Partneriaeth Gymdeithasol – Adroddiad Blynyddol (2024/25)

2. Amcanion Llesiant y Cyngor

Datblygwyd pedwar amcan llesiant y Cyngor yn ystod 2022 yn dilyn asesiad anghenion cynhwysfawr a gweithgarwch ymgynghori gydag ystod o randdeiliaid allweddol gan gynnwys; preswylwyr, staff, undebau llafur, busnesau ac aelodau etholedig. Nod yr amcanion yw mynd i'r afael â heriau mwyaf dybryd Sir Gaerfyrddin, gan sicrhau bod y Cyngor yn cyfrannu cymaint ag sy'n bosibl i'r saith nod llesiant cenedlaethol. Mae'r amcanion fel a ganlyn:

(a) Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda.

(b) Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda.

(c) Galluogi ein cymunedau a’n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus 

(d) Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon - Ein Cyngor.

Er mwyn sicrhau eu bod yn briodol, maent yn cael eu hadolygu yn flynyddol ar ôl cyfnod o ymgynghori â'r rhanddeiliaid allweddol uchod. Mae'r heriau i'r Sir yn gyson â'r rhai a nodwyd yn 2022, ac felly mae ein hamcanion llesiant yn parhau i fod heb eu newid.