Cadeirydd 2025 - 26
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/06/2025
Y Cynghorydd Dot Jones yw Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2025/2026.
Fe’i hetholwyd yn Cadeirydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 21ain Mai 2025, a bydd yn gwasanaethu tan y Cyfarfod Blynyddol nesaf a gynhelir ym mis Mai 2026.
Mae’r Cynghorydd Jones wedi cynrychioli Ward Etholiadol Llannon ers Mai 2017.
Mae'n eistedd ar Bwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol, Pwyllgor Trwyddedu a'r Panel Rhianta Corfforaethol y Cyngor.
Mae'r Cynghorydd Jones yn gweithio fel Gwas Sifil. Mae ei diddordebau yn cynnwys cerddoriaeth, Fformiwla Un, croesbwyth a chwisiau.
Fel arfer, mae Cadeirydd y Cyngor Sir yn codi arian ar gyfer elusennau lleol yn ystod y cyfnod wrth y llyw. Mae’r Cynghorydd Jones wedi dewis Beiciau Gwaed Cymru fel ei helusennau eleni.
Ei chware, Ellen, yw ei Gydymaith am y flwyddyn.
Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ymhlith dyletswyddau'r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i'r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a'u cefnogi.
Y Cynghorydd Giles Morgan yw’r Is-Gadeirydd ar gyfer 2025/2026.