerth hwn ac sydd ar darged o ran cyhoeddi'r hysbysiadau erbyn y dyddiad cau.
- Bellach mae Rheoliadau'r Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 ar waith. Mae hon yn drefn newydd, ar wahân sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer caffael gwasanaethau gofal iechyd gan y GIG a chyrff cyhoeddus cysylltiedig yng Nghymru.
- Rydym yn aros i Lywodraeth Cymru weithredu darpariaethau caffael Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 drwy is-ddeddfwriaeth (gorchmynion cychwyn), ond nid oes dyddiad penodol wedi'i gyhoeddi eto. Diweddarwyd y Rheolau Gweithdrefnau Contractau ym mis Mawrth 2025 i gyd-fynd â'r Ddeddf newydd.
- Cynhaliwyd amrywiaeth o fentrau a digwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr yn 2024/25 i ddarparu ar gyfer ein rhaglen o ymarferion tendro. Un enghraifft o hyn oedd digwyddiad a gynhaliwyd ym Mehefin 2024 ar gyfer Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru gyda chyfanswm gwerth o £800 miliwn. Mae Caffael, ochr yn ochr â chydweithwyr mewn Dylunio Eiddo, wedi mabwysiadu amrywiaeth o fentrau ymgysylltu â chyflenwyr i ddenu contractwyr lleol i dendro, i hyrwyddo'r gofynion tendro ac i wella'r tendrau a gyflwynir drwy gynnig cymorth. Yn dilyn gweminar 'Bod yn Barod i Dendro' yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cynhaliom Sesiwn Friffio ar gyfer y tendr hwn ym Mharc y Scarlets, Llanelli ym mis Ebrill 2024, pryd daeth 186 o gontractwyr.
Archwilio Mewnol
- Mae Archwilio Mewnol yn weithgaredd sicrwydd ac ymgynghori annibynnol a gwrthrychol, sydd â'r nod o ychwanegu gwerth a gwella gweithrediadau sefydliad.
- Mae Archwilio Mewnol wedi ymrwymo i weithio i'r safonau proffesiynol uchaf, ac i ddarparu gwasanaethau o safon sy'n ychwanegu gwerth i'r Awdurdod. Mae Rhaglen Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIP) ar waith, wedi'i chynllunio i gyflawni perfformiad proffesiynol uchel sy'n gweithredu yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) a'r Cod Moeseg.
- Cwblhawyd 85% o'r adolygiadau yng Nghynllun Archwilio 2024/25 erbyn diwedd mis Mawrth 2025, a oedd ychydig yn is na 89% y flwyddyn flaenorol. Roedd yr holl aseiniadau archwilio ar y cynllun wedi cychwyn ac ar waith erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
- Mae Archwilio Mewnol yn adrodd i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor, gan ddarparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd. Darperir pob Adroddiad Archwilio Mewnol i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor.
Gwasanaethau Democrataidd
- Mae'r Gwasanaethau Democrataidd yn rheoli proses gwneud penderfyniadau'r Cyngor. Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn cyflwyno sut mae’r Cyngor yn gweithredu, sut y gwneir penderfyniadau, a’r gweithdrefnau a ddilynir i sicrhau bod y rhain yn effeithlon, yn dryloyw ac yn atebol i bobl leol. Mae rhai o’r prosesau hyn yn gyfreithiol ofynnol, tra bo eraill yn fater o ddewis i’r Cyngor.
- Mae nifer yr Ymholiadau Cynghorwyr wedi cynyddu ychydig i 2,780 ar gyfer 2024/25, gan ymateb i 72.05% ohonynt o fewn 7 diwrnod gwaith. Cafodd 1,208 o geisiadau am wasanaeth eu prosesu gan yr uned drwy'r porth i Aelodau yn hytrach na Chynghorwyr yn uniongyrchol. Mae'r porth yn darparu llwyfan i aelodau gofnodi a monitro ceisiadau ac ymholiadau Gwasanaeth Cynghorwyr.
- Mae'r gwasanaeth yn parhau i weinyddu trefniadau cydweithio ar gyfer Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru, Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a Phartneriaeth (daeth Partneriaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 a throsglwyddwyd ei swyddogaethau i gytundeb cydweithio ar 1 Ebrill 2025). Mae'r gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am weinyddu Grŵp Llywodraethu Llesiant Delta, Bwrdd Cyfranddalwyr CWM, a'r broses apeliadau o ran Mynediad i Addysg ac Eithriadau.
Y Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil
- Mae'r gwasanaethau etholiadol yn seiliedig ar fframwaith cyfreithiol sy'n pennu sut y caiff etholiadau eu cynnal. Mae'n pennu pwy sy'n cael pleidleisio a'r gwahanol ffyrdd y gallant fwrw eu pleidlais i ddweud eu dweud. Mae gan y gwasanaeth Dîm Prosiect Etholiadau cryf sy'n helpu'r prif dîm i ddarparu etholiadau diogel, tryloyw ac agored.
- Mae'r gwasanaeth yn gweinyddu pob math o etholiadau (rhai wedi'u hen drefnu neu rai byr rybudd), a thrwy gyflwyno'r ap Modern Democracy mae'n sicrhau cywirdeb o ran cyfrifon y papurau pleidleisio. Yn ystod 2024/2025, cynhaliwyd un is-etholiad sirol, 15 is-etholiad Cyngor Tref a Chymuned (cafodd pump ohonynt eu galw ond nid eu hymladd), a chafwyd pleidlais Ardal Gwella Busnes.
- Rydym yn parhau i weithio i baru data ein cofnodion â chofnodion y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Tai, y Gyflogres ac Addysg i sicrhau bod y Gofrestr Etholiadol yn gyfredol. Ni fydd un o'r ychydig Awdurdodau yng Nghymru a fydd yn cymryd rhan mewn Peilot Cofrestru Awtomatig gyda pharu data yn digwydd yn haf 2025.
- Gan Wasanaeth Cofrestru Sifil y Cyngor y mae'r swyddogaeth statudol o ddarparu gwasanaeth statudol i'r cyhoedd ar gyfer cofrestru genedigaethau, marw-enedigaethau, marwolaethau, a thystysgrifau dilynol; hysbysiadau priodas a phartneriaeth sifil a seremonïau a thystysgrifau dilynol; cynhyrchu dogfennaeth gyfreithiol a chymeradwyo eiddo ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil; ac mae hefyd yn gyfrifol am gynnal seremonïau dinasyddiaeth ar ran Llywodraeth EF.
- Mae'r gwasanaeth yn cynnig amrywiaeth o seremonïau dathlu anstatudol, gan gynnwys seremonïau cysylltiedig â phrofedigaeth fel angladdau a gwasanaethau dathlu bywyd. Mae'r gwasanaeth 'Dywedwch wrthym unwaith' yn cael ei ddarparu ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae galw cynyddol am ddigwyddiadau dathlu fel cadarnhau addunedau priodas.
- Rydym hefyd yn gyffrous am ein menter ar y cyd newydd â Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin i gynnig cyfle i rieni sy'n cofrestru eu babi hefyd gofrestru'r plentyn ar gyfer cerdyn Llyfrgell Sir Gaerfyrddin. Gobeithio y bydd hyn yn annog darllenwyr gydol oes.
- Cynhaliwyd 21 o seremonïau dinasyddiaeth yn ystod 2024/25, pob un wedi'i gwblhau o fewn 60 diwrnod i wahoddiad y Swyddfa Gartref. Roedd y rhain yn cynnwys 90 o oedolion ac wyth o blant, o gymharu â 76 o oedolion a naw o blant yn ystod 2023/24.
- Cofrestrwyd 2,334 o enedigaethau yn ystod 2024/25, sy'n ostyngiad bach ar 2,461 yn ystod 2023/24. Fodd bynnag, bu cynnydd yn y marwolaethau a gofrestrwyd gyda 2,627 yn ystod 2024/25 o gymharu â 2,447 yn 2023/24.
- Gostyngodd nifer y priodasau a'r partneriaethau sifil ymhellach yn ystod 2024/25 i 638 o 706 yn 2023/24 ac 800 yn 2022/23.
Rheoli Risg
- Yn 2024/25, cwblhawyd 94% o'r ymatebion i lythyrau hawlio o fewn chwe diwrnod gwaith i'w cael yn yr Adain Rheoli Risg. Roedd hyn yn cwmpasu rhoi llythyr o gydnabyddiaeth i'r hawlydd neu gynrychiolydd cyfreithiol yr hawlydd a chyfeirio'r hawliad i yswiriwr priodol.
- Yn ystod y flwyddyn buddsoddodd y Grŵp Llywio Rheoli Risg dros £260,000 mewn meysydd i leihau'r perygl o hawliadau neu achosion cyfreithiol drud. Roedd ceisiadau llwyddiannus yn cynnwys hyfforddiant i yrwyr, teledu cylch cyfyng ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol a'r coleg, darparu hyfforddiant ar gyfer rheoli aflonyddu rhywiol yn y gweithle, a ffensys diogelwch yn rhai o'n hysgolion.
- Adroddir y Gofrestr Risg Gorfforaethol i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio bob chwe mis, yn dilyn adolygiad chwarterol ac asesiad beirniadol o’r risgiau gan y Tîm Rheoli Corfforaethol.
