Bwydlen Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae ymgyrch beilot Bwydlen Cenedlaethau'r Dyfodol yn fenter sy'n canolbwyntio ar ailgynllunio bwydlenni cinio ysgolion cynradd, gyda phwyslais ar gynnyrch lleol i hyrwyddo iechyd, lles, cynaliadwyedd, gwerth cymdeithasol ac addysg. Rydym yn alinio arlwyo yn y sector cyhoeddus â pholisïau cenedlaethol a lleol i

  • Cynaliadwyedd amgylcheddol
  • Twf economaidd gwledig
  • Targedau sero net.

Rydym wedi comisiynu'r sefydliad nid-er-elw lleol, Cegin y Bobl, i weithio gyda thair ysgol gynradd, sef Ysgol Teilo Sant, Ysgol Gynradd Llandeilo, ac Ysgol Pen Rhos, i greu'r bwydlenni newydd hyn ar y cyd. Mae'r dull hwn yn annog cymuned yr ysgol gyfan i gymryd rhan trwy gyfres o weithdai sy'n dwyn ynghyd: 

  • Staff Arlwyo
  • Athrawon
  • Rhieni
  • Plant
  • Cogyddion
  • Addysgwyr o Gegin y Bobl

Gyda'i gilydd, byddant yn dylunio prydau sy'n adlewyrchu gwerthoedd craidd o ran cynaliadwyedd, maeth a chymuned.

Mae'r ysgolion peilot hefyd yn lleihau gwastraff bwyd trwy weithredu systemau monitro gwastraff bwyd. Bydd y systemau hyn yn olrhain gwastraff plât y mae modd ei osgoi a gwastraff cegin nad oes modd ei osgoi, gan ddarparu gwybodaeth am lefelau gwastraff bwyd dyddiol mewn ysgolion, a fydd yn helpu i lywio ymdrechion cynaliadwyedd yn y dyfodol.

Mae'r fenter hefyd yn annog disgyblion i gymryd rhan, gan ganiatáu iddyn nhw fod yn rhan weithredol o'r gwaith o fonitro gwastraff bwyd. 

Staff Arlwyaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin

Disgyblion Ysgol Pen Rhos

Bydd Fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne yn cyflenwi cynnyrch ffres, tymhorol ar gyfer yr ymgyrch beilot hon drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r fferm 100 erw hon yn cael ei defnyddio fel lleoliad prawf i dyfu ffrwythau a llysiau fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer y plât cyhoeddus.

Mae'r fenter nid yn unig yn cefnogi amaethyddiaeth leol ond hefyd yn lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu a chludo bwyd, yn ogystal ag addysgu plant am werth bwyta cynhwysion ffres, lleol. Mae plannu cynnyrch ffres yn cael ei gyfrifo i gyd-fynd â'r niferoedd sydd eu hangen ar yr ysgolion, gan leihau gwastraff y gadwyn gyflenwi. Mae niferoedd penodol yn cael eu dosbarthu i ysgolion yn wythnosol, o fewn diwrnod ar ôl eu cynaeafu. 

Bydd y bwydlenni wedi'u hailgynllunio yn cael eu cyflwyno i'r tair ysgol sy'n cymryd rhan ym mis Medi 2025, ac mae cynlluniau i'w cyflwyno ledled y sir ym mis Medi 2026.

Bydd ffeil ryseitiau hefyd ar gael fel adnodd ffynhonnell agored i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, gan helpu ysgolion eraill i:

  • Integreiddio arferion bwyd cynaliadwy
  • Cefnogi economïau lleol
  • Cyflawni canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol

Trwy'r fenter hon, rydym nid yn unig yn creu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer arlwyo mewn ysgolion ond hefyd yn annog plant ledled y sir i wneud dewisiadau bwyd iachach a mwy cynaliadwy. Trwy eu cynnwys nhw yn y broses a'u haddysgu am bwysigrwydd cyrchu bwyd lleol ac am faeth, rydym yn eu helpu i ddatblygu arferion gydol oes a fydd o fudd i'w lles ac i'r blaned.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

 

Bwydlen ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol. Cymru lewyrchus. Economi fwyd gynaliadwy ffyniannus - rhwydwaith o gynhyrchwyr bwyd graddadwy a chydweithredol yng Nghymru. Cymru gydnerth. Bwyd, sofraniaeth amgylcheddol a diogelwch wedi'u creu a'u cadw gan fwydlenni tymhorol sy'n cael eu cyd-gynhyrchu. Cymru iachach. Rhagori ar safonau maethol, gan arwain trwy esiampl, addysg system fwyd ar gyfer newid diwliannol. Cymru sy'n fwy cyfartal. Cadwyn gyflenwi Cyflog Byw Go Iawn gyda buddsoddiadau cyllideb i gadw cyflenwad bwyd amrywiol yng Nghymru. Cymru gymunedau cydlynus. Cymunedau sy'n ymgysylltu'n weithredol ac yn uniongyrchol ag Addysg Bwyd, cyd-gynhyrchu bwydlen, darparu gwerth cymdeithasol. Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Mathau or gynnyrch bwyd sy'n rhan o'n treftadaeth a'n hetifeddiaeth, Gyda ryseitiau sy'n dathlu ein traddodiad a'n gwerthoedd. Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yr holl gynhyrchion a fewnforir a mewnbynnau cynhyrchu sy'n angenrheidiol, wedi'u hardystio i safonau amgylcheddol a moesegol.

Hwb