Datganiad ynghylch Gwastraff ar gyfer Sir Gaerfyrddin
Yn yr adran hon
- Ein Perfformiad hyd yn hyn
- Newidiadau a wnaed dros y 6 mlynedd diwethaf
- Symud ymlaen, y blynyddoedd nesaf yn Sir Gaerfyrddin
Newidiadau a wnaed dros y 6 mlynedd diwethaf
Rydym yn parhau i wneud newidiadau i wasanaethau gwastraff er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth ailgylchu gorau posibl i drigolion ac yn bodloni ein targedau statudol.
| 2016 | Ymestyn ailgylchu ar ymyl y ffordd i bob cartref yn y sir. Cyflwyno casgliad gwastraff gardd newydd y tanysgrifir ar ei gyfer, trwy wasanaeth biniau olwynion y codir tâl amdano. | 
| 2017 | Dechrau dosbarthu 3 rholyn o fagiau ailgylchu glas i bob cartref bob blwyddyn. | 
| 2018 | Ychwanegu 3 rholyn o leinwyr biniau bwyd at y danfoniadau blynyddol. Annog mwy o gartrefi i ailgylchu eu bwyd. | 
| 2019 | Cyflwyno newidiadau sylweddol yn ein canolfannau ailgylchu, i hybu cyfraddau ailgylchu a lleihau costau sy’n deillio o ddefnydd masnachol anghyfreithlon a blaenoriaethu lefel uchel o wasanaeth i breswylwyr Sir Gaerfyrddin. Gwahardd gwastraff masnachol a chyflwyno hawlenni ar gyfer cerbydau masnachol penodol. Rhoi gwiriadau preswylio ar waith, yn ogystal â didoli unrhyw wastraff mewn bagiau du a ddygir i'r safleoedd.  | 
| 2020 | Cynyddu nifer y cynwysyddion ailgylchu gwydr ar draws ein safleoedd ailgylchu.  | 
| 2021 | Cynhyrchion Hylendid Amsugnol wedi'u Dargyfeirio o safleoedd tirlenwi trwy gyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff hylendid newydd. | 

