Polisi Dyann Tai Cymdeithasol Brys
Yn yr adran hon
- Atodiad Dau – Adran 55 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)2016
 - Atodiad Tri – Diffiniad ac ardaloedd Cysylltiad Lleol a Chysylltiad Cymunedol
 - Atodiad Pedwar – Lleoliad, math a maint yr eiddo
 - Atodiad Pump – ‘Meini Prawf ar gyfer Gosod’
 - Atodiad Chwech – Anghenion Cymorth a Nodwyd
 - Atodiad Saith – Siart Llif Cynnig Rhesymol a Chynnig Addas
 
Atodiad Tri – Diffiniad ac ardaloedd Cysylltiad Lleol a Chysylltiad Cymunedol
Rydym yn defnyddio dwy ffactor cysylltiad wrth flaenoriaethu dyraniad, sy’n ymwneud ag angen person am yr eiddo gwag penodol hwnnw.
Cysylltiad Lleol – mae gan yr ymgeisydd gysylltiad â Sir Gaerfyrddin
Cysylltiad Cymunedol – mae gan yr ymgeisydd gysylltiad â’r ardal gymunedol y mae’r eiddo ynddi
Cysylltiad Lleol â Sir Gaerfyrddin 
Diffinnir Cysylltiad Lleol yn Adran 81 Deddf Tai (Cymru) 2014. 
Mae gan berson gysylltiad lleol â’r ardal:
- gan fod y person yn preswylio yno fel arfer, neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol, a bod y preswyliad hwnnw o ddewis y
 - person ei hungan fod y person yn cael ei gyflogi yno
 - o ganlyniad i gysylltiadau teuluol
 - o ganlyniad i amgylchiadau neilltuol
 
Ni fydd ymgeiswyr nad oes ganddynt Gysylltiad Lleol â Sir Gaerfyrddin neu nad ydynt yn dod o dan ‘amgylchiadau arbennig’ neu’n bodloni un o’r gofynion ar gyfer cael eu heithrio rhag ofynion Cysylltiad Lleol yn cael eu hystyried o dan y Polisi Dyrannu Brys hwn.
Cysylltiad Cymunedol ag Ardal
Fel arfer, bydd Cysylltiad Cymunedol ag ardal yn y sir yn golygu’r ardal y mae ymgeisydd yn byw ynddi ar y pryd. Fodd bynnag, gall olygu hefyd ardal y bu’n byw ynddi, y mae ganddo deulu yn byw ynddi, y mae’n gweithio’n agos ati, neu y mae ganddo blant mewn ysgol yn agos ati. Gall ymgeiswyr ddewis un ardal y maent yn dymuno i Gysylltiad Cymunedol ymwneud â hi gan ystyried y meini prawf canlynol
- Ymgeiswyr sydd wedi byw yn yr ardal gymunedol am gyfnod parhaus
 - Ymgeiswyr sy’n gweithio yn yr ardal gymunedol
 - Ymgeiswyr sydd wedi byw yn yr ardal gymunedol am gyfnod parhaus yn y gorffennol ond sydd wedi gorfod symud allan o’r ardal i gael llety; a/neu y mae ganddynt berthynas agos sydd wedi byw yn yr ardal, ac yr aseswyd fod angen iddynt barhau i fyw yn yr ardal i ddarparu cymorth hanfodol
 - Aelodau presennol o’r Lluoedd Rheolaidd a chanddynt Gysylltiad Cymunedol â’r ardal (e.e., wedi byw yno yn y gorffennol/perthnasau agos yn byw yno ar y pryd)
 
Ardaloedd Cysylltiad Cymunedol
Bernir fod gan ymgeiswyr gysylltiad cymunedol â’r grwpiau o ardaloedd canlynol:
| - | Grwpiau o Ardaloedd Cysylltiad Cymunedol | - | 
|---|---|---|
| Tref Llanelli
 Elli  | 
Rhydaman
 Rhydaman   | 
Caerfyrddin
 Gogledd a De Tref Caerfyrddin  | 
| Dwyrain Llanelli
 Yr Hendy  | 
Dyffryn Aman
 Y Garnant  | 
Gogledd Gwledig
 Cenarth a Llangeler  | 
| Gorllewin Llanelli
 Pen-bre  | 
Gwendraeth
 Gorslas  | 
Gorllewin Gwledig
 Talacharn  | 
| Gogledd Llanelli/ Gwledig
 Dyffryn y Swistir  | 
Canol Gwledig
 Llanddarog  | 
Llanymddyfri/Llandeilo
 Llanymddyfri  | 
Os all ymgeisydd ddangos unrhyw reswm arall pam fod ganddo gysylltiad ag ardal gymunedol arall, byddwn yn cynnig hyblygrwydd i’w gofrestru ar gyfer yr ardal honno. Enghraifft o hyblygrwydd yw lle mae’r ymgeisydd yn byw ger ffiniau ardal gymunedol.
Pwrpas y grwpiau ‘ardaloedd cysylltiad cymunedol’ hyn yw rhoi dewis i ymgeiswyr dros ardal ehangach nag un pentref neu dref. Mae hyn yn helpu cydbwyso angen gydag ardaloedd a chanddynt fawr ddim tai cymdeithasol os o gwbl.
